Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Monitro’r Gyllideb 2018 – 19 – Rhagolwg Chwarter 3

Gwahoddedigon:

 

Holl Aelodau’r Cabinet a Bwrdd Rheoli Corfforaethol

Cofnodion:

Diben yr adroddiad hwn yw darparu diweddariad i’r Pwyllgor ar sefyllfa ariannol y Cyngor ar 31 Rhagfyr 2018.

 

O roi cefndir, dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro, ar 28 Chwefror 2018, fod y Cyngor wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £265.984 miliwn ar gyfer 2018-19, ynghyd â rhaglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn o £33.693 miliwn, sydd ers hynny wedi’i diweddaru i ystyried cymeradwyaeth a llithriant newydd rhwng y blynyddoedd ariannol. Fel rhan o’r Fframwaith Rheoli Perfformiad, adolygir amcanestyniadau o’r gyllideb yn gyson ac fe’u hadroddir i’r Cabinet bob chwarter. Yn ogystal, caiff cyflawniad o ostyngiadau cytûn i’r gyllideb eu hadolygu a’u hadrodd i’r Cabinet fel rhan o’r broses hon.

 

Cadarnhaodd Paragraff 4.1.1 yr adroddiad gyllideb refeniw net ac alldro rhagamcanol y Cyngor ar gyfer 2018-19, gyda Thabl 1 yn y rhan hon o’r adroddiad yn adlewyrchu cymhariaeth o’r gyllideb yn erbyn alldro rhagamcanol ar 31 Rhagfyr 2018.

 

Wedyn, ehangodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro ar rai o’r manylion ariannol sydd wedi’u cynnwys yn y Tabl er budd yr Aelodau.

 

Gwnaeth Tabl 2 ar dudalen 6 yr adroddiad adlewyrchu unwaith eto ar ffurf tabl, rai o Ostyngiadau Cyllideb y Flwyddyn Flaenorol sy’n weddill fesul Cyfarwyddiaeth.

 

Yna dangosodd Paragraff 4.2.5 yr adroddiad y Gostyngiadau i’r Gyllideb ar gyfer 2018-19 a gwnaeth y rhain gyfanswm o £6.123m, sydd wedi’u rhannu i fyny yn Atodiad 2 (yr adroddiad) a’u crynhoi yn Nhabl 3. Roedd y sefyllfa sydd ohoni’n diffyg rhagamcanol ar y targed arbedion o £379,000, neu 6.2% o’r targed cyllideb cyffredinol.

 

Yna, rhoddodd paragraff 4.3 yr adroddiad rai sylwadau ar y sefyllfa ariannol ar 31 Rhagfyr 2018, ar ffurf crynodeb ar gyfer pob prif faes gwasanaeth (Atodiad 3 yr adroddiad) gyda sylwadau ar yr amrywiadau mwyaf arwyddocaol a ddangoswyd yn y rhan hon o’r adroddiad. Rhoddodd hyn grynodeb ar gyllidebau Ledled y Cyngor hefyd.

 

Yna, rhannodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro wybodaeth gydag Aelodau mewn perthynas â monitro’r Rhaglen Gyfalaf a’r Adolygiad o Gronfeydd Wrth Gefn wedi’u Clustnodi, gyda Thabl 4 ym mharagraff 4.5.2 yn dangos yr un olaf yn symud hyd at ddiwedd Chwarter 3.

 

Yn olaf, clôdd ei chyflwyniad, trwy gyfeirio Aelodau at ddata yn Nhabl 5 yr adroddiad, a ddangosodd y Dyraniadau Arian Net i/o Gronfeydd Wrth Gefn wedi’u Clustnodi i Chwarter 3.

 

Teimlai Aelod fod cynnydd da wedi’i wneud mewn perthynas â gostyngiadau’r gyllideb yn Chwarter 3, yn enwedig gan fod y Gyfarwyddiaeth Cymunedau wedi dangos gwelliant mewn arbedion o’r blaen, o oddeutu 8%.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro'r Pwyllgor at y naratif a ddilynodd Tabl 2 yn yr adroddiad, meysydd lle targedwyd arbedion ond lle’r oeddent heb eu bodloni ac roedd y rhain yn cynnwys Gostyngiadau i’r Ganolfan Ynni ac Adfer Deunyddiau (MREC) lle’r oedd diffyg o £200,000 nad oedd yn debygol o gael ei fodloni erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr Dros Dro wybod o ran yr arbediad sydd wedi’i glustnodi ond heb ei gyflawni eto mewn perthynas â’r Cynllun Caniatáu Gwaith Ffyrdd (£100,000), mai’r rheswm oedd yr oedi yn y broses gymeradwyo gyda Llywodraeth Cymru (LlC). Roedd y penderfyniadau hyn yn parhau ond ychwanegodd ei fod yn obeithiol y byddai’r arbediad yn cael ei wneud yn y dyfodol gweddol agos.

 

Mewn perthynas â’r ffaith nad oes diffyg o ran yr arbedion sydd wedi’u clustnodi ar gyfer Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, esboniodd y Prif Weithredwr Dros Dro fod angen rhywfaint o ofal yn y fan honno, gan fod cynigion ad-drefnu a thrawsnewid staff yn digwydd/ar y gweill yn y Gyfarwyddiaeth hon.

 

Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio at hyn, trwy ddatgan nad oedd unrhyw gynlluniau eleni ar gyfer y gostyngiadau mewn staff yn yr Adran Gyfreithiol, a chafwyd rhywfaint o gapasiti ychwanegol i gefnogi’r Twrneiod, trwy recriwtio staff Paragyfreithiol.

 

Mewn perthynas â’r diffyg arbedion yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a oedd yn gwneud cyfanswm o oddeutu £783,000 ar hyn o bryd, teimlai un Aelod gan fod hwn yn swm sylweddol o arbedion heb ei gyflawni eto, dylid cael rhywfaint o naratif (yn yr adroddiad) yn esbonio sut byddai hyn yn cael ei fodloni, gan gynnwys graddfeydd amser ac ati. Cydnabyddodd fod Cynllun Cyflawni ar waith i gyfeirio hyn, ond teimlai y dylid rhoi rhywfaint o esboniad hefyd gan fod swm y diffyg yn sylweddol.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod y Cynllun Cyflawni wedi bodoli ers dwy flynedd ac ar y trywydd iawn o ran bodloni’r diffyg yn unol â’r amserlen oedd wedi’i chynnwys yn y Cynllun. Byddai’r gorwariant yn cymryd rhywfaint o amser i’w gyflawni, ac roedd yn cael ei fodloni mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys ffyrdd mwy arloesol o weithio, yn ogystal â newid y ffordd yr oedd rhai gwasanaethau’n cael eu cyflwyno. Ychwanegodd fod y gorwariant wedi gostwng o £1.2m i lle’r oedd yn sefyll ar hyn o bryd. Roedd yr anhawster yn un hanesyddol, am fod niferoedd y lleoliadau Plant sy’n Derbyn Gofal/ y Tu Allan i’r Sir yn anodd eu darogan neu reoli, ond roedd niferoedd yr achosion hyn yn lleihau. Roedd rhywfaint o waith da’n cael ei wneud hefyd wrth feithrin mwy o drefniadau gweithio mewnol a gwell ar gyfer yr unigolion hynny oedd yn cael Gofal Preswyl, a oedd hefyd yn cyfrannu at y gorwariant a ychwanegodd.

 

Nododd yr Aelodau fod rhaid gwneud arbedion o hyd yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau, nid dim ond fel arbedion wedi’u clustnodi yr oedd angen i’r Gyfarwyddiaeth eu gwneud yn ei hun ond hefyd er mwyn cefnogi rhai gwasanaethau statudol yn y Cyfarwyddiaethau Addysg a Chymorth Teuluol a Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, ac yn rhai o ardaloedd yr Awdurdod, roedd rhai swyddi gwag yn cael eu cadw er mwyn dirymu o bosibl arbedion pellach i’r dyfodol y gallai fod angen eu gwneud dan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC).

 

Nododd Aelod o dudalen 13 yr adroddiad fod gorwariant rhagamcanol o £140,000 ar draws y Gwasanaethau Fflyd, oedd yn debyg i alldro 2017-18, yn sgil dirywiad mewn incwm oedd yn codi o’r gostyngiad mewn gwariant gan Gyfarwyddiaethau, a bod y Gyfarwyddiaeth wedi bwriadu ymgymryd ag adolygiad o’r gwasanaeth yn y dyfodol agos. Gofynnodd pryd byddai’r adolygiad hwn yn cael ei gynnal ac a fyddai’r gwasanaeth yn gweithio’n fwy effeithiol wedyn.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Dros Dro fod y Gwasanaethau Fflyd ar hyn o bryd yn ailgodi ar Gyfarwyddiaethau am brynu a chynnal a chadw’r fflyd. Ar hyn o bryd, nid oedd yn si?r a fyddai’r mecanwaith ail godi’n destun unrhyw newid sylweddol (fan hyn byddai’r Polisi’n destun archwiliad pellach), hyd nes i’r adolygiad gael ei gwblhau a chynhyrchiant ac effeithiolrwydd y gwasanaeth ei fesur wrth symud ymlaen. Pwysigrwydd y gwasanaeth penodol hwn oedd ei fod yn adennill costau o leiaf neu’n gwneud arian yn hytrach na chael y gwasanaeth ar ei golled o ran cynhyrchiant busnes.

 

Argymhellion:

 

            Nododd yr aelodau gostyngiadau’r flwyddyn flaenorol i’r gyllideb oedd yn weddill gan y Cyfarwyddiaethau Cymunedau ac Addysg a Chymorth i’r Teulu, fel y cyflwynir yn nhabl 2. Mae’r Aelodau’n argymell bod adroddiadau i’r dyfodol yn darparu naratif manylach o ran diffygion, yn enwedig mewn perthynas â Chyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.

 

            Nododd yr aelodau hefyd fod angen naratif pellach mewn perthynas â’r amrywiadau i Wasanaethau Fflyd dan 4.3.3, er mwyn dangos beth mae angen ei wneud a sut mae’n mynd i gael ei wneud. Mae’r aelodau’n argymell fod y naratif yn cynnwys manylion o ran yr amserlenni ar gyfer yr adolygiad Gwasanaethau Fflyd.   

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z