Agenda item

Gofal Cymdeithasol Plant - Pecynnau Cefnogi Prifysgol i Ymadawyr Gofal - Polisi

Cofnodion:

Cyflwynodd Reolwr y Gr?p Diogelu a Sicrhau Ansawdd adroddiad ar Becynnau Cefnogi Prifysgol i Ymadawyr Gofal gan gynnwys yr hyn y darparodd. Eglurodd bod Ysgrifennydd Addysg y Cabinet wedi cyhoeddi'r Adroddiad Diemwnt sy'n cynnig pecyn o argymhellion â chostau ar gyfer cyllid addysg uwch yng Nghymru yn y dyfodol. Cytunwyd i hyn gan Lywodraeth Cymru ac fe'i gweithredwyd yn ystod blwyddyn academaidd 2018-19

 

Bu iddi hefyd egluro i Aelodau bod yr awdurdod lleol ar hyn o bryd yn cefnogi 9 o ymadawyr gofal trwy amrywiaeth o gyrsiau Prifysgol gan gynnwys addysgu, cyfrifeg a gradd Meistr mewn Cyfiawnder Ieuenctid. Dywedodd bod hyn yn newyddion da ac yr amcangyfrifir y bydd y nifer hwn yn cynyddu dros y rhai blynyddoedd nesaf.

 

Cynigiodd Aelod ei sylwadau ar y polisi gan nodi ei bod yn falch iawn bod yr arfer y mae'r awdurdod wedi bod yn ei ddilyn ers sawl blwyddyn wedi'i roi mewn polisi.

 

Bu i'r Arweinydd groesawu'r adroddiad a awgrymodd y dylid ymgymryd ag adolygiad yn y dyfodol i sicrhau bod y cymorth yr un mor effeithiol ac i symleiddio'r broses gymaint ag y gellir.

 

Cytunodd Rheolwr y Gr?p Diogelu a Sicrhau Ansawdd y byddai adolygiad o'r gweithrediad ymhen 6 - 12 mis ar y broses gyfan yn fuddiol i gadw cofnod o gynnydd ymadawyr gofal presennol a newydd. Gallai'r adolygiad hefyd sicrhau bod y polisi yn cael effaith.

 

Nododd aelod ei bod yn croesawu'r polisi ac yn credu ei fod yn syniad da ond holodd am y gost gyffredinol i'r awdurdod. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y gallai ddarparu Aelodau gyda'r data hwnnw ar ôl y cyfarfod.

 

Dywedodd Aelod arall er ei bod yn cytuno y dylai gyd-fynd â'r gyllideb, nid oedd yn credu y dylid cael cap ar y gyllideb ar yr hyn a ellir ei roi i ymadawyr gofal.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i'r aelod bod yr unigolion i gyd wedi'u gwerthuso'n unigol ond tawelodd ei meddwl drwy ddweud nad oes cap ar yr hyn a ellir ei roi. Cytunodd y byddai angen proses fonitro i sicrhau bod swm cyfrifol o arian yn cael ei wario.

 

Gofynnodd Aelod a roddir cymorth i fyfyrwyr wneud cais am grantiau. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod cymorth i wneud cais am y grantiau a oedd ar gael iddynt yn ogystal â chanfod gwybodaeth arall yngl?n â chyllid y gall myfyrwyr wneud cais amdano.

 

Bu i Aelod arall gefnogi'r polisi ond holodd pwy oedd yn gyfrifol am yr Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb gan nad yw'r swyddog blaenorol yn gweithio i'r awdurdod mwyach. Eglurodd yr arweinydd mai'r Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fyddai'n gyfrifol am fonitro.

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywiad a oedd unrhyw safbwyntiau yngl?n â myfyrwyr yn gweithio rhan amser ochr yn ochr â'u hastudiaethau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gofal Cymdeithasol a Llesiant mai penderfyniad yr unigolyn oedd hynny ac nad oedd unrhyw gyfyngiadau mewn lle. Byddant yn gwneud popeth y gallant i barhau i ddarparu cyngor a chymorth iddynt cyn hired â nad yw'r gwaith yn amharu ar eu hastudiaethau.

 

Gofynnodd Aelod a oes gweithdrefn mewn lle i ymadawyr gofal sy'n astudio yn y brifysgol ac sy'n ystyried tynnu'n ôl rhag eu hastudiaethau naill ai i olrhain gyrfa arall neu oherwydd eu bod yn teimlo nad oedd y Brifysgol ar eu cyfer nhw.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mai'r prif bryder oedd sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth sydd eu hangen arnynt yn y Brifysgol gan yr awdurdod yn ogystal â'r Brifysgol. Petai'r myfyriwr yn dal i deimlo eu bod eisiau gadael y Brifysgol yna byddant yn darparu cymorth iddynt a sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a'r cyfarwyddyd i olrhain gyrfa arall.   

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn teimlo y byddai'n syniad gwych siarad ag ymadawyr gofal llwyddiannus ac iddynt roi eu profiadau a'u stori gadarnhaol i ymadawyr gofal presennol neu newydd sy'n ystyried mynd i'r Brifysgol. Gall hyn helpu iddynt fagu hyder ynddyn nhw ei hunain yn ogystal â hyder yn y cymorth emosiynol ac ariannol a all fod ar gael iddynt. Cynghorodd Rheolwr y Gr?p Diogelu a Sicrhau Ansawdd yr Aelodau bod gwasanaeth mentora mewn lle eisoes ond byddai'n fodlon datblygu'r gwasanaeth ymhellach a chroesawodd unrhyw safbwyntiau yngl?n â hyn i'w cyflwyno yn ystod yr adolygiad.

 

Pwysleisiodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywiad bod angen i'r wybodaeth yng nghyswllt manylion y polisi gael eu gwneud yn gyhoeddus i sicrhau nad yw camddealltwriaeth yn lledaenu ond hefyd i ddarparu ymadawyr gofal y dyfodol â rhagor o wybodaeth ac o ganlyniad, mwy o gymhelliant, i fynd i'r Brifysgol.

 

Cynghorodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Aelod y Cabinet y byddant yn cysylltu ag ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol i helpu hyrwyddo'r polisi. Dywedodd hefyd y byddai ychwanegu'r polisi at y cynllun busnes yn fuddiol a'u bod yn ystyried gwneud hyn yn y dyfodol.

 

Yna, darparodd Aelodau â gwybodaeth yngl?n â datblygiad yng nghyswllt fframwaith sydd yn y cyfnod ymgynghori ar hyn o bryd. Nod y gweithgor a oedd yn gyfrifol am y fframwaith oedd iddo ddarparu mwy o ddata ac ystadegau yngl?n â beth a wnaed ym mhob cam o'r broses ymadawyr gofal. Profwyd y fframwaith gan Gyngor Abertawe a Chyngor Gwynedd, gwirfoddolodd y ddau Gyngor i roi'r fframwaith dan brawf a gobeithiasant drafod y canfyddiadau â Llywodraeth Cymru. Gobeithiodd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ddod â chanlyniadau eu hymgynghoriad i'r pwyllgor hwn.

 

Yn ogystal, eglurodd i'r Aelodau pam nad oedd rhai o'r eitemau ar y Blaenraglen Waith (FWP) wedi'u cyflwyno i'r pwyllgor heddiw. Eglurodd bod ymholiadau yn parhau ac felly mae'r adroddiadau sy'n gysylltiedig â'r eitemau hyn wedi'u tynnu o'r FWP nes clywir yn wahanol. Gofynnodd i'r Pwyllgor a oedd unrhyw eitemau sydd wedi'u hamserlennu ar gyfer hwyrach yn y flwyddyn i'w symud ymlaen i'r cyfarfod nesaf. Awgrymodd y Cadeirydd y gellir trafod y FWP yng nghyfarfodydd y gr?p gwleidyddol ac y gellid gwneud awgrymiadau ar sail y drafodaeth honno. Yn ogystal, awgrymodd Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol mai ar ôl y cyfarfodydd gr?p, y dylid ei drafod yng nghyfarfod Pwyllgor y Cabinet - Cydraddoldeb ddiwedd mis Mawrth fel y gellir cyflwyno rhagor o awgrymiadau.

 

PENDERFYNWYD: (1) Bod y Pwyllgor wedi nodi'r Pwyllgor Rhianta Corfforaethol

 

(2) Bod y Pwyllgor Rhianta Corfforaethol wedi cynnig sylwadau ar y polisi cyn ei gyflwyno i'r Cabinet.

Dogfennau ategol: