Cofnodion:
Gofynnodd y Swyddog Gweithredol Dros Dro am gymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2018-22 ar gyfer 2019-20 cyn ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo.
Dywedodd wrth y Cabinet fod gan y Cyngor ddyletswydd i osod amcanion lles o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac i osod amcanion gwella o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Dywedodd fod y Cynllun Corfforaethol presennol sy'n cynnwys 2018-22 yn nodi tri amcan llesiant corfforaethol a'i fod wedi'i adolygu ar gyfer 2019-20. Wrth adolygu'r Cynllun, mae'r Cyngor wedi datblygu ei amcanion llesiant ymhellach a'r blaenoriaethau hyn, wrth gael eu cymeradwyo, fydd amcanion llesiant y Cyngor o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r amcanion gwella o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
Dywedodd y Swyddog Gweithredol Dros Dro fod y Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu ar 14 Ionawr wedi ystyried y cynllun drafft a ddiwygiwyd a'i fod wedi gwneud cyfres o sylwadau adeiladol o ran newidiadau a chynnwys. Cafodd y sylwadau eu hystyried a, lle bynnag y bo'n ddichonol, roedd newidiadau priodol wedi'u gwneud i'r Cynllun drafft. Dywedodd wrth y Cabinet y caiff y Cynllun ei adolygu'n flynyddol, gan ystyried amgylchiadau newidiol a'r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion lles i sicrhau y bodlonnir gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddft Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Pan gaiff ei gymeradwyo, bydd y Cynllun yn disodli'r Cynllun Corfforaethol presennol a chaiff ei atgyfnerthu gan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, cynlluniau busnes y Gyfarwyddiaeth a chynlluniau gwasanaeth.
Cofnododd yr Arweinydd ei ddiolch i'r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu a oedd wedi bod yn drylwyr iawn yn ei waith craffu ar y Cynllun Corfforaethol ac a oedd wedi cyfrannu at y Cynllun diwygiedig.
Dywedodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod y Cynllun Corfforaethol a ddiwygiwyd wedi'i osod yn glir a'i fod yn hawdd i'w ddilyn a gofynnodd i'r wybodaeth ganlynol gael ei chynnwys yn y Cynllun:
Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cabinet fod strategaeth ddrafft ar leihau a lliniaru nifer yr achosion o ddigartrefedd yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd a fyddai'n cael ei gynnwys yn y Cynllun. Anogodd pob Aelod i gysylltu â swyddogion i leisio barn ar y Cynllun diwygiedig i sicrhau ei fod yn cynrychioli'r holl Aelodau. Dywedodd fod ymrwymiad yn y Cynllun i ddatblygu canolfan chwaraeon d?r ym Mhorthcawl i'w gwella fel cyrchfan i dwristiaid, ailddatblygu Neuadd Tref Maesteg yn ganolfan celfyddydol a diwylliannol a'r buddsoddiad parhaus yn y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Band B.
PENDERFYNWYD: y byddai'r Cabinet yn cymeradwyo'r Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2018-22, wedi'i adolygu ar gyfer 2019-20, yn amodol ar y newidiadau a restrir isod, a'i gyflwyno i'r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth ar 20 Chwefror 2019.
· Cynnwys rhagor o wybodaeth am gartrefi a mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i atal digartrefedd ac yn benodol, nifer yr hosteli a'r arwynebedd llawr sydd ar gael
· Cynnwys dangosydd ynghylch canran yr aelwydydd a oedd wedi'u eu hatal yn llwyddiannus rhag digartrefedd
Eglurder ynghylch nifer y pyllau nofio a chanolfannau bywyd yn y Fwrdeistref Sirol.
Dogfennau ategol: