Agenda item

Taliadau Uniongyrchol

Gwahoddedigion:

Cynghorydd Phil White - Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Susan Cooper - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Jaqueline Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion

Pete Tyson - Rheolwr Gr?p - Contractau Comisiynu a Monitro Contractau

Arron Norman - Rheolwr Cyllid Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p Comisiynu Contractau adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar ddatblygiadau diweddar a wnaed a’r datblygiadau arfaethedig i’r dyfodol mewn perthynas â Chynllun Taliadau Uniongyrchol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ychwanegodd bod yr adroddiad hwn hefyd yn helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gyflawni ei ddyletswyddau dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. 

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p Comisiynu Contractau’r cefndir i’r taliadau uniongyrchol a’r gofynion a roddir ar awdurdodau lleol mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol. Esboniodd bod cyfanswm y bobl sy’n derbyn taliadau uniongyrchol o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi mwy na dyblu ers 2012 i 322 yn 2019. Cydnabyddir bod y gwasanaeth yn parhau i ganolbwyntio’n bennaf ar Anableddau Dysgu, Plant Anabl ac Anableddau Corfforol.

 

Er mwyn cynyddu ac ehangu’r posibilrwydd ar gyfer taliadau uniongyrchol, nododd y Rheolwr Gr?p Comisiynu Contractau bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi comisiynu’r Sefydliad Gofal Cyhoeddus i gynnal adolygiad o’r cynllun taliadau uniongyrchol ac i ddatblygu strategaeth a chynllun gweithredu ar gyfer symud ymlaen. Cafwyd ymgysylltu ac ymgynghori gan gynnwys arolwg ysgrifenedig a bostiwyd i bob un o ddefnyddwyr y gwasanaeth. Defnyddiwyd adborth i lywio datblygiad strategaeth a chynllun gweithredu ar gyfer taliadau uniongyrchol sy’n canolbwyntio ar ddeg maes allweddol i’w symud ymlaen a’i weithredu dros y 3 blynedd nesaf. Amlinellodd y nodau ac amcanion gan esbonio bod y gyfarwyddiaeth, ochr yn ochr â’r adolygiad, hefyd wedi ystyried ac adolygu’r cyfraddau a dalwyd ar gyfer taliadau uniongyrchol. Cynigiwyd y dylid cydgrynhoi a symleiddio hyn yn un swm a chodi’r gyfradd a delir i’r sawl sy’n derbyn taliadau uniongyrchol ac sy’n dewis cyflogi cynorthwywyr personol i ddarparu cymorth iddynt i £12 yr awr. Ychwanegodd bod contract y gwasanaeth cymorth taliadau uniongyrchol yn dod i ben ar 4 Gorffennaf 2019 a bod swyddogion yn y broses o adolygu ac ail-gomisiynu’r gwasanaeth; byddai hynny’n digwydd yn unol â gofynion contractiol a gweithdrefnol perthnasol.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gr?p Comisiynu Contractau oblygiadau cost gweithredu’r taliadau uniongyrchol newydd ar gyfer cymorth personol gan amcangyfrif y byddai hynny oddeutu £106k y flwyddyn. Roedd darpariaeth wedi’i gwneud ar gyfer hyn o fewn cyllideb 2019/20.  

 

Gofynnodd aelod am enghraifft o gais arloesol a gwybodaeth am y broses apelio pe byddai cais yn cael ei wrthod. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles bod y ffordd o gynnal asesiad wedi newid a bod y broses nawr yn canolbwyntio mwy ar ddeilliannau. Roedd y broses yn seiliedig ar beth oedd yn bwysig i’r unigolyn a bod swm ariannol yn cael ei ddarparu i’r unigolyn brynu eu cymorth eu hunain yn hytrach na dyraniad o oriau gofal. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles enghraifft arloesol o ddefnyddiwr gwasanaeth a oedd yn gallu prynu tocyn tymor a thalu i’w Gynorthwyydd Personol fynd gydag ef i wylio pêl-droed unwaith bob pythefnos a bod hyn yn rhoi mwy o fudd personol na 5 diwrnod yr wythnos mewn gwasanaeth dydd. Gallai unigolyn hefyd brynu gwasanaethau o’r awdurdod lleol fel defnyddio pwll hydrotherapi neu gymorth i fynd rhywle arall. Roedd hyn yn ffordd fwy hyblyg o ddarparu cymorth ond bod modd hefyd ei fonitro i sicrhau ei fod yn cael ei wario’n gywir. Roedd ymarferwyr wedi cael eu hyfforddi i ddeall y broses a bod yn hyderus yn yr hyn yr oeddent yn gallu’i gynnig fel bod unigolion yn gallu deall yn union beth oedd ar gael. 

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p Comisiynu Contractau bod y broses apelio wedi’i thynnu o’r Cod ond nad oedd yn ymwybodol o unrhyw achosion a oedd wedi’u gwrthod. Roeddynt yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn gallu cefnogi unigolyn a byddai person addas yn gweithio gyda nhw os nad oedd gan y defnyddiwr y gallu i wneud hynny. Pe byddai unrhyw anghydfod, yna roedd gweithdrefn gwyno ar gael.

 

Gofynnodd aelod faint o gynorthwywyr personol a oedd yn cael eu cyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Esboniodd y Rheolwr Gr?p Comisiynu Contractau nad oedd yr awdurdod yn cyflogi cynorthwywyr personol yn uniongyrchol. Yr unigolyn eu hunain, neu eu person addas, fyddai’r cyflogwr.

 

Gofynnodd aelod am ddiffiniad o berson addas. Esboniodd y Rheolwr Gr?p Comisiynu Contractau bod modd gwneud taliadau i ‘berson addas’ pan nad yw’r unigolyn â’r gallu i reoli’r taliadau uniongyrchol eu hunain. Bydd y person addas yn derbyn a rheoli taliadau o’r fath ar eu rhan. Ar ôl derbyn cais, byddai’r tîm yn gweithio gyda’r unigolyn i adnabod person addas a allai fod yn aelod o’r teulu neu’n gyfaill, rhywun sydd eisoes yn cyfrannu at ofal personol yr unigolyn. Byddai’r gwasanaeth cymorth taliadau personol wedyn yn cefnogi’r unigolyn neu’r person addas i weithredu fel cyflogwr, gan gynnwys cymorth gyda ffurflenni treth, ac ati. Mae’r gwasanaeth bob amser yn ystyried holl agweddau ar ddiogelu ac mae gwiriadau DBS hefyd yn eu lle. 

 

Gofynnodd aelod pa ddata oedd wedi’i gasglu mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol, pa argymhellion oedd wedi’u gwneud yn dilyn yr archwiliad annibynnol a pha mor anodd fyddai eu gweithredu. Esboniodd y Rheolwr Cyllid Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles mai ychydig yn unig o’r argymhellion oedd yn ymwneud â chyllid. Roedd un yn ymwneud â’r cysoniad rhwng beth oedd yr awdurdod yn ei dalu allan a beth oedd yn cael ei wario, er mwyn sicrhau ei fod wedi’i wario ar y gofal a’r cymorth angenrheidiol. Gofynnodd aelod a oedd unrhyw argymhellion yn ymwneud â’r system WCCIS. Dywedwyd wrtho nad oedd dim argymhellion yn ymwneud â’r system a bod y rhan fwyaf yn ymwneud â’r broses. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles bod archwilio wedi cael eu gofyn i adolygu’r system er mwyn darparu hyder yn y system newydd ac i roi sylwadau ar agweddau ariannol. Gofynnodd aelodau am dderbyn yr argymhellion a wnaed yn ystod yr archwiliad annibynnol mewn perthynas â’r systemau ariannol a’r prosesau monitro sy’n cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd. Cynigiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles roi adroddiad gwybodaeth i aelodau ynghylch sut mae WCCIS wedi datblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Cytunodd aelodau y byddent yn derbyn hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

Gofynnodd aelod pa mor aml yr oedd achosion yn cael eu hadolygu i wirio sawl awr y dylai unigolyn dderbyn. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles bod achosion yn cael eu hadolygu bob 12 mis, ond bod achosion mwy cymhleth yn cael eu hadolygu’n amlach. Roedd yna enghreifftiau lle roeddynt wedi adfachu gordaliadau a dyna felly pam bod angen adolygu’r protocol. 

 

Gofynnodd aelod pa gysoniad oedd modd ei wneud ar gyfer prynu tocynnau pêl-droed a sut oeddynt yn gwybod ei fod yn llesol i’r unigolyn. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles bod cysylltiadau gyda’r broses cynllunio gofal a’r canlyniadau yr oeddynt eisiau’u cyflawni. Roedd cynlluniau gofal yn cael eu hadolygu’n rheolaidd. 

 

Gofynnodd aelod beth oedd yn ei le i sicrhau bod aelod o’r teulu neu ffrind yn gallu gwneud y gwaith angenrheidiol, ac nad oeddynt yn cymryd mantais ar drefniant. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles bod hwn yn faes sensitif a bod llwyddiant yn dibynnu ar gynnal asesiad trylwyr ac adolygiadau rheolaidd. Byddai’r gweithiwr cymdeithasol yn esbonio’r broses yn glir a byddai’r teulu’n ymwybodol y byddai camau dilynol yn digwydd. Roedd staff yn gyfrifol am ofyn cwestiynau a gwneud yr arsylwadau cywir. Roedd asesiadau risg yn cael eu cynnal, ac os oeddynt yn ymwybodol o unrhyw faterion diogelu, yma roedd polisi yn ei le. Pwysleisiodd bwysigrwydd sicrhau bod ymarferwyr wedi’u hyfforddi’n briodol a bod y protocolau a’r gweithdrefnau cywir yn eu lle.

 

Diolchodd aelod i’r swyddogion am y cyflwyniad gan ofyn am fap proses o’r Fframwaith yr oedd Taliadau Uniongyrchol yn cael eu cynnig o’i fewn, ac o bosibl rhai astudiaethau achos er mwyn iddynt allu gwerthfawrogi’r gwirio a’r cydbwyso a ddigwyddai i sicrhau bod y pwrs cyhoeddus yn cael ei ddiogelu.  

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i’r aelodau a’r swyddogion am eu cyfraniadau gwerthfawr. Roedd yn credu eu bod yn teithio i’r cyfeiriad cywir a’i bod yn bwysig parchu rhyddid a dewis wrth symud ymlaen er mwyn lles yr unigolion dan sylw.  

 

Gofynnodd aelod a oedd unrhyw drafferthion cychwynnol gyda’r ddesg gymorth newydd. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles nad oedd yn ymwybodol o unrhyw broblemau. Awgrymodd yr aelod y dylai swyddogion ofyn am ostyngiad yn y contract cynnal blynyddol a’r ffi trwydded gyda WCCIS gan mai Pen-y-bont ar Ogwr oedd yr awdurdod cyntaf i ddefnyddio’r system newydd, ac felly y dylid cydnabod a gwobrwyo hyn drwy ostwng y taliadau. 

 

Casgliadau

 

Argymhellodd aelodau y dylai swyddogion ofyn am ostyngiad yn y contract cynnal blynyddol a’r ffi trwydded gyda WCCIS. 

Argymhellodd aelodau y dylid gosod yr eitem hon ar y Rhaglen Waith i’r Dyfodol er mwyn i Craffu fonitro Taliadau Uniongyrchol yn chwarterol. 

 

Gwybodaeth Bellach

 

Cynigiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles roi adroddiad gwybodaeth i aelodau ynghylch sut mae WCCIS wedi datblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Cytunodd aelodau y byddent yn derbyn hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Gofynnodd aelodau am dderbyn map proses o’r Fframwaith yr oedd Taliadau Uniongyrchol yn cael eu cynnig o’i fewn, ac o bosibl rhai astudiaethau achos.

Gofynnodd aelodau am dderbyn yr argymhellion a wnaed yn ystod archwiliad annibynnol mewn perthynas â’r systemau ariannol a’r prosesau monitro sy’n cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd. 

 

Dogfennau ategol: