Agenda item

Monitro’r Gyllideb 2018-19 Rhagolygon Chwarter 3

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p – Cynllunio Ariannol a Rheoli’r Gyllideb adroddiad, i ddiweddaru’r Cabinet ar berfformiad y Cyngor yn ystod Chwarter 3, 31 Rhagfyr 2018.

 

Roedd yr adroddiad yn cymharu’r rhagolwg o wariant y Cyngor yn erbyn y refeniw a gymeradwywyd a chyllidebau cyfalaf am y flwyddyn. Roedd hefyd yn adolygu cyflawni gostyngiadau blaenorol a chyfredol yn y gyllideb ac yn dadansoddi’r defnydd o gronfeydd wrth gefn a’r balansau ar yr adeg hon o’r flwyddyn.

 

Mae Tabl 1 ar dudalen 36 o’r adroddiad yn dangos rhagolwg o alldro refeniw’r Cyngor am y flwyddyn ariannol, gan amlinellu rhagolwg o wariant yn erbyn y gyllideb refeniw gytunedig o £266 miliwn ac roedd hyn yn dangos cyfanswm o danwariant o £5.312 miliwn am y flwyddyn ariannol. Roedd yn bwysig nodi bod y tanwariant hwn wedi cynyddu’n sylweddol o ganlyniad i ddau grant hwyr a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, sef £620,000 ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a bron i £719,000 tuag at gost dyfarniadau cyflog athrawon. Heb y grantiau hyn byddai’r tanwariant wedi bod yn £3.973 miliwn. Yn gyffredinol rhagwelir tanwariant (ac nid gorwariant fel y nodwyd yn yr adran hon o’r adroddiad) ar gyllidebau Cyfarwyddiaethau o £592,000 a thanwariant o £6.6 miliwn yng nghyllidebau’r cyngor cyfan. Hyd yma, cafwyd cronfeydd wrth gefn newydd a glustnodwyd o £1.922 miliwn ac mae rhagor o fanylion am y rhain yn Nhabl 5 o’r adroddiad, (paragraff 4.5.4.)

 

Mae paragraff 4.1.4 o’r adroddiad yn nodi dau faes lle darparwyd cyllid oherwydd gwasgfa ar y gyllideb, yr ?yl Ddysgu a’r Grant Gwisg Ysgol, ond nid oedd eu hangen bellach ac roedd yr arian hwn wedi’i gymryd yn ôl yn gorfforaethol i leddfu gwasgfeydd eraill.

 

Mae paragraffau 4.1.5 i 4.1.8 o’r adroddiad yn rhoi rhagor o wybodaeth am sefyllfa ariannol y cyngor wrth edrych i’r dyfodol, gyda chyfeiriad at y setliad terfynol a’r heriau sy’n wynebu’r Cyngor.

 

Gan gyfeirio at dudalen 38 o’r adroddiad a chysylltu hynny â’r rhagolwg o’r sefyllfa o ran refeniw, mae Adran 4.2 yn adolygu cyflawniad yn erbyn y Cynigion ar gyfer Gostyngiadau yn y Gyllideb am y flwyddyn gyfredol a blaenorol. Yn ystod 2018-19 mae’r Cyngor wedi monitro perfformiad i gyflawni gostyngiad yng nghyllidebau 2016-17 a 2017-18 na chafodd eu cyflawni, ochr yn ochr â gostyngiad newydd yn y gyllideb ar gyfer 2018-19.

 

Mae Atodiad 1 (tudalen 53) yn dangos sefyllfa’r alldro ar gyfer cynigion 2016-17 a 2017-18 sydd heb eu cwblhau, a nodwyd camau lliniaru sydd i’w cymryd gan y Cyfarwyddiaethau i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni’n llawn. Roedd hefyd yn amlinellu’r cynigion newydd sy’n cael eu gweithredu gan Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant o dan eu cynllun cyflenwi gwasanaethau, i fynd i’r afael â’u gorwariant hanesyddol. Er y bydd cynnydd sylweddol yn cael ei wneud yn 2018-19 i gau’r bwlch, bydd diffyg o hyd i wneud iawn amdano yn 2019-20.

 

Mae Atodiad 2 o’r adroddiad (tudalen 54 ymlaen) yn edrych ar y sefyllfa yn erbyn yr holl ostyngiadau yng nghyllideb 2018-19. Roedd hyn yn dangos diffyg o £379,000 ar draws y Cyfarwyddiaethau, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u disgrifio’n fwy ym mharagraff 4.2.6. o’r adroddiad. Bydd y rhain yn parhau i gael eu monitro yn ystod 2018-19 a 2019-20 gyda Chyfarwyddwyr naill ai’n eu gweithredu’n llawn neu’n canfod cynigion amgen.

 

O dudalen 40 ymlaen, mae Adran 4.3 o’r adroddiad yn cynnwys mwy o fanylion a sylwadau ar berfformiad ariannol pob Cyfarwyddiaeth ac o ran cyllidebau’r cyngor cyfan.

 

Mae hyn yn cysylltu â Thabl 1 yn yr adroddiad ac Atodiad 3 (tudalen 63)sy’n cynnwys crynodeb lefel uchel o wariant yn erbyn cyllideb pob Cyfarwyddiaeth, ynghyd â chyllidebau a throsglwyddiadau i gronfeydd wrth gefn y Cyngor cyfan.

 

Roedd gorwariant yn cael ei ragweld gan y Cyfarwyddiaethau Addysg a Chymorth i Deuluoedd a Chymunedau, sy’n cael eu gosod yn erbyn tanwariant ar gyllidebau Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Weithredwr. Unwaith eto, dywedodd y Swyddog ei bod yn bwysig nodi bod y grant diweddar o £620,000 gan Lywodraeth Cymru i Wasanaethau Cymdeithasol yn cuddio’r gwir sefyllfa, a oedd yn orwariant ar Wasanaethau Cymdeithasol.

 

Ym mharagraff 4.3 o’r adroddiad, mae adran ar gyfer pob Cyfarwyddiaeth sy’n dangos y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn, gyda thabl sy’n amlygu’r amrywiannau mawr a naratif ar gyfer pob un amrywiant sy’n esbonio’r rhesymau amdanynt.

 

Fodd bynnag, roedd nifer o achosion o danwario a gorwario mawr yn yr holl Gyfarwyddiaethau, fel y gwelir yn yr adroddiad.

 

Mae’r adran ar Addysg a Chymorth i Deuluoedd hefyd yn cynnwys naratif ar y sefyllfa ar falansau ysgolion ar dudalennau 41, sy’n dangos rhagolwg o ostyngiad mewn balansau o warged o £360,000 ar ddechrau’r flwyddyn i ddiffyg o £870,000 ar ddiwedd y flwyddyn. Mae’r sefyllfa hon wedi’i chuddio gan grant penodol o £231,000 gan Lywodraeth Cymru tuag at y cynnydd yn niferoedd prydau ysgol am ddim yn sgil cyflwyno credyd cynhwysol.

 

Mae paragraff 4.3.5 ar dudalen 47 yn dangos y sefyllfa o ran cyllidebau’r Cyngor cyfan.

 

Yn gyffredinol mae tanwariant net o £6.6 miliwn, ond mae nifer o symudiadau untro sy’n cyfrannu at hyn, gan gynnwys:

 

·               £2.4 miliwn o danwariant ar gostau cyllido cyfalaf, yn dilyn y newid mewn Polisi MRP. Mae’r gyllideb hon yn rhan o’r gostyngiadau yng nghyllideb MTFS yn 2019-20.

·               Llai o ofynion cyllido ar gyfer chwyddiant, gwasgfeydd cyllidebol a chronfeydd wrth gefn. Mae gwasgfeydd ar y gyllideb nad oes bellach eu hangen wedi cael eu hadfachu, ac mae’r Cyngor wedi cael £719,000 fel grant gan Lywodraeth Cymru tuag at y cynnydd yng nghyflogau athrawon.

 

Mae adran 4.4 ar dudalen 48 o’r adroddiad, yn dangos sefyllfa’r alldro ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf. Mae’r rhaglen a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Chwefror 2018 wedi cael ei hadolygu a’i newid yn ystod y flwyddyn ariannol, gyda’r diweddariad diweddaraf ym mis Rhagfyr 2018. Dangosir dadansoddiad llawn o wariant yn erbyn y gyllideb ar gyfer pob cynllun ynghyd ag unrhyw symudiadau ychwanegol yn Atodiad 4 (tudalennau 65 i 67 o’r adroddiad).

 

Mae adran 4.5 o’r adroddiad (tudalen 49) yn rhoi dadansoddiad o’r symudiadau ar gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn ystod y flwyddyn ariannol. Ceir dadansoddiad llawn o symudiadau ar gronfeydd wrth gefn hyd yma yn Atodiad 5 o’r adroddiad, ac sy’n gwahanu cronfeydd wrth gefn Cyfarwyddiaethau oddi wrth gronfeydd wrth gefn Corfforaethol. Roedd cronfeydd wrth gefn wedi gostwng o £48 miliwn i £45 miliwn ar ddiwedd Rhagfyr.

 

Y prif symudiadau yw:

 

·      Mae Cyfarwyddiaethau wedi tynnu £4.8 miliwn i lawr o gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi

·       Mae’r Cyngor wedi sefydlu £1.279 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn corfforaethol i wynebu risgiau neu wasgfeydd hysbys neu debygol

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i Dîm Cyllid y Cyngor am barhau i reoli cyllideb y Cyngor mewn ffordd ddarbodus. Ychwanegodd, fodd bynnag, na allai’r Cyngor ddibynnu ar addewidion o gyllid grant yn y dyfodol, a bod hyn yn golygu bod amser anodd iawn yn wynebu’r Cyngor o hyd.

Adleisiodd yr Arweinydd y sylwadau hyn gan ychwanegu bod y gaeaf gyda ni o hyd a bod hon yn adeg o’r flwyddyn lle’r oedd pwysau ariannol ychwanegol a oedd yn gysylltiedig â graeanu ffyrdd, cadw ysgolion yn agored mewn tywydd garw a hefyd heriau sy’n gysylltiedig â Gwasanaethau Cymdeithasol.

Ychwanegodd Aelodau eraill o’r Cabinet fod ansicrwydd ariannol hefyd ynghlwm wrth ganlyniadau Brexit, a oedd yn anhysbys ar hyn o bryd.

 

Gofynnodd yr Aelod o’r Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant a oedd Swyddogion yn ymwybodol bellach o’r gymhariaeth ariannol a fyddai’n dod i’r amlwg wrth symud o Chwarter 3 i Chwarter 4.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Cynllunio Ariannol a Rheoli’r Gyllideb nad oedd hyn yn hysbys eto gan fod y prosiectau a nodwyd yn yr adroddiad yn seiliedig ar yr wybodaeth fwyaf diweddar sydd ar gael. Ychwanegodd fod gwasanaethau’n seiliedig ar y galw amdanynt felly roedd hyn, i raddau, yn ei gwneud yn anodd rhagweld gwasgfeydd ariannol y dyfodol o’u cymharu â’r rhai a fodolai ar hyn o bryd.

 

Ychwanegodd fod y grantiau a ddyrannwyd yn ddiweddar wedi helpu sefyllfa’r gyllideb ac mae’n bosibl y gallai rhagor eu dilyn, ac y gellid manteisio arnynt yn y rhannau hynny o’r Awdurdod lle’r oedd yr angen mwyaf amdanynt.  

 

PENDERFYNWYD:              Bod y Cabinet yn nodi’r rhagamcan o refeniw a sefyllfa’r alldro cyfalaf am 2018-19.   

Dogfennau ategol: