Agenda item

Treth y Cyngor: Gostyngiad Dewisol Treth y Cyngor ar Eiddo Gwag ac Ail Gartrefi

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 adroddiad, yn cynnig bod y Cyngor yn addasu lefel gostyngiad Treth y Cyngor sydd ar gael ar eiddo gwag (ac ail gartrefi) a hynny o 1 Ebrill 2019.  

 

Fel y nodir yn y cefndir dan baragraff 3 yr adroddiad, mae Deddf Llywodraeth Leol 2003 yn rhoi’r hawl i awdurdodau lleol ostwng neu ddileu’r gostyngiad 50% ar Dreth y Cyngor ar eiddo gwag neu eiddo heb ei ddodrefnu, ar ôl i’r cyfnod eithrio llawn o 6 mis ddod i ben. Gelwir eiddo o’r fath yn eiddo Dosbarth C. 

 

Hyd yma, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi caniatáu gostyngiad o 50% ar eiddo o’r fath, ond dim ond tua 10 awdurdod lleol sy’n parhau i wneud hynny. 

 

Ar hyn o bryd, mae tua 1,244 o bobl sy’n talu’r dreth cyngor ledled y Fwrdeistref Sirol yn manteisio ar y gostyngiad hwn. Os gaiff y gostyngiad ei ddileu, bydd yn rhaid i’r bobl hyn wedyn dalu’r gyfradd lawn 100% ar ôl i’r cyfnod chwe mis ddod i ben. 

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p – Cynllunio Ariannol a Rheoli’r Gyllideb, mewn perthynas ag ail gartrefi gwag, ond gyda dodrefn, nad oedd y Cyngor wedi caniatáu unrhyw ostyngiad i’r rhain ers Ebrill 2000, ac nad oedd yn bwriadu gwneud hynny ychwaith.

 

Esboniodd bod y Cyngor ar hyn o bryd yn rhoi gostyngiad 50% i bobl sy’n talu’r dreth cyngor yn achos eiddo sy’n syrthio i’r categorïau a amlinellwyd ym mharagraff 4.1 yr adroddiad. 

 

Mae’r cynnig nawr i ddileu’r gostyngiad 50% hwn a chodi 100% o dreth y cyngor o Ebrill 2019. 

 

Mae hyn yn cysylltu gyda Strategaeth Eiddo Gwag y Cyngor, a’r gobaith yw y bydd yn annog pobl sy’n talu treth y cyngor i beidio â gadael eiddo yn wag neu mewn cyflwr gwael.

 

Yn nhermau goblygiadau ariannol yr adroddiad, cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p – Cynllunio Ariannol a Rheoli’r Gyllideb bod paragraff 8.2 yr adroddiad yn nodi’r arian ychwanegol mwyaf y gallai’r Cyngor ei gynhyrchu o’r newid yn y polisi, er y pwysleisiodd bod hyn yn defnyddio tybiaethau cyffredinol ynghylch bandio a chasglu. Mae’r swm yn tybio y llwyddir i gasglu 100% ac nid yw hynny’n realistig, yn enwedig ynghylch eiddo gwag sy’n arbennig o heriol o ran casglu. Wrth gloi, ychwanegodd y gallai hynny waethygu pan  gaiff cosb o garchar am fethu talu treth y cyngor ei ddileu o Ebrill 2019 ymlaen.  

 

Wrth ystyried y darpariaethau a wneir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad, lle mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi gostyngiad 50% i eiddo Treth y Cyngor sy’n dal yn wag oherwydd y rhesymau a nodwyd yn rhan hon yr adroddiad, teimlai Aelod y dylid ystyried cadw’r gostyngiad yn achos eiddo sy’n destun profiant, ar ôl cyfnod o 6 mis.

 

Wedi trafodaethau pellach ar y mater hwn, 

 

PENDERFYNWYD:                     Y dylid gohirio’r adroddiad hyd gyfarfod arferol nesaf y Cyngor, er mwyn ceisio cyngor technegol ac eglurder pellach ar  ddosbarthiadau Eithriadau a Gostyngiadau Treth y Cyngor mewn perthynas ag eiddo gwag sy’n destun Profiant.

Dogfennau ategol: