Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23, a oedd yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2019-23, cyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2019-20 a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018-19 i 2028-29.

 

Dywedodd wrth y Cabinet fod y SATC wedi'i llywio'n sylweddol gan flaenoriaethau'r Cyngor ac er bod lleihad o flwyddyn i flwyddyn o ran Cyllid Allanol Cyfun (AEF) wedi golygu y bu lleihad cyllidebol sylweddol ar draws meysydd gwasanaeth, mae'r Cyngor yn parhau i chwarae rôl sylweddol iawn yn yr economi leol, a'i fod yn gyfrifol am wariant blynyddol gros o oddeutu £4 miliwn ac mai'r Cyngor oedd y cyflogwr mwyaf yn y Fwrdeistref Sirol.  Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cabinet fod y Cynllun Corfforaethol yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo ochr yn ochr â'r SATC 2019-23.  Roedd y ddwy ddogfen wedi'u halinio i'w gilydd, gan alluogi cysylltiadau amlwg rhwng blaenoriaethau'r Cyngor a'r adnoddau sy'n cael eu cyfeirio i'w cefnogi.

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y SATC yn amlinellu'r egwyddorion a'r tybiaethau manwl sy'n sail i gyllideb a phenderfyniadau gwario'r Cyngor, y cyd-destun ariannol y mae'r Cyngor yn gweithredu ynddo a lliniaru unrhyw risgiau ariannol phwysau yn y dyfodol, wrth fanteisio ar unrhyw gyfleoedd a allai godi ar yr un pryd.

 

Darparodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro Drosolwg Ariannol Corfforaethol i'r Cabinet, gan nodi y bydd cyllideb gros y Cyngor oddeutu £420m tra bydd y gyllideb refeniw net a gynllunnir ar gyfer 2019-20 yn £270.809m.    Dywedodd fod oddeutu £180m o'r gwariant hyn yn cael ei wario ar staff y Cyngor, gan gynnwys athrawon a staff cefnogi mewn ysgolion.  Roedd llawer o gost y gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau allanol hefyd yn berthnasol o ran cyflogau, gan gynnwys gweithwyr casglu sbwriel, gweithwyr gofal preswyl, staff hamdden a gofalwyr maeth.  Mae'r Cyngor hefyd yn wynebu incwm llai i ariannu gwasanaethau, yn ogystal â newidiadau deddfwriaethol a demograffig.  Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu cynllun corfforaethol sy'n amlinelli'r ymagweddau y bydd yn eu cymryd i reoli'r pwysau hyn wrth barhau i sicrhau, cyhyd ag y bo'n bosib, y gellir darparu gwasnaethau sy'n diwallu anghenion y gymuned.

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cabinet fod y Cyngor yn bwriadu gwario £111m ar wasanaethau a ddarperir gan Addysg yn 2019-20, gan gefnogi 22,792 o ddisgyblion.  Gwariant ar ysgolion yw'r maes unigol mwyaf o ran gwariant yn y Cyngor.  Ac eithrio Addysg, maes gwariant mwyaf y Cyngor yw Gofal Cymdeithasol, gwasanaethau Cymorth Cynnar a Digartrefedd, sydd â chyfanswm cyllideb o £73m, sef 27% o gyllideb refeniw net y Cyngor.  O hyn, mae'r Cyngor yn cynnig gwario £71m ar wasanaethau gofal cymdeithasol a lles.  Dywedodd fod gan waith y Cyngor yn y maes cyhoeddus effaith fwy uniongyrchol a gweladwy yn y gymuned, a bod y Cyngor yn cynllunio gwario £19.5m ar y gwasanaethau hyn.  Un o flaenoriaethau'r Cyngor yw Cefnogi'r Economi a bydd y Cyngor yn gweithio fwyfwy mewn modd cydweithredol gyda'r naw cyngor sy'n rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Rhanbarth Caerdydd, sy'n creu cronfa gwerth £1.2 biliwn ar gyfer buddsoddi yn y rhanbarth dros yr 20 mlynedd nesaf.  Caiff y buddsoddiad hwn ei anelu at gynyddu ffyniant economaidd, cynyddu rhagolygon swyddi a gwella cysylltedd digidol a thrafnidiaeth.  Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cabinet am y gwariant cynlluniedig ar Wasanaethau Eraill, a bod y meysydd mwyaf pwysig yn eu plith yn cynnwys Gwasanaethau Rheoleiddio, Cofrestryddion a Threth y Cyngor a Budd-daliadau.  Yn ogystal, mae nifer o wasanaethau y mae'r Cyngor yn eu cynnal i gefnogi darpariaeth y gwasanaethau hynny, sef Cynnal a Chadw Eiddo ac Adeiladau, Cyllid, Gwasanaethau Cyfreithiol, TGCh ac Archwilio Mewnol.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad ar Gyd-destun Ariannol Strategol a dywedodd wrth y Cabinet fod y SATC wedi'i gosod o fewn cyd-destun cynlluniau gwario economaidd a chyhoeddus y DU, blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a rhaglen ddeddfwriaethol.  Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cabinet, yn dilyn cyhoeddiad y setliad llywodraeth leol dros dro ym mis Hydref 2018, fod Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi y byddai Llywodraeth Cymru'n derbyn £550m ychwanegol dros y tair blynedd nesaf ac y bydd Llywodraeth Cymru'n gallu pennu sut caiff y dyraniad hwn ei wario.  Cadarnhaodd y Prif Weinidog ar y pryd becyn o gynigion cyllid ychwanegol i lywodraeth leol a fyddai'n cael ei gynnwys yn y gyllideb derfynol.  Derbyniodd y Cyngor ei setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2018, ac ar gyfer y Cyngor hwn, roedd hyn yn ogystyngiad o 0.1% o ran Cyllid Allanol Cyfun neu £258k.  Cafodd hyn ei gwrthbwyso gan gyfrifoldebau newydd ac amcangyfrifwyd y gwir effaith ar y Cyngor i fod yn ostyngiad o £1.182m neu -0.61% o'i gymharu â 2018-19, a byddai'r gwir sefyllfa ar gyfer y Cyngor hwn yn ostyngiad o -1.07% neu £2.07m.

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Cyngor wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf ar gyfer 2017-18 i 2027-28 ym mis Chwefror 2018, yn seiliedig ar y dybiaeth na fyddai cyllido cyfalaf Llywodraeth Cymru blynyddol yn newid o 2018-19 ymlaen.  Roedd fersiynau diwygiedig o'r rhaglen gyfalaf wedi cael eu cymeradwyo yn ystod y flwyddyn ariannol i gynnwys cyllidebau a gariwyd ymlaen o 2017-18 ac unrhyw gynlluniau neu gymeradwyaethau grant newydd.  Amlinellodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro gymhariaeth cyllideb yn erbyn yr alldro a ragwelwyd ar 31 Rhagfyr 2018, gyda thanwariant rhagweledig o £5.312m, gan gynnwys tanwariant gwerth £592k ar gyfarwyddiaethau a thanwariant net o £6.642m ar gyllidebau corfforaethol, wedi'u cydbwyso gan gronfeydd wrth gefn net newydd a neilltuwyd gwerth £1.922m.

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cabinet am ganlyniad yr ymgynghoriad wyth wythnos o hyd o'r enw 'Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr 2018' a oedd wedi derbyn 5,288 o ryngweithiadau.  O fewn hyn, roedd 2,677 o arolygon a gwblhawyd, gan ddangos cynnydd o 44% o'i gymharu â'r llynedd.  Diolchodd hefyd i'r Panel Ymchwil Gyllidebol a Gwerthuso am ei gymorth wrth hwyluso'r broses cynllunio cyllideb a'r Pwyllgorau Craffu a Throsolwg a oedd wedi arwain at wneud cyfres o argymhellion gan y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Corfforaethol i'w hystyried gan y Cabinet.

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro ar y senarios lleihau cyllideb gan ddweud mai'r senario fwyaf tebygol oedd gostyngiad cyllideb net posib o £35.181m dros gyfnod y SATC.  Yn ogystal, amlygodd y cynnydd presennol o ran nodi cynigion lleihau cyllideb.   Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cabinet o'r gofyniad cyllideb net i fodloni swyddogaethau'r Cyngor, wedi'u hariannu gan setliad Llywodraeth Cymru ac incwm Treth y Cyngor, a fyddai'n gofyn am gynnydd yn Nhreth y Cyngor o 5.40%.  Yn ogystal, dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cabinet am y pwysau o ran cyflogau, prisoedd a demograffeg, ac y byddai'r cynnydd rhagweledig o 43% yn y cyfraddau cyfraniad cyflogwr ar gyfer pensiynau athrawon, a fyddai'n arwain at gost blwyddyn gyfan o oddeutu £3.5m.  Mae chwyddiant prisoedd wedi cael eu dynodi i gyllidebau gwasanaeth ac mae'n cynnwys cynnydd cytundebol mewn costau bwyd, darpariaeth gofal cymdeithasol ac ymrwymiadau eraill.

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro, yn dilyn setliad gwell na'r hyn a oedd wedi ei ragweld yn 2018-19, fod cyllidebau ysgolion wedi'u hamddiffyn rhag y targed effeithlonrwydd blynyddol o 1%, ond o ganlyniad i bwysau rhagolygon cyllidebau'r Cyngor ar gyfer y blynyddoedd i ddod.  Fodd bynnag, yn dilyn y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ym mis Tachwedd 2018, a'r setliad terfynol dilynol wedi'i wella, ynghyd â chanlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ac argymhellion y Pwyllgorau Craffu, mae cyllidebau ysgolion wedi'u hamddiffyn unwaith eto rhag y gostyngiad effeithlonrwydd o 1% yn 2019-20.

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro ar y pwysau cyllideb sy'n dod i gyfanswm o £2.191m, sy'n cynrychioli pwysau na ellid eu hosgoi a newidiadau cytundebol.  Roedd cynigion lleihau cyllideb gwerth £7.621m wedi cael eu nodi o blith cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol i gyflawni cyllideb gytbwys.  Byddai ffïoedd a chostau'n cael eu cynyddu yn ôl y Mynegai Prisoedd Defnyddwyr o leiaf (ar y gyfradd bresennol, sy'n 2.1% ar hyn o bryd) ac 1%.

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cabinet am sefyllfa Cronfeydd Wrth Gefn y Cyngor, ac y byddai'r newid rhagweledig hyd at fis 31 Mawrth 2019 o ran Cronfeydd Wrth Gefn a Neilltuwyd yn lleihad cyffredinol gwerth £10.925m.  Byddai adolygiad pellach yn cael ei gynnal ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol, gyda newid rhagweledig yn y cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2019-20 o £7.891m.

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro ar y Rhaglen Gyfalaf a'r Strategaeth Cyllido Cyfalaf ar gyfer 2018-19 i 2028-29, sydd wedi datblygu'n unol ag egwyddorion y SATC a'r Strategaeth Gyfalaf arfaethedig ac sy'n adlewyrchu setliad cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20.    Darperir cyllid cyfalaf gwerth £7.665m, y mae £3.938m ohono'n cael ei ddarparu drwy fenthyca heb ei neilltuo a gefnogir a'r gweddill, gwerth £3.727m, fel grant cyfalaf cyffredinol.  Mae hyn yn cynnwys rhan 2019-20 (£30m) o'r 100m o gyllid cyfalaf cyffredinol ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn y setliad dros dro.  Mae'r Cyngor eisoes wedi derbyn £2.215m fel ei ran o'r dyraniad gwerth £50m ar gyfer 2018-19.  Amlinellodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro y dyraniadau arfaethedig o gyllid cyfalaf.

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dro Dro yr amcangyfrir y gellid creu oddeutu £21 miliwn fel rhan o'r rhaglen datrysiad uwch a gychwynwyd yn 2014.  Hyd yma, mae oddeutu £16.1 miliwn eisoes wedi'i greu, gyda £4.3 miliwn dan gytundeb contract a'r swm y rhagwelir y bydd yn cael ei greu dros yr 18 mis nesaf (2018-2020). O'r £21 miliwn, mae £9.8 miliwn yn berthnasol i adeiladau ysgolion a thir a ryddhawyd drwy Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, i'w ddefnyddio fel cyllid cyfatebol ar gyfer y rhaglen.  Mae hyn yn eithrio unrhyw dderbyniadau a ragwelir o ganlyniad i werthu safleoedd Adfywio Waterton neu Borthcawl a fydd yn ffocws i'r rhaglen ddatrysiad yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro hefyd fod y Benthyca Darbodus yr ymrwymwyd iddo ar 1 Ebrill 2018 yn £44.77 miliwn, yr oedd £27.03 ohono'n ddyledus. Amcangyfrifir y bydd y cyfanswm a fenthycwyd yn cynyddu i £43.75 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

 

Wrth wneud sylwadau am y cynigion cyllideb, diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r cyhoedd am gyfrannu at y broses ymgynghori lle cafwyd cynnydd yn nifer yr ymatebion o 44% o'i chymharu â'r llynedd ac a oedd wedi helpu i lunio'r gyllideb.  Diolchodd i'r Tîm Cyllid am ei waith wrth ragweld y setliad a fyddai'n gweld toriad go iawn o ran gwariant o £2m.  Fodd bynnag, byddai setliad terfynol wedi'i wella yn ei wneud yn bosib amddiffyn ysgolion ac fe'i cynigwyd y dylid gwario £111m ar ysgolion, £73m ar Ofal Cymdeithasol a £19.5m yn y maes cyhoeddus.  Amlinellodd gwariant arfaethedig ar brosiectau a oedd wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.  Er mwyn cyflawni'r ymrwymiadau hyn, dywedodd fod angen cyflawni cyllideb gytbwys a fyddai'n arwain at gynigion lleihau cyllideb gwerth £7.6m a gofyniad i gynyddu Treth y Cyngor gan 5.4%.  Cofnododd yn swyddogol ei ddiolch i'r Panel Ymchwil Gyllidebol a Gwerthuso, y broses Craffu a Throsolwg a'r cyhoedd a oedd wedi cynnig barn a oedd wedi cael ei hystyried.

 

Cymeradwyodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio'r cynnig i gynyddu cyllideb ysgolion, gan ddatgan yr oedd wedi gwrando ar farn rhanddeiliaid.  Dywedodd Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod y 4-5 mlynedd diwethaf wedi bod yn anodd i'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Fodd bynnag, roedd y Gyfarwyddiaeth wedi ailfodelu'r gwasanaeth ac wedi colli staff, wrth barhau i gynnal y gwasanaeth a arweinir gan alw.  Dywedodd wrth y Cabinet fod dau gyfleuster gofal ychwanegol newydd yn cael eu datblygu ac y byddant yn agor cyn hir.  Rhoddodd glod i'r staff yn y Gyfarwyddiaeth am eu gwaith caled a'u hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau.

 

Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau glod i'r cynnig i fuddsoddi £2.5m mewn cryfhau pontydd yng Nghwm Ogwr.  Dywedodd y byddai'n rhaid i'r Cyngor ystyried adennill costau llawn ar gyfer y defnydd o gyfleusterau chwaraeon, lleihau amlder torri gwair ac yn y dyfodol, byddai'n rhaid ystyried tynnu cymorthdaliadau llwybrau bysus.  Dywedodd fod y Cyngor yn ymrwymedig i gyflwyno'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion a Gofal Cymdeithasol.

         

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cabinet fod pob un o 22 awdurdod lleol Cymru'n wynebu cynnydd mewn Treth y Cyngor a'u bod yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd.  Diolchodd yr Arweinydd y Panel Ymchwil Cyllideb a Gwerthuso, sy'n banel trawsblaid, a'r Pwyllgor Craffu a Throsolwg am ddarparu nifer o argymhellion ar gyfer y gyllideb.  Dywedodd mai blaenoriaethau'r Cabinet oedd cyllidebau ysgolion ac o'r cynnydd £4.6m yn Nhreth y Cyngor, byddai £4.5m yn cael ei wario ar ysgolion.  Dywedodd wrth y Cabinet fod y Cyngor wedi ysgrifennu i Lywodraeth y DU yn gofyn iddi gyllido'r cynnydd o £3.5m mewn cyfraniadau pensiynau athrawon yn llawn a'i fod yn aros am ymateb.

 

PENDERFYNWYD: y byddai'r Cabinet yn cymeradwyo'r SATC 2019-20 i 2022-23, gan gynnwys cyllideb refeniw 2019-20 a Rhaglen Gyfalaf 2018-19 i 2028-29, gan gymeradwyo'r rhain i'r Cyngor i'w mabwysiadu ac, yn benodol, gan ofyn i'r elfennau penodol canlynol gael eu hanfon i'r Cyngor at ddiben eu cymeradwyo:

 

            Y SATC 2019-20 i 2022-23

            Gofyniad Cyllidebol Net o £270,808,634 yn 2019-20

            Treth y Cyngor Band D i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o £1,470.87 ar gyfer 2019-20 (Tabl 11 o'r SATC)

            Dyrannwyd cyllidebau 2019-20 yn unol â Thabl 9 ym mharagraff 3.3 yr adroddiad

Y Rhaglen Gyfalaf 2018-19 i 2028-29, wedi'i atodi yn Atodiad G y SATC.  

Dogfennau ategol: