Agenda item

Rhaglen gyfalaf 2018-19 i 2027-28

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad gyda’r diben o gael cymeradwyaeth y cyngor ar gyfer Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer y cyfnod rhwng 2018-19 a 2027-28.

 

Dywedodd fod y cyngor wedi cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf ar 28 Chwefror 2018, a oedd yn ymdrin â'r cyfnod uchod fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Ers hynny, mae cynlluniau ychwanegol wedi eu cymeradwyo gan y cyngor, gan gynnwys y Rhaglen Datblygu Canolfan Fenter, dosbarthiadau newydd yn Ysgol Gynradd Cwmfelin, cynllun adfywio Porthcawl a Depo Tred?r, ynghyd â nifer o gynlluniau a ariannwyd yn allanol.

 

Mae nifer o gynlluniau newydd wedi eu datblygu ers i'r rhaglen gael ei chymeradwyo ddiwethaf, felly mae angen i'r cyngor gymeradwyo'r newidiadau i'r Rhaglen Gyfalaf. Amlinellwyd y rhain rhwng paragraff 4.2 a 4.12 yr adroddiad, a chyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro grynodeb o bob un o'r rhain fel y'u nodir isod, ynghyd ag unrhyw oblygiadau adnoddau ychwanegol oedd angen eu hymrwymo at bob un o'r cynlluniau a restrwyd.

 

Roedd y cynlluniau hyn fel a ganlyn:-

 

  • Rhaglen Band A Ysgolion yr 21ain Ganrif – Ysgol Gynradd Pencoed
  • Ysgol Gynradd Cwmfelin – Adeiladau
  • Canolfan Diogelu Amlasiantaethol
  • Gweithio Ystwyth
  • Ehangu mynwentydd
  • Fflyd
  • Rhaglen dreigl TGCh
  • Rhaglen Buddsoddi ym Mhorthcawl (PRIF)
  • Cofrestryddion
  • Grant Cyfalaf cyfrwng Cymraeg

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod nifer o gynlluniau wedi eu datblygu ers i'r Rhaglen Gyfalaf gael ei chymeradwyo, ac roedd angen cymeradwyo'r rhain (gan y cyngor).

 

O ran rhaglen Band A Ysgolion yr 21ain Ganrif, dywedodd wrth yr aelodau, er bod gwaith ymchwilio ar y safle wedi ei wneud cyn gosod contract adeiladu Ysgol Gynradd Pencoed, bod angen cyflawni gweithgareddau torri a llenwi sylweddol ar y safle nas rhagwelwyd yn wreiddiol, gan olygu cynnydd o £200,000 yng nghostau'r prosiect.  Y bwriad oedd y byddai tanwariant arall rhagweledig mewn cynlluniau Band A eraill yn talu am y gost ychwanegol hon.  Hysbysodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro y Cabinet fod cyllideb o £165,000 wedi ei chynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer darparu mwy o leoedd yn Ysgol Gynradd Cwmfelin.  Fodd bynnag, ar ôl datblygu'r cynllun, credwyd nad oedd yr amcangyfrif gwreiddiol ar gyfer y prosiect yn ddigonol, ac er bod ymarfer gwerth peirianneg wedi ei gynnal, derbyniwyd cost prosiect ddiwygiedig o £235,000, gan arwain at gyllid ychwanegol o £70,000 yn fwy na'r gyllideb a gymeradwywyd, a chynigiwyd y byddai hwn yn cael ei gymryd o gyllideb cadw'r rhaglen moderneiddio ysgolion.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod buddsoddiad cyfalaf o £205,000 wedi ei gymeradwyo ar gyfer sefydlu Canolfan Diogelu Amlasiantaethol.  Fodd bynnag, roedd y Ganolfan Diogelu Amlasiantaethol wedi symud i Raven's Court, gan olygu bod y costau'n llawer llai nag y rhagwelwyd, a byddai hyn yn rhyddhau £45,116 o gyllid ar gyfer cynlluniau eraill. Adroddodd hefyd fod cyllid cyfalaf o £1.217 miliwn wedi ei gymeradwyo ar gyfer buddsoddi mewn TGCh er mwyn cyflawni Gweithio Ystwyth, a oedd yn dibynnu ar gael tenant ar gyfer Raven's Court.  Yn dilyn penderfyniadau ar ble i roi'r Ganolfan Diogelu Amlasiantaethol, ni fyddent bellach yn mynd ati i farchnata Raven's Court ac, o ganlyniad, nid oedd angen y buddsoddiad a nodwyd ar y dechrau mwyach. Gwnaeth hyn adael balans o £1.201 miliwn i'w ddad-ymrwymo a'i ddefnyddio ar gyfer cynlluniau eraill.

 

Gwnaeth y Pennaeth Cyllid Dros Dro hefyd nodi bod cyllid o £360,000 wedi’i neilltuo ar gyfer ehangu mynwentydd ym Mhorthcawl a Gogledd Corneli, ond o ganlyniad i waith ymchwilio a dichonolrwydd pellach, bu'n rhaid i £170,000 ychwanegol gael ei ariannu gan fenthyciad darbodus.  Adroddodd hefyd fod angen cyllideb cyfalaf o £1.64 miliwn er mwyn prynu cerbydau cynnal a chadw priffyrdd newydd i’w hariannu o gyllidebau refeniw cyfredol cleientiaid, trwy gyfraniadau refeniw at fenthyciadau cyfalaf neu ddarbodus.  Yn dilyn adolygiad o’r ystâd TGCh, nododd hefyd y byddai angen cynnydd o £226,375 wedi’i ariannu drwy gyfraniad refeniw o gyllideb y rhaglen dreigl TGCh gyfredol.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod yr ymarfer caffael ar gyfer prosiect y Rhaglen Buddsoddi ym Mhorthcawl wedi ei gwblhau, ac wedi cynyddu i £2,924,000; roedd angen diwygio'r gofyniad cyfatebol i £1,358,060.  Roedd yr arian cyfatebol wedi ei greu gan amrywiaeth o adnoddau allanol a chyllid y Cyngor.  Nododd pe bai cyfleoedd yn codi i gael gafael ar fwy o gyllid allanol, naill ai drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop neu ffynonellau eraill, bydd y rhain yn cael eu targedu mewn ymdrech i leihau'r gofyniad am adnoddau'r cyngor ymhellach. 

 

Adroddodd hefyd fod cryn dipyn o ddiddordeb masnachol yn y tir a'r adeilad (T?'r Ardd), lle mae Swyddfa'r Cofrestrydd a Llyfrgell Gyfeirio Awen.  Mae mwy o briodasau wedi eu canslo oherwydd y gwaith sy'n cael ei wneud ar y tir cyfagos.  Gyda mwy o waith i ddod ar y safle, roedd yn debygol o arwain at fwy fyth o briodasau'n cael eu canslo.   Mae gwaith dichonolrwydd wedi ei wneud ar adleoli Swyddfa'r Cofrestrydd, a gellir ei rhoi ar lawr daear y Swyddfeydd Dinesig. Byddai hyn yn darparu derbyniad cyfalaf untro o werthiant y tir, yn ogystal ag arbedion refeniw parhaus yn sgil cau adeilad.  Nododd mai'r gyllideb gyfalaf ddangosol oedd ei hangen i ailfodelu'r rhan honno o'r Swyddfeydd Dinesig a effeithir yw £275,000, sy'n cynnwys creu man patio ar gyfer lluniau priodas.  Disgwylir i'r derbyniad cyfalaf rhagweledig, a nodwyd yn yr adroddiad prisio drafft, fod yn llawer mwy na chost y gwaith. 

 

Nododd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £2.6 miliwn i'r cyngor er mwyn creu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ym Metws, Bro Ogwr, tref Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, gyda'r pedwar prosiect yn costio £650,000 yr un.  

 

Wedi hyn, dywedodd wrth y cyngor fod y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig yn cynnwys nifer o addasiadau eraill a oedd yn adlewyrchu cymeradwyaethau ariannu allanol newydd a newidiadau i broffiliau gwariant dros flynyddoedd ariannol, a oedd yn dangos rhaglen ddiwygiedig o £211.185 miliwn. Daw £138.408 miliwn o hwn o adnoddau'r cyngor, gan gynnwys Cyllid Cyfalaf cyffredinol gan Lywodraeth Cymru, a daw £72.777 miliwn o adnoddau allanol.

 

Cyfeiriodd aelodau at y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig a oedd wedi ei hatodi yn Atodiad 1 yr adroddiad, a oedd hefyd yn cynnwys nifer o addasiadau eraill yr oedd eu hangen i adlewyrchu'r cymeradwyaethau ariannu allanol newydd a newidiadau i broffiliau gwariant dros flynyddoedd ariannol. Roedd hyn yn dangos rhaglen ddiwygiedig o £211.185 miliwn i gyd. Daw £138.408 miliwn o hwn o adnoddau'r cyngor, gan gynnwys Cyllid Cyfalaf cyffredinol gan Lywodraeth Cymru, a daw £72.777 miliwn o adnoddau allanol.

 

Yn olaf, cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro at oblygiadau ariannol yr adroddiad, gan nodi y bydd unrhyw dderbyniadau cyfalaf a ryddheir o ganlyniad i gynlluniau'n cael eu tynnu o'r Rhaglen Gyfalaf yn cael eu hadleoli i gynlluniau eraill sydd eisoes wedi eu cynnwys yn y rhaglen, ond cânt eu hariannu gyda benthyciadau allanol er mwyn lleihau costau benthyca posibl, gan felly leihau'r pwysau ar y Gyllideb Refeniw.

 

Roedd aelod yn poeni fod rhai o'r cynlluniau hynny a restrwyd yn yr adroddiad yn gofyn am fwy o gyllid nag y cynigiwyd yn wreiddiol, yn dilyn gwaith dichonoldeb a chynllunio manwl a oedd wedi ei wneud ar ôl hyn. Oherwydd hyn, cafodd diwygiad ei wneud i argymhelliad yr adroddiad, a eiliwyd yn briodol, sef bod yr adroddiad yn cael ei ohirio a'i atgyfeirio at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i'w ystyried ymhellach. Argymhellwyd ymhellach hefyd y dylid bwrw pleidlais wedi ei chofnodi ar y diwygiad hwn, a chefnogwyd hyn yn unfrydol

 

Felly, cytunodd yr aelodau i bleidleisio'n electronig ar b'un a ddylid bwrw pleidlais wedi’i chofnodi ar y diwygiad uchod neu beidio. Dyma oedd canlyniad y bleidlais:-

 

O blaid (pleidlais wedi ei chofnodi)     Yn erbyn               Ymatal

 

45                                                          1                                 0

 

Cafodd pleidlais wedi ei chofnodi ei bwrw wedi hyn ar y diwygiad, h.y. i ohirio'r adroddiad ac, yn ei dro, ei atgyfeirio i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i'w ystyried.

 

Dyma oedd canlyniad y bleidlais a gofnodwyd:-

 

O blaid (y diwygiad)                      Yn erbyn                 Ymatal

 

Bydd enwau'n cael eu gosod ar ôl i'r cofnodion gael eu cyfieithu

 

21                                                   26                                 0

 

Felly, methodd y diwygiad.

 

Cynhaliwyd ail bleidlais electronig i bennu a ddylid trafod yr adroddiad ymhellach neu beidio, a dyma oedd y canlyniad:-

 

O blaid (trafod ymhellach)               Yn erbyn                 Ymatal

 

22                                                        10                                 1

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr adeiladau yn Ysgol Gynradd Cwmfelin, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod angen gwelliannau i adeiladau presennol yr ysgol. Roedd hwn wedi ei asesu fel adeilad categori 'C' ac roedd angen cyllid er mwyn ehangu maint y dosbarthiadau cyfredol, ac roedd rhai o'r rhain hefyd yn cynnwys mannau hongian cotiau oherwydd y diffyg lle yn gyffredinol mewn mannau eraill o'r ysgol. Ychwanegodd fod tair ystafell ddosbarth symudol yn yr ysgol a oedd mewn cyflwr gwael. Roedd hyn yn cyfrif am 50% o le cyffredinol i ddosbarthiadau yn yr ysgol, a oedd yn annigonol at ddibenion dysgu ac addysgu. Ychwanegodd nad oedd y dyraniad cyllid cychwynnol yn ystyried gwaith mecanyddol a pheirianyddol sy'n cael ei wneud yn yr ysgol bresennol, na darparu teledu cylch cyfyng.

 

O ran adleoli Swyddfa'r Cofrestrydd, pan fyddai hyn yn cael ei ystyried ymhellach, credai aelod y dylid hefyd ystyried darparu maes parcio digonol gerllaw er mwyn cynorthwyo â'r gwaith o gryfhau'r gwasanaeth i gwsmeriaid.

 

Cyfeiriodd aelod at baragraff 4.11 yr adroddiad, a chyllid sydd wedi ei ddyrannu i brosiectau sy'n mynd ati'n benodol i gefnogi a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn addysg, a holodd am ragor o eglurhad ynghylch llwybrau ariannu ar gyfer hyn.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i Deuluoedd nad oedd unrhyw gost cyfalaf i'r cyngor o ran yr uchod, oherwydd bod hyn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, byddai cost refeniw, ac roedd Gr?p Llywio wedi ei sefydlu i edrych ar raddfa hyn wrth symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y cyngor yn cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig fel y'i nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

Dogfennau ategol: