Agenda item

Diweddariad ar y Gronfa Gweithredu Cymunedol 2018-19

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr Dros Dro a oedd yn cynnwys diweddariad ar y defnydd o’r Gronfa Gweithredu Cymunedol (CAF) a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 5 Medi 2017; i roi diweddariad ar argymhellion y Pwyllgor Archwilio ac i gael cymeradwyaeth i ddirwyn y Gronfa Gweithredu Cymunedol i ben.

 

Roedd Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2017-2021, a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 1 Mawrth 2017, yn cynnwys cyllideb newydd o £285,000 i greu Cronfa Gweithredu Cymunedol. Nodau cyffredinol y gronfa oedd creu cyfleoedd ar gyfer ymyriadau lleol gan Aelodau yn eu wardiau eu hunain er budd y gymuned. Y gobaith oedd ymestyn yr effaith y byddai arian y cyngor yn ei chael ar gymunedau unigol a bod yn ffynhonnell cyllid y gallai Aelodau Etholedig ei defnyddio fel unigolion i fod o fudd uniongyrchol i’w ward leol.

 

Aeth ymlaen i ddweud bod gan Aelodau Etholedig gryn ddisgresiwn yngl?n â sut mae’r arian wedi cael ei wario, gyda’r amod cyffredinol bod yn rhaid i’r gwariant fod yn gyfreithlon ac na ddylai fod yn groes i bolisi’r Cyngor. Yn yr un modd, ni ddylai arian gael ei ddyfarnu i sefydliadau sy’n cynhyrchu elw nac i ddibenion gwleidyddol. Ni ddylai gael ei ddefnyddio ychwaith ar gyfer gwariant sy’n rheolaidd ac a fyddai felly angen am arian eto yn y dyfodol.

 

Roedd yn rhaid i Aelodau Etholedig gael hyfforddiant gorfodol cyn iddynt gyflwyno ceisiadau am daliadau i sicrhau bod y cynllun yn gweithredu’n ddidrafferth, bod y costau gweinyddu ac ymholiadau mor isel â phosibl, a bod Aelodau’n gallu cydymffurfio ag amodau’r cynllun a rheoleiddio’u hunain.

            

Yn ystod y cyfnod pan oedd y cynllun yn weithredol dywedodd y Prif Weithredwr Dros Dro fod cyfanswm o £231,667.24 o’r £270,000.00 (85.8%) a oedd ar gael wedi’i ddosbarthu o’r Gronfa Gweithredu Cymunedol i ariannu 156 o brosiectau ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Roedd paragraff 4.1.4 o’r adroddiad yn rhoi enghreifftiau o amrywiaeth o brosiectau a oedd wedi cael nawdd, gyda rhestr lawn o’r prosiectau wedi’i chynnwys yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Roedd yr adran nesaf o’r adroddiad yn rhoi manylion am y cymorth gweinyddol roedd ei angen ar gyfer y cynllun, a bod hynny’n fwy cymhleth nag oedd wedi’i ragweld ar y dechrau. Roedd y cymorth i’r Gronfa’n cael ei ddarparu’n bennaf gan staff Gwasanaethau Cyfreithiol, Cyllid a Democrataidd, ac roedd yn mynd â llawer o’u hamser.

 

Roedd paragraff 4.3 yn cadarnhau fod yr Archwilwyr Mewnol wedi cynnal adolygiad o’r Gronfa Gweithredu Cymunedol, ac mae canfyddiadau’r adolygiad i’w gweld yn yr adran hon o’r adroddiad.

 

Daeth â’i gyflwyniad i ben drwy gadarnhau gan fod peth o’r adborth a gafwyd i’r cynllun, yn enwedig gan Aelodau, yn gymysg, ac y gallai fod yn fwy buddiol yn y dyfodol i’r Cabinet ystyried dirwyn y Gronfa i ben ac i drosglwyddo’r £285,000.00 yn ôl i’r MTFS.

 

Er bod y Cabinet yn teimlo bod y nifer sylweddol o Brosiectau a ariannwyd drwy’r Gronfa’n werth chweil ac o fudd i’r gwahanol gymunedau, roeddent hefyd yn cydnabod bod y Cyngor yn parhau i wynebu anawsterau ariannol wrth edrych i’r dyfodol ac oherwydd hyn, efallai y byddai’n well pe byddai’r arian uchod yn cael ei ddyrannu i gronfa Gorfforaethol y Cyngor.

 

Roedd yr Aelod o’r Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn teimlo efallai y gellid ailedrych ar y prosiect ar ôl i’r cyni ariannol ddod i ben.

 

PENDERFYNWYD:               Bod y Cabinet yn:-

 

(1)  Nodi’r adroddiad.

 

Cymeradwyo dirwyn y Gronfa Gweithredu Cymunedol i ben a throsglwyddo’r £285,000 yn ôl i’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig i’w ystyried wrth bennu’r gyllideb ar gyfer 2019-20 i 2022-23.

Dogfennau ategol: