Cyflwyno Cyflwyniad gan Bennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru.
Cofnodion:
Fe wnaeth yr Arweinydd a'r Cadeirydd groesawu Clair Germain, Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, i'r cyfarfod a nodi y byddai’n rhoi cyflwyniad PowerPoint ynghylch y pwnc uchod.
Roedd y cyflwyniad yn cynnwys y sleidiau canlynol:-
Comisiynu Adolygiad
Adolygiad annibynnol a sefydlwyd yn 2017 i ystyried rôl Cynghorau Cymuned a Thref yn y dyfodol.
Panel Trawsbleidiol, gydag arbenigedd/profiad ehangach ategol.
Cafwyd 12 mis i wneud y canlynol:
· Ymchwilio i rôl bosibl llywodraeth leol o dan Gynghorau Awdurdodau Lleol, gan ddefnyddio arferion gorau;
· Diffinio’r model(au)/strwythur(au) mwyaf priodol er mwyn cyflawni’r rôl hon;
· Ystyried sut byddai'r strwythurau hyn yn cael eu defnyddio ledled Cymru. Bydd hyn yn cynnwys ystyried unrhyw sefyllfaoedd lle na fyddant yn angenrheidiol nac yn briodol.
Cynnal yr Adolygiad
Roedd yn cynnwys gwaith ymgysylltu a chasglu tystiolaeth helaeth, gan gynnwys:
Canfyddiadau ac Argymhellion
Fe gyflwynodd y Panel safbwyntiau ynghylch:
· Beth yw Cynghorau Cymuned a Thref;
· Beth mae Cynghorau Cymuned a Thref yn ei wneud;
· Sut mae Cynghorau Cymuned a Thref yn gwneud hynny;
· Sut mae Cynghorau Cymuned a Thref yn cael eu dal i gyfrif.
Cyflwynwyd yr adroddiad terfynol ym mis Hydref 2018.
Parhau â'r drafodaeth
Cyflwynwyd datganiad ysgrifenedig ar 31 Tachwedd 2018 yn nodi dull polisi Llywodraeth Cymru:
1. Annog a galluogi newid i ddigwydd yn naturiol;
2. Rhoi elfen o ddewis yngl?n â pha mor bell a pha mor gyflym mae Cyngor yn penderfynu symud;
3. Creu amgylchedd lle gall Cynghorau ehangu eu gweithgareddau pan maen nhw’n teimlo y gallant/dylent wneud hynny
Meysydd Gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru
Meysydd lle gallwn, a lle byddwn, yn cymryd camau gweithredu ar unwaith, a meysydd y mae angen eu hystyried ymhellach ac ymgynghori yn eu cylch
Thema
Egluro rôl y sector:
Camau gweithredu ar unwaith
Cynnal ymgyrch er mwyn:
Ystyriaeth bellach
1. Yn ogystal a chodi ymwybyddiaeth o fanteision sefydlu Cynghorau Tref/Cymuned, edrych ar fodelau eraill a allai roi rhywbeth i gymunedau ganolbwyntio arno mewn ardaloedd trefol;
2. Ystyried ymhellach pa mor ddefnyddiol fyddai ‘gwasanaethau sylfaenol wedi’u lleoli’, yr awydd i newid a pha mor gyflym fyddai modd cynnal hynny;
3. Ystyried ymgynghori ynghylch manteision cynnal (Cynghorwyr â dwy het)
Cynyddu democratiaeth a chyfranogiad:
Camau gweithredu ar unwaith
Ystyriaeth bellach
Roedd Aelod yn teimlo bod Cynghorau Cymuned llai yn ei chael yn anodd helpu’r Awdurdod Lleol maen nhw’n ei wasanaethu, h.y. o ran darparu neu gefnogi gwasanaethau, gan gynnwys rhywfaint o gymorth ariannol ar gyfer y rhain o’u dyraniad praesept. Roedd yn teimlo, o fewn BCB, y gallai fod yn fuddiol lleihau nifer y Cynghorau Tref/Cymuned a/neu gyfuno rhai cyffiniol er mwyn eu gwneud yn fwy cadarn a gwerthfawr.
Ychwanegodd fod rhai o'r cynghorau llai yn ei chael yn anodd gweithio ar eu pen eu hunain.
Nododd y Cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru bod rhai ardaloedd yng Nghymru lle nad oes Cynghorau Tref/Cymuned o gwbl, neu does dim llawer ohonynt – er enghraifft, dim ond un sydd ym Merthyr, a dim ond ychydig iawn sydd ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Cytunodd fod angen i’r adolygiad edrych ar ba mor gynaliadwy a chadarn yw Cynghorau Tref/Cymuned, yn enwedig (yn yr cyfnod hwn o gyni) yng nghyswllt y gwasanaethau y gallant eu darparu i’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.
Ychwanegodd fod ffiniau Cynghorau Tref/Cymuned dan ystyriaeth fel rhan o'r adolygiad, ac y byddai Llywodraeth Cymru yn annog unrhyw gynigion ynghylch Cynghorau Tref/Cymuned yn gweithio ar y cyd er budd etholwyr fel rhan o drefn Ffederaleiddio.
Fe wnaeth Aelod hefyd nodi y dylai rhagor o arian fod ar gael i Gynghorau Tref/Cymuned, er mwyn rhoi cefnogaeth ariannol ar gyfer unrhyw swyddi â thâl, fel cyflog y Clerc.
Roedd Aelod yn teimlo ei bod yn bwysig gwneud y pwynt uchod, o ystyried bod gwahaniaeth enfawr rhwng praeseptau gwahanol gynghorau, er enghraifft, Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr – tua £550k y flwyddyn, a Chyngor Cymuned Merthyr Mawr – tua £4,800k.
Dywedodd y cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru wrth y Fforwm bod ffrydiau cyllid penodol ar gael ar gyfer Cynghorau Tref/Cymuned (gan Lywodraeth Cymru) ac y byddai’n anfon manylion y rhain at Glercod y tu allan i’r cyfarfod er mwyn iddynt allu rhannu manylion y rhain â’u Haelodau.
Cyn i'r drafodaeth ynghylch yr eitem hon ddod i ben, roedd y cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru yn annog yr holl Gynghorau Tref/Cymuned i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yngl?n â’u gweledigaeth o ran rôl Cynghorau Tref/Cymuned yng Nghymru fel rhan o broses ymgynghori barhaus wrth symud ymlaen, nes bydd yr adolygiad yn dod i ben.
Fe wnaeth yr Arweinydd (a'r Cadeirydd) ddiolch i Ms Germain ar ran yr Aelodau am ddod i'r cyfarfod ac am roi cyflwyniad manwl a llawn gwybodaeth.
PENDERFYNIAD: Fe wnaeth Aelodau gydnabod y cyflwyniad gan Bennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru.
Dogfennau ategol: