Agenda item

Adroddiad ar Adeilad Ffowndri’r Lled-ddargludydd Cyfansawdd (CSC)

Gwahodeddigion:

Kellie Beirne - Cyfarwyddydd Rhaglen

Elizabeth Weale - Cyfreithiwr / Rheolwr Gweithredol

Hazel Duke - Rheolwr Prosiect

Cyng Peter Fox - Aelod Cabinet

 

Cofnodion:

Mewn perthynas â thrafodaethau ar y safle a gynhaliwyd cyn y cyfarfod, dywedodd Cyfarwyddwr y Rhaglen wrth yr aelodau fod IQE yn gwmni rhestredig ac yn destun cytundeb ‘peidio â datgelu’. Dywedodd y dylai’r aelodau ystyried gwahardd y wasg a’r cyhoedd pe baent eisiau trafod gwybodaeth a geid yn y cytundeb peidio â datgelu.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Peter Fox, Is-gadeirydd Cabinet Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gyflwyniad yn dwyn y teitl “Trosolwg o Brosiect y Lled-ddargludydd Cyfansawdd (CSC) a’r cyfleoedd Clwstwr ehangach”. Rhoddodd y cyflwyniad olwg gyffredinol ar ymrwymiad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i Led-ddargludyddion Cyfansawdd, cyfleoedd marchnad lled-ddargludyddion cyfansawdd, IQE PLC, pwysigrwydd y Lefel Parodrwydd Technoleg ym mhob agwedd ar gynhyrchu, y cyfleoedd clwstwr a’r effaith economaidd bosibl a allai arwain at Glwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf y byd. Ychwanegodd fod diwydiannau’n dibynnu ar led-ddargludyddion cyfansawdd ac y gallai hyn wyrdroi ffawd De Ddwyrain Cymru.

 

Gofynnodd un o’r aelodau a oedd yr eiddo ym Mharc Menter Celtic Way mewn ardal a gynorthwyir yn ôl rheolau cymorth gwladwriaethol. Esboniodd yr Is-gadeirydd fod yr holl fargen yn cydymffurfio â chymorth gwladwriaethol. Byddai rhan fawr o Gymru’n cydymffurfio fodd bynnag, gyda’r cymarebau’n amrywio. Roedd IQE wedi arwain consortiwm a gysylltodd â Llywodraeth Cymru a phledio’r achos yn seiliedig ar y pwysigrwydd byd-eang fel sector. Roedd ganddynt eithriad cymorth gwladwriaethol rhannol ac roedd hyn yn bwysig ar gyfer twf Ewropeaidd. Yn dilyn BREXIT byddent yn cydymffurfio â rheolau cymorth gwladwriaethol a fyddai’n cyfateb i rai Prydain.

 

Roedd un o’r Aelodau’n bryderus yngl?n â’r gostyngiad ym mhris cyfranddaliadau Ffowndri’r IQE a dywedodd ei fod wedi gweld adroddiad, a oedd eto i’w gyhoeddi gan Swyddfa Archwilio Cymru, lle yr oeddynt wedi bod yn feirniadol o IQE. Dywedodd ei fod wedi gofyn i swyddogion yn ystod yr ymweliad safle cynharach a fyddai modd iddynt roi rhyw fath o sicrwydd yngl?n â hyn. Roedd swyddogion yn y Ffowndri wedi cadarnhau’n gynharach fod IQE wedi gwneud datganiad cyhoeddus yn ymwneud â’r newid yn eu cyfranddaliadau, a oedd ar gael i’r cyhoedd ar eu gwefan. Dywedodd y swyddogion hefyd fod adroddiad masnachol sensitif wedi’i lunio a’i rannu gyda’r cabinet Rhanbarthol i ymdrin â’r pryderon yngl?n â phris y cyfranddaliadau. Ychwanegodd y swyddogion y byddent angen cyngor pellach gan IQE ynghylch a ellid rhannu’r adroddiad hwn gyda’r Cyd-bwyllgor Craffu yn ddiweddarach, sef rhywbeth y byddai’n rhaid ei wneud mewn sesiwn gaeedig gan wahardd y wasg a’r cyhoedd. Cadarnhaodd y Swyddog Craffu y byddai, ar ran y Cyd-bwyllgor, yn cysylltu â rheolwr Prosiect y Lled-ddargludydd Cyfansawdd i ofyn am yr adroddiad, ac yn rhoi gwybod i’r aelodau beth oedd y penderfyniad.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr y Rhaglen nad oedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gyfranddalwyr, bod ganddynt swyddogaeth fel landlord, a’u bod yn prydlesu’r adeilad i IQE fel tenant. Pe bai’r aelodau’n dymuno cael gwybodaeth bellach yngl?n â phris y cyfranddaliadau, roedd gan bob awdurdod swyddog cynrychiadol neu aelod wedi’i ethol ar fwrdd CSC Foundry Ltd. Cafodd gwybodaeth gyfredol am brisiau cyfranddaliadau a’r gadwyn gyflenwi ei chyflwyno yn y cyfarfod diwethaf a dylent allu cael gafael ar yr wybodaeth hon trwy gyfrwng eu cynrychiolwyr.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Rhaglen y bydd Cabinet Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar 18 Chwefror 2019. Bydd yn argymell y dylai’r adroddiad gael ei gyhoeddi yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

 

Dywedodd yr aelod y dylai, fel aelod etholedig, fod wedi cael gweld yr wybodaeth a gyflwynwyd i Fwrdd Ffowndri’r Lled-ddargludydd Cyfansawdd. Fe allai’r wybodaeth honno fod wedi ateb nifer o gwestiynau a oedd ganddo. Esboniodd Cyfarwyddwr y Rhaglen fod pob awdurdod wedi ethol naill ai swyddog neu aelod ar y Bwrdd, yn dibynnu ar yr hyn a oedd yn briodol ar gyfer yr awdurdod hwnnw. Felly, fe allai eu cynrychiolydd enwebedig fod wedi rhannu’r wybodaeth hon gydag aelodau’r Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu, felly nid oedd yn briodol dweud nad oedd aelodau etholedig wedi cael mynediad at yr wybodaeth hon. Atebodd yr aelod nad oedd yr wybodaeth hon wedi cael ei hystyried gan unrhyw un o aelodau’r pwyllgor craffu.

 

Gofynnodd un o’r aelodau am fanylion ynghylch y 2,395 o swyddi posibl a fyddai’n cael eu creu/cynorthwyo/diogelu. Esboniodd Cyfarwyddwr y Rhaglen y byddai’r swyddi’n cael eu gwasgaru ar draws y Ffowndri, IQE, Infinion, Catapult ac o fewn y clwstwr.

 

Dywedodd un o’r aelodau fod hwn yn brosiect sylweddol a gofynnodd pam nad oedd unrhyw beth o’r fath wedi’i roi ar waith o’r blaen. Gofynnodd hefyd beth a oedd yn cael ei wneud i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi yn y cymoedd. Hefyd, roedd 95% o’r hyn a gynhyrchwyd yn cael ei allforio, fodd bynnag roedd y Ffowndri’n dibynnu ar ddeunyddiau wedi’u mewnforio er mwyn cyflawni hyn. Gofynnodd faint mwy y gellid ei gyflawni trwy fuddsoddi yn y maes hwn. Cytunodd Is-lywydd Cabinet Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y gwelwyd degawdau o anweithgarwch a bod Cymru wedi bod yn edwino ar waelod y tablau GDP (Cynnyrch Domestig Gros). Fe allai Cymru fod yn genedl wych, a hithau â nifer o bobl hynod gymwys. Yn y dyfodol, byddai modd iddynt ‘gysylltu’r dotiau’ a chreu cyfleoedd yn y cymoedd. Y sialens oedd creu 25,000 o swyddi, a fyddai’n trawsnewid yr ardal yn llwyr.

 

Gofynnodd un o’r aelodau a oedd y buddsoddiad preifat gan un cwmni ynteu amrywiaeth eang o gwmnïau. Esboniodd Cyfarwyddwr y Rhaglen y byddai yna £9.89 o fuddsoddiad preifat ar gyfer pob £1 o fuddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, dros gyfnod o 5 mlynedd. Roedd KPMG wedi ystyried contractau masnachol ac ariannol er mwyn sicrhau diwydrwydd dyladwy ac roedd ganddynt fynediad at yr holl ddogfennau a oedd yn sail i hyn. Ychwanegodd Is-gadeirydd Cabinet Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd eu bod yn gobeithio angori £4 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn yr ardal hon.

 

Gofynnodd un o’r aelodau a fyddai modd i’r adroddiad wahanu’r ffigurau yn y dyfodol ar gyfer swyddi newydd, swyddi a ddiogelir a swyddi a gynorthwyir, er mwyn gwneud pethau’n gliriach.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr y Rhaglen fod yna anawsterau’n ymwneud â sgiliau a llafur. Ceid nifer o gystadleuwyr yn y rhanbarth a llawer o gystadleuaeth ar gyfer pobl fedrus. Roedd yn bwysig canolbwyntio ar hyfforddiant priodol ac ymgysylltu â phobl ifanc. Ychwanegodd fod yna gwmni ar hyn o bryd yn chwilio am safleoedd i’r gogledd o goridor yr M4 ar gyfer cyfleuster pacio a phrofi. Esboniodd Is-gadeirydd Cabinet Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fod yna ddiffyg sgiliau ar hyn o bryd ac nad oedd y math o gymwysterau y mae cwmnïau eu hangen yn cael eu darparu, felly rhaid oedd iddynt hyfforddi’n “fewnol”. Mae angen cael rhyngwyneb ag ysgolion ynghyd ag ysgogi pobl ifanc i newid eu meddyliau ynghylch y maes, a chydweithredu.

 

Roedd un o’r aelodau o’r farn fod yna broblemau gyda marchnata IQE. Esboniodd y ceid ystadau tai mawr o gwmpas yr ardal honno, gyda’r preswylwyr yn gwybod dim am IQE. Ychwanegodd Is-gadeirydd Cabinet Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mai yn y maes hwn yr oedd angen i’r 10 cyngor wneud mwy. Dylai pob un ohonynt hyrwyddo cyfleoedd a deall y manteision o gael yr addysg briodol. Esboniodd Cyfarwyddwr y Rhaglen eu bod yn ceisio tyfu’r ardal fel clwstwr a’u bod wedi cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn ceisio £40 miliwn ar gyfer targedu set sgiliau arbennig er mwyn cael swyddogaeth benodol i ddwyn y clwstwr ynghyd.

 

Trafododd yr aelodau pa mor bwysig yw cael marchnata priodol er mwyn denu pobl fedrus o’r 10 rhanbarth. Esboniodd Cyfarwyddwr y Rhaglen eu bod wedi ymgysylltu â chwmnïau recriwtio, ysgolion a cholegau, a gallai hyn fod yn bwnc addas ar gyfer cyfarfod craffu yn y dyfodol. Cydnabu Is-gadeirydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fod yna broblem o ran cyfathrebu a bod angen iddynt berswadio cymunedau fod y Fargen Ddinesig yn bwysig iddynt. Rhaid iddynt ‘werthu’ cyfleoedd i bobl ifanc a chenedlaethau’r dyfodol. Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Rhaglen at y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ac at ganolbwyntio ar sectorau sydd angen cymorth.

 

Gofynnodd un o’r Aelodau a oes strategaeth Brexit ar waith. Esboniodd Cyfarwyddwr y Rhaglen fod Llywodraeth Cymru’n gweithio ar liniaru a hefyd ar gynllun cynaliadwyedd i reoli’r ymadawiad. Roeddynt yn cydnabod bod cyfraddau cyfnewid yn cael effaith aruthrol arnynt a’u bod yn ymdrin ag ansefydlogrwydd enfawr.

 

Cyfeiriodd un o’r aelodau at yr ôl troed ymchwil a datblygu a’r ffaith fod Cymru ar waelod y tabl yn y maes hwn. Cytunodd Cyfarwyddwr y Rhaglen nad oedd Cymru wedi perfformio’n dda yn y gorffennol. Nid oedd digon o ddefnydd yn cael ei wneud o gredydau treth Ymchwil a Datblygu ac roedd angen llawer o waith er mwyn gwneud y maes hwn yn gynaliadwy. Cytunodd Is-gadeirydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a dywedodd nad oedd Cymru’n ddigon rhagweithiol o safbwynt cael gafael ar gyllid, o gymharu â’r Alban.

 

Cyfeiriodd un o’r aelodau at baragraff yn yr adroddiad yn ymwneud â’r ffaith nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r union amser y byddai arian grant yn cael ei ryddhau, a bod angen chwilio am fenthyciad pontio dros dro i gwrdd â gofynion llif arian. Esboniodd Cyfarwyddwr y Rhaglen mai dyna oedd y sefyllfa ar 2 Mai 2017 pan gafodd yr adroddiad gwreiddiol ei ystyried, a bod yr arian wedi’i dderbyn ers hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nododd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yr adroddiad.

 

Roedd yr aelodau’n bryderus ynghylch y gostyngiad diweddar ym mhris cyfranddaliadau IQE a gofynasant i’r swyddogion am sicrwydd yngl?n â’i ddyfodol. Dywedodd swyddogion IQE fod nodyn briffio cyfrinachol wedi’i baratoi gan IQE a thîm y prosiect i gynnig tawelwch meddwl, yn dilyn y newid ym mhris y cyfranddaliadau. Dosbarthwyd y nodyn briffio hwn trwy e-bost i Gyfarwyddwr CSC Foundry Ltd, ac i aelodau’r Cabinet Rhanbarthol, ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf. Pe bai’r wybodaeth hon yn cael ei rhyddhau, byddai’n rhaid i hynny ddigwydd ar yr amod y byddai’r Pwyllgor yn gorfod ystyried yr wybodaeth heb gynnwys y wasg na’r cyhoedd, a hynny oherwydd yr wybodaeth fasnachol sensitif a gâi ei chyflwyno i’r aelodau.

Gwybodaeth Bellach

Gofynnodd yr aelodau am gael gwybodaeth bellach, yn cynnwys manylion am swyddi newydd a grëwyd a swyddi a fyddai’n cael eu diogelu o ganlyniad i fuddsoddiad gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Gofynnodd yr aelodau am amserlen yn ymwneud â chreu’r swyddi ychwanegol.

Dogfennau ategol: