Agenda item

Cynllun Busnes a Ffioedd yr Amlosgfa

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd adroddiad a anelai at gymeradwyo’r Cynllun Busnes a’r rhaglen wario ar gyfer 2019/20, gan gynnwys cynnydd arfaethedig mewn ffioedd amlosgi.

 

O ran gwybodaeth gefndir, cadarnhaodd fod Cynllun Busnes yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn i’r Cyd-bwyllgor i gael ei gymeradwyo, a hwnnw’n cynnwys amcanion y gwasanaeth a phrosiectau cynnal a gwella arfaethedig i wella a chynnal tiroedd ac adeiladau’r Amlosgfa yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Cyfeiriodd wedyn at y Cynllun Busnes, a oedd yn dechrau ar dudalen 19 o’r adroddiad, lle y gwelai’r Aelodau’r Dyfarniadau a’r Campau a nodwyd (ar dudalen 22), ac yn fwy nodedig, fod dyfarniad Baner Werdd wedi’i ennill eto yn 2018, yn ogystal â nodi bod y gwasanaeth yn dal yn hunangynhaliol yn ariannol.

 

Wedyn manylodd yr adroddiad ar y strwythur staffio a’r oriau busnes; y mathau o ddulliau coffa oedd ar gael, y gwahanol ffyrdd yr oedd yr Amlosgfa yn ei marchnata ei hun ac yn cyfathrebu â’i defnyddwyr gwasanaethau ac yn olaf, y gwahanol ffyrdd yr oedd yr Amlosgfa yn dal yn gynaliadwy o ran yr amgylchedd.

 

Ar dudalen 25 o’r adroddiad, tynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd sylw at y cyraeddiadau allweddol dros y 10 mlynedd blaenorol a oedd wedi’u rhestru, a’r diweddaraf o’r rhain oedd adeiladu estyniad yr amlosgyddion ac wedyn gosod amlosgyddion bariatrig yn lle’r amlosgyddion, gan gynnwys cyfleusterau oeri a’r offer llawn ar gyfer lleihau mercwri. Cafwyd manylion yn rhan hon o’r Cynllun hefyd am adnewyddu’r to gwastad uwchben rhan wreiddiol yr Amlosgfa. Wedyn tynnodd sylw hefyd at ymestyn y tiroedd i’r tir newydd a’r dulliau coffa newydd yn y fan honno, ynghyd â’r estyniad pellach ar y seilwaith ffyrdd a’r meysydd parcio yn 2017, o dan yr enw Cyfnod 2, a thirlunio’r fan newydd hon yn 2018.

 

Ychwanegodd fod y Capel Cofio wedi’i adnewyddu hefyd yn 2018.

 

Ar waelod tudalen 26 tynnwyd sylw at ddangosyddion perfformiad y pum mlynedd blaenorol, a’r rheiny’n ymwneud â boddhad defnyddwyr, sef canlyniadau sy’n cael eu codi o holiaduron y gwasanaeth sy’n cael eu hanfon at y rhai sy’n gwneud cais am amlosgiad. Y targed oedd sicrhau bod 100% o’r lefelau boddhad cyffredinol yn dda neu’n ardderchog ac roedd y rhain yn parhau’n gyson yn 100%, ac roedd yr un targed wedi’i osod yn 2019/20.

 

Wedyn cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd at yr ystadegau blynyddol ynghylch amlosgi, yr oedd y manylion amdanynt ar dudalen 28/29 o’r Cynllun Busnes. Cyfanswm yr amlosgiadau yn 2018 oedd 1614, sef 998 o Ben-y-bont, 145 o Fro Morgannwg a 415 o Rondda Cynon Taf, a 66 yn preswylio y tu allan. Roedd cytundeb ag Ysbyty Tywysoges Cymru ynghylch amlosgi gweddillion ffetysau anhyfyw (NVF) wedi arwain at 12 amlosgiad cyfunol yn ychwanegol. Ychwanegodd fod 9 amlosgiad NVF unigol arall wedi’u trefnu’n uniongyrchol gyda theuluoedd.

 

Roedd tablau cofnodion ystadegol y cyfnod o Ionawr i Ragfyr 2018 a 2017 wedi’u cynnwys at ddibenion cymharu ar dudalennau 27 a 28 o’r Cynllun ac ar sail hyn byddai’r Aelodau’n nodi mai 1620 oedd cyfanswm yr amlosgiadau yn 2017. Erbyn hyn roedd nifer yr amlosgiadau yn aros yn weddol gyson bob blwyddyn, er bod 35 yn llai o amlosgiadau o Fro Morgannwg, tra oedd nifer yr amlosgiadau o Rondda Cynon Taf wedi cynyddu 36, gyda nifer y preswylwyr y tu allan i’r ardal wedi aros yr un fath yn union.

 

Wedyn roedd y Cynllun Busnes yn amlinellu datblygiadau ac amcanion y gwasanaeth am y cyfnod 2019/20. Roedd manylion y rhain ar gael ar dudalennau 29 a 30 o’r Cynllun Busnes.

 

O ran taliadau lleihau mercwri i CAMEO, efallai fod y Cyd-bwyllgor yn cofio bod yr amlosgfeydd hynny a oedd wedi lleihau mercwri mewn mwy na 50% o’u hamlosgiadau, yn cael gwerthu’r amlosgiadau lleihau mercwri uwchlaw’r targed i’r rhai sydd wedi lleihau llai na’r targed, drwy gyfrwng CAMEO. Roedd y rhai a oedd wedi lleihau mwy na’r targed yn creu incwm, ac roedd y rhai a oedd heb wneud hynny yn rhannu’r baich ariannol. O ganlyniad, talodd Amlosgfa Llangrallo £41k am y cyfnod 2015/16 yn sgil rhannu costau’r amlosgfeydd a oedd heb leihau mercwri yn 2015. Trodd y ffigwr rhannu costau hwn yn incwm yn 2016/17, gan fod yr offer lleihau mercwri wedi’i osod yn Ebrill 2016, gan alluogi’r Amlosgfa i leihau mwy na 50% o’i hamlosgiadau yn ystod 2016/17, gan greu incwm o £5,950.10 ac unwaith eto yn 2017/18, gan greu incwm o £6,415.92. Llwyddodd yr Amlosgfa i leihau mercwri yn ei holl amlosgiadau yn 2018 ac roedd yn aros i gael cadarnhad o’r incwm posibl y gallai ddisgwyl ei greu ar gyfer 2018/19.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd y byddai prif ffocws amcanion y gwasanaeth yn 2019/20 fel a ganlyn:-

 

-       Uwchraddio ac atgyweirio’r organ bib a oedd eisoes wedi’i drafod yn yr adroddiad i’r Cyd-bwyllgor ar y diwrnod,

-       Atgyweirio’r toeon gwastad uwchben yr Ystafell Aros a’r Porte-cochère. Awdurdodwyd y gwaith hwn yn Adroddiad Busnes y llynedd ond roedd wedi’i ohirio tan fis Mehefin 2019 am ei fod yn agos i fynedfa’r capel ac am fod yna awydd iddo gael ei wneud ym misoedd tawelwch yr haf pan ddylai’r tywydd fod yn fwy dibynadwy hefyd.

-       Cawsai astudiaeth ddichonolrwydd yr estyniad i Gwrt y Blodau ei chymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor ar 15 Mehefin 2018 i gael ei gyllido o gyllideb refeniw 2018/19. Câi’r adroddiad hwn ei gyflwyno i’r cyfarfod ym mis Mehefin 2019. Gallai’r prosiect gael ei gynnwys yng nghronfeydd wrth gefn yr Amlosgfa ac fe’i hystyrid yn fanylach ym mis Mehefin. Er hynny, roedd amcangyfrif o £300,000 wedi’i gynnwys yng nghyllideb 2019/20 i ymdopi â chyfnod adeiladu’r prosiect, cyhyd ag y câi hynny ei gadarnhau gan yr Aelodau.

-       Roedd goleuadau allanol eisoes wedi’u trafod mewn adroddiad blaenorol a ystyriwyd gan y Cyd-bwyllgor ar y diwrnod.

-       Roedd angen adnewyddu cyfleusterau ystafell orffwys tîm yr amlosgyddion er mwyn sicrhau ei bod yn dal yn addas i’w diben. Rhwng 2014 a dechrau 2016, roedd yr ystafell orffwys hefyd yn darparu cyfleusterau lles i’r contractwyr a fu’n codi estyniad adeilad yr amlosgyddion ac yn gosod offer newydd yr amlosgyddion.

-       Roedd byrddau dosbarthu trydan yr Amlosgfa, sydd i’w cael yn bennaf yn ystafell trydan a gwyntyll yr amlosgyddion, yn perthyn yn wreiddiol i gyfnod agor yr adeilad ym 1971, ac er mwyn bodloni’r safonau cyfredol roedd angen eu hamnewid.

-       Ar ben y datblygiadau arfaethedig hyn yn y gwasanaeth, roedd swm wrth gefn wedi’i gynnwys yng Nghyllideb Refeniw’r Amlosgfa i dalu am fân waith heb ei gynllunio a gwaith trwsio a chynnal cyffredinol.

 

Atgoffodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd y Cyd-bwyllgor hefyd fod y gronfa dros ben wedi’i bwriadu i grynhoi cyllid wrth gefn er mwyn amnewid yr amlosgyddion a’r offer ategol yn y dyfodol ymhen rhyw 12 mlynedd, yn ogystal ag ariannu’r holl welliannau yn y gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Byddai parhau â’r gronfa hon yn golygu bod gan yr Amlosgfa ddigon o arian hirdymor ar gyfer y ddau, ac ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl a allai ddigwydd.

 

Roedd y tabl ar dudalen 31 o’r Cynllun yn manylu ar ragolygon o gostau’r amcanion hyn, y rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd grynodeb ohonynt er lles yr Aelodau, fel y gwnaeth hefyd ar fanylion y Gyllideb arfaethedig a restrwyd yn unigol ar dudalen 32 o’r Cynllun.

 

Roedd y tabl ar dudalennau 33/34 yn crynhoi’r amserlenni a chyfrifoldebau’r swyddogion ar gyfer y prosiectau dros y flwyddyn ariannol flaenorol a’r flwyddyn ariannol gyfredol a’r rhai ar gyfer amcanion newydd 2019/20.

 

Gan gyfeirio’n ôl at yr adroddiad ar dudalen 16, tynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth a’r Cofrestrydd sylw at baragraff 4.3 a oedd yn ymwneud â gosod taliadau ar gyfer 2019/20, yn enwedig y tâl wythnosol am amlosgi oedolyn ac felly gynnydd cyffredinol yn yr holl ffioedd. Roedd y tâl amlosgi am y flwyddyn ariannol bresennol yn gosod yr Amlosgfa yn safle rhif 258 allan o 291 o awdurdodau amlosgi mewn tabl ffioedd cenedlaethol a gyhoeddwyd yn haf 2018 (lle roedd y tâl uchaf am amlosgi yn cael ei osod yn gyntaf). Argymhellwyd y dylai’r tâl amlosgi gael ei godi yn unol â chwyddiant, o £662.20 i £680.70. Roedd hyn wedi’i seilio ar gynnydd cyffredinol mewn ffioedd o 1% plws ffigur cyfredol chwyddiant, sef 1.8%, yn unol â phrotocol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Roedd y tabl ar dudalen 16 o’r adroddiad yn dangos cymhariaeth o’r ffioedd cyfredol am amlosgi mewn amlosgfeydd cyfagos:-

 

Ffioedd Amlosgi Amlosgfeydd 2018/19

 

Bro Morgannwg (Y Barri) £850.00+ (heb gynnwys £47 am organydd)

Llanelli £785.00

Glyn-taf (Pontypridd) £690.00 (heb gynnwys organydd)

Llwydcoed (Aberdâr) £690.00 (heb gynnwys organydd)

Croesyceiliog (Gwent) £684.00 (heb gynnwys organydd)

Treforys (Abertawe) £665.00 (heb gynnwys organydd)

Llangrallo (Pen-y-bont ar Ogwr) £662.20

Margam £605.00

Arberth £581.00

Thornhill (Caerdydd) £560.00 (heb gynnwys organydd)

 

Roedd yr holl amrywiadau mewn gwariant ac incwm, yn unol â’r amlinelliad yn y Cynllun Busnes Lefelau Gwasanaeth, gan gynnwys y cynnydd arfaethedig yn y ffioedd, a ymgorfforwyd yn Adroddiad y Trysorydd ar y diwrnod, i’w trafod yn nes ymlaen ar agenda cyfarfod y diwrnod.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cyd-bwyllgor:-

 

(1)     Yn cymeradwyo Cynllun Busnes Lefelau Gwasanaeth 2019/20.

Yn cymeradwyo’r ffi amlosgi ar gyfer 2019/20 yn £680.70 a chynnydd cyffredinol yn yr holl ffioedd o 2.8%

Dogfennau ategol: