Agenda item

Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2019-20 ac Ymlaen

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 Dros Dro adroddiad. Diben yr adroddiad yw cael cymeradwyaeth y Cabinet i’r canlynol:-

 

            Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2019-20 sy’n cynnwys Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys

            Strategaeth Gyfalaf 2019-20 sy’n cynnwys y Dangosyddion Darbodus 

            Polisi Darpariaeth Ariannol Leiaf Blynyddol 

            Rheolau Gweithdrefnau Ariannol wedi’u diweddaru ar gyfer eu hymgorffori o fewn y Cyfansoddiad

 

Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 fel y’u diwygiwyd yn cynnwys darpariaethau manwl ar gyfer rheoliadau cyllid cyfalaf a chyfrifyddu gan gynnwys y defnydd o dderbyniadau cyfalaf a’r hyn sydd i’w drin fel gwariant cyfalaf.   

 

Yn Rhagfyr 2017, cyhoeddodd CIPFA rifynnau newydd o’r Cod Ymarfer ar Reolaeth Trysorlys a’r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol. O fewn y Cod Darbodus, mae gofyniad newydd ar awdurdodau lleol i gynhyrchu Strategaeth Gyfalaf y mae’n rhaid ei chymeradwyo gan y Cyngor.  

 

Dyma brif nodweddion y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys arfaethedig:-

 

            Mae’n strategaeth integredig lle caiff benthyciadau a buddsoddiadau eu rheoli yn unol â’r arfer proffesiynol gorau;

            Mae’r Cyngor yn benthyg arian naill ai i fodloni anghenion llif arian tymor byr neu i ariannu cynlluniau cyfalaf o fewn y rhaglen gyfalaf ond nid yw’r benthyciadau a drefnir yn gysylltiedig ag asedau penodol;

            Un o Amcanion Benthyg y Cyngor yw cynnal sefyllfa o dan-fenthyg, sy’n golygu nad yw’r angen sylfaenol i fenthyg ar gyfer dibenion cyfalaf wedi’i lwyr ariannu gyda dyled benthyg. Yn hytrach, mae’r Cyngor yn benthyg yn fewnol gan ddefnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor, balansau a llif arian fel mesur dros dro fel y dangosir yn Nhabl 3;  

            Mae’r Cyngor yn agored i risgiau ariannol gan gynnwys y posibilrwydd o golli arian a fuddsoddwyd ac effaith cyfraddau llog newidiol ar refeniw. 

 

Nododd y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 Dros Dro mai prif nodweddion y Strategaeth Gyllid arfaethedig yw:-

 

1)         Gosod y cyd-destun hirdymor ar gyfer gwneud penderfyniadau ar wariant cyfalaf a buddsoddi; 

 2)         Sicrhau bod holl gynlluniau cyfalaf a buddsoddi, a holl fenthyg yn ddarbodus a chynaliadwy;

 3)         Cynnwys y Dangosyddion Darbodus rhagnodedig ar gyfer rhaglen dreigl tair blynedd; 

 4)         Rhoi trosolwg lefel uchel o sut mae gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a gweithgaredd rheoli’r drysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau.

 

Defnyddiwyd egwyddorion y Strategaeth Gyfalaf wrth ddyrannu adnoddau a chynlluniau cyfalaf gyda’r Rhaglen Gyfalaf o fewn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Yna amlinellodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog S151 Dros Dro egwyddorion  arweiniol y Strategaeth Gyfalaf, yn ogystal ag ymhelaethu ar rai o brif bwyntiau Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (Cyfeiriwyd at Atodiad A i’r adroddiad).

 

Roedd manylion rhai o brif bwyntiau’r Strategaeth Gyfalaf yn Atodiad B i’r adroddiad a chyfeiriodd yr Aelodau atynt yn ôl yr angen.

 

Mae’r Strategaeth Gyfalaf hefyd yn cynnwys Darpariaeth Ariannol Leiaf Blynyddol 2019-20 a’r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (Atodiad C), sydd wedi’u diweddaru er mwyn ymgorffori’r gofyniad newydd i gynhyrchu Strategaeth Gyllid y mae’n rhaid ei chymeradwyo gan y Cyngor yn flynyddol. Dangosir y newidiadau a wnaed yn Atodiad C.

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd bod yr eitem hon wedi’i rhannu’n ddiweddar gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol a oedd i bob pwrpas yn gefnogol i’r Strategaeth Gyfalaf wrth symud ymlaen, ac eithrio gofyn am wybodaeth bellach mewn perthynas â dyrannu arian ar gyfer datblygiadau dan drefniadau Adran 106.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet – Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol a oedd Swyddogion wedi nodi unrhyw bryderon neu risgiau mewn perthynas â chanlyniadau Brexit.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Dros Dro ei fod ef a rhai Aelodau o’r Cabinet wedi mynychu cyfarfod Fforwm Brexit ddoe, lle’r oedd yr Awdurdod wedi rhannu gyda’r Fforwm restr gynhwysfawr o risgiau posibl y bydd efallai angen eu hystyried gan ddibynnu ar ganlyniad Brexit.  Roedd bwriad hefyd i gyflwyno adroddiad i gyfarfod o’r Cabinet yn y dyfodol ar destun Brexit a Chofrestr Risg y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:             Bod y Cabinet wedi ystyried yr adroddiad gan nodi y bydd y canlynol yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor er cymeradwyaeth:-

 

1)       Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2019-20 gan gynnwys Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys 2019-20 i 2021-22 (Atodiad A i’r adroddiad);

2)       Strategaeth Gyfalaf 2019-20 gan gynnwys y Dangosyddion Darbodus 2019-20 i 2021-22 (Atodiad B);

3)        Datganiad Darpariaeth Ariannol Leiaf Blynyddol 2019-20 (Atodiad B – Atodlen A)

4)       y diwygiadau i’r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (Atodiad C) ac yn dilyn hynny, y Cyfansoddiad wedi’i ddiweddaru fel y nodir yn Atodiad D. 

 

Dogfennau ategol: