Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Canlyniadau Addysg

Gwahoddedigion:-

 

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd               

Cyng Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio                     

Nicola Echanis,   Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar                                     

Andy Rothwell,   Uwch Ymgynghorydd Her,Consortiwm Canolbarth y De                                            

Mike Glavin,  Cyfarwyddwr Rheoli, Consortiwm Canolbarth y De                                                      

Sarah Merry, Cadeirydd, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y Cyd Consortiwm Canolog y De

 

Cynrychiolwyr addysgol  

 

Neil Clode

Hannah Castle

Andrew Slade

Jeremy Evans

Lisa James-Smith

Meurig Jones

Angela Keller

Jeremy Thompson

Carmen Beveridge

Rhiannon Dixon

 

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â chategoreiddio ysgolion, cyrhaeddiad disgyblion (gan gynnwys disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol), yr heriau a wynebir gan ysgolion a gwaith Consortiwm Canolbarth y De.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod gwall yn yr adroddiad a dywedodd fod Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn arwain ac yn mynychu'n llawn y Canolfannau Cyfrwng Cymraeg sy'n gysylltiedig â Gyda'n Gilydd a Cyfleoedd+, a ariennir drwy'r Consortiwm, ond hefyd y gwaith y mae'r ysgol yn ei wneud â Cydag.  Roedd gwaith YG Llangynwyd wedi cael ei gynnwys o fewn adroddiadau ac ymweliadau cynghorwyr herio yn y gorffennol, a bod ymgysylltu'n digwydd ar draws ysgolion cyfrwng Cymraeg ar draws y Consortiwm.

 

Adroddodd yr Uwch Gynghorydd Herio ar wybodaeth am gategorïau ysgolion ar gyfer 2018-19, sydd, ar hyn o bryd, yn cael ei chymedroli a'i dilysu, gyda'r bwriad o'i chyhoeddi ym mis Chwefror 2019.  Amlygodd gategorïau cymorth ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr dros y 3 blynedd diwethaf.  Rhoddodd wybod i'r Pwyllgor fod y rhan fwyaf o'r ysgolion wedi dangos gwelliant mewn canlyniadau ôl-16 o waelodlin gymaradwy yn 2011-12. Tynnodd sylw at berfformiad ysgolion uwchradd Pen-y-bont ar Ogwr o ran disgyblion a gyflawnodd y trothwy Lefel 3, 2 Safon Uwch neu fwy gradd A*-E. Rhoddwyd rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am safleoedd ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer cyfnod allweddol 4; canlyniadau ar gyfer y cyfnod sylfaen Canlyniadau 5+ a 6+; cyfnod allweddol 2; canlyniadau ar gyfer cyfnod allweddol 2 Lefel 4+ a 5+ a chyfnod allweddol 3; canlyniadau ar gyfer cyfnod allweddol 3 Lefel 5+, 6+ a 7+.  Dywedodd fod targedau a chyraeddiadau gwirioneddol yng nghyfnod allweddol 2 wedi eu halinio'n agos gyda'r holl dargedau yn cael eu cyrraedd neu eu methu o drwch blewyn.  Ar gyfer cyfnod allweddol 3, ar lefel 5, methwyd â chyrraedd targedau o dipyn mwy na chyfnod allweddol 2. Mae Cynghorwyr Herio yn mynd i'r afael â hyn, er mwyn sicrhau bod cymaint o ddisgyblion ag sy'n bosibl yn cyrraedd eu targedau a bod y bwlch yn cael ei leihau.  Methwyd â chyrraedd targedau ar drothwy Lefel 2+ o 7.8%. Mae angen lleihau'r ffigwr ymhellach er mwyn sicrhau ei fod yn unol â pherfformiad yn 2015-16.  Dywedodd fod y lleihad yn cynrychioli dealltwriaeth well o'r fanyleb arholiadau a'r gwaith y mae Cynghorwyr Herio wedi ei wneud wrth gefnogi ysgolion. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor pa gamau y mae'r Consortiwm yn eu cymryd i gael ysgolion yn ôl yn y Categori Gwyrdd.  Hysbysodd yr Uwch Gynghorydd Herio y Pwyllgor, fod ysgol yn symud o'r categori Gwyrdd i'r categori Melyn, yn arwydd ei bod yn cael y cymorth gofynnol.  Gall Ysgolion mewn categori Melyn gael 10 diwrnod o gymorth y flwyddyn a bydd newid yn cael ei weithredu yn ystod y flwyddyn drwy arweinyddiaeth.  Hysbysodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Consortiwm y Pwyllgor ei bod hi'n bosibl fod ysgolion wedi symud i'r categori Melyn gan eu bod wedi adnabod y cymorth sydd ei angen arnynt.  Dywedodd y bydd categoreiddio wedi newid eleni. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o'r cymorth a gynigir i ysgolion.  Dywedodd yr Uwch Gynghorydd Herio fod ystod o becynnau wedi eu teilwra yn cael eu cynnig i ysgolion, gyda thîm cymorth, craidd, cryf iawn yn ei le.  Ni chaiff yr un ysgol ei heithrio gan y Consortiwm a chânt eu cadw'n ddiogel bob amser. 

 

Holodd y Pwyllgor sut y mae targedau'r Consortiwm yn cael eu cyrraedd.  Hysbysodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Pwyllgor y bydd y Consortiwm yn cynhyrchu adroddiad bob blwyddyn ar gyfer y Cyfarwyddwr Addysg mewn perthynas â pherfformiad ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oes cydberthynas rhwng categoreiddio ysgolion ac adroddiadau Estyn, a pha adroddiad fydd yn cynnig yr wybodaeth orau.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd nad oes, weithiau, fawr o debygrwydd rhwng y ddau adroddiad. Mae categoreiddio yn ymwneud â'r cymorth a ddarperir i gefnogi ysgolion, a bydd adroddiadau Estyn yn mesur pethau gwahanol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am farn y Penaethiaid ynghylch categoreiddio.  Hysbysodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Cynffig y Pwyllgor nad oedd newid wedi bod yn arweinyddiaeth yr ysgol, ond bod yr ysgol wedi symud o Felyn i Wyrdd i Goch, wrth i arolygiad Estyn fynd o Wyrdd i Oren.  Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd â'r Cynghorydd Herio ac roedd cymorth i'r swyddogaeth arwain wedi cael ei gynyddu.  Dywedodd fod y profiad o'r Consortiwm yn gefnogol ac yn heriol ac y caiff ysgolion eraill eu hannog i weithio â Chynffig ac i ddysgu gan eraill.  Dywedodd Pennaeth Cynffig wrth y Pwyllgor, pan roedd yr ysgol yn y categori Gwyrdd nad oedd cymaint o fewnbwn gan y Consortiwm ag y ceir nawr.  Hysbysodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Consortiwm y Pwyllgor fod y Consortiwm wedi newid y ffordd y mae'n gweithio gydag ysgolion yn y categori Gwyrdd, gyda gofynion yn cael eu gosod ar Gynghorwyr Herio i gysylltu'n amlach â'r ysgolion hynny. 

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Heronsbridge ei fod yn ymwneud â chael cymorth o ansawdd a'i fod wedi derbyn y cymorth gorau gan rywun a oedd wedi bod yn yr un swydd ag ef. 

 

Holodd y Pwyllgor am y cymorth sydd ar gael pan fo athrawon yn ei chael hi'n anodd ateb galw newydd.  Dywedodd Pennaeth YG Llangynwyd fod cymorth cryf yn y sector cyfrwng Cymraeg gyda'r rhaglen Gyda'n Gilydd yn cefnogi athrawon newydd.  Bellach, mae'r rhaglen hon wedi cael ei hehangu i gefnogi ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg.  Dywedodd fod addysg yn newid yn barhaus gyda gofynion gwahanol yn cael eu rhoi ar athrawon, ond roedd yn gweld hyn fel cam cadarnhaol.  Holodd y Pwyllgor beth sy'n digwydd pan fo problemau perfformiad yn codi.  Dywedodd Pennaeth YGG y Ferch O'r Sger ei bod wedi bod mewn sefyllfa o'r fath dros gyfnod o 3 blynedd a oedd yn gysylltiedig ag iechyd, roedd cymorth yn cael ei roi ac roedd yr holl broblemau wedi cael eu datrys erbyn hyn. 

 

Holodd y Pwyllgor a oes gormod o bwysau yn cael ei roi ar ysgolion, ac os felly, sut y caiff ei reoli.  Dywedodd Pennaeth Ysgol Heronsbridge fod llwyddiant yn esgor ar lwyddiant a bod mwy o ofynion yn cael eu rhoi ar ysgolion a staff.  Tynnodd sylw at y rhaglen hyfforddiant arloesol ar waith, er nad oedd gofyniad ar ysgolion i gymryd rhan yn y rhaglen hon, ond mae angen sicrhau cydbwysedd. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor pa arweinyddiaeth y mae'r Cyngor yn ei rhoi.  Dywedodd Pennaeth Ysgol Heronsbridge y byddai'r ysgol yn gwybod ar unwaith pe bai wedi derbyn adroddiad drwg.  Dywedodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Porthcawl fod mwy o bwysau i gyflawni canlyniadau ar bynciau craidd i fodloni targedau, lle mae yna hefyd 2 haen.  Diolchodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio i'r penaethiaid ysgol am eu cyfraniad gwerthfawr a gyda phroffesiynoldeb y daw'r disgwyliad y bydd pobl yn gwneud mwy.  Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Oldcastle fod ysgolion yn cael eu comisiynu i wneud nifer fawr o brosiectau fwfwy amrywiol a bod diwylliant o atebolrwydd. 

 

Holodd y Pwyllgor pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael ag arweinwyr pwnc.  Hysbysodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Consortiwm y Pwyllgor fod y Consortiwm wedi edrych ar ddatblygu ymagwedd fwy strategol at ysgolion yn uwchsgilio eu harweinwyr, gydag ysgolion yn cael eu paru.  Hysbysodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Porthcawl y Pwyllgor fod Penaethiaid Saesneg Ysgolion Porthcawl a Chynffig yn cyfarfod yn rheolaidd i ddatrys problemau. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am farn pobl ynghylch yr ?yl Ddysgu.  Dywedodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath ei bod wedi bod yn arloesol iawn a'i bod yn ddathliad, yr oedd pob cyfranogwr wedi cael budd mawr ohoni.  Tynnodd Pennaeth Ysgol Heronsbridge sylw at yr ystod o weithdai a gynigwyd a bod ysgolion anghenion arbennig yn gallu gweithio ag ysgolion prif ffrwd.  Roedd yn teimlo y byddai'r ?yl Ddysgu nesaf yn well.  Dywedodd yr Uwch Gynghorydd Herio ei fod wedi cael ei syfrdanu gan ddatblygiadau newydd nad oedd wedi eu gweld o'r blaen.  Roedd Pennaeth Ysgol Uwchradd Porthcawl wedi cael ei blesio yn yr un modd, gan yr arloesi a'r syniadau ffres a oedd hefyd yn canolbwyntio ar les a gwydnwch staff. 

 

Holodd y Pwyllgor pam fod perfformiad Gwyddoniaeth Lefel 2 wedi dirywio -7%.  Hysbysodd yr Uwch Gynghorydd Herio y Pwyllgor fod hyn yn bennaf oherwydd newid i'r mesur perfformiad ac i'r cwricwlwm.  Hysbysodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Porthcawl y Pwyllgor fod symud oddi wrth BTEC Gwyddoniaeth tuag at gymhwyster Gwyddoniaeth CBAC wedi effeithio ar ganlyniadau ond credai y byddai canlyniadau yn gwella'r flwyddyn nesaf.  Soniodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio am bwysigrwydd cymwysterau BTEC yn rhoi manteision i fyfyrwyr, a bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud camgymeriad yn tynnu cymhwyster BTEC Gwyddoniaeth oddi ar gwricwlwm ysgolion.  Holodd y Pwyllgor p'un a oedd y dirywiad yn y perfformiad mewn gwyddoniaeth yn bennaf oherwydd cael gwared ar BTEC a pham na rybuddiwyd ysgolion o'r newid.  Dywedodd yr Uwch Gynghorydd Herio fod y perfformiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn debyg i'r darlun ledled Cymru.  Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod y newid a wnaed yn annoeth ac yn anghywir.  Dywedodd Pennaeth YG Llangynwyd y gwnaed y newid hanner ffordd drwy'r llwybr dysgu, a oedd yn newid mawr i unrhyw ysgol ddelio ag ef.  Dywedodd fod y cwrs BTEC yn gwrs a dderbynnir ar gyfer nifer o lwybrau gyrfa gwahanol.  Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno gofyniad ar gyfer TGAU dwbl a bod ysgolion yn gorfod ymestyn adnoddau, ynghyd â phrofi anawsterau wrth recriwtio Athrawon Gwyddoniaeth.  Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y Pwyllgor y bydd newid mewn perfformiad a bod Penaethiaid Adrannau Gwyddoniaeth yn gwybod yn union lle y mae angen iddynt fod. 

 

Holodd y Pwyllgor a yw'r Consortiwm yn cael anawsterau wrth recriwtio.  Hysbysodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Consortiwm y Pwyllgor fod y Consortiwm yn cael budd o weithio rhanbarthol ac nad oedd yn cael anawsterau wrth recriwtio, gydag aelodau newydd o staff yn cael eu recriwtio ym maes Gwyddoniaeth.  Tynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd sylw at wellhad yn arferion ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol ac mae nifer o arferion da i'w rhannu. 

 

Holodd y Pwyllgor am rôl y Consortiwm a'r awdurdod lleol wrth sicrhau nad oes dyblygu ac nad oes bylchau mewn darpariaeth.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod cyflwyno Consortiwm yn fodel newydd iawn, ond bod rolau a chyfrifoldebau clir.  Hysbysodd y Pwyllgor ei fod yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd â'r Consortiwm lle mae'n gallu dwyn i gyfrif y Consortiwm.  Cadarnhaodd yr Uwch Gynghorydd Herio fod y Consortiwm yn cael ei ddwyn i gyfrif gan yr awdurdod lleol ac y caiff ei gefnogi'n helaeth yn nhermau'r cymorth a roddir i'r awdurdod.  Dywedodd Pennaeth Ysgol Heronsbridge ei fod yn credu bod bwlch bychan o ran cyfrifoldebau rhwng y Consortiwm a'r awdurdod lleol. 

 

Holodd y Consortiwm a yw Penaethiaid newydd yn cael cynnig pecyn mentora.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod pob Pennaeth newydd yn cael cynnig mentora a chymorth proffesiynol a bod rhwydwaith da iawn o gymorth ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Hysbysodd Pennaeth YG Llangynwyd y Pwyllgor ei fod wedi derbyn cymorth mentora yn y gorffennol a'i fod bellach yn cynnig y cymorth mentora hwnnw i eraill. 

 

Dywedodd y Pwyllgor nad oedd yn credu bod yr adroddiad yn adlewyrchu gwaith y Consortiwm.  Holodd y Pwyllgor pa gamau y gellid eu cymryd i annog ysgolion i ymgysylltu fwy â'r Consortiwm.  Dywedodd yr Uwch Gynghorydd Herio y cynhelir cyfarfodydd rhwydweithio yn rheolaidd a gall fod yna lu o resymau dros pam nad yw ysgolion yn gallu mynychu.  Cadarnhaodd fod llawer o rwydweithio yn digwydd a bod data ar gael i ysgolion.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod llawer o waith da a phethau cadarnhaol yn cael eu gwneud i gefnogi ysgolion, gyda rhai ysgolion yn disgleirio ac yn darparu gofal bugeiliol rhagorol.  Dywedodd y Pwyllgor fod angen rhannu'r arfer da hwn gyda'r cyhoedd gan fod ysgolion yn derbyn beirniadaeth annheg.  Dywedodd Pennaeth Ysgol Heronsbridge na ddylid cynnwys y 2 ysgol arbennig o fewn y Fwrdeistref Sirol yn y Tabl sy'n dangos presenoldeb ysgolion mewn cyfarfodydd rhwydwaith gan eu bod yn defnyddio cyfarfodydd rhwydwaith gwahanol.

 

Mynegodd y Pwyllgor bryder na lwyddodd nifer o ganlyniadau yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 i gyrraedd targedau a gofynnod pa gamau sy'n cael eu cymryd i wella'r perfformiad hwnnw.  Mynegodd y Pwyllgor bryder hefyd yngl?n â safon Saesneg ysgrifenedig myfyrwyr mewn Addysg Uwch.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod safon y Saesneg ysgrifenedig o ganlyniad i ddiffyg addysg feithrin mewn rhai achosion a dylid peidio â chyflwyno toriadau i gyllideb addysg feithrin.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod gwella lefelau llythrennedd yn her a bod gwaith da yn cael ei wneud ym Mhen-y-bont ar Ogwr i wella lefelau llythrennedd, gyda ffocws yn cael ei roi ar les, diogelwch a llythrennedd.  Dywedodd fod safon llythrennedd ymysg bechgyn yn bryder, gyda Phen-y-bont yr Ogwr yn is na chyfartaledd Cymru yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 4, a phwysleisiodd bwysigrwydd cael pethau'n iawn pan mae hi'n dod i lefelau llythrennedd.  Dywedodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Cynffig fod ymdrech i wella sgiliau gramadeg Saesneg a fyddai'n golygu newidiadau er gwell.  Nid oedd y diwydriad mewn safonau llythrennedd Saesneg yn unigryw i Gymru. 

Holodd y Pwyllgor a yw arfer da yn cael ei rannu yn Lloegr.  Hysbysodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Consortiwm y Pwyllgor fod y Consortiwm yn ddiweddar wedi penodi cyn-benaethiaid i gynorthwyo ysgolion wrth sicrhau bod disgyblion wedi eu paratoi'n briodol o ran PISA.  Dywedodd y cynhelir profion PISA yn yr hydref a bod angen canolbwyntio ar ganlyniadau addysg ar gyfer disgyblion.  Dywedodd Pennaeth Ysgol Heronsbridge ei bod hi'n anodd iawn amlygu cyfrifoldeb ond mai'r peth pwysicaf yw canlyniadau ar gyfer plant. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor i unrhyw adroddiadau ar ganlyniadau addysg yn y dyfodol gael eu hanfon at Benaethiaid fel eu bod yn cael peth o'r naratif.  Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn gwneud hynny.  Dywedodd Pennaeth YGG Y Ferch O’r Sger fod ysgolion yn gosod targedau iddynt hwy eu hunain sydd wedi eu dylunio i fod yn heriol.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei bod hi'n galonogol fod ysgolion yn gosod targedau uchelgeisiol a'i fod eisiau i bob ysgol fod yn uchelgeisiol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth ar Unedau Cyfeirio Disgyblion yn gwella canlyniadau addysg a bywyd.  Hysbysodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Consortiwm y Pwyllgor fod cyfarfod wedi cael ei gynnal ddoe gydag Unedau Gyfeirio Disgyblion er mwyn cyfeirio cymorth atynt.  Dywedodd fod 3 o Unedau Cyfeirio Disgyblion wedi cael eu hadolygu'n ddiweddar a bod angen atebolrwydd ar y cyd, a hwyluso cymorth a chyllid. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am weledigaeth hirdymor Aelod y Cabinet ar gyfer addysg yn y Fwrdeistref Sirol.  Dywedodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio y byddai'n dod yn ôl atynt gydag ymateb. 

 

Dywedodd y Pwyllgor fod angen mwy o graffu ar waith y Consortiwm a holodd sut y byddai'r un lefel o gymorth yn cael ei gynnig pan mae'r awdurdod yn cynnig lleihau ei gyfraniad i'r Consortiwm.  Hysbysodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Consortiwm y Pwyllgor fod nifer o haenau o graffu o fewn y Consortiwm ac y byddai'n cyfarfod â'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd yfory a fyddai'n herio'r Consortiwm.  Dywedodd fod y Consortiwm yn gorfod defnyddio ei adnoddau yn fwy doeth gydag awdurdodau yn lleihau eu cyfraniadau.

 

Gofynnodd y Pwyllgor a yw'r Consortiwm yn credu bod canlyniadau addysg yn gwella.  Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Consortiwm fod cynhadledd yn cael ei gynnal ar 20 Chwefror lle byddai'n edrych ar ba newid diwylliannol sydd angen ei gyflwyno i gefnogi'r rhai hynny sy'n gadael ysgol.  Dywedodd fod tlodi wedi cynyddu a bod angen cefnogi'r bobl ifanc hynny.  Teimlai'r Pwyllgor y dylid hefyd ystyried cymorth i ofalwyr ifanc. Hysbysodd Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Consortiwm y Pwyllgor y byddai angen ystyried cymorth pellach yn benodol yng ngoleuni newidiadau i ddeddfwriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol.  Hysbysodd y Pwyllgor hefyd fod canlyniadau addysgol y Consortiwm wedi gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn, er gwaethaf gostyngiad o 19% yng nghyllid y Consortiwm, a bod y Consortiwm wedi parhau i fod yn llwyddiannus yn ei ddarpariaeth. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor i'r Penaethiaid beth fyddai effaith gostwng cyllidebau ysgolion.  Dywedodd Penaethiaid, na ellid, gyda'r mesurau caledi, gwneud llawer heb effeithio ar staff, gan arwain at ddosbarthiadau mwy, rhanedig. Byddai hynny'n ei gwneud hi'n anodd cynnig cwricwlwm llawn a denu staff, ac roedd Penaethiaid yn teimlo y byddai eu safleoedd yn dod yn anghynaladwy.  Dywedodd Penaethiaid hefyd y byddai'n cael effaith negyddol ar ddysgwyr.

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r Penaethiaid a chynrychiolwyr y Consortiwm am eu cyfraniad.     

 

Casgliadau   

 

Dywedodd aelodau y byddai'r adroddiad yn elwa o naratif ychwanegol.  Argymhellwyd bod adroddiad blwyddyn nesaf yn dod yn ôl i'r Pwyllgor Craffu ym mhen 12 mis.

 

Croesawodd aelodau fewnbwn gan staff o'r ysgolion hynny a oedd yn bresennol, ac argymhellwyd y byddai'n ddefnyddiol cael mewnbwn gan ysgolion yn y Categori Coch y tro nesaf, i ddeall eu taith yn well, yn ogystal ag ysgolion eraill.

 

Dywedodd aelodau y dylai digwyddiadau mawr a drefnir gan Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a Chonsortiwm Canolbarth y De gael eu cydamseru i osgoi dyddiadau yn gwrthdaro ar gyfer penaethiaid.  Argymhellodd aelodau y dylid ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a Chonsortiwm Canolbarth y De i ofyn iddynt am gydlyniant ac amseroedd arweiniol gwell i osgoi gwrthdaro â digwyddiadau proffil uchel eraill a chyfnodau arholiadau.

 

Gofynnodd aelodau i'r Cynghorydd Smith amlinellu ei weledigaeth hirdymor ar gyfer Addysg yn BCBC a sut beth fyddai hynny.

 

Er y cydnabuwyd bod ysgolion wedi gwneud defnydd o rwydweithiau anffurfiol, ni thynnwyd sylw at hynny yn yr adroddiad.  O ganlyniad, argymhellwyd y dylid cynnwys y data hwn mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Gofynnodd aelodau pa gymorth oedd Consortiwm Canolbarth y De yn ei roi i gyrff llywodraethu o ran rheoli eu cyllidebau?

 

Nododd aelodau hefyd fod hyfforddiant ar gyfer llywodraethu wedi symud yn ddaearyddol a'i fod yn aml yn cael ei ddarparu y tu allan i'r Fwrdeistref?  Dymuna aelodau gael eglurhad pellach ar hyn.

 

Gofynnodd aelodau sut beth oedd y broes ar gyfer yr athrawon hynny sy'n tangyflawni ac yn ymwneud â'r llwybr gallu, faint oedd wedi mynd drwy'r broses hon yn ystod y 12 mis diwethaf a faint sy'n mynd drwy'r broses ar hyn o bryd?

 

Nododd aelodau o ganlyniadau i gyfyngiadau cyllideb, fod rhai ysgolion yn debygol o gael nifer uchel o athrawon sydd newydd gymhwyso.  Pa gymorth a roddir i'r athrawon hyn gan Gonsortiwm Canolbarth y De?

 

Wrth gydnabod buddion cydweithio rhwng ysgolion, dymuna aelodau gael sicrwydd nad yw llwyth gwaith staff mewn ysgolion hynod effeithiol yn cael ei effeithio'n negyddol gan drefniadau o'r fath.

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z