Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr Dros Dro

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Rhoddodd y Maer wybod i’r Cyngor am ymrwymiadau yr oedd ef a’i Gydweddog wedi eu mynychu yn ystod y mis diwethaf, a oedd yn cynnwys cyngerdd elusen ar gyfer gofalwyr ifanc a gynhaliwyd yn Theatr Sony, Pen-y-bont ar Ogwr, gwasanaeth diolchgarwch i nodi 30 mlynedd ers i Ymddiriedolaeth Hunangymorth Sandville gael ei chychwyn, Gemau OlympAge blynyddol y Gaeaf a chyflwyno tystysgrifau yng ngwobrau’r Coleg Paratoi Milwrol.  Yn ogystal, roedd y Maer a’i gydweddog hefyd wedi mynychu cynhyrchiad Ysgol Porthcawl o’r sioe ‘Oliver’, gwasanaeth yr Holocost yng Nghaerdydd, gwobrau Adeiladu Rhagoriaeth, beirniadu gwobrau Dinasyddiaeth, lansio gwobrau Cyn-filwyr Cymru yng Nghaerdydd, Caffi Darllen yn Ysgol Fabanod Bryntirion a lansio Cyflogaeth Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd wybod i’r Cyngor am gynnydd wrth greu cyfleuster cymunedol newydd yng Nghlwb Bechgyn a Merched Nantymoel, a oedd yn golygu creu ymddiriedolaeth elusennol, a dywedodd y bydd y cyfleuster yn cael ei lansio’n swyddogol yn ddiweddarach yr wythnos hon.  Bydd y cyfleuster yn ganolfan barhaol i’r tîm plismona cymunedol a bydd hefyd yn gweithredu fel Canolfan Dreftadaeth Cwm Ogwr ac atyniad ymwelwyr i gysylltu Parc Gwledig Bryngarw trwy Lwybr Treftadaeth newydd Cwm Ogwr.  Byddai cyfleusterau hurio beiciau’n cael eu darparu ym Mryngarw hefyd ynghyd ag arddangosiadau gwybodaeth wedi’u cysylltu ag ap lleisiol ar hyd y llwybr.  Dywedodd y byddai celfwaith cyhoeddus a seddau cymunedol newydd yn cael eu lleoli yn safle hen Ganolfan Berwyn hefyd. 

 

Aelod y Cabinet dros Gymunedau    

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau wrth y Cyngor fod preswylwyr Porthcawl yn cael eu gwahodd i fynychu sesiwn wybodaeth galw heibio lle y gallant helpu i ddylanwadu ar gam nesaf y gwaith ar amddiffynfeydd rhag llifogydd y dref.  Bydd y cyfranogwyr yn gallu gofyn cwestiynau a chynnig adborth ar y cynigion, sy’n ategu cynlluniau adfywio ehangach Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y dref.  Bydd y sesiwn wybodaeth galw heibio yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn y Grand ddydd Iau 28 Chwefror rhwng 1pm a 7pm. 

 

Dywedodd wrth y Cyngor hefyd fod Gwobrau Adeiladu Rhagoriaeth blynyddol Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol wedi cael eu cynnal yn ddiweddar i amlygu enghreifftiau rhagorol o ddatblygiad diogel, cynaliadwy, arloesol o ansawdd uchel yn y Fwrdeistref Sirol.  Dywedodd fod y tîm Rheoli Adeiladu yn cynnal 7,000 o archwiliadau bob blwyddyn ac y bydd yr enillwyr yn symud ymlaen i wobrau rhanbarthol de Cymru a gynhelir ym mis Ebrill.

 

Gobeithiai y byddai’r Aelodau’n croesawu’r Cynllun Ynni Clyfar a gymeradwywyd gan y Cabinet ddoe.  Dywedodd fod y Fwrdeistref Sirol yn un o dair ardal yn unig a ddewiswyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) i arloesi cynlluniau ynni carbon isel, ac yr amcangyfrifir y gallai hyd at £7.4 biliwn gynyddu’r economi leol erbyn 2050.  Mae prosiectau sy’n cael eu datblygu yn cynnwys rhwydwaith gwres Pen-y-bont ar Ogwr i gysylltu cartrefi ac adeiladau cyhoeddus, a chynllun D?r Mwynglawdd Caerau sy’n defnyddio d?r tanddaear fel ffynhonnell wres i gynhesu cartrefi yng Nghwm Llynfi.  Y Cyngor yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ddatblygu strategaeth ynni o’r fath a bwriedir iddi weithredu fel catalydd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dyfu i fod yn barth arloesi carbon isel.  Yn ogystal, mae gwaith wedi cael ei wneud gyda’r Catapwlt Systemau Ynni i dreialu math o reolaeth ynni ddatblygedig ar gyfer y cartref, a allai ddod yn nodwedd gyffredin mewn cartrefi yn ystod y degawd nesaf.

 

Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Cyhoeddodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod Mr Clive Richards o Gefn Cribwr wedi marw’n ddiweddar.  Roedd Mr Richards wedi dod i gyfarfod diweddar Pwyllgor Rhianta Corfforaethol y Cabinet i drafod ei brofiadau fel gofalwr maeth tymor hir ar gyfer yr awdurdod.  Byddai llythyr cydymdeimlo’n cael ei anfon at deulu Mr Richards ar ran y Cyngor.

 

Soniodd wrth yr Aelodau hefyd am y gwaith sydd wedi cael ei wneud i sefydlu cymunedau sy’n deall dementia lle mae pobl yn fwy ystyriol, goddefgar a chefnogol o’r cyflwr.  Roedd yn falch iawn o roi gwybod i’r Aelodau fod chwe pherson ifanc yn eu harddegau o Ysgol Gyfun Gatholig yr Archesgob McGrath ym Mracla wedi achub y blaen trwy arwain ymgyrch i wneud eu cymuned yn fwy addas i bobl sy’n byw gyda dementia, gan gwblhau hyfforddiant arbenigol.  O ganlyniad i hyn, fe’u cydnabuwyd yn Hyrwyddwyr Dementia gan y Gymdeithas Clefyd Alzheimer.  Mae’r myfyrwyr yn gwneud defnydd da o’r hyfforddiant hwn trwy gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith eu cyd-fyfyrwyr, busnesau lleol a phreswylwyr.  Maen nhw wedi cynnal sesiwn wybodaeth leol ac wedi ffurfio partneriaeth â Thîm Rhwydwaith Cymunedol Integredig y Dwyrain, sy’n cynnwys staff o’r cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU), i gynnal sesiynau ychwanegol a helpu i ledaenu ymwybyddiaeth.  Roedd yn falch iawn o glywed am bobl ifanc yn cymryd rhan yn y fenter Deall Dementia a gobeithiai y byddai’r Aelodau’n dangos eu cefnogaeth iddynt pan fyddant yn ymweld â’r Cyngor ym mis Mawrth i helpu i nodi Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd.

 

Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Roedd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol yn falch iawn â chanlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus diweddar yngl?n â chynigion i sefydlu canolfan adnoddau dysgu yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd ar gyfer disgyblion ag anhwylderau’r sbectrwm awtistiaeth (ASD).  Roedd mwyafrif llethol yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad o blaid datblygu cyfleuster ar gyfer disgyblion ag ASD, a dywedodd Estyn fod y cynigion yn dangos sail resymegol eglur.  Hon fydd yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yn y Fwrdeistref Sirol i gynnwys cyfleuster o’r fath, ac yn sgil y ffaith bod un eisoes wedi’i sefydlu yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, bydd disgyblion yn gallu trosglwyddo’n ddidrafferth gan barhau i dderbyn eu haddysg yn yr iaith o’u dewis.  Dywedodd y bydd hyn o gymorth mawr i blant ag ASD ac y bydd yn helpu i leihau’r straen sy’n gysylltiedig â newid o’r fath.

 

Cyhoeddodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol fod trefniadau ar waith i weithredu cynllun Cynnig Gofal Plant newydd Llywodraeth Cymru ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Diben y cynllun yw darparu cymorth ariannol tuag at gostau gofal plant i rieni sy’n gweithio, a bydd yn cynnig tri deg awr yr wythnos o ofal plant ac addysg gynnar a ariennir am hyd at bedwar deg wyth wythnos y flwyddyn.  Bydd ar gael i rieni cymwys sy’n gweithio o’r tymor ar ôl pen-blwydd plentyn yn dair oed hyd at y mis Medi yn dilyn ei ben-blwydd yn bedair oed.  Oherwydd bod plant yn gallu dechrau mynd i’r ysgol o dair blwydd oed yn y Fwrdeistref Sirol, prif fantais y cynllun yw’r ffaith bod y cynnig hefyd ar gael ar gyfer gofal plant yn ystod naw wythnos o wyliau’r ysgol.  Bydd dyddiad dechrau’r cynllun yn cael ei gyhoeddi’n fuan iawn, a rhoddir diweddariad arall i’r Aelodau pan fydd y manylion terfynol wedi cael eu cadarnhau.

 

Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio

 

Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio ddiweddariad i’r Aelodau ar y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas â’r Ganolfan Chwaraeon D?r yn Rest Bay.  Mae’r gwaith o adeiladu’r ganolfan yn mynd rhagddo’n dda, ac mae’r holl gyflwyniadau a dderbyniwyd gan ddarpar denantiaid y café bistro newydd, sydd wedi’i leoli i fyny’r grisiau, a’r ciosg hufen iâ i lawr y grisiau, wedi cael eu prosesu, a’r cynigion a ffefrir wedi’u hamlygu.  Byddai’n parhau i roi gwybod i’r Aelodau am ddatblygiadau. 

 

Llongyfarchodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio egin wneuthurwyr rhaglen ddogfen o Ysgol Bryn Castell sydd wedi bod yn gweithio gyda Ffilm Cymru i greu darn byr yngl?n â democratiaeth, ac sydd wedi cael eu henwebu am wobr genedlaethol.  Dywedodd y bydd eu hymdrechion yn cael eu dangos mewn digwyddiad mawr ei fri yn yr Odeon yn Leicester Square yn Llundain fis nesaf, lle y’u henwebwyd am wobr ‘Rhaglen Ddogfen Orau’ yng ngwobrau ‘Into Film’.  Mae eu ffilm yn dilyn gr?p o bobl ifanc sy’n amlinellu newidiadau maen nhw’n bwriadu eu gwneud i’w bywydau ac yn eu dilyn wrth iddynt ymweld â swyddfeydd y Cyngor i drafod sut gallant gyflawni hyn gyda Chynghorwyr ac Aelodau Seneddol, ac mae hefyd yn cynnwys interliwd gerddorol.

 

Cyhoeddodd y bydd yr Aelodau’n ymwybodol bod Estyn ar fin arolygu sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi ysgolion a darpariaeth addysg.  Mae eu swyddogion yn y Cyngor yr wythnos hon i gynnal arolygiad rhagarweiniol, a byddant yn dychwelyd ym mis Mawrth i gynnal arolygiad llawn.  Dywedodd mai addysg yw un o brif flaenoriaethau’r Cyngor hwn o hyd, a’i fod yn falch o’r ffordd y mae ysgolion lleol yn cael eu cefnogi.  Byddai’r Aelodau’n cael rhagor o fanylion am yr arolygiad cyn gynted ag y bydd y canfyddiadau’n hysbys.

 

Prif Weithredwr Dros Dro

 

Cyhoeddodd y Prif Weithredwr Dros Dro fod yr Archwilydd Cyffredinol wedi dweud y byddai’n anodd iawn cynllunio o flaen llaw pe na cheir cytundeb Brexit, ac felly ei fod wedi sefydlu Bwrdd Prosiect i ystyried y risgiau hynny.