Agenda item

Atgyweirio’r Organ Bib

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd adroddiad, i ddweud wrth y Cyd-bwyllgor am y gwaith atgyweirio i’r organ bib yng Nghapel Crallo ym Amlosgfa Llangrallo ac i ofyn am gymeradwyaeth i waith gwella a chynnal.

 

Esboniodd fod yr Amlosgfa’n adeilad rhestredig Gradd 2* ac yn waith pwysig gan y pensaer Maxwell Fry. Roedd yr organ bresennol yn perthyn i adeilad gwreiddiol 1970 ac fe’i hadeiladwyd gan gwmni adnabyddus N P Mander o Lundain.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd fod gan yr organ bib lawer o fanteision pendant dros organ drydan, megis harddwch gweledol, hirhoedledd ac ansawdd y deunyddiau a’r crefftwaith a ddefnyddiwyd, ond yn bennaf ansawdd y sain. Teimlai fod yr Amlosgfa’n eithriadol o ffodus bod ganddi organ bib o’r maint hwn ac o’r ansawdd hon. Roedd hyn heb os yn un o’r pwyntiau gwerthu unigryw, a welid yn y canu gwych yr oedden ni’n adnabyddus yn ei sgil, gan ddenu llawer o gorau ac unawdwyr.

 

Aeth ymlaen i ddweud mai cyfraniad ariannol bach iawn oedd wedi’i wneud tuag at yr organ ers tua 1970, heblaw’r hyn yr oedd ei angen ar gyfer tiwnio a gwaith cynnal sylfaenol. Er hynny, yn ddiweddar roedd dibynadwyedd yr organ wedi bod yn fwy o her ac yn peri bod yr ymweliadau tiwnio yn hirach ac yn ddrutach. Yn 2016 argymhellodd y tiwnwyr y dylai rhywfaint o foderneiddio ar y cysylltiadau trydan gael ei wneud gan roi rhywfaint o ystyriaeth i ddiogelwch y tiwniwr wrth gyrraedd y pibau uchel. Yng nghynlluniau busnes 2017/18 a 2018/19 cafwyd darpariaeth o £20,000 ar gyfer y gwaith trwsio lleiaf posibl, ond roedd hyn wedi’i ohirio eto er mwyn asesu’r gofynion yn llawn. Ymgynghorwyd wedyn â’r adeiladwyr gwreiddiol, Manders Organs Ltd, i wneud archwiliad llawn ym mis Hydref 2018.

 

Wedyn rhoddodd grynodeb llawn o ganlyniad yr archwiliad, gan gynnwys manylion rhywfaint o waith ehangu ar yr organ yr oedd ei angen bellach o ganlyniad i’r archwiliad.

 

Yn dilyn hyn, ychwanegodd fod yr organ, yn anarferol felly, heb sain corsen ac felly y bwriad oedd cynnwys obo fel rhan o’r cyflwr solet.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd wrth y Cyd-bwyllgor y trefnid bod organ arall ar gael yn ystod y 4 i 5 mis pan gâi’r gwaith ei wneud.

 

O gofio bod yr Amlosgfa wedi’i rhestru fel adeilad Gradd 2*, cynigid y dylai’r gwaith gael ei wneud gan Manders Organs Ltd, fel ffordd ddibynadwy o sicrhau ei bod yn fecanyddol ddibynadwy yn y dyfodol ac er mwyn cadw ei dilysrwydd.

 

Cost y gwaith uchod oedd £96,400 ac roedd hyn wedi’i gynnwys yng Nghynllun Busnes yr Amlosgfa ar gyfer 2019/20. (O ran eglurder, roedd £20,000 wedi’i gario ymlaen o’r flwyddyn ariannol honno ynghyd â £76,000 yn ychwanegol o gronfeydd wrth gefn yr Amlosgfa).

 

Gofynnodd un o’r Aelodau pam nad oedd y gwaith angenrheidiol ar yr organ wedi mynd allan ar dendr, er mwyn sicrhau’r ‘gwerth gorau’ o ran cost y gwaith atgyweirio/uwchraddio.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd fod yr organ bib yn offeryn unigryw a chymhleth iawn ac y bernid o herwydd hynny ei bod yn eithriadol o bwysig sicrhau mai’r cwmni a’i hadeiladodd yn wreiddiol a fyddai’n gwneud y gwaith uwchraddio arni. Ychwanegodd ar ben hynny mai ychydig iawn yn unig o gwmnïau a oedd ar gael i wneud y gwaith angenrheidiol ar offeryn o’r fath.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo’r gwaith yn unol â’r amlinelliad yn yr adroddiad ac ar lafar yn y cyfarfod, gan Manders Organs Ltd, am swm o £96,400.

Dogfennau ategol: