Agenda item

Dargyfeiriad Arfaethedig Llwybr Troed 17, Porthcawl

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Is-bwyllgor ddarllen y papur a ddosbarthwyd ar ddechrau’r cyfarfod gan Mr Wheeler, Cymdeithas Ceffylau Prydain. Yna gofynnodd i’r Rheolwr Hawliau Tramwy gyflwyno’r adroddiad.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Hawliau Tramwy’r adroddiad yn gofyn am awdurdod i wneud Gorchymyn yn unol ag Adran 257 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ar dir nesaf at 15 The Burrows, Porthcawl, CF36 5AJ.

 

Adroddodd y Rheolwr Hawliau Tramwy y byddai gweithrediad caniatâd cynllunio P/17/595/FUL, cais cynllunio llawn i ddatblygu anhedd-dy deulawr ar wahân newydd gyda thair ystafell wely nesaf at 15 The Burrows, Porthcawl, CF36 5AJ yn gofyn am ddargyfeirio rhan o Lwybr Troed 17, Porthcawl. Esboniodd fod y cynllun yn Atodiad A yr adroddiad yn dangos cwrtil caniatâd y caniatâd cynllunio. Dangoswyd y rhan o’r llwybr troed y cynigiwyd ei dargyfeirio rhwng Pwyntiau A-B-C ar y cynllun yn Atodiad B yr adroddiad. Ychwanegodd fod y datblygiad arfaethedig hefyd yn cael ei effeithio gan ddau gais am Orchmynion Addasu Mapiau Diffiniol i uwchraddio Llwybr Troed 17 Porthcawl yn Llwybr Ceffylau a gyflwynwyd gan Gymdeithas Ceffylau Prydain.   

 

Amlinellodd y Rheolwr Hawliau Tramwy'r llwybr fel y disgrifiwyd yn y Datganiad Diffiniol a ddangoswyd ar y cynllun yn Atodiad B. Esboniodd fod hyd bras y llwybr troed i’w dargyfeirio’n 55 metr ond bod y lled heb ei ddiffinio ar hyn o bryd yn y Datganiad Diffiniol ac roedd ganddo arwyneb naturiol. Roedd trywydd amgen arfaethedig Llwybr Troed 17, Porthcawl yn rhedeg o bwynt D i bwynt C a ddengys yn atodiad B hefyd. Hyd bras y llwybr newydd oedd 51 metr, gyda lled o 1.5 metr ac arwyneb tarmacadam gyda godreon llwybr.

 

Esboniodd y Rheolwr Hawliau Tramwy y byddai’r llwybr troed newydd yn dechrau rhyw 11 metr i’r gogledd i bwynt lle’r oedd y llwybr troed oedd yn bodoli’n gadael yr un stryd. Roedd y newid hwn yn gwbl dderbyniol o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth. Y rheswm pam na ddangoswyd y dargyfeiriad fel un oedd yn rhedeg ar hyd llwybr troed The Burrows oedd oherwydd bod y llwybr troed eisoes yn cael ei ddangos fel rhan o’r briffordd y gellir ei chynnal. O ystyried y rhan ychwanegol hon, 62 metr oedd cyfanswm hyd y llwybr amgen.

 

Adroddodd y Rheolwr Hawliau Tramwy fod y cais i ddargyfeirio’r llwybr troed wedi’i gyflwyno ar 14 Awst 2017 yn dilyn y sylwadau Hawliau Tramwy mewn perthynas â’r cais cynllunio. Esboniodd mewn perthynas â’r ddau gais Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol oedd yn effeithio ar y safle hwn, mai canlyniad ymchwiliadau’r Cyngor oedd y dylid gwneud dau Orchymyn Addasu Mapiau Diffiniol i uwchraddio Llwybr Troed 17 yn llwybr ceffylau gyda lled o 1.5 metr. Gwnaed y penderfyniad cyn cyflwyno’r cais dargyfeirio ond ni wnaed y gorchmynion tan fis Mawrth a mis Medi 2018.

 

Yna, amlinellodd y Rheolwr Hawliau Tramwy’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgynghori ar gyfer dargyfeiriad arfaethedig Llwybr Troed 17 fel y manylwyd yn yr adroddiad. Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan Gymdeithas y Cerddwyr a chyflwynodd Heddlu De Cymru rai sylwadau mewn perthynas â’r cynnig fel y manylir yn yr adroddiad. Gwrthwynebodd Cymdeithas Ceffylau Prydain y cynnig fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Yn ogystal, anfonodd Cymdeithas Ceffylau Prydain gopi o’r ymgynghoriad ymlaen at farchogion eraill yn yr ardal a arweiniodd at dderbyn sylwadau gan 22 aelod o’r cyhoedd.

 

Ymddengys bod chwe phrif bwynt oedd yn sail i fwyafrif y gwrthwynebiadau i’r cynnig. Crynhodd y Rheolwr Hawliau Tramwy bob gwrthwynebiad ac ymateb y Cyngor i bob un.

 

·         Credodd mwyafrif y marchogion y dylid ymdrin â’r Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol i uwchraddio Llwybr Troed 17 Porthcawl cyn dargyfeirio’r llwybr troed. Gwnaed y penderfyniad mewn perthynas â’r Gorchymyn 3 blynedd cyn y dyddiad y derbyniwyd y cais i ddargyfeirio ond nid oedd y penderfyniad wedi’i symud yn ei flaen cyn y dyddiad y cafwyd y cais i ddargyfeirio. Ers ymgymryd â’r ymgynghoriad cyn y gorchymyn, cyhoeddwyd 4 Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol o fewn ardal Drenewydd yn Notais/Merthyr Mawr (Gorchmynion 1, 2, 3 a 7 2018), gan gynnwys y ddau sy’n effeithio ar Lwybr Troed 17 Porthcawl (gorchmynion 2 a 7 2018) a denodd y rhain rhyw 200 o wrthwynebiadau, 84 trwy e-bost/llythyr o gefnogaeth a 2 ddeiseb, un gyda 70 o lofnodion yn gwrthwynebu, ac 1 ddeiseb gyda 47 o lofnodion yn cefnogi. Gofynnwyd am gyngor a chafwyd cyngor cyfreithiol na fyddai’n briodol gohirio’r Gorchymyn Dargyfeirio o gofio'u bod yn brosesau cyfreithiol ar wahân ac roedd disgwyl gwrthwynebiadau a fyddai’n golygu y gallai gymryd amser sylweddol cyn i’r Gorchmynion Addasu Mapiau Diffiniol gael eu penderfynu.

·         Awgrymodd Cymdeithas Ceffylau Prydain y byddai dargyfeirio’r llwybr a gwneud y llwybr arall yn llwybr ceffylau cyhoeddus yn cael gwared ar unrhyw wrthwynebiad gan farchogion. Petai’r Cyngor yn hwyluso hyn, byddai ar y sail y byddai’r ddau Orchymyn Addasu Mapiau Diffiniol yn cael eu cadarnhau. Pe na fydden nhw, gallai hyn arwain at ran fer o’r llwybr ceffylau’n arwain at lwybr troed ar bob ochr.

·      Mynegwyd pryderon oherwydd nad yw’r lled o 1.5 metr ar gyfer y dargyfeiriad arfaethedig yn ddigon llydan a datganodd eraill fod angen lled o 1.5 metr o leiaf ar y llwybr ceffylau. Fel rheol, byddai’r Cyngor yn gofyn am isafswm gofyniad lled o ddim llai na 2.5 metr petai’n dargyfeirio llwybr ceffylau. Fodd bynnag, roedd y cynnig yn ceisio dargyfeirio llwybr troed cyhoeddus heb led diffiniedig ar hyn o bryd. Yn yr achosion hynny, fel rheol byddai’r Cyngor yn gofyn y dylai’r llwybr troed wedi’i ddargyfeirio fod yn 1.4m o gael terfyn ar un ochr ac 1.8 metr o gael terfyn ar y ddwy ochr. Yn yr achos hwn, nid oedd terfyn di-oed ar y ddwy ochr ac felly, byddai 1.4m yn ddigon. Roedd y datblygwr wedi cytuno i arwynebu’r llwybr i 1.5 metr gan mai dyna oedd lled y llwybr tarmac o The Burrows i Birch Walk. Ychwanegodd fod adroddiad a baratowyd gan ymgynghorydd mewn perthynas â cheisiadau Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol Cymdeithas Ceffylau Prydain a gyflwynwyd i’r Cyngor yn 2007, wedi canfod, heb dystiolaeth sylweddol i awgrymu y dylai’r llwybr ceffylau fod yn lletach, dylid cyfyngu ar y gwaith o uwchraddio Llwybr Troed 17 Porthcawl i led o 1.5 metr. Dywedodd hefyd petai Arolygydd sy’n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru’n penderfynu y dylid cadarnhau’r Gorchmynion Addasu Mapiau Diffiniol (Gorchmynion 2 a 7), gallent hefyd gofnodi lled llwybr oedd yn lletach na’r lled arfaethedig o 1.5 metr. Os dyma oedd yr achos, yna byddai’n rhaid i’r Cyngor benderfynu sut gallai ddarparu ar gyfer y fath newid ac roedd tri dewis ar gael ar hyn o bryd fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

·      Roedd rhai marchogion yn poeni y byddai dargyfeiriad y llwybr troed yn andwyol i’r cais i uwchraddio’r llwybr troed i lwybr ceffylau. Dadl y Cyngor yw na fyddai hyn yn effeithio ar benderfyniad y Gorchymyn Addasu.

·      Cododd rhai marchogion faterion yn ymwneud â’r cais cynllunio ei hun. Esboniodd y Rheolwr Hawliau Tramwy nad oedd rhoi caniatâd cynllunio’n sicrhau y byddai hawl tramwy cyhoeddus yr effeithiwyd arni’n cael ei dargyfeirio neu ei dileu.

·      Cyfeiriodd nifer o farchogion at gât mochyn oedd yn gwahardd mynediad ar hyd y llwybr. Esboniodd y Rheolwr Hawliau Tramwy fod y gât mochyn dan sylw wedi’i godi ar lwybr troed gwahanol 244 metr i gyfeiriad y gorllewin o’r cynnig cyfredol oherwydd defnydd anghyfreithlon o’r llwybr gan farchogion a cherbydau modur. Gosodwyd ffrâm “A” ar y rhan o’r llwybr troed a ystyrir ar hyn o bryd a bwriad y Cyngor oedd petai hawliau uwch yn cael eu penderfynu, byddai’r ffrâm “A” yn cael ei thynnu ymaith.

 

Mewn perthynas â honiad Cymdeithas Ceffylau Prydain nad oeddent yn cael eu trin yn deg, esboniodd y Rheolwr Hawliau Tramwy fod Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i gynnal a oedd yn dangos nad oedd goblygiadau nac effeithiau ar grwpiau cydraddoldeb penodol. Mewn perthynas â’u gwrthwynebiad ar y sail na fyddai’r llwybr dargyfeiriedig mor gyfleus a helaeth, byddai’r llwybr newydd 7 metr yn hwy na’r llwybr presennol, newid mân pan oedd y cyfanswm hyd yn 457 metr. Nid oedd angen i lwybrau oedd yn cael eu dargyfeirio dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fod mor gyfleus a helaeth ond roedd rhaid i’r Cyngor fod yn fodlon ei fod yn angenrheidiol er mwyn galluogi i’r datblygiad gael ei gyflawni.  

 

Amlinellodd y Rheolwr Hawliau Tramwy natur gwrthwynebiad Cyngor Tref Porthcawl i’r cais cynllunio am y rhesymau nad oedd gwyro’r llwybr troed yn dderbyniol ac y byddai’n gosod cynsail. Nodwyd y gwrthwynebiadau yn ystod proses y cais cynllunio ond aed i’r afael yn ffurfiol â nhw fel rhan o’r weithdrefn ymgeisio ffurfiol i ddargyfeirio’r hawl tramwy cyhoeddus. Ychwanegodd fod y ddeddfwriaeth yn galluogi’r datblygwyr i gyflwyno ceisiadau i ddargyfeirio hawliau tramwy cyhoeddus oedd yn cael eu heffeithio gan ddatblygiad heb osod unrhyw fath o gynsail. O ran bod y dargyfeiriad yn annerbyniol, nid oedd arwydd pam yr oedd hyn yn annerbyniol ac felly roedd hi’n anodd rhoi sylwadau ar hyn.

 

Amlinellodd y Rheolwr Hawliau Tramwy Ganllawiau Llywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus a rhoddodd fanylion y tair ystyriaeth a sut yr oedd y Cyngor wedi’u hystyried. 

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad eu bod nhw ond yn ystyried y dargyfeiriad arfaethedig o’r llwybr troed ac nid uwchraddio’r llwybr troed i lwybr ceffylau. Cadarnhawyd hwn yna gofynnodd yr un aelod a allai’r pwyllgor ofyn bod y ffrâm “A” yn cael ei throsglwyddo gyda’r llwybr troed. Datganodd y Rheolwr Hawliau Tramwy y gellid gwneud hyn os oedd y pwyllgor yn cytuno.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i Mr Wheeler o Gymdeithas Ceffylau Prydain roi manylion y pryderon yr oedd ganddo mewn perthynas â’r cynnig. Cyfeiriodd Mr Wheeler at y papur a ddosbarthodd a’r pwyntiau oedd yn ffurfio sail y gwrthwynebiadau i’r dargyfeiriad arfaethedig, yn enwedig yr ail bwynt yn ymwneud ag awgrym gan Gymdeithas Ceffylau Prydain y byddai dargyfeirio’r llwybr a gwneud llwybr ceffylau cyhoeddus arall yn cael gwared ar unrhyw wrthwynebiad gan farchogion. Ymateb y Cyngor oedd pe na fyddai’r Gorchmynion Addasu Mapiau Diffiniol yn cael eu cadarnhau, byddai rhan fer o’r llwybr ceffylau’n arwain at lwybr troed ar bob ochr. Ymatebodd Mr Wheeler mai nid fel hyn oedd pethau ac nid oedd rhagdybiaeth o lwyddiant ynghlwm ychwaith oherwydd nid oedd yn bwysig. Datganodd y byddai o fantais wrth ddatrys y mater hirsefydlog rhwng marchogion a’r Cyngor sef bod y Cyngor wedi’u ffensio allan o’r Man Agored Cyhoeddus yn Newton Burrows lle dylen nhw yn ôl y gyfraith gael eu caniatáu i gael awyr iach ac ymarfer corff. Ychwanegodd y nodwyd yn yr adroddiad y byddai’r cynnig presennol yn achosi toriad ym mharhad yr hawl tramwy, sef na fyddai’r llwybr ceffylau newydd a grëwyd yn dechrau ar hawl tramwy cyhoeddus ac nid ar lwybr troed ac yn dod i ben yn y Man Agored Cyhoeddus yn syth cyn pwynt C. Dywedodd petai hyn yn cael ei wneud, byddai’n codi’r gwrthwynebiad marchogol mewn egwyddor.   

 

Yr ail bwynt a godwyd gan Mr Wheeler oedd pam oedd y bwlch oedd yn lletya’r llwybr troed heb ei ddatblygu yn y lle cyntaf. Credai mai’r ateb oedd bod gweddill priffordd hynafol yn derfyn bras i linellau cwrtil t? rhif 11 a 15, ac roedd hynny wedi’i nodi yn Nyfarniad Clostiroedd 1864. Ychwanegodd o edrych am yn ôl ac i’r chwith o The Burrows ac yn ôl tuag at Birch Walk, fod gerddi cefn yr adeiladau hyn bron yn ddwbl o ran hyd yn oddeutu 2005 pan alluogodd datblygiad tebyg i d? ychwanegol gael ei wasgu i mewn i Birch Walk. Esboniodd fod camau gwreiddiol y datblygiadau fan hyn wedi parchu llinellau terfyn yr hen briffordd, ond yn anffodus, nid dyma oedd yr achos mwyach a’r anffawd i’r gymuned farchogol oedd bod pobl a sefydliadau’n gwrthwynebu’r defnydd parhaus ohonynt fel Llwybrau Ceffylau oherwydd nid oeddent yn ddigon llydan rhagor. Dyma pam y dadleuon nhw’n gryf fod dargyfeirio’r hawl tramwy fel llwybr troed nid yn unig yn niweidiol ond yn angheuol i unrhyw ddefnydd posibl i’r dyfodol fel llwybr ceffylau. Roedd y llwybr rhwng Birch Walk a’r Burrows eisoes yn rhy gul. Casglodd mewn perthynas â’r haeriad fod marchogion yn cael eu trin yn annheg a bod yr adroddiad wedi casglu nad oedd hyn yn wir, ymatebodd fod rhyw 50 o’r sylwadau’n cefnogi’r gorchmynion llwybr ceffylau, roedd pob un ond fe ac un arall wrth fenywod oedd yn golygu bod 96% o’r marchogion wedi’u heffeithio’n negyddol arnynt. Yn wir, menywod yn gyfan gwbl fu’n erfyn ar y Cyngor yn 2011 mewn perthynas â’r diffyg mynediad i farchogion i Fannau Agored Cyhoeddus ac nid oedd unrhyw gynnydd o gwbl wedi’i wneud yn hyn o beth.

 

Ymatebodd y Rheolwr Hawliau Tramwy, o ran y pwynt cyntaf a godwyd am gynigion dargyfeirio, roedd 200 o wrthwynebiadau wedi dod i law i’r Gorchmynion Addasu, felly ni fyddai hyn yn ateb a fyddai’n gweddu i bawb. Ychwanegodd fod y llwybr i Birch Walk yn eiddo i’r Datblygwyr a werthodd y tir i’r trigolion ac a gulhaodd led y bwlch. Cynhaliwyd asesiad o les a ddynododd fod y llwybr yn cael ei ddefnyddio gan gerddwyr hefyd a byddai gwella’r arwyneb o les iddynt a bod hyn yn gwrthbwyso nifer y marchogion oedd yn defnyddio’r llwybr hwn.

 

 

Ymatebodd Mr Wheeler fod yr adroddiad wedi’i ddyddio ym mis Medi ac felly, dylai fod wedi cael cyfle i gyfrannu at yr adroddiad yn gynharach. Gallai’r gwrthwynebiadau a ddaeth i law arwain at Orchmynion Addasu’n methu. Gwnaed deiseb yn 2011 oherwydd nad oedd y marchogion, benywaidd yn bennaf, yn gallu cael mynediad i’r twyni ac nid oedd ganddynt unrhyw le i farchogaeth a oedd yn eu rhoi nhw mewn sefyllfa beryglus. Roedd y busnesau a arferai ddibynnu ar fynediad i’r traeth yn methu hysbysebu oherwydd roeddent wedi cael eu ffensio allan o’r traeth ac roedd yr hyn a ddefnyddid fel llwybr ceffylau bellach yn rhy gul.

 

Esboniodd y Rheolwr Hawliau Tramwy nad oedd yr ardal o dir yr oedd Mr Wheeler yn cyfeirio ati (yr ardal i gefn pwynt C ar atodiad B) yn dir agored cyhoeddus ac felly byddai defnydd o’r ardal hon yn tresmasu yn erbyn y tirfeddiannwr.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Hawliau Tramwy y byddai’r Cyngor yn y dyfodol yn edrych ar y man agored cyhoeddus presennol yn ardal Newton i weld a allai gael ei agor lan i farchogion ond o ran beth oedd yn cael ei ystyried y tro hwn, ni fyddai’n bosibl.

 

Datganodd Mr Wheeler ei fod yn deall y cyfyngiadau ond roedd marchogion yn rhydd i farchogaeth yna nawr. Cadarnhaodd yr Asiant nad oedd yr ardal dan sylw’n fan agored cyhoeddus.

 

Gofynnodd aelod am eglurhad o’r term “lled heb ei ddiffinio”. Esboniodd y Rheolwr Hawliau Tramwy y gallai fod yn unrhyw beth rhwng 1 a 34 troedfedd ac roedd yn seiliedig yn aml ar dystiolaeth hanesyddol. Trafododd yr aelodau nifer o bwyntiau gan gynnwys Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 a’r map diffiniol ac os nad oedd lled wedi’i gofnodi, y rheswm oedd oherwydd bod y llwyr yn llydan ac nid yn gul.    

 

PENDERFYNWYD:

 

1  Bod awdurdod yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio wneud y Gorchymyn angenrheidiol i geisio ailosod Llwybr Troed 17, Porthcawl, i’r llwybr a welir ar Atodiad B i’r adroddiad, a chadarnhau’r Gorchymyn ar yr amod na wnaed unrhyw wrthwynebiad neu sylwadau o fewn y cyfnod rhagnodedig, neu os tynnir yn ôl rhai a wnaed.

 

2  Bod Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio’n cael awdurdod i symud y Gorchymyn ymlaen i Lywodraeth Cymru benderfynu arno, os na thynnir unrhyw wrthwynebiad yn ôl.

 

3  Bod y Gorchymyn/Gorchmynion yn eithrio unrhyw ran o’r dargyfeiriad sy’n defnyddio priffyrdd y mae modd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eu cynnal a chadw gan fod hawliau cyhoeddus eisoes yn bodoli drostynt.

 

4 Y dylai’r ffrâm “A” sy’n bodoli ar Lwybr Troed 17 ar hyn o bryd gael ei gosod ar y llwybr newydd.

        

Dogfennau ategol: