Agenda item

Cyhoeddiadau gan:

 (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

(iv) Swyddog Monitro

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Ers cyfarfod diwethaf y Cyngor, cyhoeddodd y Maer y bu hi'n gyfnod gweddol dawel arno ef a'i Gydweddog.  Roeddent wedi cynnal 11 o ymweliadau swyddogol, a oedd yn amrywiol iawn eu natur ac yn bleserus iawn. Yr oedd am gyfeirio'n arbennig at y canlynol:

 

Roeddent yn hynod falch o fod yn bresennol yn ailagoriad Clwb Bechgyn a Merched Nant-y-moel. Mae'r clwb wedi cael ei adnewyddu'n ddiweddar ac erbyn hyn yn ganolfan gymunedol sy'n darparu cyfleusterau gwych i'r gymuned leol. Yr oedd yn gyfarfod gwych, yn enwedig i'r holl bobl sydd wedi bod yn gweithio mor galed i wireddu'r cyfan.

 

Wythnos diwethaf, buont yn bresennol yn seremoni Gwobrau Ieuenctid Cymunedol yr Uchel Siryf, ac yn arbennig o falch o weld 3 enillydd a ddeuai o Ben-y-bont ar Ogwr. Cafodd yr MPTC gydnabyddiaeth am godi arian yn y gymuned, enillodd Ysgol Pont y Crychydd Wobr Gr?p Dug Caeredin am eu cyflawniadau parhaus, ac fe ganmolwyd y Zone ym Mhen-y-bont ar Ogwr am ei waith gyda phobl ifanc.

 

Yn gynharach yn y mis, cafodd y Maer a'i gydweddog wahoddiad i gwrdd â 3 chyngor ysgol, Ysgol Gynradd Corneli, Afon y Felin ac Ysgol y Sgêr.  Bu'r plant yn eu holi ynghylch eu rolau, profiad llawn hwyl ond hefyd yn her! Cawsant wybod beth oedd teimladau a phryderon y bobl ifanc, ac roedd hi'n galonogol eu brwdfrydedd i gymryd rhan.

 

Dyma fanylion yr holl ddigwyddiadau y bu'r Maer yn bresennol ynddynt yn ddiweddar:

 

  • Agoriad clwb bechgyn a merched Nant-y-moel;
  • Gwasanaeth G?yl Ddewi Arglwydd Faer Caerdydd;
  • Codi arian er budd Bad Achub Porthcawl;
  • Gemau Mini-Olympaidd Bro Ogwr.
  • Agor ystafelloedd synhwyraidd Cymuned Mulligan;
  • Cawl a Chân Côr Pencoed;
  • Ailagor llyfrgell y Pîl;
  • Gwobrau Ieuenctid Cymunedol yr Uchel Siryf;
  • Cyfarfod 3 Ysgol Gynradd Corneli;
  • Cinio Elusennol Maer Castell-nedd Port Talbot.

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Dechreuodd y Dirprwy Arweinydd drwy longyfarch disgyblion Ysgol Gynradd Cwmfelin am greu'r poster a enillodd gystadleuaeth a drefnwyd yn rhan o Ymgyrch Gwastraff Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Hyd yma, mae dros 3,000 o ddisgyblion o 39 o ysgolion cynradd wedi cael eu haddysgu drwy'r fenter hon ynghylch sut y gellir ailgylchu a gwastraff bwyd a'i droi'n drydan.

 

Gofynnwyd i bob disgybl ddylunio a chyflwyno poster i esbonio'r llu o fanteision sy'n gysylltiedig ag ailgylchu gwastraff bwyd, ac o Ysgol Cwmfelin y daeth y syniad buddugol.

 

Bydd y dyluniad hwn yn awr yn cael ei arddangos yn amlwg ar ochr cerbydau ailgylchu ar draws y fwrdeistref sirol, ac bydd disgyblion Cwmfelin yn cael mwynhau taith o amgylch Gweithfeydd Agrivert ym Mharc Stormy, i weld y broses ar waith.

 

Yn ddiweddar, cynhaliodd ein tîm o'r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Ariannol ddigwyddiad agored yng Nghanolfan Cyngor ar Bopeth Pen-y-bont ar Ogwr yng nghanol y dref.

 

Yr oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys BAVO, Canolfan MC, Cymunedau ar Waith, Cynghrair Pobl Anabl Pen-y-bont ar Ogwr, Hafod, y Zone a mwy.

 

Cafwyd ymateb gwych, a bu'r tîm yn ymgysylltu â mwy na 150 o bobl, yr oedd amryw ohonynt wedi taro heibio ar ôl clywed am y digwyddiad gan eraill yng nghanol y dref.

 

Cynhyrchodd lawer o atgyfeiriadau, ac mae'r tîm bellach wedi mynd ar drywydd pob un ohonynt, ac yr oedd yn falch iawn o weld y sefydliadau sy'n ymwneud â'r maes yn dod ynghyd i weithio mewn partneriaeth, rhannu arfer da a chefnogi pobl leol.

 

I gloi, cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd ei fod wedi cael sioc o weld bod mwy na £34 miliwn wedi'i ddwyn gan breswylwyr a busnesau'r DU drwy seiberdroseddu rhwng mis Ebrill a mis Medi y llynedd.

 

Cafodd £190,000 ei ddwyn bob dydd dros yr un cyfnod yng Nghymru. Mae seiberdroseddu ar gynnydd ac yn fygythiad modern a gwirioneddol.

 

Dyna pam ei fod mor falch o weld y bydd yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol yn dod â'i Daith Bws Seiberddiogelwch Cymru i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Gwener yma.

 

Bydd y bws yn gosod stondin yn Dunraven Place rhwng hanner dydd ac 8pm. Gallwch alw heibio yn rhad ac am ddim, a bydd cyngor arbenigol ar gael i unigolion a busnesau ynghylch sut i osgoi sgamwyr ac aros yn ddiogel ar-lein.

 

Mae hyn wrth gwrs o fudd mawr i bobl leol, ac roedd yn gobeithio y byddai'r aelodau yn hysbysu eu hetholwyr ynghylch y digwyddiad.

 

Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol ei bod wedi cael newyddion gwych i'w rhannu â'r Aelodau.

 

Mae asesydd ansawdd diwydiant hamdden y DU, Quest, wedi rhoi'r safle cyntaf i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Halo Leisure am ein gwaith yn ei gategori 'Cymunedau Egnïol'.

 

Mae hyn yn golygu bod gwasanaethau sydd yn annog pobl i fyw'n iachach ac i fod yn fwy gweithgar ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu cydnabod yn swyddogol fel gwasanaethau gorau'r DU.

 

Derbyniodd y Cyngor a Halo hefyd ddyfarniad 'rhagorol' a oedd yn cydnabod ansawdd uchel y gwasanaeth cyffredinol a gynigir drwy eu partneriaeth lwyddiannus.

 

Dyma un o'r saith dyfarniad a ddefnyddir gan Quest wrth fesur effeithiolrwydd timau rheoli chwaraeon a chyfleusterau hamdden.

 

Bu aseswyr Quest yn edrych ar ystod o ffactorau a oedd yn cynnwys pa gefnogaeth a roddir i bobl anabl, sut rydym yn annog pobl segur i symud, ein hymgysylltiad â phlant a phobl ifanc, ein dull o reoli cyllid a datblygu busnes, y rhaglen atgyfeirio ymarfer corff, cyfraddau ymgysylltu â phobl h?n, a mwy.

 

Gydag achrediad Quest yn weithredol ym mhob un o'n canolfannau hamdden a'n pyllau nofio, mae'r dyfarniad hefyd yn adlewyrchu mentrau fel ein Hardaloedd Teulu Egnïol, a'n sesiynau OlympAge sydd yn ceisio cael mwy o bobl i gymryd rhan yn hytrach na helpu'r rhai sydd yn mynd i'r gampfa yn rheolaidd i gynyddu eu ffitrwydd.         

 

Mae ymweliadau â'n canolfannau hamdden a'n pyllau nofio wedi cynyddu'n sylweddol ers i'r Cyngor a Halo ffurfio'r bartneriaeth yn wreiddiol saith mlynedd yn ôl. Mae pobl leol wedi croesawu'r ymgyrch genedlaethol i fyw bywyd iachach a mwy egnïol â breichiau agored.

 

Mae'r dyfarniad nid yn unig yn cydnabod ein dull o weithio mewn partneriaeth, ond hefyd yn cydnabod y gwaith a gyflawnir gan ysgolion, clybiau a sefydliadau cymunedol lleol hefyd.

 

Roedd yr Aelod Cabinet yn sicr y byddai'r holl Aelodau yn cytuno bod cael cydnabyddiaeth swyddogol mai'r gwasanaeth yw'r gorau yn y DU yn gyflawniad gwych.

 

Dymunai longyfarch a diolch i bawn a oedd wedi helpu i sicrhau'r fath lwyddiant ysgubol.

 

Roedd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol hefyd am atgoffa'r Aelodau y byddai ysgol fusnes dros dro yn cael ei chynnal yn rhad ac am ddim yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr drwy gydol yr wythnos nesaf.

 

Pwrpas yr ysgol yw rhoi'r wybodaeth a'r offer angenrheidiol i gyfranogwyr ddechrau eu busnes eu hunain, a bydd yn croesawu unrhyw un a chanddynt ddiddordeb ym myd busnes.

 

Bydd nifer o bynciau yn cael eu cynnig bob dydd, gan amrywio rhwng sut i ddechrau busnes, sut i greu gwefan effeithiol, sut i ganfod cwsmeriaid ar-lein a llawer mwy.

 

Mae'r wythnos yn cael ei threfnu ochr yn ochr â Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr a Halo, a bydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr rhwng dydd Llun a dydd Gwener, 25-29 Mawrth, o 10am tan 3pm bob dydd.

 

Bydd angen i gyfranogwyr archebu lle ymlaen llaw, a gellir gwneud hynny drwy ymweld â popupbusinessschool.co.uk Mae'r wefan hefyd yn cynnwys yr holl wybodaeth am destunau a gweithgareddau pob diwrnod.

 

Y tro diwethaf inni drefnu'r digwyddiad hwn, yr oedd yn hynod lwyddiannus ac fe gafwyd llawer o ddiddordeb ynddo. Roedd hi'n si?r y byddai llawer o ddiddordeb eto yn y digwyddiad yr wythnos nesaf.

 

Yn olaf, cynhaliodd y Cyngor ddigwyddiad mewnol ddoe i ddathlu Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd.

 

Yn rhan o'r digwyddiad, edrychwyd ar y  modd y gall ein staff gofal cymdeithasol helpu i ddod â chenedlaethau ynghyd, helpu pobl h?n i gadw cysylltiad â'u teuluoedd a helpu plan sy'n derbyn gofal i gynllunio ar gyfer eu dyfodol drwy ddeall eu gorffennol.

 

Yn seiliedig ar y thema 'Pwysigrwydd Perthnasoedd Dynol', roedd y digwyddiad yn arddangos arferion rhwng y cenedlaethau, ac ystyriai offeryn newydd o'r enw 'Dy Lyfr Di' sy'n defnyddio therapi hel atgofion i greu hanes bywyd drwy ddefnyddio geiriau, lluniau, cerddoriaeth a ffilm.

 

Bu'r staff yn archwilio "Gwaith Taith Oes" i blant sy'n eu helpu i wneud synnwyr o'u sefyllfa, i dderbyn y sefyllfa honno ac i symud ymlaen. Bu'r staff hefyd yn astudio sut y gall y gwasanaeth atal a llesiant ddod â phobl ynghyd mewn cymunedau i gynnal a ffurfio perthnasoedd.

 

Dywedodd y staff fod y digwyddiad wedi bod yn fuddiol ac wedi rhoi mewnwelediad iddynt. Byddant yn ymgorffori ac yn myfyrio ar hynny yn eu gwaith o hyn allan.

 

Aelod Cabinet - Adfywio ac Addysg

 

Roedd yr Aelod Cabinet - Adfywio ac Addysg yn si?r y byddai'r Aelodau am ymuno ag ef i longyfarch Hollie Evans, disgybl yn Ysgol Gynradd y Llidiart, a'i mam, Hayley.

 

Yn sgil eu hymdrechion, mae Ysgol Gynradd y Llidiart bellach yn cynnwys gwaith yr artist stryd sy'n enwog ar raddfa fyd-eang, James Ame.

 

Drwy weithio o dan yr enw 'Ame 72', mae'r artist yn arbenigo mewn paentio gweithiau celf sy'n cynnwys ffigurau lego. Cyrhaeddodd y penawdau'n ddiweddar pan ymddangosodd tair o'i greadigaethau ym Mhort Talbot i ymuno â gwaith graffiti enwog Banksy yn y dref.

 

Y tro hwn, y mae wedi creu gwaith lliwgar fel teyrnged i gefnogi ymdrechion Hollie i godi ymwybyddiaeth gadarnhaol ynghylch Syndrom Downs, a bydd ymwelwyr ag Ysgol Gynradd y Llidiart yn synnu o weld ffigur Lego gyda bal?n siâp calon wedi'i baentio ar un o waliau'r ysgol.

 

Mae Hollie yn destun ysbrydoliaeth wirioneddol, ac yn gaffaeliad i'w hysgol, ei theulu a'i chymuned. Yn 2014, rhoddodd ddeunaw modfedd o'i gwallt i'r Little Princess Trust, sy'n rhoi cefnogaeth i ddioddefwyr canser ifanc sy'n derbyn triniaeth.

 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Hollie a'i chwaer Poppie hefyd wedi casglu cannoedd o wyau Pasg y maent yn eu cyfrannu i blant sy'n sâl yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.

 

Gan hynny, yr oedd wrth ei fodd y byddai caredigrwydd Hollie yn cael ei gydnabod ddydd Gwener pan fyddai'n derbyn Gwobr y Maer am Ddinasyddiaeth, gwobr yr oedd yn ei llawn haeddu. Ynghyd â'r gwaith celf yn Ysgol Gynradd y Llidiart, bydd y wobr hon yn deyrnged deilwng i'w charedigrwydd ac yn enghraifft wych i eraill.

 

Gwelwyd datblygiad arall yr wythnos diwethaf yn sgil partneriaeth y Cyngor ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, pan ailagorwyd Llyfrgell y Pîl ar ei newydd wedd yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £100,000.

 

Mae'r gwaith adnewyddu a ariannwyd ar y cyd drwy ddefnyddio Grant Cyfalaf Trawsnewid o Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd yn Llywodraeth Cymru, wedi'i gwneud hi'n bosibl creu llyfrgell fwy a goleuach, ac iddi ofod mwy hyblyg, sy'n cynnig mynediad rhwyddach i ymwelwyr.

 

Ar yr un pryd, mae Awen wedi cyhoeddi na fydd mwyach yn codi dirwy am lyfrau a ddychwelir yn hwyr i'r llyfrgell ar ôl 1 Ebrill. Mae hyn yn rhan o fenter i annog mwy o bobl i ddefnyddio'r gwasanaeth llyfrgelloedd, ac i ailddarganfod manteision darllen a dysgu.

 

Efallai y bydd gan yr aelodau ddiddordeb yn nyfodiad adnodd digidol sy'n helpu plant i ddeall a dysgu am fioamrywiaeth leol yn y fwrdeistref sirol.

 

Mae pori cadwriaethol mewn ardaloedd fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig yn helpu i reoli planhigion ymosodol ac ymledol, gan sefydlu cynefinoedd i bryfed peillio, adar sy'n nythu ar y ddaear, gloÿnnod byw a rhywogaethau eraill.

 

Mae hyn yn cael ei esbonio yn rhan o adnodd 'Bugail Digidol' newydd sy'n hyrwyddo ffyrdd o ymdrin â'r dirywiad mewn eco-systemau, gan annog pobl i ymddwyn yn fwy cyfrifol o amgylch da byw ar yr un pryd.

 

Mae'r wefan adnoddau 'Bugail Digidol' ar gael ar wefan Reach Pen-y-bont ar Ogwr os hoffai'r aelodau gael mwy o wybodaeth amdani.

 

Yn olaf, roedd y Cyngor yn ddiweddar wedi cael newyddion da oddi wrth Lywodraeth Cymru ynghylch pwysau ar y gyllideb yn sgil problemau cynnal a chadw ysgolion.

 

Bwriedir rhannu mwy na £40 miliwn o bunnoedd o gyllid cyfalaf ymhlith Cynghorau er mwyn mynd i'r afael ag ysgolion sydd mewn cyflwr gwael, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd awdurdodau lleol hefyd yn cael penderfynu ar flaenoriaethau wrth wario'r arian hwnnw.

 

Mae hyn yn wahanol iawn i delerau grant y llynedd, ac yr oedd yn falch y byddai'r grant yn cefnogi'r gwaith sy'n cael ei gyflawni yn rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Bydd Band B y rhaglen yn dechrau y flwyddyn nesaf, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am feithrin cysylltiadau gwaith agosach â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a rhoi cefnogaeth bellach i gynnal a chadw ysgolion ledled Cymru yn y tymor hwy.

 

Mae CLlLC wedi bod yn lobïo ynghylch ar y mater hwn ers cryn amser, felly mae hyn yn newyddion gwych a bydd yn rhannu mwy o fanylion yn fuan.

 

Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn si?r y byddai'r aelodau eisoes wedi nodi'r adroddiad a gyflwynwyd yn ddiweddar i'r Cabinet a diweddariad mewnol y Prif Weithredwr Dros Dro i'r staff ar ein sefyllfa wrth baratoi am Brexit.

 

Nid oedd am roi crynodeb ohonynt eto, ond apeliodd ar yr Aelodau fel cynrychiolwyr etholedig i helpu CBS Pen-y-bont ar Ogwr i hyrwyddo dwy neges bwysig iawn yn ein cymunedau lleol.

 

Y gyntaf yw bod Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE bellach ar agor, a bod angen i unrhyw ddinasyddion yr UE nad ydynt yn dod o'r Deyrnas Unedig, ac sydd am barhau i fyw a gweithio yng Nghymru, gofrestru i ennill statws preswylydd sefydlog neu gyn-breswylydd sefydlog.

 

Mae'r broses ymgeisio yn syml i'w chwblhau, ac yn cynnwys amrywiaeth o opsiynau y gallwch ddarllen amdanynt ar wefan www.gov.uk.

 

Rydym yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i unrhyw gyflogeion o fewn y Cyngor y gallai hyn fod yn effeithio arnynt, i'w helpu i gwblhau'r broses.

 

Mae a wnelo'r ail neges â busnesau lleol.

 

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wedi cysylltu â'r holl awdurdodau lleol i bwysleisio pa mor bwysig yw helpu busnesau i baratoi'n ddigonol am y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb.

 

Rydym wedi bod yn gweithio gyda busnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ers tro ar hyn, ond ceir posibilrwydd o hyd nad yw busnes bach neu unig fasnachwr wedi bod mewn cysylltiad â'r Cyngor na Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Gofynnodd i'r Aelodau a oeddent yn gallu meddwl am unrhyw unigolion neu fusnesau o'r fath yn eu wardiau

 

Os felly, gofynnodd iddynt eu hannog i gysylltu â'r awdurdod ar y cyfle cyntaf er mwyn cael cyngor ac arweiniad arbenigol.

 

Gallant hefyd ymweld â 'Phorthol Brexit' a chwblhau hunanasesiad ar wefan Busnes Cymru, fydd yn eu helpu i ddeall yn union pa mor barod yr ydynt am Brexit.

 

Mae Busnes Cymru hefyd yn trefnu gweithdai wedi'u cynllunio i helpu busnesau a masnachwyr ymbaratoi am Brexit, ac yn cynnig llinell gymorth arbenigol.

 

I gloi, dywedodd fod gwybodaeth am hyn a mwy ar gael yn www.busnescymru.llyw.cymru.