Agenda item

Ymgynghoriad ar y Strategaeth Eiddo Gwag

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth adroddiad er mwyn cael cymeradwyaeth y Cabinet i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar y Strategaeth Eiddo Gwag ddrafft 2019-2023.

 

Cyflwynodd wybodaeth gefndir ac yna dywedodd fod y Strategaeth Eiddo Gwag wedi’i llunio a’i bod wedi’i hamgáu gyda’r adroddiad yn Atodiad 1.

 

Eglurodd mai un o’i phrif nodweddion yw’r bwriad i fabwysiadu dull ‘cymysg’ i sicrhau bod y pwyslais wrth weithredu ar ffeithiau a gwybodaeth allweddol. Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i eiddo ar sail meini prawf fel gwerth niwsans, niwed, lleoliad a’r galw am dai ac nid yn unig yn ôl pa mor hir mae eiddo wedi bod yn wag. Ar ôl blaenoriaethu, bydd y Gweithgor Eiddo Gwag yn penderfynu ar y camau mwyaf priodol i geisio defnyddio’r eiddo unwaith eto.

 

Mae’r Strategaeth yn canolbwyntio ar eiddo preswyl gwag yn y sector preifat. Gan fod angen dull mwy penodol i allu defnyddio eiddo masnachol unwaith eto fel eiddo masnachol, nid ydynt yn rhan o’r Strategaeth hon. Fodd bynnag, os cyfyd cyfleoedd i ddefnyddio eiddo masnachol gwag unwaith eto fel llety preswyl, yna bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’r Strategaeth.

 

Ychwanegodd y byddai’r Awdurdod Lleol a’i bartneriaid yn ceisio cydweithredu â pherchnogion er mwyn gallu defnyddio eiddo gwag o’r fath unwaith eto.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth hefyd fod Gweithgor Eiddo Gwag wedi cael ei sefydlu ac y bydd yn helpu i gyflawni nodau’r Strategaeth, a bod cydweithredu â rhanddeiliaid allweddol eraill yn ffactor allweddol i sicrhau llwyddiant y Strategaeth.

 

Dywedodd hefyd y byddai’r ymgynghoriad yn para am 12 wythnos ac efallai y bydd angen newid y Strategaeth mewn ymateb i sylwadau a geir yn sgil yr ymgynghoriad.

 

Daeth y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth â’i gyflwyniad i ben drwy nodi’r goblygiadau ariannol.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant ei bod yn falch o weld y cynigion positif yn y Strategaeth a fyddai’n helpu i alluogi dros 1,000 o eiddo preswyl yn y sector preifat a oedd yn wag ar hyn o bryd i gael eu meddiannu unwaith eto.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod nifer fawr o eiddo gwag yng nghymunedau’r cymoedd yn y Fwrdeistref Sirol a’i fod yn edrych ymlaen at weld tystiolaeth bellach fel rhan o’r Strategaeth, o’r math o eiddo a fyddai’n cael eu targedu i gael eu hailfeddiannu.

 

Dywedodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth fod cydweithredu’n fewnol ac yn allanol yn rhan bwysig dros ben o’r Strategaeth, ac roedd hynny’n cynnwys cydweithio’n agos â pherchnogion yr eiddo. Ychwanegodd y byddai matrics marcio’n cael ei gyflwyno er mwyn cyflawni nodau tymor hir y Prosiect.

 

Gofynnodd yr Aelod o’r Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar am gadarnhad mai bwriad y Strategaeth oedd sicrhau bod eiddo preswyl cael eu rhoi mewn cyflwr i alluogi pobl i fyw ynddynt o flaen eiddo masnachol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Perfformiad mai nodau’r Strategaeth oedd targedu eiddo preswyl gwag er mwyn i bobl allu byw ynddynt. Fodd bynnag, pe cyfyd cyfleoedd i alluogi pobl i feddiannu eiddo masnachol, yna byddai’r mater yn cael ei ystyried gyda pherchnogion yr eiddo.

 

Diolchodd yr Arweinydd i bawb a oedd wedi bod yn gysylltiedig â’r Strategaeth a oedd yn cynnwys cyfraniad Aelodau a’r Aelod o’r Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant ac Aelod Ward Morfa sydd â phrofiad blaenorol o’r maes Tai.

 

PENDERFYNWYD:              Bod y Cabinet yn:-

 

(1)          Rhoi ei gymeradwyaeth i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar y Strategaeth Eiddo Gwag.

  Cytuno i gael adroddiad arall ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori i ystyried mabwysiadu’r Strategaeth yn ffurfiol.

Dogfennau ategol: