Agenda item

Prosiect Ailfodelu Gwasanaethau Maethu

Gwahoddedigion:

Rebecca Walsh – Gofalwr Maeth

Clive Wilkinson - Gofalwr Maeth

Cofnodion:

Adroddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant ar y gwaith a wnaed yn rhan o brosiect Ailfodelu Gwasanaethau Maethu a'r newid i'r Gwasanaethau Maethu o ganlyniad i hynny. 

 

Hysbysodd y Pwyllgor y cynhaliwyd adolygiad eang o'r gwasanaethau preswyl. O ran y gwasanaeth maethu, gellid datblygu rhagor ar y gwasanaeth a ddarperir a sicrhau arbedion effeithlonrwydd. Amlinellodd y cynigion a wnaed, y mentrau a roddwyd ar waith ynghyd â'r prif newidiadau a'r cynigion a gafwyd yn sgil yr adolygiad. 

 

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod y Tîm Maethu wedi'i rannu'n ddau faes penodol; mae gan y naill gyfrifoldeb dros ofalwyr sy'n berthnasau ac mae gan y llall gyfrifoldeb dros ofalwyr maeth cyffredinol.  Hysbysodd y Pwyllgor y bydd y pum swydd bresennol sy'n ymwneud â chyswllt â gofalwyr yn cael eu cynnal. Bydd un ohonynt yn canolbwyntio ar ofalwyr sy'n berthnasau a'r pedwar arall yn gweithio â gofalwyr cyffredinol.   O ran hyfforddiant, bydd y cwrs Skills to Foster yn cael ei ailstrwythuro a'i wneud yn gydnaws â'r cynllun hyfforddi a gynigir ar draws pob Cyfarwyddiaeth. Yn y tymor hirach, bwriedir cryfhau'r hyfforddiant mewnol i ofalwyr maeth drwy ddatblygu a chynnal cyrsiau mewnol. 

 

Er mwyn i daliadau a ffioedd fod yn gystadleuol ag Asiantaethau Maethu Annibynnol, dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant fod yn rhaid i'r awdurdod dalu ffioedd i ofalwyr cyffredinol yn gynharach yn eu gyrfaoedd maethu. Byddai gofalwyr maeth yn cael ffi wedi iddynt gael eu cymeradwyo, a bydd disgwyl iddynt gwblhau'r rhaglen hyfforddi craidd o fewn y flwyddyn gyntaf. O ran uwchsgilio gofalwyr maeth, ac yn rhan o'r broses gymhwyso i dderbyn ffioedd, bydd y meini prawf y mae'n rhaid i ofalwyr eu bodloni i dderbyn y ffioedd uwch hefyd yn cynnwys presenoldeb mewn grwpiau cymorth. O ran taliadau bonws, byddai gofalwyr yn cael cynnig bonws o £250 os byddant yn cyfeirio ffrind i fod yn ofalwr maeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd y bonws hwn yn cael ei dalu pan fydd yr unigolyn newydd hwnnw'n cael ei gymeradwyo a phan fydd wedi cychwyn ar ei leoliad cyntaf. 

 

Hysbysodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant y Pwyllgor fod proses newydd wedi'i rhoi ar waith sy'n adolygu lleoliadau Asiantaethau Maethu Annibynnol sydd wedi bodoli ers llai nag 16 wythnos. Nod hyn fydd trosglwyddo cynifer o'r lleoliadau hyn â phosib i'r ddarpariaeth fewnol.  Nododd y bydd ymgyrch farchnata hirdymor yn cael ei gweithredu. Nod yr ymgyrch honno fydd sicrhau cynifer o ofalwyr maeth mewnol â phosib. Hysbysodd y Pwyllgor fod dau aelod o'r staff gwaith cymdeithasol sy'n gyfrifol am hyrwyddo ac am asesu ymgeiswyr am Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig bellach wedi'u lleoli o fewn y Tîm Maethu. Hysbysodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant y Pwyllgor fod Swyddog Datblygu wedi'i benodi ac y bydd rhagor o gapasiti gwaith cymdeithasol o fewn y Tîm Maethu yn cael ei greu er mwyn ymgymryd â gwaith asesu.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Rebecca Walsh ac i Clive Richards ac fe'u gwahoddwyd i fynegi'u barn ac i sôn am eu profiadau fel gofalwyr maeth. 

 

Hysbysodd Mr Richards y Pwyllgor y bu'n rhan o'r prosiect ailfodelu ar y cyd â'r Rheolwr Gr?p Dros Dro - Lleoliadau. Dywedodd fod popeth wedi'i drefnu'n dda. Dywedodd fod yn rhaid cyflwyno newidiadau ac ategodd fod gofalwyr maeth ymroddedig iawn i'w cael ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

 

Soniodd Ms Walsh wrth y Pwyllgor am y newidiadau a gafwyd dros y blynyddoedd diwethaf a arweiniodd at ofalwyr maeth yn gadael Asiantaethau Maethu Annibynnol ac yn dychwelyd i Ben-y-bont ar Ogwr.  Dywedodd Ms Walsh fod yn rhaid i ofalwyr maeth gydweithio â'r awdurdod er mwyn gwella bywydau plant ac i wario llai ar leoliadau y tu allan i'r sir. 

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau i'r gofalwyr maeth am eu sylwadau a diolchodd i'r swyddogion am eu gwaith. Diolchodd i'r gofalwyr maeth am eu hymdrechion i drawsnewid y gwasanaeth yn rhan o'r prosiect ailfodelu. Dywedodd fod hyn yn sicrhau bod y rhan fwyaf o'r gofalwyr yn rhai mewnol. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor faint o blant sydd mewn lleoliadau maethu a holwyd am y ffigurau sy'n ymwneud â lleoliadau maeth dros y 3 blynedd ddiwethaf.  Hysbysodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant y Pwyllgor fod 279 o blant ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd mewn lleoliadau maeth. Roedd 58 ohonynt wedi'u lleoli ag Asiantaethau Maethu Annibynnol, roedd 156 wedi'u lleoli â gofalwyr mewnol ac roedd 65 wedi'u lleoli â gofalwyr sy'n berthnasau. Dywedodd ei bod yn galondid gweld bod nifer y lleoliadau maethu yn mynd yn y cyfeiriad cywir a bod llai o blant yn cael eu lleoli drwy Asiantaethau Maethu Annibynnol. I'r perwyl hwn, roedd 70 o blant wedi'u lleoli drwy Asiantaethau Maethu Annibynnol y flwyddyn flaenorol. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor i'r gofalwyr maeth pa welliannau a wnaed o'u safbwynt nhw. Dywedodd Ms Walsh fod yr hyfforddiant wedi gwella am fod angen rhoi sylw i nifer o agweddau gwahanol er mwyn paratoi gofalwyr maeth ar gyfer y rôl. Ategodd y gall gofalwyr maeth gysylltu â'r Adran dros y ffôn a gallant gael hyfforddiant a mynediad i gronfa o adnoddau. Roedd modd gwella'r hyfforddiant oherwydd ymdrechion y tîm o swyddogion a gofalwyr maeth. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod gofalwyr maeth yn cael eu hystyried yn rhan o dîm mwy a gall y gwasanaeth ymateb yn fwy hyblyg i'r angen a bod yn rhagweithiol ac nid adweithiol. Ategodd fod hwn yn gyfnod cyffrous a bod angen cynnal y momentwm. Soniodd am lwyddiant y parti Nadolig diweddar a ddenodd dros 100 o bobl a dywedodd y cafodd hi a'r Aelod Cabinet y fraint o fod yn bresennol hefyd. Siaradodd hefyd am bwysigrwydd hyfforddi gofalwyr maeth er mwyn gwella eu sgiliau nhw a sgiliau eu teuluoedd.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p Dros Dro - Lleoliadau y bu'n bosib defnyddio teuluoedd estynedig y gofalwyr maeth fel adnodd. Mae gan ofalwyr maeth lais cliriach ac mae'r tîm a'r gofalwyr maeth wedi gweithio'n galed i sicrhau bod gofal maeth wedi'i wreiddiol o fewn teuluoedd a bod gofalwyr yn rhan o'r tîm ehangach. 

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r gofalwyr maeth am ei hymroddiad i wella bywydau plant. Gofynnodd y Pwyllgor a gafwyd cynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu maethu sydd ag anghenion cymhleth. Dywedodd Ms Walsh y cafwyd cynnydd yn nifer y plant mewn gofal maeth sydd ag anghenion cymhleth a bod y tîm yn darparu cymorth drwy roi sgiliau i ofalwyr maeth er mwyn cadw'r lleoliadau yn fewnol. Dywedodd Mr Richards fod y dirwedd o ran maethu wedi newid oherwydd y cyfryngau cymdeithasol ac oherwydd yr heriau a ddaw yn sgil perthnasau plant maeth. Ategodd mai'r peth pwysicaf oedd sicrhau sefydlogrwydd a threfn ym mywydau plant a dywedodd na ddylent orfod symud o'r naill ofalwr maeth i'r llall. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd gan ysgolion ran i'w chwarae i gefnogi'r broses faethu. Dywedodd Mr Richards fod ysgolion yn fwy rhagweithiol bellach a'u bod yn adnabod anghenion yn syth, yn arbennig felly yn y sector cynradd.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd awdurdodau lleol eraill sy'n lleoli plant o fewn y sir hon yn creu problemau. Hysbysodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant y Pwyllgor fod yr awdurdod hwn yn cydweithio'n dda â'r awdurdodau lleol sy'n lleoli plant yma a bod y trefniadau'n gadarn. Ategodd nad oedd yn gwybod am ddim problemau.  

 

Gofynnwyd erbyn pryd y bydd yr adolygiad o'r strwythur ffioedd wedi'i gwblhau. Atebodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant drwy ddweud bod yr adolygiad bellach yn ei drydydd cyfnod. Dywedodd fod ffioedd yn amrywio a bod cyfle i ddylanwadu ar Asiantaethau Maethu Annibynnol drwy ddileu'r elfen gystadleuol. Dylai'r adolygiad o'r strwythur ffioedd fod wedi'i gwblhau erbyn y gwanwyn. Hysbysodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant y Pwyllgor hefyd bod y Cyngor yn delio â phob achos yn unigol ac ategodd fod angen troedio'n ofalus. Nododd nad oedd dim cynlluniau ar droed i symud plant os nad hynny oedd y peth gorau iddynt. 

 

Hysbysodd Ms Walsh y Pwyllgor y dylid ystyried creu canolfan sy'n agored i bawb, lle gall gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol a theuluoedd gwrdd, a hynny am fod rhai ymweliadau wedi digwydd mewn mannau cyhoeddus yn y Swyddfeydd Dinesig. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y Pwyllgor fod nifer o ymweliadau cyswllt yn digwydd yn y Swyddfeydd Dinesig a bod trefniadau amgen yn cael eu hystyried oherwydd prinder llefydd parcio ac am nad yw'r Swyddfeydd yn gyfeillgar iawn i blant. Nododd fod angen ystyried datrysiad mewn cydweithrediad â phartneriaid ac y dylai hyn fod yn flaenoriaeth. Ategodd fod y cyhoedd yn gallu gweld yr ymweliadau cyswllt sy'n digwydd yn y Swyddfeydd Dinesig ac y dylid dod â hyn i ben ar unwaith. Dywedodd Aelodau'r Pwyllgor fod angen iddynt gael gwybod am fannau diogel i gynnal yr ymweliadau cyswllt â theuluoedd. 

 

Dywedwyd bod gofalwyr maeth wedi'u colli i Asiantaethau Maethu Annibynnol a bod angen darn o waith i adolygu'r ffioedd. Hysbysodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant y Pwyllgor y telir ffi sylfaenol i ofalwyr a thelir lwfansau ychwanegol yn ystod gwyliau, ar ben-blwyddi ac yn seiliedig ar oedran y plentyn pan gaiff ei fabwysiadu. Roedd gofalwyr maeth yn cael eu hannog i droi at Asiantaethau Maethu Annibynnol ond cydnabyddir erbyn hyn bod yr hyfforddiant a'r cymorth a ddarperir yn fewnol o well ansawdd. Nodwyd bod angen strwythur ffioedd cyffredin drwy'r wlad.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y gwasanaeth mewnol yn fwy cynhwysol ac mai lles plant yn hytrach nag arian yw'r peth pwysicaf. Diolchodd i'r gofalwyr maeth am eu cyfraniadau gwerthfawr i'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Pwyllgor yn nodi'r wybodaeth yn yr adroddiad.                                    

Dogfennau ategol: