Agenda item

Monitro Perfformiad a Chynnydd Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae'r Gorllewin

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol ar berfformiad a chynnydd Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae'r Gorllewin, gan gynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar Ddangosyddion Perfformiad Rhanbarthol 2017/18.

 

Adroddodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol fod Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae'r Gorllewin bellach yn rhan o'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol fel un o'r pum cydweithrediad rhanbarthol a enwyd. Amlinellodd drefniadau rheoli ac arolygu'r Gwasanaeth Cenedlaethol sy'n cynnwys Bwrdd Llywodraethol, Gr?p Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Gweithrediadau a Thîm Canolog. 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ei bod yn debygol, yn sgil newid ffiniau'r Bwrdd Iechyd, y bydd gofyn i Ben-y-bont ar Ogwr ddod yn rhan o gydweithrediad y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd. Fodd bynnag, cytunwyd y byddai Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod yn rhan o gydweithrediad Bae'r Gorllewin, ac na fyddai'n trosglwyddo i ranbarth newydd cyn mis Ebrill 2020 ar y cynharaf.  

 

Adroddodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol ar gyraeddiadau allweddol y flwyddyn ac ategodd fod nifer y plant sydd wedi'u lleoli ychydig yn uwch nag yr oedd y flwyddyn flaenorol. Cafodd rhagor o blant eu lleoli â rhieni mabwysiadu Bae'r Gorllewin nag mewn lleoliadau rhyngasiantaethol yn ystod y flwyddyn. Nododd y cafwyd cynnydd yn nifer y plant a allai ddarparu'r rhieni mabwysiadu â deunyddiau Hanes Bywyd. Ar gyfartaledd, roedd yr amser yr oedd yn ei gymryd i gymeradwyo rhieni mabwysiadu, o'r cyfnod ymholi i asiantaeth yn dod i benderfyniad, wedi gostwng o 9.7 mis i 8.2 mis. Cymharer hyn â'r meincnod cenedlaethol o 8 mis. Buddsoddwyd yng ngwefan Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae'r Gorllewin, gan ei gwneud yn fwy rhyngweithiol, yn haws ei defnyddio ac roedd bellach yn cynnwys y cynnig rhagweithiol. Roedd tudalen i'r aelodau hefyd yn cael ei datblygu a cheir tudalennau sy'n gyfeillgar i blant fel y cânt eu hannog i ddefnyddio'r safle we. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod gwaith datblygu a gweithredu'r model Trosglwyddo/Symud Ymlaen, sy'n cynorthwyo i baratoi plant i'w mabwysiadu ac i sicrhau deunydd Hanes Bywyd, wedi parhau ar draws y rhanbarth. Ychwanegodd fod y staff yn derbyn hyfforddiant.

 

Hysbysodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol y Pwyllgor fod gwaith yn mynd rhagddo i wella mynediad i'r wefan ac i ddatblygu strategaeth farchnata a recriwtio i Gymru gyfan. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y gwasanaeth mabwysiadu yn cael yr un cyhoeddusrwydd â'r gwasanaeth maethu. Hysbysodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol y Pwyllgor fod llawer o waith yn cael ei wneud i godi proffil mabwysiadu ac i godi ymwybyddiaeth yn ei gylch. Soniodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod y gwasanaeth maethu yn llawer mwy lleol ei naws a bod mabwysiadu yn wasanaeth mwy cenedlaethol a rhanbarthol ei naws. 

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y gwaith datblygu ychwanegol y bwriedir ei wneud ar y system Technoleg Gwybodaeth fel y gellir ei chynnwys yn y system adrodd. Soniwyd hefyd y byddai cipio data yn waith mwy cymhleth. Dywedodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol wrth y Pwyllgor fod y gwaith sy'n digwydd ar y cyd ag Adran TGCh Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gipio data yn parhau. Dywedodd fod cipio data yn gofyn am lawer o adnoddau ac ategodd fod angen gweithio ar draws y 3 awdurdod yn y rhanbarth. Roedd symud y systemau TGCh sydd o fewn y gwasanaeth mabwysiadu i System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn cael ei ystyried gan fod y system bresennol yn gallu bod yn feichus. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor pa ymgyrch farchnata fu'n llwyddiannus a pham. Ym marn y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol, ni chafwyd un ymgyrch farchnata a fu'n fwy llwyddiannus na'r lleill. Dywedodd fod y gwasanaeth yn cydweithio â'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor beth oedd Cwnsela Cofnod Genedigaeth yn ei olygu.  Esboniodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol fod y rhain yn geisiadau oddi wrth oedolion sydd wedi'u mabwysiadu ac sy'n chwilio am wybodaeth hanesyddol sy'n ymwneud â'u mabwysiadu. 

 

Llongyfarchodd y Pwyllgor y gwasanaeth ar lwyddo i leoli brodyr a chwiorydd gyda'i gilydd. Hysbysodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol y Pwyllgor yr aethpwyd ati i hyrwyddo buddiannau'r plant er mwyn denu rhieni mabwysiadu posibl.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurder ynghylch y gwahaniaeth rhwng rhieni mabwysiadu Bae'r Gorllewin a rhieni mabwysiadu rhyngasiantaethol.  Esboniodd y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol mai'r rhanbarth sy'n cymeradwyo rhieni mabwysiadu Bae'r Gorllewin ac mai awdurdodau lleol neu asiantaethau eraill sy'n cymeradwyo rhieni mabwysiadu rhyngasiantaethol. Gall rhieni mabwysiadu gael manylion y plant sydd i'w mabwysiadu drwy safle ar-lein rhyngweithiol o'r enw Link Maker. Nid yw pob plentyn ar y safle hwn ond bwriedir gwneud newidiadau i drefniadau Cofrestr Fabwysiadu Cymru. Bydd hon yn cael ei lletya gan Link Maker a bydd pob plentyn yng Nghymru wedi'i gofrestru ar y system hon.

 

Dywedodd y Pwyllgor ei bod yn galondid gweld y gwaith a wnaed ar y teithiau bywyd ac roedd am iddo gael ei gofnodi ei fod yn ddiolchgar i'r gwasanaeth, a hynny am fod mabwysiadu plant yn llawer anos mewn cyfnod o gyni ariannol. 

 

Yng ngoleuni'r newid sydd ar fin digwydd i ffiniau'r Bwrdd Iechyd, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod gwaith yn parhau i drosglwyddo gwasanaethau i Gwm Taf. Nododd nad yw'r gwasanaeth mabwysiadu yn barod i drosglwyddo am fod Cwm Taf yn rhan o ranbarth mabwysiadu mwy sy'n cynnwys pum awdurdod lleol. Rhaid ystyried llawer o ffactorau wrth drosglwyddo a byddai'n cymryd rhagor o amser i drosglwyddo'r gwasanaeth mabwysiadu i'r rhanbarth newydd.

 

PENDERFYNWYD: (1) Bod y Pwyllgor wedi ystyried a nodi perfformiad a chynnydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol;

 

(2) Ystyried ymgyrchoedd marchnata mabwysiadu'r dyfodol a'r modd y gall aelodau etholedig helpu i hyrwyddo'r ymgyrchoedd hyn.                                      

       

Dogfennau ategol: