Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad. Diben yr adroddiad oedd hysbysu’r Cabinet o ganlyniad yr ymgynghoriad ar y cynnig i sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu i ddisgyblion ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd (arferai gael ei hadnabod fel Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw).
Yn Rhagfyr 2011, derbyniodd y Cabinet ddiweddariad ar adolygiad o’r cymorth a’r ddarpariaeth ar gyfer cynnwys plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mewn cysylltiad â’r cynnig hwn, agorwyd Canolfan Adnoddau Dysgu ar gyfer Disgyblion ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd y mis Mawrth 2018.
Er mwyn symud ymlaen gyda chynnig i sefydlu Canolfan Adnoddau Dysgu ar gyfer Disgyblion ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig, cynhaliwyd ymarferion ymgynghori yn ystod cyfnod rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2018, gyda staff, llywodraethwyr, rhieni a disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Calon Y Cymoedd a hefyd gyda’r gymuned ehangach, yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion Statudol.
Roedd Adroddiad Ymgynghori ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1, a thynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd sylw at bwyntiau amlwg yr adroddiad er budd yr Aelodau.
Cyfeiriodd wedyn at oblygiadau ariannol yr adroddiad, gan nodi y byddai cyllid ar gyfer y Ganolfan Adnoddau Dysgu yn cael ei ddyrannu drwy gyllideb ddirprwyedig yr ysgol brif ffrwd, drwy ddyraniad fformiwla’r ysgol, gan ddefnyddio cyfuniad o ddyraniad dosbarth a’r elfen uned disgybl wedi’i bwysoli o ran oed (AWPU).
Byddai lefelau cyllid yn deillio o anghenion staffio presennol tybiannol ac maent yn seiliedig ar gyflog athro a dau aelod o staff cynorthwyol. Byddai’r costau sefydlu untro yn £10k.
Fel rhan o broses gosod y gyllideb ar gyfer 2017-18 dan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, dyrannwyd cyfanswm o £263k dan bwysau cyllidebol i sefydlu Canolfannau Adnoddau Dysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion ag Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg o’r flwyddyn 2017-2018 ymlaen. Fel rhan o broses gosod y gyllideb ar gyfer 2018-2019, dyrannwyd £51k pellach i dalu am effaith pwysau blwyddyn lawn y dyraniad blaenorol. Defnyddir y dyraniadau hyn i ariannu’r Ganolfan Adnoddau Dysgu, gan gynnwys y costau sefydlu, yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd, pe byddai’r cynnig yn mynd yn ei flaen.
Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio ei fod ef a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn ymweld ag ysgolion, a bod rhan o’u hymweliad bob amser yn golygu edrych ar lefel y gefnogaeth oedd ei hangen ar ddisgyblion gyda’r math yma o anghenion.
Ychwanegodd yr Arweinydd mai’r ysgol sy’n destun yr adroddiad oedd yr Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg gyntaf yn y Fwrdeistref Sirol i gynnwys Canolfan Adnoddau Dysgu ar gyfer plant ag awtistiaeth. Ychwanegodd hefyd ei fod yn falch iawn gyda’r ymateb hynod bositif a dderbyniwyd gan ddisgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr yn ystod yr ymgynghoriad.
Daeth â’r drafodaeth ar yr eitem i ben drwy nodi y byddai darpariaeth arbenigol debyg ar gael i’r un disgyblion pan fyddent yn cyrraedd oedran uwchradd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.
PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:-
(1) Yn nodi canlyniad yr ymgynghoriad gyda phartïon â ganddynt ddiddordeb fel y manylir yn Adroddiad yr Ymgynghoriad sydd ynghlwm wrth yr adroddiad ategol (Atodiad 1 i’r adroddiad).
(2) Yn cymeradwyo’r Adroddiad Ymgynghori ar gyfer ei gyhoeddi.
(3) Yn awdurdodi cyhoeddiad Hysbysiad Cyhoeddus Statudol ar y cynnig.
Dogfennau ategol: