Agenda item

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn gobeithio fod yr Aelodau wedi gweld y cyhoeddiad diweddar fod canolfan drafnidiaeth integredig wedi'i chynllunio yn y Pîl yn rhan o fuddsoddiad £50 miliwn gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn prosiectau Metro a Mwy ledled De Ddwyrain Cymru.

 

Nod y rhaglen yw creu 'rhyngnewidfeydd' sy'n ymgorffori'r holl ddulliau teithio a all weithredu fel canolfannau allweddol i ddefnyddio rhwydweithiau metro newydd ac estynedig i gyrraedd gwaith, hyfforddiant, addysg, diwylliant, siopau a chyfleusterau hamdden drwy'r rhanbarth.

 

Gan fod bron 119,000 o deithiau wedi'u cychwyn o orsaf y Pîl yn 2016-17 - cyfanswm o 35 y cant o gynnydd o gymharu â 2012-13 - roedd hyn yn newyddion ardderchog, gan y bydd o fudd mawr i'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, gan gynnwys y Pîl, Corneli, Mynydd Cynffig, Porthcawl a Chefn Cribwr.

 

Bwriedir buddsoddi swm sylweddol, gan gynnwys datblygiad parcio a theithio newydd gwerth £3 miliwn, lle i oddeutu 75 o geir, pwyntiau gwefru cerbydau trydan, mannau parcio beiciau, cysylltiadau gwell ag Ystâd Ddiwydiannol Village Farm a llawer mwy.

 

Fel Cadeirydd Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol De Ddwyrain Cymru, roedd hi'n bleser gan yr Arweinydd gael cyhoeddi'r cynnig, ac roedd yn edrych ymlaen i weld y prosiect yn datblygu ymhellach.

 

Roeddem yn parhau i gefnogi ffatri Ford Pen-y-bont ar Ogwr, ac yr oedd wedi ymweld â'r ffatri yn ddiweddar gyda'n haelodau Seneddol, Madeleine Moon a Chris Elmore.

 

Roedd y lefel uchel o ddyfeisgarwch yng ngweithlu'r ffatri sy'n peri mai llinell Dragon yw llinell fwyaf cynhyrchiol Ford drwy'r byd, a'r ffaith bod gan y ffatri hefyd Adran Ymchwil a Datblygu o safon fyd-eang ar y safle, wedi creu cryn argraff arnynt.

 

Bydd dangos gwerth ychwanegol fel hyn yn si?r o gynyddu'r hyder yn nyfodol y ffatri, ac roeddem yn awyddus i gefnogi ac annog enghreifftiau fel hyn o arloesi.

 

O ganlyniad i'r ymweliad, bu modd inni gysylltu Ford â'n prosiect arloesol ein hunain i sbarduno systemau ynni, ac rydym wedi cynnwys rheolwr prosiect o Brifysgol De Cymru sy'n gyfrifol am ddatrysiadau storio ynni clyfar.

 

Yn ogystal â hyn, rydym hefyd wedi cysylltu Ford ag Innovate UK, sefydliad cyhoeddus cenedlaethol sydd yn helpu busnesau i sicrhau twf economaidd drwy ymchwil a datblygu, yn ogystal â'r gronfa her ar gyfer datblygiadau newydd drwy Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Mae'r cynigion yn mynd rhagddynt, a bydd Innovate UK yn ymweld â'r ffatri yn fuan. Mae pob un ohonom yn disgwyl y canlyniad, a bydd yn rhoi newyddion pellach i'r Aelodau wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

 

I gloi, dymunai'r Arweinydd roi'r newyddion diweddaraf ynghylch recriwtio Prif Weithredwr parhaol i CBS Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Rydym wedi cydweithio â Solace i baratoi i recriwtio ac i lunio hysbyseb, ac mae'r swydd bellach yn fyw.

 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 8 Ebrill, a bydd darpar ymgeiswyr yn cael gwahoddiad i ddod i ganolfan asesu ar 30 Ebrill.

 

Cynhelir y cyfweliadau terfynol o flaen holl Aelodau'r Cyngor ar 1 Mai, ac yn dilyn hynny bydd ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ddewis a'i gyhoeddi.

 

Sicrhaodd yr Arweinydd yr Aelodau y byddai'n rhoi'r newyddion diweddaraf iddynt am y broses recriwtio.