Agenda item

Strategaeth Cyfalaf 2019 – 20 Ymlaen

Gwahoddedigon:

 

Cynghorydd Hywel Williams – Dirprwy Arweinydd

Gill Lewis - Pennaeth Cyllid dros dro

Mary Williams - RheolwrGr?p - Phrif Gyfrifydd 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 adroddiad, ei ddiben oedd cyflwyno i’r Pwyllgor Strategaeth Cyfalaf ddrafft 2019-20 i 2028-29, oedd yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus (Atodiad A i’r adroddiad y cyfeirir ato).

 

O roi cefndir, dywedodd fod rheolaeth Gwariant Cyfalaf yn seiliedig ar ddeddfwriaeth. Mae’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru), fel y diwygiwyd, yn cynnwys darpariaethau manwl ar gyfer y dulliau rheoli cyllid cyfalaf a chyfrifyddu, yn cynnwys y rheolau ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf a’r hyn fydd yn cael ei drin fel gwariant cyfalaf. Maen nhw’n diwygio arfer cyfalaf a’r hyn fydd yn cael ei drin fel gwariant cyfalaf. Maen nhw’n diwygio ymarfer cyfrifyddu mewn amryw ffyrdd i atal effeithiau andwyol ar adnoddau refeniw’r awdurdodau.

 

Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd CIPFA rifyn newydd o’r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol. Gosododd y Cod diwygiedig uchod ofyniad ar awdurdodau lleol i benderfynu ar Strategaeth Gyfalaf, i’w cymeradwyo gan y Cyngor llawn, a fydd yn dangos bod yr awdurdod yn cymryd penderfyniadau gwariant cyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion y gwasanaeth ac yn ystyried yn briodol stiwardiaeth, gwerth am arian, darbodaeth, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd.

 

Dywedodd yn dilyn cymeradwyaeth y Strategaeth Cyfalaf, bydd unrhyw gynlluniau lle mae cyllid allanol wedi’i gymeradwyo’n cael eu hychwanegu at y Rhaglen Gyfalaf ar ôl i’r cyllid gael ei dderbyn a’i gynnwys yn yr adroddiad rhaglen gyfalaf nesaf i’r Cyngor.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y Strategaeth Gyfalaf ddrafft a’r atodlenni cysylltiedig a gafodd eu cynnwys yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Byddai hyn, a fyddai’n destun adroddiadau i’r Cabinet a’r Cyngor ym mis Chwefror, yn cadarnhau ufudd-dod y Cyngor i’r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol. Byddai’n gosod rhai egwyddorion arweiniol ar gyfer penderfyniadau cyfalaf, yn ogystal â gosod fframwaith i hunan-reoli cyllid cyfalaf ac yn astudio meysydd ariannol allweddol fel a ddengys ar ffurf pwyntiau bwled ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 fod y Strategaeth hefyd yn adrodd ar gyflwyno, fforddiadwyedd a’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r cyd-destun tymor hir y gwneir penderfyniadau ar wariant cyfalaf a buddsoddi ynddynt.

 

Yn olaf, cyfeiriodd at nodau allweddol ac egwyddorion arweiniol y Strategaeth Gyfalaf, gan roi crynodeb ar bob un o’r rhain hefyd.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 52 yr Atodiad, hanner ffordd i lawr y dudalen hon lle cadarnhawyd bod cyfanswm gwerth yr Eiddo Buddsoddi’n £4.360m ar 31 Mawrth 2018, a greodd incwm rhentu o £438,000 y flwyddyn. Gofynnodd ai incwm gros neu net oedd hwn.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 mai’r incwm net oedd hwn.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 61 yr Atodiad a Rheoli Risgiau, lle rhestrodd dri risg y mae gweithgareddau’r Cyngor yn amlygu ei hun iddynt, h.y. risg Credyd, risg Hylifedd a risg y Farchnad. Mewn perthynas â’r rhain, gofynnodd pa fesurau lliniaru yr oedd gan yr Awdurdod ar waith i baratoi ei hun ar gyfer canlyniad Brexit.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Dros Dro fod Fforwm Brexit wedi’i sefydlu yn y Cyngor, er mwyn cadarnhau’r effaith bosibl y byddai canlyniad Brexit yn ei gael ar sefydliadau busnes, sy’n cynnwys y sector cyhoeddus a phreifat ac roedd y Fforwm yn bwriadu rhoi Cofrestr Risg at ei gilydd (sy’n dynodi’r risgiau potensial allweddol i CBSP) a fyddai maes o law yn cael ei chyflwyno i’r Cabinet i’w hystyried. Cyn gynted ag yr oedd y risgiau hyn yn cael eu cadarnhau’n llawn, yna byddai’r rhain yn eu tro’n edrych ar gael eu lliniaru.

 

Yn ogystal, byddai CLlLC yn bwriadu cynnal cyfarfod yn yr wythnosau nesaf mewn perthynas â Brexit a chadarnhaodd y byddai’n cadarnhau dyddiad hwn ac yn ei roi i mewn yng nghalendrau’r Aelodau yn unol â hynny.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 68 yr Atodiad lle cynghorodd, er bod arian Adran 106 yn dod o gyfraniadau’r datblygwr trwy’r system gynllunio, oni bai fod amodau penodol i’r gwasanaeth ar ddefnyddio’r Adran 106 (sydd yno’n gyffredinol), dylid defnyddio’r arian i gefnogi blaenoriaethau ac ymrwymiadau presennol y Cyngor yn hytrach na’u dyrannu i gynlluniau newydd. Bydd unrhyw wariant Adran 106 a dderbynnir heb ddyraniad penodol i wasanaeth neu gynllun yn y cytundeb cynllunio’n cael eu dyrannu yn unol â blaenoriaethau cynllun cyfalaf y Cyngor. Anghytunodd â’r egwyddor hon, gan ychwanegu y dylid ymroi unrhyw ddyraniad Adran 106 i’r datblygiad neu o fethu hynny, y maes yr oedd wedi’i bwriadu ar ei gyfer.

 

Cynghorodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 fod y rhan fwyaf o’r cyfraniadau Adran 106 yn benodol iawn ac yn cael eu gwario yn y meysydd yr oeddent wedi’u dyrannu ar eu cyfer. Fodd bynnag, yn hanesyddol, o beidio â defnyddio neu ddisbyddu symiau neu bocedi bach o’r cyllid hwnnw’n llawn, yna gellid eu defnyddio i gefnogi Cynlluniau Cyfalaf eraill yn ariannol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Dros Dro y byddai’n cysylltu â’r Adran Gynllunio ac yn gofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’r uchod, ac yn ei dro, yn darparu hyn i’r holl Aelodau ac nid dim ond i aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ac/neu’r Pwyllgor Rheoli Datblygu.

 

Teimlai Aelod fod angen i bwnc Trosglwyddo Asedau Cymunedol gael ei gynnwys yn y Strategaeth Gyfalaf er mwyn gwneud rhywfaint o ymrwymiad ariannol i asedau’r Cyngor er mwyn gallu gwella ar y rhain ac yna i grwpiau neu sefydliadau cymunedol lleol gymryd perchnogaeth ohonynt o bosibl. I ddechrau, byddai’r gwariant hwn yn arbed arian i’r Cyngor (petai’r asedau hynny’n cael eu cymryd allan o’u dwylo) ac yn cael eu gweithredu a’u cynnal a chadw’n annibynnol gan eraill.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr dros Dro fod y Cyngor wedi ymroi rhyw £1m i barciau a chyfleusterau chwarae, pafiliynau chwaraeon ac ystafelloedd newid ac ati er mwyn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw mawr ei angen i’r adeiladau hyn, er mwyn i Glybiau a Chymdeithasau Chwaraeon fod â mwy o gyfle o gymryd dros y rhain, ac felly’n arbed arian i’r Cyngor yn y tymor hwy. Ychwanegodd fod dyrannu’r ymrwymiad hwn bellach wedi’i lacio er mwyn cwmpasu ardal ehangach o asedau na dim ond yr uchod.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 wrth y Pwyllgor fod yna rai egwyddorion arweiniol a oedd yn gofyn am ystyriaeth mewn perthynas â chynlluniau’r Awdurdod o ran ei wariant o’i Ddyraniad Cyfalaf ac roedd angen i’r rhain fod yn ddarbodus ac yn gynaliadwy.

 

O ran asedau’r Cyngor yn gyffredinol, roedd angen cynnal unrhyw waith cynnal a chadw neu ymgymryd ag unrhyw waith gwella/adnewyddu i’r adeiladau hyn yn nhrefn blaenoriaeth, ar ôl ystyried unrhyw elfen o risg yn unol â’r rheoliadau iechyd a diogelwch.

 

Nododd Aelod, yn anffodus bod gan y Cyngor bellach gwmpas cyfyngedig iawn i glustnodi adnoddau i wella’i asedau ar ffurf adeiladau i unrhyw raddau sylweddol o dan ei SATC ac, o bosibl, pan oedd mwy o arian ar gael i fynd ar drywydd hyn cyn y caledi economaidd, dylid bod wedi gwneud mwy o waith i’r asedau bryd hynny.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod adran Landlordiaid Corfforaethol y Cyngor wedi cychwyn nifer o Arolygon Cyflwr o’i asedau ac yn deillio o hyn, rhoi Rhestr Eiddo at ei gilydd o’r rhain i gyd. Roedd cynlluniau i gynnal gwelliannau i’w stoc, ond cytunodd mai dim ond lefel gyfyngedig o adnoddau oedd ar gael i wneud hyn ar sail blaenoriaeth. Roedd modd credu os nad oedd rhai sefydliadau ar y tu allan yn dangos diddordeb mewn cymryd y gwaith cynnal a chadw o’r rhain a bod eu cyflwr yn adfeilio, bydden nhw’n cau oherwydd y gofynion iechyd a diogelwch diffygiol.

 

Gan fod hyn yn cloi’r busnes, gwahoddwyd y Gwahoddedigion i fynychu’r cyfarfod, diolchodd y Cadeirydd nhw ar ran yr Aelodau, ac yn dilyn hynny gadawon nhw’r cyfarfod.         

 

 Argymhellion:

 

  • Mae angen eglurhad pellach ar y geiriad ar dudalen 68 o ran cyfraniadau Adran 106.

 

  • Trafodwyd hefyd y byddai’r wybodaeth yn cael ei chylchredeg i bob Aelod mewn perthynas ag Adran 106. Bod yr aelodau’n argymell bod hyn yn cynnwys y canlynol:-

 

  • datganiad o sefyllfa i ddangos pob cytundeb Adran 106 hyd yma;
  • faint gafodd ei gytuno;
  • am beth ydyw;
  • faint sydd wedi’i wario a pha weddill sydd ar ôl, os o gwbl, ac i beth y gellir defnyddio’r gweddill.

 

  • At hynny, mae’r Aelodau’n argymell y dylid torri’r wybodaeth i lawr yn wardiau er mwyn i bob Cynghorydd allu cysylltu’r arian â’u ward.

 

  • Gofynnodd yr aelodau am ragor o eglurder am y llog a gronnwyd ar y cronfeydd sy’n eistedd yng nghyfrif Adran 106 CBSP ac i beth y’i defnyddir.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am ddod yn ôl â’r arolygon cyflwr i’r aelodau mewn perthynas ag asedau.

Dogfennau ategol: