Agenda item

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus

Gan cynnwys cyflwyniad

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Polisi Trwyddedu adroddiad a oedd yn amlinellu manylion Cynigion Llywodraeth Cymru o ran trwyddedu tacsis, a gofynnodd i'r Pwyllgor roi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir er mwyn ymateb i'r ymgynghoriad ynghylch trwyddedu tacsis.

 

Hysbysodd yr Aelodau y byddai'n rhoi cyflwyniad iddynt a oedd yn dadansoddi manylion y cynigion presennol a restrir yn adran 3 a 4 yr adroddiad.

 

Tywysodd aelodau drwy adran 3 yr adroddiad a rhoddodd beth cefndir i'r sefyllfa bresennol. Eglurodd fod Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i ymgynghoriadau a gynhaliwyd gan Gomisiwn y Gyfraith rhwng 2011-2014, ac ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru yn 2017, yn ystyried cynigion i ddiwygio'r gyfundrefn trwyddedu tacsis a thrwyddedu llogi preifat yng Nghymru.

 

Yna, eglurodd pa faterion allweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u priodoli i'r polisi trwyddedu presennol. Esboniodd fod safonau anghyson ar draws pob awdurdod lleol wedi arwain at amrywiadau o ran ansawdd cerbydau yn ogystal â'r gost sy'n cael ei chodi, gan ddibynnu ar ba awdurdod lleol y daeth y tacsi.

 

Aeth ati hefyd i egluro materion gorfodi, a nododd wrth yr Aelodau nad oedd unrhyw fecanwaith statudol ar hyn o bryd ar gyfer gorfodi cerbydau sydd wedi’u trwyddedu mewn awdurdodau gwahanol.

 

Disgrifiodd hefyd faterion diogelu, a nododd wrth yr Aelodau nad oes unrhyw rannu gwybodaeth rhwng awdurdodau ar hyn o bryd ynghylch trwyddedu gyrwyr tacsi. Mae hyn yn fygythiad i’r cyhoedd oherwydd y gallai gyrrwr dderbyn trwydded tacsi gan un awdurdod hyd yn oed os yw eu trwydded wedi cael ei dirymu mewn awdurdod arall.

 

Gwnaeth Aelod sylw ar y materion, gan egluro fod y pryderon yn rhai dilys, a chytunodd fod angen gweithredu arnynt mewn rhyw ffordd.

 

Aeth y Swyddog Polisi Trwyddedu i egluro'r cynigion presennol, gan ddweud eu bod yn cael eu cyflwyno, er eu bod ond yn nyddiau cynnar y broses, er mwyn i Aelodau roi eu barn arnynt.

 

Opsiwn 1 –

  • Sefydlu safonau cenedlaethol, gan gynnwys safonau gyrwyr a safonau cerbydau, yn ogystal â chronfa ddata genedlaethol.
  • Ailgyfeirio swyddogaethau trwyddedu presennol y 22 awdurdod lleol o ran Cerbydau Hackney a cherbydau Llogi Preifat er mwyn sefydlu 1 awdurdod trwyddedu ar y cyd.
  •  

 

Opsiwn 2 –

  • Sefydlu safonau cenedlaethol gan gynnwys safonau gyrwyr a safonau cerbydau.
  • Sefydlu system orfodi fwy trylwyr lle gall unrhyw awdurdod trwyddedu ddirymu trwydded yrru os oes angen, waeth ble y cafodd y gyrrwr ei drwyddedu'n wreiddiol.
  • Sefydlu cronfa ddata ganolog o fanylion am ddirymiadau trwyddedau sydd ar gael i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
  • Cadw swyddogaethau trwyddedu o fewn yr awdurdodau lleol.

 

Mynegodd yr Aelodau eu pryderon am opsiwn 1, gan nodi ei fod yn newid sylweddol i'r system bresennol.

 

Dywedodd Aelod, er ei fod yn credu y byddai opsiwn 1 yn haws ac o bosibl yn fwy effeithlon yn yr hirdymor, y byddai’r newid yn y tymor byr a’r tymor canolig yn enfawr, ac yn achosi aflonyddwch i'r gwasanaethau trwyddedu yn ogystal â gyrwyr tacsis. Gallai hefyd fod yn gostus i'r awdurdod pe byddai angen i BCBS gydymffurfio â newidiadau unffurf.

 

Dywedodd Aelod arall nad oedd yn cytuno ag opsiwn 1 ychwaith, gan ddweud mai opsiwn 2 oedd orau. Eglurodd y byddai’n caniatáu i Aelodau wneud penderfyniadau am eu hawdurdodau lleol, awdurdodau y maent yn eu hadnabod ac yn byw ynddynt, rhywbeth nad fyddai awdurdod trwyddedu ar y cyd yn gallu ei wneud i’r un safon.

 

Roedd Aelod arall yn cytuno ag opsiwn 2 am ei fod yn cadw swyddogaethau trwyddedu o fewn awdurdodau lleol, ond roedd hefyd am bwysleisio pwysigrwydd cronfa ddata trwyddedu ganolog.

 

Gofynnodd Aelod i'r Swyddog Polisi Trwyddedu pwy fyddai’n gallu gweld y gronfa ddata ac o dan ba amgylchiadau y byddai'r wybodaeth yn cael ei darparu i'r Aelodau?

 

Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu nad oedd yn gallu dweud yn bendant sut y byddai'r broses yn digwydd, a bod y cynigion ond yng nghamau cynnar eu datblygiad. Fodd bynnag, esboniodd y byddai'n debygol o ddilyn yr un broses, neu broses debyg, â thystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Er na fyddai hyn yn disodli gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd fel darn statudol o wybodaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer cymeradwyo neu wrthod trwydded, byddai'n darparu gwybodaeth ychwanegol i'r Swyddogion Trwyddedu na fyddai’n ymddangos fel euogfarn droseddol.

 

Gofynnodd Aelod arall i'r Swyddog Polisi Trwyddedu a fyddai elfen o arbed arian i’r awdurdod lleol yn gysylltiedig ag opsiwn 1? Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu nad oes digon o fanylion yngl?n â’r broses gyfan i wneud tybiaeth resymol o ran arbed arian i awdurdodau lleol.

 

Mynegodd Aelod arall ei bryderon yngl?n ag opsiwn 1, gan nodi y byddai awdurdodau lleol yn colli llawer o waith–o ran Cynghorwyr yn ogystal â Swyddogion.

 

Rhoddodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu wybod i'r Aelod y byddai'r holl faterion trwyddedu sy'n ymwneud â thacsis a cherbydau llogi preifat yn cael eu trosglwyddo, ond y byddai materion trwyddedu eraill yn aros gyda'r awdurdod lleol–eiddo a thrwyddedau gwirodydd er enghraifft.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn siomedig â'r diffyg manylder o ran Opsiwn 1 ac o ran logisteg y cynigion. Gofynnodd i'r Swyddog Polisi Trwyddedu i ba raddau y byddai angen i ymgeisydd neu yrrwr presennol deithio er mwyn i’w cerbyd gael ei archwilio neu er mwyn eistedd o flaen Pwyllgor?

 

Eglurodd y Swyddog Polisi Trwyddedu nad oes unrhyw fanylion pellach am hyn yn anffodus, ond y byddai'n hapus i fynegi’r pryder hwnnw.

 

Gofynnwyd am farn y Swyddog Polisi Trwyddedu yngl?n â’r cynigion. Eglurodd fod pwyntiau cadarnhaol a negyddol i'r ddau gynnig, ond byddai'n dadlau nad oes llawer o fanylion o ran Opsiwn A ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'r ddau opsiwn yn eang eu natur hyd yma ac mae'n edrych ymlaen at yr ymgynghoriadau pellach er mwyn cael mwy o wybodaeth am y manylion.  

 

Gofynnodd y Swyddog Cyfreithiol i'r Aelodau a oedd unrhyw beth yr hoffent ei weld yn y cynigion nad oedd wedi’u crybwyll hyd hynny.

 

Dywedodd Aelod y byddai'n fuddiol i'r cwsmeriaid sy'n talu am dacsi neu’n llogi cerbyd preifat gael gwybod beth fyddai'r pris cyn iddynt ddechrau ar unrhyw daith. Dywedodd fod gormod o amrywiaeth o ran prisiau ar gyfer yr un daith, rhywbeth a allai gael ei ddylanwadu gan amrywiaeth o ffactorau megis man cychwyn y daith a'r amser a gymerir i’w chwblhau. Roedd yr Aelod o'r farn na ddylai hyn ddigwydd, oherwydd pe baech yn teithio ar drên neu fws, ni fyddai’r ffi yn amrywio yn ddibynol ar leoliad cychwyn neu'r amser a gymerwyd ar gyfer y daith.

 

Gofynnodd y Swyddog Polisi Trwyddedu i'r Aelodau a oedd unrhyw gwestiynau pellach, yr ateb oedd na.

 

PENDERFYNWYD:

 

  1. Nododd yr Aelodau gynnwys yr adroddiad

Bod yr Aelodau yn awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir i ymateb i'r ymgynghoriad o ran trwyddedu tacsis ar ran yr awdurdod.

Dogfennau ategol: