Cofnodion:
Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol adroddiad. Diben yr adroddiad oedd cyflwyno i’r Cabinet a chael cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Strategaeth Ynni Ardal Leol Pen-y-bont ar Ogwr a’r Cynllun Ynni Clyfar.
Amlinellodd ychydig o’r wybodaeth gefndir a oedd yn gosod y cyd-destun i Aelodau, a dywedodd mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr oedd un o’r 3 awdurdod lleol arddangos a ddewiswyd yn y DU ar gyfer y rhaglen Gwres Systemau Clyfar (SSH).
Rhannwyd y rhaglen yn dri cham fel y dangosir ym mharagraffau 3.4 i 3.6 o’r adroddiad.
Cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol bod datblygiad Strategaeth Ynni Ardal Leol yn gonglfaen pwysig i’r rhaglen SSJ, a bod y Strategaeth Ynni Ardal Leol a’r Cynllun Ynni Clyfar yn cynnig llwybr tuag at ddatgarboneiddio gwres o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Wedyn, rhoddodd wybodaeth bellach a thechnegol mewn perthynas â’r Strategaeth a’r Cynllun uchod, a nododd paragraff 4.8 o’r adroddiad rai manteision y byddai’r Cynllun Ynni Clyfar yn ei ddarparu. Roedd paragraff 4.9 yn amlinellu rhai prosiectau yr ystyriwyd bod modd eu gwireddu o fewn y Cynllun Ynni Clyfar.
Daeth a’i gyflwyniad i ben trwy ychwanegu nad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fyddai’n ariannu’r Strategaeth/Cynllun gan fwyaf, a chyfeiriodd yr Aelodau at oblygiadau ariannol yr adroddiad a oedd yn amlinellu rhagor o wybodaeth ynghylch dulliau ariannu.
Dywedodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau bod y Strategaeth Ynni Ardal Leol yn cynnwys gweledigaeth a nodau hirdymor Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y dyfodol hirdymor (2050), a bod y Cynllun ynni Clyfar yn gwneud yr un peth, ond ar gyfer cyfnod byrrach (hyd at 2025).
Byddai’r rhain yn galluogi’r Awdurdod i:-
· Datgarboneiddio gwres o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
· Darparu cyfleoedd cyflogaeth newydd
· Denu busnesau newydd a rhai sydd yma eisoes i dreialu mentrau o fewn y Fwrdeistref Sirol
Nid oedd yn realistig disgwyl i Ben-y-bont ariannu a chyflenwi’r holl brosiectau hyn.
O ran y ddwy Strategaeth, y bwriad oedd cael y sector cyhoeddus a phreifat i fuddsoddi i greu’r offer, modelau a’r cadwyni cyflenwi y gellir wedyn eu hail-adrodd ledled y DU, er mwyn sicrhau bod modd cyflawni targedau datgarboneiddio 2050 y DU ac er mwyn i Ben-y-bont allu elwa ar y manteision economaidd a ddaw wrth bontio o fewn marchnad ynni’r DU.
Felly ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ariannu a chyflenwi’r Cynllun Ynni Clyfar, ond yn hytrach bydd yn mabwysiadu rôl hwylusydd gan ddarparu’r mannau a’r amodau o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a fydd yn denu partneriaid sector preifat a’r buddsoddiad sydd ei angen i gyflenwi’r Cynllun Ynni Clyfar.
Byddai hynny’n golygu fod Pen-y-bont yn dod yn chwaraewr amlwg o ran ail-ddylunio’r modd gaiff ynni ei gynhyrchu a’i gyflenwi yn y dyfodol, gan sicrhau bod y defnyddiwr wrth galon hynny.
Yn olaf, dywedodd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynnal cynhadledd ar y cyd ag Energy Systems Catapult ddydd Mercher diwethaf. Llywodraeth San Steffan sydd wedi sefydlu’r corff hwn i ysgogi newid ynni a chadarnhawyd ar y diwrnod eu bod nawr yn ystyried Pen-y-bont yn arweinydd sector yn y maes, a’n bod hefyd yn bartner a ffafriwyd.
PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:-
1) Yn derbyn argymhellion y Strategaeth Ynni Ardal Leol.
2) Yn cymeradwyo’r Cynllun Ynni Clyfar.
Dogfennau ategol: