Cofnodion:
Fe wnaeth y Rheolwr Cynllunio Datblygiad gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Rheoli Datblygiad yngl?n â’r drafft o weledigaeth, amcanion, twf ac opsiynau'r strategaeth ofodol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Pen-y-bont ar Ogwr.
Eglurodd fod y 3 adroddiad technegol (atodiadau A, B ac C i'r adroddiad eglurhaol) yn rhoi gwybodaeth gefndirol yng nghyswllt y weledigaeth ddrafft a'r amcanion, yr opsiynau twf a’r opsiynau arfaethedig o ran strategaeth ofodol a gynigiwyd gyfer y CDLl Newydd.
Bwriad yr adroddiadau technegol hyn fydd darparu gwybodaeth ar gyfer y cyfranogiad a’r ymrwymiad cyn-adneuo parhaus, ac ar gyfer paratoi'r strategaeth ddewisol a'r camau dilynol o ran paratoi cynllun:
• Adroddiad Technegol 1: Drafft o’r Weledigaeth a'r Amcanion (Atodiad A);
• Adroddiad Technegol 2: Drafft o'r Opsiynau Twf Strategol (Atodiad B);
• Adroddiad Technegol 3: Drafft o'r Opsiynau Gofodol Strategol (Atodiad C).
Roedd adrannau nesaf yr adroddiad, yn amlinellu crynodebau gweithredol yr Adroddiadau Technegol uchod ac fe roddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygiad restr o brif bwyntiau pob un er budd yr Aelodau.
Wedyn, fe roddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygiad gyflwyniad PowerPoint, a oedd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y pwnc, fel a ganlyn:-
Bydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i gael ei drawsnewid er mwyn bod yn rhwydwaith gynaliadwy, diogel, iach a chynhwysol o gymunedau sy’n cynnwys aneddiadau cryf, cyd-ddibynnol, cysylltiedig a chydlynus sy’n gallu cynnig y canlynol i bobl:
· Y dechrau gorau mewn bywyd drwy ddarparu amgylchedd dysgu effeithiol i sicrhau'r canlyniadau gorau posib i ddysgwyr;
· Darparu cyfleoedd i leihau anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd;
· Gwell ansawdd bywyd ac amgylchedd iach i bawb sy’n byw yn yr ardal, yn gweithio yno, neu’n ymweld â'r ardal ac yn ymlacio ynddi.
Byddai'r Weledigaeth ddiwygiedig ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei chyflawni drwy 4 Amcan Strategol, h.y.:-
Pan fydd wedi'i sefydlu’n llwyr, bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn cynorthwyo â'r canlynol:-
Roedd tri opsiwn o ran twf yn cael eu hystyried ac roedd y rhain wedi’u dosbarthu’n rhai Uchel, Canolig ac Isel; fe wnaeth Swyddogion egluro mai’r opsiwn twf Canolig oedd yr un a oedd yn cael ei ffafrio. Dyma rai o brif bwyntiau'r opsiwn hwn:-
Cefndir
• Edrych ar dueddiadau blaenorol o ran geni, marw a mudo
• Trosi i aelwydydd, anheddau a swyddi
• Dadansoddi amryw o wahanol sefyllfaoedd er mwyn pennu tri opsiwn o ran twf
• Rhoi sail i'r Cynllun Datblygu Lleol
Opsiwn Twf Canolig; +505 o anheddau, +266 o swyddi
• Amcan Llywodraeth Cymru + Amcangyfrif Canol-Blwyddyn
• Tueddiadau o 2011/12 - 2016/17, tebyg i gyfradd adeiladu
• Llif mudo net uwch
• Proffil oedran iau, twf yn y categori 35-44 oed
• Creu swyddi drwy weithlu medrus
Argymell yr Opsiwn Twf Canolig (am y rhesymau canlynol)
• Lefelau twf cynaliadwy i sicrhau buddsoddiad
• Wedi denu aelwydydd sefydledig sy’n gweithio
• Cyflogwyr wedi’u denu gan weithlu ifanc, medrus
• Sicrhau tai fforddiadwy, integredig
• Gwella fforddiadwyedd y farchnad yn gyffredinol drwy gyflenwi
O dan y pennawd Opsiynau Gofodol ar gyfer twf, roedd y rhain fel a ganlyn (argymhellir Opsiwn 4 ar y sail ei fod yn gyfuniad o’r 3 arall):-
Opsiwn 1 – Parhau â'r strategaeth bresennol sy’n seiliedig ar y CDLl Adfywio;
Opsiwn 2 – Canolfannau Trafnidiaeth Gyhoeddus a Choridorau Ffyrdd Strategol (twf yn cael ei gyfeirio at ganolfannau trafnidiaeth gyhoeddus mawr a'r rhwydwaith priffyrdd strategol (M4)
Opsiwn 3 – Blaenoriaethu twf i'r gogledd o'r M4 – Strategaeth seiliedig ar y Cymoedd
Opsiwn 4 – Strategaeth seiliedig ar Adfywio a Thwf Cynaliadwy
I gloi, yng nghyswllt y safleoedd posib (i sicrhau twf), fe wnaeth y Rheolwr Cynllunio Datblygiad gadarnhau'r canlynol:-
Ar ôl y cyflwyniad, fe wnaeth y Swyddogion Cynllunio ymateb i gwestiynau gan Aelodau.
PENDERFYNIAD: Fe wnaeth y Fforwm gydnabod cynnwys Adroddiadau Technegol 1, 2 a 3 (Atodiadau A, B a C i'r adroddiad) fel sail i’r gwaith o baratoi dogfen y Strategaeth sy’n cael ei Ffafrio, a fydd yn cael ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Hydref/Tachwedd 2019.
Dogfennau ategol: