Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

 (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Cyhoeddodd y Maer ei fod wedi derbyn llythyr o werthfawrogiad a diolch oddi wrth Fanc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr am y cyfraniad ariannol a wnaed i'r Banc gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac am y bwyd a gyfrannwyd yn hael gan y staff a'r aelodau dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn y 10 mlynedd ers sefydlu Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r Banc wedi darparu bwyd i oddeutu 50,000 o bobl.  Bydd y Banc yn gwneud defnydd da o'r arian a'r rhoddion er mwyn bwydo pobl y fwrdeistref sirol sydd mewn argyfwng.

 

Diolchodd y Maer hefyd i'r 100 a mwy o bobl sy'n gwirfoddoli ym Manc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr. Mae pob un ohonynt yn gweithio'n galed iawn i frwydro yn erbyn tlodi bwyd yn y fwrdeistref sirol. Byddai'n bleser i'r Maer gael mynd i'r Cyfarfod Blynyddol heno, ac edrychai ymlaen at gael mynegi diolch a gwerthfawrogiad wyneb yn wyneb ar ran y Cyngor.

 

Cyhoeddodd y Maer hefyd fod enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth Blynyddol y Maer yn cau y dydd Gwener yr wythnos hon. Croesewir pob enwebiad a gellir lawrlwytho ffurflen gais o wefan y Cyngor neu wneud cais am ffurflen drwy gysylltu â Swyddfa'r Maer.  Anogodd yr Aelodau i beidio â cholli cyfle i ddathlu cyflawniadau pobl a sefydliadau o fewn eu cymunedau.

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd fod y Cyngor wedi ymuno â Chyngor Tref Porthcawl i dreialu dull newydd dyfeisgar o ddatrys problem ludiog gwm cnoi sy'n cael ei ollwng. Mae biniau 'Gollwng Gwm' arbennig yn cael eu gosod ar byst lamp ar hyd John Street, a phobl yn cael eu hannog i waredu eu gwm cnoi ynddynt yn lle ei ollwng ar y stryd a chreu staen hyll y mae'n anodd cael gwared arno. Gan fod y biniau wedi'u creu o gwm cnoi wedi'i ailgylchu, gellir eu tynnu i lawr a'u hailgylchu gyda'u cynnwys i greu amrywiaeth o gynnyrch, gan gynnwys biniau newydd ac esgidiau glaw.  Dywedodd mai dyma gynllun diweddaraf y bartneriaeth â Chyngor Tref Porthcawl i ymdrin â sbwriel, a bydd yn golygu mai Porthcawl fydd un o'r trefi cyntaf yng Nghymru i gynnwys y biniau arloesol.

 

Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal â siopau cludfwyd lleol, ac mae tri bin arbennig newydd yn cael eu hychwanegu yn ardaloedd Promenâd y Gorllewin, John Street a Pharc Griffin er mwyn cefnogi ymdrechion i ailgylchu pecynnau bwyd brys. Roedd cyllid wedi dod i lawr oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac yn fuan byddai dwy ffynnon dd?r yn cael eu gosod ar hyd glan y môr er mwyn annog pobl i ail-lenwi poteli ailddefnyddadwy am ddim yn hytrach na phrynu poteli plastig untro.  Yr oedd yn gobeithio y byddai'r cynlluniau arloesol newydd hyn yn cefnogi ymdrechion i newid ymddygiad ac agweddau at wastraff, ac yn annog mwy o bobl i ailgylchu.

 

Aelod Cabinet Cymunedau

 

Hysbysodd yr Aelod Cabinet Cymunedau y Cyngor fod y Cyngor wedi gwneud amryw o ymrwymiadau i Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog, a'i fod wedi ennill gwobr i gydnabod hynny oddi drwy'r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn a gynhelir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gefnogi cyn-aelodau ac aelodau presennol o'r lluoedd arfog, fel y dangoswyd yng nghynllun diweddar y Cyngor i warantu cyfweliad i gyn-filwyr.  Canlyniad hyn oedd datblygu menter cwbl newydd a anelai i roi profiad ymarferol i bobl sy'n gadael y lluoedd arfog gael gweithio mewn amgylchedd dinesig. Bwriedir i'r fenter helpu cyn-filwyr lleol i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth ddinesig, eu helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy, ymaddasu i weithio mewn lleoliad y tu allan i'r fyddin, a lleihau'r risg o broblemau iechyd a llesiant ymhlith aelodau o gymuned y lluoedd arfog.  Bydd y cynllun lleoliad gwaith yn creu manteision pellach gan y bydd yn helpu'r Cyngor hefyd i ganfod a datblygu detholiad ehangach o ymgeiswyr o ansawdd uchel ar gyfer rolau o fewn y Cyngor, o blith pobl na fyddai fel arall wedi ystyried gyrfa mewn llywodraeth leol.  Dywedodd fod y Cyngor yn parhau i ymrwymo i gefnogi aelodau o'r gymuned filwrol, a gobeithiai y byddai'r Aelodau'n croesawu'r datblygiad diweddaraf hwn.

 

Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Cyhoeddodd Aelod y Cabinet, Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y bydd cartref gofal T? Cwm Ogwr ym Mhantyrawel yn dychwelyd i reolaeth y Cyngor ar 31 Ionawr.  Trosglwyddwyd y cartref i ddarparydd gofal annibynnol ym mis Ionawr 2018 yn rhan o'r cynlluniau i ailfodelu gofal cymdeithasol oedolion.  Dywedodd ei bod hi wedi dod yn amlwg na fyddai'r darparydd yn gallu bodloni gofynion penodol o fewn y contract, ac y byddai'r cartref yn awr yn cael ei drosglwyddo'n ôl i'r Cyngor.  Hysbysodd yr Aelodau nad oedd yr un o'r gofynion contract yn ymwneud â safonau gofal yn y cartref, sydd yn parhau i fod yn uchel iawn, ac na fyddai'r trosglwyddo yn cael unrhyw effaith ar staff na phreswylwyr. Cafodd preswylwyr a'u teuluoedd wybodaeth gynhwysfawr drwy gydol y broses hon, er mwyn lleihau anghyfleustra a chynnal y safonau uchel y maent yn eu disgwyl bellach.  Dywedodd fod T? Cwm Ogwr hefyd wedi bod yn rhoi cefnogaeth i leihau'r pwysau ar Ysbyty Tywysoges Cymru, a bod y Cyngor hefyd wedi helpu i ryddhau gofod gwelyau gwerthfawr drwy sicrhau bod modd rhyddhau cleifion sydd wedi cael eu croesawu i'r cartref gofal preswyl.  Cyhoeddodd fod y Cyngor yn parhau i fod wedi ymrwymo i ehangu'r fenter hon, ac i sicrhau y manteisir ar bob cyfle i sicrhau bod cynifer o welyau ar gael ag sy'n bosibl, a lleihau'r amser y bydd yn rhaid i bobl ei dreulio yn yr ysbyty. Roedd gwaith eisoes yn digwydd i ystyried opsiynau pellach ar gyfer T? Cwm Ogwr, a byddai'n dod â newyddion pellach i'r Aelodau cyn gynted â phosibl.

 

Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol fod 'Caffi Argyfwng' aml-asiantaeth wedi cael ei sefydlu yn y Zone yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, i gefnogi aelodau mwyaf bregus y gymuned a oedd yn aml yn ddigartref oherwydd eu problemau ac anhrefn eu ffordd o fyw.  Cynhelir y Caffi Argyfwng ar foreau Gwener, ac mae'n rhoi cyfle i unigolion bregus gyrchu amrywiaeth eang o wasanaethau wedi'u dylunio i'w helpu i newid a gwella eu bywydau. Cynigir hynny mewn amgylchedd anfygythiol a chyfeillgar o safbwynt y trigolion bregus, sy'n seiliedig ar fodelau a argymhellwyd gan sefydliadau fel Shelter a modelau a dreialwyd yn llwyddiannus mewn ardaloedd fel Wrecsam.  Dywedodd mai un o brif fanteision darparu ystod o wasanaethau mewn un lle oedd sicrhau bod modd i unigolyn bregus iawn ymgysylltu â'r holl wasanaethau sydd ar gael mewn un lleoliad.

 

Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio fod cynlluniau wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer cam nesaf ymdrechion y Cyngor i amddiffyn Porthcawl rhag llifogydd ac erydu arfordirol. O'u cymeradwyo, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu 75% o'r cyllid, a bydd yn golygu bod mwy na £6m yn cael ei fuddsoddi yn yr ardal i amddiffyn 531 o gartrefi a 174 o fusnesau.  Mae hyn yn dilyn y prosiect £3 miliwn i osod amddiffynfeydd môr Traeth y Dref, sydd wedi helpu i drawsnewid ardal y glannau ac amddiffyn 260 o gartrefi, busnesau ac adeiladau hanesyddol fel Pafiliwn y Grand. Yr oedd yn gobeithio cyflwyno mwy o newyddion i'r Aelodau'n fuan.

 

Cyhoeddodd hefyd y byddai 'sgwâr marchnad' newydd yn cael ei datgelu yn ardal ganolog Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun nesaf. Yn rhan o brosiect parhaus i adfywio'r farchnad, mae ardal ganolog y farchnad yn cael ei neilltuo ar gyfer digwyddiadau arbenigol, adloniant i deuluoedd, cyfleusterau chwarae i blant a gweithgareddau eraill wedi'u dylunio i ddenu ymwelwyr a chefnogi masnach. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cyfres o baneli darluniadol sy'n darparu gwybodaeth am hanes cyfoethog y farchnad wedi cael eu sefydlu i groesawu siopwyr, ac mae cloch y farchnad sy'n dyddio'n ôl i 1837 wedi cael ei hadleoli i'r brif fynedfa. Mae gwaith paratoadol yn mynd rhagddo i ddatblygu toiledau newydd fydd ar gael i'r cyhoedd yn y farchnad. Rhagwelwyd y byddai'r masnachwyr yn darparu'r rhain yn ddiweddarach yn y gwanwyn, ac y byddent yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac yn cynnwys cyfleusterau newid cewyn. Yr oedd yn gobeithio cyflwyno manylion pellach am y gwaith hwn gerbron yr Aelodau, a byddai'r farchnad dan do yn cael ei hyrwyddo wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

 

Y Prif Weithredwr

 

Cyhoeddodd y Prif Weithredwr fod arolwg newydd o staff mewnol wedi cael ei lansio yr wythnos hon, ac mai bwriad yr arolwg oedd canfod sut yr oedd staff yn teimlo ynghylch eu rolau o fewn y Cyngor, helpu i wella prosesau ac arferion mewnol, a chefnogi'r awdurdod wrth iddo geisio bod yn llai gwastraffus ac yn fwy effeithlon. Bydd yr arolwg yn cael ei gynnal hyd 1 Mawrth, ac mae'n gofyn i'r staff fynegi eu barn ar faterion sy'n cynnwys cyfleoedd i ddysgu a datblygu, llesiant yn y gweithle, rheoli, cyfathrebu a mwy.  Yn yr arolwg blaenorol o staff yn 2018, cafwyd cipolwg gwerthfawr o'r modd y mae'r Cyngor yn ei weld ei hun fel sefydliad, ac mae hyn wedi'i gwneud hi'n bosibl i gyflwyno nifer o newidiadau a gwelliannau.  Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at benawdau arolwg staff 2018, a oedd wedi cael ei gwblhau gan fwy na 900 o staff. Defnyddiwyd yr adborth o'r arolwg yn sail ar gyfer nifer o gamau, fel newid i anfon negeseuon e-bost wythnosol i'r staff, a lansio cynllun awgrymiadau'r staff a oedd wedi arwain at archwilio a gweithredu amrywiaeth o syniadau. Yn sgil y ffocws ar lesiant y staff hefyd, cyflwynwyd clinigau gwirio iechyd hynod o boblogaidd, a gweithdai a drafodai ystod eang o faterion. Mae llawer o'r rhain wedi bod â ffocws neilltuol ar lesiant meddyliol y staff, gyda sesiynau'n cael eu cynnal ar ymwybyddiaeth ofalgar, rheoli straen, trechu iselder a mwy. Ar ôl cwblhau'r arolwg newydd a dadansoddi'r canlyniadau, dywedodd y Prif Weithredwr wrth yr Aelodau y byddai'n cyflwyno mwy o wybodaeth am y datgeliadau newydd.

 

Estynnodd y Prif Weithredwr groeso swyddogol i Elizabeth Bradfield i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr  Dywedodd y byddai'r Aelodau eisoes wedi gweld Liz yn bresennol mewn llawer o gyfarfodydd pwyllgor fel gohebydd democratiaeth lleol, ond roedd hi'n bleser ganddo gael dweud y byddai'n dechrau ar ei gwaith yr wythnos hon fel swyddog cyfathrebu newydd yr awdurdod. Yr oedd yn si?r y byddai'r Aelodau am ei llongyfarch am ei rôl newydd.