Agenda item

Derbyn y cwestiynau canlynol gan:

Cynghorydd N Burnett i’r Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau Dyfodol

A all Aelod y Cabinet roi diweddariad inni ar ein Strategaeth Eiddo Gwag a’r hyn y mae wedi ei gyflawni hyd yma?

 

Cynghorydd A Hussain i’r Aelod Cabinet Cymunedau 

A oes modd i Aelod y Cabinet roi gwybod inni, os gwelwch yn dda, a ydym yn newid ein hen Gyfreithiau Cynllunio i gynorthwyo’r amgylchedd drwy leihau’r gwastraff ac a yw ein Cyngor yn ymrwymedig i bolisi tai a chynllunio sy’n ecogyfeillgar?

 

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd N Burnett i'r Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

A all yr Aelod Cabinet roi'r newyddion diweddaraf am ein Strategaeth Eiddo Gwag, a'r hyn y mae wedi'i gyflawni hyd yma?

 

Ymateb yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

Yn dilyn ymgynghoriad â'r cyhoedd, cafodd y Strategaeth Eiddo Gwag 2019-2023 ei chefnogi a'i chymeradwyo gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2019. Gan na ddigwyddodd hyn ond pedair wythnos yn ôl, nid yw wedi cael digon o amser i fagu gwreiddiau. Mae'r strategaeth yn cadarnhau ein hymrwymiad i leihau'r malltod a achosir gan eiddo gwag ledled y fwrdeistref, ac isod rwyf wedi nodi rhai enghreifftiau o'r gwaith a gyflawnwyd:

 

  1. Mae cyfres o lythyrau ymgysylltu/gorfodi cadarn wedi cael ei llunio a fydd yn golygu bod modd mabwysiadu dull wedi'i dargedu a graddol o ymdrin ag eiddo gwag.
  2. Mae canllaw eiddo gwag wedi cael ei lunio sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i berchnogion eiddo gwag i'w cynorthwyo i sicrhau bod eu heiddo yn cael ei ddefnyddio o'r newydd.
  3. Mae system asesu risg wedi cael ei datblygu sy'n ein galluogi i dargedu eiddo sy'n cael effaith niweidiol ar yr ardal a rhai mewn ardaloedd lle ceir lefel uchel o anghenion tai. Mae hyn yn ein galluogi i fabwysiadu ymagwedd gyfun at ymdrin â'r broblem.
  4. Mae cyfeiriad e-bost arbennig wedi cael ei greu sy'n hygyrch drwy ein gwefan, sy'n cynnig un man cyswllt ar gyfer ymholiadau/cwynion yn gysylltiedig ag eiddo gwag.
  5. Mae cronfa ddata wedi cael ei chreu lle gellir cofnodi manylion yr holl gamau gorfodi/cwynion a'r cynnydd o ran defnyddio eiddo o'r newydd, gan olygu bod modd inni roi adroddiadau mwy manwl gywir ar y sefyllfa.
  6. Mae'r gostyngiad i'r dreth gyngor yn gysylltiedig ag eiddo gwag wedi'i ddileu.
  7. Mae cysylltiadau wedi'u sefydlu ag arwerthwyr er mwyn cynorthwyo perchnogion i werthu eu heiddo.
  8. Mae Gweithdrefn Orfodi wedi cael ei lunio ar gyfer Gwerthu Gorfodol.

 

Fodd bynnag, cyn cymeradwyo'r strategaeth yn swyddogol, mae'r weinyddiaeth wedi bod yn gweithio'n unol â'r strategaeth ac wedi ymrwymo i benodi'r Swyddog Eiddo Gwag ym mis Hydref 2018.Cafwyd cynnydd sylweddol wrth fynd i'r afael â'r broblem Eiddo Gwag, ac ers penodi'r swyddog mae ymchwiliad wedi cael ei gynnal i gyfanswm o 219 eiddo. O'r 20 eiddo â blaenoriaeth a nodwyd drwy'r broses asesu risg, mae 12 eiddo wedi'u defnyddio o'r newydd. O ran yr 8 eiddo arall, mae 5 yn destun Hysbysiadau Adran 215 o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990,ac mae ffurflenni mynegi diddordeb wedi'u llunio ar gyfer 2 ohonynt yn gysylltiedig â grantiau/benthyciadau. Roedd yr eiddo arall ar ganol cael ei werthu, ond yn anffodus mae'r gwerthiant wedi methu felly bydd angen inni ymgysylltu ymhellach â pherchennog yr eiddo.Y Strategaeth yw cydweithio â pherchennog yr eiddo gwag, cyn mynd ar drywydd deddfwriaeth. O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae perfformiad y Cyngor o'i gymharu â chynghorau eraill yng Nghymru wedi gwella o'r 18fed safle yn 2016-17 i'r 5ed yn 2018-19, ac yn gysylltiedig â hyn rydym wedi gweld y ffigur hwn yn codi dros ddwywaith yn uwch o 3.48% yn 2018 i 8.41% yn 2019.

 

Roedd y Cynghorydd Burnett yn falch o weld bod perfformiad y Cyngor, o'i gymharu â chynghorau eraill yng Nghymru, wedi codi o 5ed i 18fed o ran canran yr eiddo a oedd yn cael eu defnyddio o'r newydd, a gofynnodd gwestiwn yn gysylltiedig â hynny, sef sut y caiff yr eiddo dan sylw ei nodi.  Dywedodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol wrth y Cyngor fod eiddo yn derbyn sgôr ar sail dau brif ffactor, sef lleoliad ac angen. Rhoddir ystyriaeth hefyd i niwsans, cwynion a chyflwr yr adeilad. 

 

Gofynnodd aelod o'r Cyngor pa gamau oedd yn cael eu cymryd i ymdrin ag eiddo gwag yng nghymunedau'r cymoedd, a oedd wedi bod yn wag ers blynyddoedd. Soniodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol wrth y Cyngor am enghraifft o eiddo mewn cymuned yn y cymoedd a oedd wedi bod yn falltod ers 10 mlynedd. Dywedodd fod y Swyddog Eiddo Gwag wedi bod yn cydweithio ag Adran Iechyd yr Amgylchedd a'r perchennog er mwyn rhoi'r eiddo ar ocsiwn, a bod y perchennog newydd wedi gallu manteisio ar grantiau. 

 

Gofynnodd aelod o'r Cyngor a oedd y Cyngor yn defnyddio pwerau gorfodi i ymdrin ag eiddo gwag. Dywedodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol y gallai'r Cyngor ddefnyddio amryw o bwerau, a bod Hysbysiadau Adran 215 wedi cael eu defnyddio i gael gwared ag ysbwriel a chlirio llwybrau.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd A Hussain i'r Aelod Cabinet Cymunedau

 

A allai'r Aelod Cabinet roi gwybod a ydym yn newid ein hen Gyfreithiau Cynllunio er mwyn cefnogi'r amgylchedd, drwy leihau gwastraff, ac a yw ein Cyngor wedi ymrwymo i dai a pholisi cynllunio ecogyfeillgar? 

 

Ymateb yr Aelod Cabinet Cymunedau

 

Mae'r system gynllunio yn swyddogaeth sydd wedi'i datganoli i Lywodraeth Cymru, ond fe'i gweithredir i raddau helaeth drwy lywodraeth leol, felly mae'r Cyngor hefyd yn Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl).  Mae llu o ddogfennau deddfwriaethol yn sail i gyfraith cynllunio ac mae hyn yn creu'r fframwaith cyfreithiol statudol cenedlaethol ar gyfer gweithredu'r system cynllunio defnydd tir. Ar y llaw arall, mae polisi cynllunio, a gaiff ei ddiweddaru'n rheolaidd yn rhoi'r arweiniad a'r cyfarwyddyd angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniadau cynllunio defnydd tir ar raddfa Cymru ac ar raddfa leol. Mae Polisi Cynllunio Cymru - Argraffiad 10 (PCC10), a gyhoeddwyd yn 2018, ynghyd â'r Nodiadau Cyngor Technegol (TANs) yn sefydlu'r prif gyd-destun cyffredinol ar gyfer polisi cynllunio, ac mae ACLlau yn creu Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) a Chanllawiau Cynllunio Atodol (CCAau) ar gyfer eu hardaloedd perthynol.  Mewn cyfraith cynllunio, rhoddir y flaenoriaeth i'r cynllun datblygu onid yw'r polisi cenedlaethol yn drech na'r cynllun.  Mae'r CDLl yn trosi amcanion llesiant a blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor yn bolisïau a strategaethau clir ar gyfer cynllunio defnydd tir.

 

Mae PCC10 wedi alinio polisi cynllunio cenedlaethol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac mae'n cynnwys nodau penodol yn gysylltiedig â gwastraff, o ran darparu cyfleusterau ac o ran lleihau gwastraff wrth ddatblygu yn y dyfodol. Y mae hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddatblygiadau newydd fod yn fwy cynaliadwy, gyda ffocws ar ddefnydd effeithlon o ynni a defnydd doethach o adnoddau.  Mae'n rhaid ir CDLl newydd Pen-y-bont ar Ogwr gydymffurfio â PCC10, ac mae hyn yn gyfle pellach i saernïo polisïau a CCAau i adlewyrchu polisi cenedlaethol a sicrhau canlyniadau datblygu cynaliadwy. Ar ben hynny, gall Pen-y-bont ar Ogwr ymfalchïo yn y ffaith bod ei gyfradd ailgylchu gwastraff yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol.

 

Dylid nodi hefyd fod y Rheoliadau Adeiladu hefyd yn swyddogaeth sydd wedi'i datganoli. Ystyrir y Rheoliadau fel y prif ffordd o sicrhau bod adeiladau newydd yn gwneud defnydd mor effeithlon ag sy'n bosibl o ynni, a bydd newidiadau arfaethedig i Ran L y rheoliadau yn codi'r safonau angenrheidiol eto er mwyn creu datblygiadau mwy ecogyfeillgar.

 

Yn ogystal â hyn, mae Pen-y-bont ar Ogwr yn arwain y blaen o ran dulliau doeth o ddarparu ynni, gan gynnwys cynigion am gynlluniau gwresogi ardal a D?r o Chwarel Caerau. 

 

Wrth ofyn cwestiwn atodol i'r Aelod Cabinet, gofynnodd y Cynghorydd Hussain am sicrwydd bod y polisi cynllunio yn cael ei newid yn sylweddol er mwyn lleihau allyriadau nwyon t? gwydr, oherwydd credai nad oedd hynny wedi digwydd yn achos datblygiad Hillside ym Mhenyfai, lle gwelwyd llifogydd rheolaidd. Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Cymunedau'r cynllun d?r chwarel i sylw'r Aelod, a dywedodd fod nifer o brosiectau eraill yn cael eu cynnal yn seiliedig ar dechnoleg ddatblygol. Dywedodd fod gan y Cyngor strategaeth i leihau allyriadau carbon yn yr ardal leol, a'i fod ymhlith ond ychydig o gynghorau yng Nghymru a'r DU i fod wedi llunio strategaeth o'r fath.

 

Dywedodd aelod o'r Cyngor fod datblygwyr yn cadw at ddeddfau cynllunio, a holodd a oedd y Cyngor yn annog datblygwyr i fodloni dyheadau datgarboneiddio'r Cyngor. Hysbysodd yr Aelod Cabinet Cymunedau y Cyngor am fwriad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ynni glân i bweru Cymru. Roedd gan y Llywodraeth hefyd gyllideb ar gyfer eiddo digarbon, ac roedd yr Aelod yn gobeithio y byddai hynny'n gatalydd i newid deddfwriaeth.

 

Holodd aelod y Cyngor ar ba safle yr oedd y Cyngor yng Nghymru o ran eiddo carbon isel. Hysbysodd yr Aelod Cabinet Cymunedau y Cyngor fod y strategaeth ardal leol wedi galluogi'r Cyngor i feithrin arbenigedd a gweithio gyda phartneriaid posibl.