Agenda item

Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2019-20

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad, er mwyn darparu gwybodaeth i’r Cyngor ynghylch gweithredu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (CTR) 2019-29, yr angen i fabwysiadu cynllun CTR erbyn 31 Ionawr 2019 ynghyd â’r goblygiadau cyllido. 

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu gwybodaeth gefndir, ac yna’r cadarnhau bod y Cynllun CTR yng Nghymru yn dilyn rheoliadau a wnaed dan Atodlen 1B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (fel y cafodd ei fewnosod gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012).

 

Nododd y Rheolwr Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol, bod y Cynulliad ar 27 Tachwedd 2013 wedi nodi rheoliadau sy’n gweithredu’r trefniadau i gefnogi’r rheiny a fydd yn talu treth y cyngor.  Mae’r rheoliadau (Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Cyngor (Cynllun diofyn) (Cymru) 2013) yn nodi prif nodweddion y cynllun i’w mabwysiadu gan holl gynghorau yng Nghymru. Gwnaed mân addasiadau i’r rheoliadau hyn ym mhob flwyddyn ariannol.

 

Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019 wedi’u nodi erbyn hyn. Mae’r rheoliadau hyn yn uwchraddio’r ffigurau ariannol a ddefnyddir yn y cynlluniau CTR ac yn gwneud addasiadau i:  

 

·      Adlewyrchu newidiadau a wnaed i’r system budd-daliadau mewn perthynas â Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Bydd Rheoliadau 2013 yn parhau i gyfeirio at y Gydran Gweithgaredd sy’n Gysylltiedig â Gwaith a fydd yn parhau i gael ei thalu i rai ymgeiswyr.  

·      Gwneud newidiadau i adlewyrchu’r trefniadau darparu gwasanaeth newydd yn dilyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

·      Gwneud newidiadau i fynd i’r afael ag anghysondeb o fewn geiriad y darpariaethau diwygiedig yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn (Cymru) (Diwygio) 2017 mewn perthynas â darpariaethau newid mewn amgylchiadau.

·      Gwneud nifer o newidiadau mewn perthynas â thaliadau sy’n cael eu diystyru ar gyfer dibenion cyfrifo ‘incwm’ a/neu ‘gyfalaf’. Mae hyn yn cynnwys y taliad cymorth profedigaeth newydd ymhlith eraill.

 

Nid yw’r rheoliadau newydd yn cynnwys unrhyw newidiadau sylweddol i’r cynllun presennol, o safbwynt y sawl sy’n ymgeisio, ac mae lefel uchaf y cymorth y gall ymgeiswyr cymwys ei dderbyn yn parhau i fod yn 100%.

 

Mae Paragraff 4.6 yr adroddiad yn nodi, o fewn y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig, bod gan y Cyngor ychydig o ddisgresiwn i ganiatáu elfennau dewisol sy’n fwy hael na rhai’r cynllun cenedlaethol, ac mae adran hon yr adroddiad yn rhoi enghreifftiau o hyn..

 

Ychwanegodd y Rheolwr Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol y rheoliadau perthnasol sydd eu hangen sef bod y Cyngor yn mabwysiadu Cynllun CTR erbyn 31 Ionawr 2019. 

 

Mae Paragraff 4.14 yr adroddiad yn amlinellu rhai Materion Pwysig er ystyriaeth, gan gadarnhau bod yn rhaid i’r Cyngor benderfynu a ddylai ddileu neu ddiwygio ei gynllun CTR, a bod rheidrwydd arno i gynnal cynllun yn ôl gofynion y Rheoliadau uchod. Mae’r rhwymedigaeth yn ddyletswydd statudol ac yn gymwys hyd yn oed os nad yw’r Cyngor yn dewis defnyddio unrhyw rai o’r camau disgresiwn sydd ar gael iddo.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol mai dull y Cyngor o ymdrin â’r camau disgresiwn sydd ar gael, oedd dilyn yr argymhellion yn Nhabl 4, paragraff 4.23 yr adroddiad.

 

Dywedodd Aelod y dylai’r Cyngor lobïo Llywodraeth Cymru am lefel uwch o gefnogaeth ariannol i’r Cynllun, oherwydd er bod hyn yn ddigonol mewn blynyddoedd a fu, nid dyna’r achos bellach, a bod diffyg rhwng y swm a ddarparwyd yn y setliad a swm y Gostyngiad mewn Treth Cyngor a roddwyd. 

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p – Cynllunio Ariannol a Rheoli’r Gyllideb bod yr arian a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ledled Cymru mewn gwirionedd yr un faint â’r hyn ddarparwyr mewn blynyddoedd blaenorol. Roedd y diffyg wedi cael mwy o effaith dros y blynyddoedd o ganlyniad i godiadau yn Nhreth y Cyngor.

 

 

PENDERFYNWYD:                      Bod y Cyngor:-

 

(1)   Yn nodi Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a’r rheoliadau a ddiwygiwyd 2014 hyd 2019.

Yn mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2019 – 2020, fel y nodir hynny ym mharagraffau 4.18 i 4.23 yr adroddiad.

Dogfennau ategol: