Agenda item

Strategaeth Ddigartrefedd 2018-2022

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth adroddiad. Diben yr adroddiad oedd cael cymeradwyaeth y Cabinet i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Ddigartrefedd ddrafft a amgaewyd fel Atodiad 1 o’r adroddiad.

 

Mae Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar yr Awdurdod i gynnal Adolygiad o Ddigartrefedd yn ei ardal ac yna i lunio a mabwysiadu Strategaeth Ddigartrefedd.

 

Eglurodd fod yr adolygiad o ddigartrefedd wedi canfod yr wybodaeth angenrheidiol i lunio’r Strategaeth arfaethedig am y cyfnod 2018-2022 yn unol â Chanllaw Llywodraeth Cymru. Dangoswyd prif ganfyddiadau’r adolygiad ym mharagraff 3.3 o’r adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth yr Aelodau at y Strategaeth ddrafft, a dywedodd ei bod wedi cael ei datblygu mewn ymateb i ganfyddiadau’r adolygiad. Roedd wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru gyda’r amod ei fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus (a chymeradwyaeth derfynol y Cabinet).

 

Ychwanegodd fod yr adolygiad wedi amlygu nifer o feysydd sydd angen eu datblygu ymhellach, er mai un o’r negeseuon oedd yr angen i bwysleisio bod digartrefedd yn fater cymhleth, trawsbynciol, sy’n gofyn nid yn unig am ymagwedd gorfforaethol ond hefyd un sy’n seiliedig ar bartneriaethau. Mae bwriad i ddatblygu Cynllun Gweithredu i ategu’r Strategaeth.

 

Yn dilyn y broses ymgynghori, rhagwelir y bydd Strategaeth derfynol yn cael ei chyflwyno i’r Cabinet i gael eu cymeradwyaeth ym mis Ebrill 2019.

 

Nododd yr Aelod o’r Cabinet - Cenedlaethau’r Dyfodol a Llesiant fod nifer sylweddol o randdeiliaid allweddol wedi bod yn gysylltiedig â datblygu’r Strategaeth ddrafft a oedd wedi cael ei chyd-gynhyrchu’n unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) Act 2015.

 

Roedd yr Aelod o’r Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn teimlo bod peth o’r wybodaeth ystadegol yn y Strategaeth ddrafft yn achos tristwch. Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y byddai’r holl bartneriaid yn cydweithio’n effeithiol er mwyn lleihau problem digartrefedd, ac y byddai hynny’n cynnwys Landlordiaid Preifat a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

 

Roedd yr Aelod o’r Cabinet – Cymunedau’n teimlo y dylid ychwanegu at y categori o grwpiau ac unigolion agored i niwed a all fod mewn perygl o fod yn ddigartref i gynnwys cyn aelodau’r lluoedd arfog.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth y gellid addasu’r Strategaeth i gynnwys y gr?p hwn.

 

Roedd yr Arweinydd yn teimlo ei bod yn ddiddorol nodi mai’r ail reswm mwyaf cyffredin pam fod pobl yn ddigartref oedd am nad oedd rhieni’n gallu neu nad oeddent yn fodlon rhoi cartref i oedolion ifanc yn y categori 16 i 18 oed. Ychwanegodd hefyd ei bod yn bwysig bod digon o ofod llawr/gwelyau mewn llety a drefnir ar gyfer y bobl a oedd yn ddigartref yn y Fwrdeistref Sirol ac a hoffai gael to uwch eu pen, a’u bod wedyn yn gallu cael gafael ar rai gwasanaethau cymorth allweddol a all fod eu hangen arnynt.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn teimlo y dylai’r broses ymgynghori gael ei hymestyn i gynnwys cynulleidfa mor eang â phosibl, gan fod digartrefedd yn broblem fawr sydd angen sylw gyda golwg ar wella’r sefyllfa bresennol. Ychwanegodd y dylid gwahodd Aelodau’r Cabinet i unrhyw grwpiau ymgynghori sy’n cael eu trefnu.

 

Daeth yr Arweinydd â’r ddadl ar y pwnc pwysig hwn i ben drwy gytuno â sylwadau’r Dirprwy Arweinydd, gan ychwanegu ei fod wedi gofyn i’r Cyngor Ieuenctid gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ac roedd yn falch hefyd y bydd Aelodau’r Meinciau Cefn yn helpu i ddylanwadu ar y strategaeth drwy’r broses drosolwg a chraffu gan fod y strategaeth ar y rhaglen waith.

 

PENDERFYNWYD:                 Bod y Cabinet yn cymeradwyo cyfnod o ymgynghori cyhoeddus ar y Strategaeth Ddigartrefedd ddrafft, a nodwyd y bydd Strategaeth derfynol yn cael ei chyflwyno i’r Cabinet i gael ei chymeradwyo a’i mabwysiadu yn dilyn y cyfnod ymgynghori, cyn ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru.  

Dogfennau ategol: