Agenda item

Derbyn y Cwestiynau a ganlyn oddi wrth:

1.               Cynghorydd C Webster i’r Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio

 

Sut mae'r Aelod Cabinet yn cynnig lleihau nifer y plant sydd â datganiadau anghenion addysgol arbennig sy'n cael eu gwahardd o'r ysgol?

 

2.               Cynghorydd T Giffard i’r Arweinydd

 

Fel cyfranogwr a buddsoddwr sylweddol ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a allai’r Arweinydd amlinellu’r prosiectau a gadarnhawyd hyd yma a fydd yn elwa pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr?

 

3.               Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet  Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

A all yr aelod cabinet perthnasol amlinellu beth a wnaed i leihau cyfraddau ysmygu yn y fwrdeistref sirol ar gyfer y rhai hynny sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi?

 

4.               Cynghorydd A Hussain i’r Dirprwy Arweinydd

 

Yn Lloegr, methodd 40% o larymau mwg wedi’u pweru gan fatri a 22% wedi’u pweru gan drydan mewn tai preswyl.  Dengys ystadegau diwydiant bod  mwy nag un o bob pump o berchnogion tai  byth yn profi eu larymau a bod 1:10 heb larwm mwg sy’n gweithio.

 

Yng Nghymru, ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i 8,271 o danau mewn tai preswyl rhwng 2017 -18, cynnydd o 25% ac mewn 3:10 o’r rhain nid oedd larwm mwg wedi ei osod.

 

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol (CLlL), sy'n cynrychioli dros 370 o gynghorau ac awdurdodau tân yng Nghymru a Lloegr, yn annog preswylwyr i brynu larymau mwg a gwirio eu bod yn gweithio yn rheolaidd.

 

A ydym ni’n ymwybodol o’r ystadegau ar gyfer larymau mwg diffygiol yma yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr a beth yw ein polisi i gadw ein trigolion yn ddiogel?

 

5.            Cynghorydd MC Voisey i’r Aelod Cabinet Cymunedau

 

A wnaiff yr aelod  cabinet hysbysu’r Cyngor ynghylch nifer yr hysbysiadau cosb gorfodol a gyflwynwyd, ynghyd â’u gwerth, yn ystod y 12 mis diwethaf ar gyfer: 

 

Troseddau parcio

Baw C?n

Sbwriel a thipio anghyfreithlon

Diffyg cydymffurfio â rheoliadau casglu gwastraff.

Cofnodion:

Y Cynghorydd C Webster i'r Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

 

Sut mae'r Aelod Cabinet yn cynnig y dylid lleihau nifer y plant â Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig sydd yn cael eu gwahardd o'r ysgol?

 

Ymateb yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

 

GWAHARDDIADAU A DDERBYNIWYD GAN BLANT Â DATGANIAD YM MHEN-Y-BONT AR OGWR

 

Blwyddyn academaidd

Nifer y Gwaharddiadau Parhaol

Nifer y Gwaharddiadau Cyfnod Penodol (GCPau)

% y cyfanswm o GCPau ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Nifer y Diwrnodiau a Gollwyd yn Sgil GCPau

% o gyfanswm y diwrnodiau a gollwyd i GCPau mewn perthynas â holl GCPau PYBaO

2014-15

0

80

11.4%

228.5

12.3%

2015-16

1

85

11.1%

234.5

13.1%

2016-17

0

56

7.2%

152.5

7.7%

2017-18

0

96

13.4%

277.5

15.9%

 

Gwelir o'r tabl mai ond un disgybl â datganiad a gafodd ei wahardd yn barhaol rhwng 2014 a 2018.  Er nad oes unrhyw ddata cenedlaethol cymaradwy, credir bod hyn yn rhoi adlewyrchiad cadarnhaol o'r ysgolion a'r awdurdod lleol.

 

Gellir gweld bod nifer a chanran y gwaharddiadau cyfnod penodol wedi codi a gostwng dros yr un cyfnod.  Mae'r Adran Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn cydnabod y bu cynnydd mewn ymddygiad tariff uchel ymhlith plant iau, ac wedi ymateb i hyn drwy datblygu darpariaeth ychwanegol yn y cyfnod sylfaen yn Narpariaeth Amgen y Bont. Mae hyn yn rhoi cyfle i ymyrryd yn fuan a, lle bo'n briodol, i rwyddhau'r broses o ddychwelyd i'r ysgol.  Yn ogystal â hyn, cydnabuwyd bod nifer fach o blant sydd wedi arddangos ymddygiad eithriadol o heriol a'u hanghenion yn wahanol i'r proffil a dderbynnir fel arfer yn Ysgol Bryn Castell.  Mae adolygiad o'r ddarpariaeth wedi'i gynllunio ar gyfer tymor yr haf 2019.

 

Yn sgil ad-drefnu Cynhwysiant yn ddiweddar, mae rôl statudol y Prif Seicolegydd Addysg wedi'i chryfhau. Ffocws y rôl hon bellach yw bod yn rheolwr llinell i'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg. Nid yw'n cynnwys bod yn rheolwr llinell ar gyfer gwasanaethau eraill o fewn y Gwasanaeth Cynhwysiant.

 

Un o flaenoriaethau strategol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd yw datblygu ffocws trawsgyfarwyddiaethol ar adnabod anghenion yr unigolyn yn fuan er mwyn hyrwyddo gweithdrefnau a chanlyniadau graddedig mwy effeithiol.  Mae Adroddiad Hunanwerthuso'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd 2018-19 yn cyflwyno ystod o dystiolaeth i gefnogi'r gweithgarwch hwn.

 

Yn sgil yr adolygiad o Addysg Heblaw yn yr Ysgol (AHY), ym mis Mawrth 2018, cafodd panel mynediad at addysg ei sefydlu. Bydd hyn yn sicrhau ymdriniaeth brydlon ag anghenion disgyblion. Yn rhan o'r adolygiad hwn, adolygwyd protocolau fel symud ac addysg dan reolaeth. Bydd argymhellion adolygiad AHY yn cael eu gweithredu'n llawn yn ystod 2019-20.

 

I gyd-fynd a'r panel mynediad at addysg, mae model tîm o amgylch yr ysgol wedi cael ei sefydlu ym mron bob un o'r ysgolion uwchradd lle mae'r ymateb graddedig gan ystod o dimau yn cael ei archwilio. Mae'r model hwn yn cael ei gryfhau ymhellach drwy gyflwyno cynllun lle bydd penaethiaid cynradd yn cefnogi pontio disgyblion o ysgolion cynradd, gyda ffocws ar adnabod anghenion yn gynnar.

 

Ar ddiwedd 2017, cynhaliodd yr awdurdod lleol adolygiad o'r gefnogaeth a roddir gan yr awdurdod lleol i ddysgwyr sy'n agored i niwed. Y nod oedd datblygu gwasanaeth mwy unedig a chydgysylltiedig a fyddai'n symleiddio'r gefnogaeth ac yn peri bod y gwaith o reoli'r meysydd hyn yn fwy diogel ac yn fwy effeithiol, gan ymateb mewn modd mwy amserol i'r anghenion a nodwyd. Arweiniodd yr adolygiad at greu Tîm Grwpiau sy'n Agored i Niwed a ddaeth yn gwbl weithredol ym mis Mehefin 2018.  Nodwyd bod adolygiad o waharddiadau cyfnod penodol sy'n cynnwys rhai a chanddynt ddatganiadau anghenion addysgol arbennig yn faes i'w ddatblygu yn yr Hunanwerthusiad Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn 2019-2020.

 

Blaenoriaeth strategol arall yw sefydlu gweledigaeth gyffredin i'r Gyfarwyddiaeth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.  Mae'r holl dimau gweithredol yn y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd wedi creu eu 'mapiau ffordd gweithredol' eu hunain sy'n dangos y 'llinyn aur' rhwng blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol allweddol ac amcanion cyflawni. Bydd aelodau etholedig yn cymryd rhan yn y broses hon yn ystod tymor yr hydref 2019.

 

O ganlyniad i Ddeddf Tribiwnlys Addysg Anghenion Addysgol Arbennig, bydd gweithredir newidiadau i'r broses o lunio datganiadau. Mae'r awdurdod lleol yn paratoi i weithredu system y Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn rhan o'r Cynllun Trawsnewid ADY a gaiff ei fonitro'n fisol yng nghyfarfod y Bwrdd Trawsnewid.  Yn rhan o'r broses weithredu, bydd pob plentyn ac unigolyn ifanc a chanddo ddatganiad ar hyn o bryd yn cael ei ystyried i ddechrau, yn gysylltiedig â symud tuag at CDU. Bydd yr awdurdod lleol yn parhau i gymhwyso'r trefniadau monitro trwyadl i broses y CDU yn rhan o'i gyfrifoldeb statudol.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd C Webster

 

Diolch i'r Swyddogion Addysg am ddarparu gwybodaeth mewn ymateb i'm cwestiwn.

 

a.         Yng nghyfrifiad CYBLD ym mis Ionawr 2018, yr oedd 379 o blant â Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)

b.         Roedd 32 o ddisgyblion â Datganiad AAA wedi'u gwahardd.

c.         Cafodd 16 o ddisgyblion â Datganiad AAA eu gwahardd ar fwy nag un achlysur.

 

Nid yw hyn yn cynnwys plant sydd yn rhan o'r cynllun Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy.

 

Rydw i wedi bod mewn cysylltiad ag amryw o rieni plant â Datganiadau AAA a phlant sydd yn rhan o'r cynllun Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy ar draws y Fwrdeistref. Maent hwy yn adrodd problemau tebyg, sef nad yw ymddygiad eu plentyn, sydd yn deillio'n uniongyrchol o'i anabledd,  yn cael ei reoli'n briodol. Enghraifft o hyn yw diffyg cefnogaeth yn ystod amser egwyl pan geir llawer o'r digwyddiadau, dulliau o reoli ymddygiad nad ydynt yn addas ar gyfer anabledd y plentyn neu'r ysgol y mae'n ei fynychu.

 

Beth mae'r Aelod Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod yr addasiadau rhesymol sydd eu hangen ar y plant hyn yn cael eu cyflwyno fel nad ydynt yn colli eu haddysg ac yn gallu mynychu'r ysgol, gan fod diffyg presenoldeb yn amharu ar lesiant y teulu cyfan?

 

Ymateb yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

 

Gallwch holi'r Gwasanaeth Cyswllt Teuluoedd am wybodaeth yn gysylltiedig â'r uchod, gan gynnwys achosion unigol. Os byddwch yn fy nghopïo i yn y neges, byddaf yn monitro'r sefyllfa ac yn sicrhau yr eir ar drywydd eich ymateb(ion) ac y gweithredir yn sgil hynny.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd P Davies

 

Pa ddarpariaeth neu gynlluniau ychwanegol (os o gwbl) sydd wedi cael eu sefydlu yn Ysgol Pont y Crychydd, yn y tymor byr a'r tymor hir, i roi cefnogaeth well i'r bobl ifanc sy'n mynychu (Ysgol) Pont y Crychydd.

 

Ymateb yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

 

Efallai y bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r twf yn y galw am y math o ddarpariaeth a geir yn Ysgol Pont y Crychydd, a'n huchelgais yn y tymor canolig yw cael ysgol arbennig newydd wedi'i moderneiddio yn rhan o gynigion ehangach Band B. Mae'r mesanîn ar lawr uchaf Ysgol Pont y Crychydd wedi cynnig darpariaeth ychwanegol o'r fath, ac wedi rhoi cyfle i'r ysgol ddefnyddio'r gofod arall a geir yno i ddisgyblion, gan gynnwys disgyblion h?n (i gefnogi eu hanghenion unigol neilltuol). Ychwanegodd fod  T? Harwood ar dir Pont y Crychydd hefyd yn cynnig gofod byw i unigolion ag ADY.

 

Trydydd cwestiwn atodol gan y Cynghorydd S Baldwin

 

Ac eithrio Pont y Crychydd, pa ddatblygiadau eraill neu ddarpariaeth arall a geir i unigolion ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) o fewn y Fwrdeistref Sirol.

 

Ymateb yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

 

Ceir dosbarthiadau Arsylwi/Unedau Arbenigol mewn ysgolion amrywiol o fewn y Fwrdeistref Sirol sy'n cefnogi pobl ifanc ag AAA, gan gynnwys y buddsoddiadau canlynol a wnaed yn ddiweddar:-

 

  • Ysgol Bryn Castell - dosbarthiadau Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig a 3 dosbarth ychwanegol yn 2018/19 i gefnogi cynnydd yn nifer y disgyblion yn yr ysgol (cost o fwy na £400,000)

 

  • Canolfannau Adnodd Dysgu Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig - mewn ysgolion Cymraeg a Saesneg yn 2018/19 er mwyn bodloni'r effaith dros flwyddyn gyfan. Canolfannau Adnodd Dysgu newydd ar gyfer Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig wedi agor yn YGG Llangynwyd, Ysgol Gynradd Pencoed ac YGG Calon y Cymoedd, fydd yn agor ym mis Medi 2019. (£314k)

 

  • Canolfannau Adnodd Dysgu Anawsterau Dysgu Cymedrol - wedi'u dyrannu i Ysgolion Cynradd ac Uwchradd drwy gyllidebau wedi'u dirprwyo iddynt (£320,000). I ysgolion cynradd ar sail dosbarthiadau ac i ysgolion uwchradd ar sail lleoedd.  

 

Cynghorydd T Giffard i'r Arweinydd

 

Fel cyfranogwr a buddsoddwr o bwys ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a all yr Arweinydd amlinellu'r prosiectau a sicrhawyd hyd yma a fydd o fudd uniongyrchol i bobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr?

 

Ymateb yr Arweinydd

 

Llofnodwyd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ffurfiol ar 1 Mawrth 2017, ac fe gafwyd cefnogaeth ac ymrwymiad iddi gan bob un o'r 10 o awdurdodau lleol yn Ne Ddwyrain Cymru, gan gynnwys yr awdurdod hwn. Cytundeb gwerth £1.2 biliwn yw'r Fargen er mwyn rhyddhau twf economaidd sylweddol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Yn benodol, mae'r Fargen yn ceisio gwella cynhyrchiant, mynd i'r afael â diffyg gwaith, adeiladu ar seiliau arloesedd, buddsoddi mewn seilwaith ffisegol a digidol, rhoi cefnogaeth i fusnesau a sicrhau bod pob rhan o'r rhanbarth yn profi budd economaidd.

 

Cymeradwyodd y deg cyngor partner Gronfa Fuddsoddi Ehangach

Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sef cyfanswm o £495 miliwn, a oedd yn cynnwys grant o £375 miliwn oddi wrth Lywodraeth y DU dros yr 20 mlynedd nesaf. Bydd y 10 cyngor partner yn cyfrannu'r £120 miliwn sy'n weddill, ar sail sylfaen eu poblogaeth. Mae'r cyfraniad hwn wedi'i fodelu ar hyn o bryd ar ffurf 100% o gyfalaf. Cyfraniad Pen-y-bont ar Ogwr yw £11 miliwn.

 

Nid yw'r rhaglen fuddsoddi hirdymor hon ond wedi dechrau ers dwy flynedd, felly mae hi'n ddyddiau cynnar o hyd. Ym mis Mai 2017, cytunodd y Cabinet Rhanbarthol i fuddsoddi £38.5 miliwn o fenthyciad i gefnogi datblygiad clwstwr o led-ddargludyddion cyfansawdd yn y rhanbarth. Mae IQE Ltd wedi symud i hen ffatri LG yng Nghasnewydd. Un ffactor allweddol bwysig yn gysylltiedig â'r buddsoddiad hwn yw cyrhaeddiad IQE, nid yn unig o ran y cyflogeion uniongyrchol sy'n byw ym mhob rhan o'r 10 o awdurdodau lleol partner a'r cyfle am swyddi newydd â chyflog da, ond hefyd o ran y cwmnïau y maent yn gweithio gyda hwy a'u cadwynau cyflenwi ar draws y rhanbarth. Yn ogystal â hyn, mae cael swyddi â chyflogau uchel yn y rhanbarth mewn diwydiant uwch-dechnoleg yn golygu bod Coleg Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn cefnogi'r clwstwr drwy helpu i gyflenwi'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd mor bwysig i'r diwydiant.

 

Yn fwy diweddar, pleser o'r mwyaf oedd i'r Arweinydd gyhoeddi bod buddsoddiad uniongyrchol wedi'i gynllunio yn y Fwrdeistref Sirol yn rhan o gynigion Metro a Mwy. Mae Metro a Mwy yn cynnig potensial i ddatblygu rhaglen gyfan o weithgarwch sydd yn cyfrannu at ddarparu Metro a symudedd yn y rhanbarth, sydd yn cyd-fynd â hynny ac yn ychwanegu at hynny. Prosiect ar y cyd â Llywodraeth Cymru ydyw a'i bwrpas yw gwella cysylltedd y rhanbarth cyfan, gan gefnogi cynlluniau i weithredu cyfres o fesurau mwy lleol yn gyflym, fydd o gymorth i sicrhau datblygiad economaidd cynaliadwy, drwy gysylltu pobl, cymunedau a busnesau â chyflogaeth, gwasanaethau, cyfleusterau a marchnadoedd, drwy seilwaith dibynadwy a chydnerth.

 

Y cynllun arfaethedig ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw gweithredu cyfleuster parcio a theithio yng ngorsaf reilffordd y Pîl yn rhan o'r gwaith o ddatblygu canolfan drafnidiaeth integredig sydd hefyd yn gwasanaethu cymunedau lleol Porthcawl, Mynydd Cynffig, Cefn Cribwr a Chorneli. Bydd y cyfleuster arfaethedig gwerth £3 miliwn yn cynnwys lle i oddeutu 75 o geir yn ogystal â chyfleusterau gwefru cerbydau trydan, mannau parcio beiciau, cysylltiadau gwell ag Ystâd Ddiwydiannol Village Farm sydd yn tyfu, a gwelliannau teithio egnïol. Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y defnydd o orsaf y Pîl o 2016/17 yn dangos bod 118,910 o deithiau wedi cychwyn o'r orsaf, sef cynnydd o 35% o gymharu â'r lefelau a gofnodwyd yn 2011/12.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch fod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac yn edrych ymlaen at weld y buddion a'r prosiectau a wireddir ar draws y rhanbarth dros y 10 mlynedd nesaf. Mae'r cynllun Diwydiannol ac Economaidd ar gyfer y rhanbarth a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac a ddatblygwyd gan y Diwydiant, yn amlygu meysydd twf a manteision cystadleuol posibl i'r rhanbarth, gan gynnwys mewn meysydd fel Biodechnoleg ac Ynni, ac rwy'n sicr bod Pen-y-bont ar Ogwr mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd hyn fydd yn dod i'r amlwg yn y dyfodol.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd. T Giffard

 

Diolch am eich ymateb ac am y diweddariad ychwanegol yn eich adroddiad yn gynharach.  Fodd bynnag, canfyddiad trigolion ar hyd a lled Pen-y-bont ar Ogwr yw ein bod yn rhoi llawer o arian i Gaerdydd a allai gael ei wario ar wasanaethau lleol yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Rwy'n si?r nad yw hynny'n wir, ac os nad yw'n wir, beth mae'r Arweinydd yn mynd i'w wneud i sicrhau bod gan bobl ddealltwriaeth well o'r cyfleoedd a allai ddod yn sgil y Fargen Ddinesig o ran swyddi a buddsoddi.

 

Ymateb yr Arweinydd

 

Prosiect i wella gorsaf reilffordd y Pîl (fel y soniwyd uchod) fyddai'r prosiect cyntaf yr ystyrir ei dargedu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a hynny'n rhan o Metro a Mwy. Byddai hyn, yn anad dim, o fudd i drigolion a chymuned ehangach Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (yn enwedig yn ardal y Pîl/Cynffig) a hefyd o fudd i eraill mewn ardaloedd pellach. Prosiect gwerth £1.2 biliwn yw Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac ni fyddai'r prosiect yn esgor ar ganlyniadau dros nos, gan mai prosiect dros gyfnod o 10 mlynedd ydyw. Byddai hefyd yn ceisio denu busnesau i Ben-y-bont ar Ogwr a'r rhanbarth ehangach, er mwyn hyrwyddo adfywio a ffyniant economaidd yn y Fwrdeistref Sirol ac mewn lleoliadau eraill yn Ne Ddwyrain Cymru sydd wedi'u cynnwys yn y Fargen Ddinesig. Nid oes unrhyw fwriad i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd dargedu unrhyw leoliad ar draul y llall, gan gynnwys ardal y brifddinas ei hun. Mae'n ymwneud yn fwy â datblygu prosiectau sydd yn creu'r budd mwyaf i'r rhanbarth cyfan yn y tymor hir, yn hytrach na chanolbwyntio'n benodol ar yr ardaloedd sydd yn ffurfio'r deg Awdurdod sy'n cymryd rhan yn y Fargen Ddinesig.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd J Gebbie

 

Mae'r gwelliannau sydd wedi'u cynllunio i orsaf reilffordd y Pîl yn swm sylweddol o fuddsoddiad. Roedd hi'n gobeithio y ceid gwasanaethau mwy rheolaidd ar hyd y llwybr hwn yn sgil y buddsoddiad hwnnw, a fyddai hefyd yn golygu bod trenau yn stopio'n amlach yn y Pil, i godi/gollwng teithwyr o'r ardal honno a'r ardaloedd cyfagos.

 

Ymateb yr Arweinydd

Uchelgais CBS Pen-y-bont ar Ogwr yw cael gwasanaethau trên mwy mynych (ac arosiadau codi/gollwng) yn y Pîl ac mewn gorsafoedd eraill yng ngorllewin y Fwrdeistref Sirol er mwyn pontio'r bwlch gyda gwasanaethau tebyg i'r dwyrain. Bydd yr awdurdod yn parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.

 

Trydydd cwestiwn atodol gan y Cynghorydd R Penhale-Thomas

 

Yn ddiweddar aeth llond llaw o arweinwyr llywodraeth leol o Dde Ddwyrain Cymru i gynhadledd MIPIM yn Cannes, arddangosfa eiddo ac eiddo tirol, yn rhan o'r gwaith i farchnata Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ar ddiwedd eu hymweliad, siaradodd Cadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Andrew Morgan, am bosibiliadau newydd cyffrous ar ôl cymryd rhan mewn nifer o drafodaethau â rhanddeiliaid. A all yr Arweinydd rannu'r posibiliadau hynny â ni?

 

Ymateb yr Arweinydd

 

Nid oes unrhyw fanylion hyd yma. Fodd bynnag, aethpwyd ar drywydd dros 150 o gynlluniau posibl gyda darpar ddatblygwyr posibl yn sgil yr ymarfer marchnata uchod. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gwerthu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a manteision ei phrosiectau posibl i ddarpar fuddsoddwyr, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau'r diddordeb a'r buddsoddiad ychwanegol posibl a ddaw yn sgil hynny i Ben-y-bont ar Ogwr, ac i ardaloedd eraill sydd wedi'u cynnwys ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

 

Y Cynghorydd T Thomas i'r Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet perthnasol roi amlinelliad o'r hyn sydd a wnaed i leihau'r cyfraddau smygu yn y Fwrdeistref Sirol i'r rhai sydd yn dymuno rhoi'r gorau iddi?

 

Ymateb yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Gweler Atodiad A sydd ynghlwm wrth y Cofnodion hyn.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd. T Thomas

 

A yw'r cyngor yn cefnogi defnyddio e-sigarennau fel dull o leihau cyfraddau smygu tybaco ymhlith y rhai sy'n dymuno rhoi'r gorau i'r arfer, fel dull o gefnogi iechyd a phobl?

 

Ymateb yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

 

Nid oes gennym bolisi atal smygu, ond mae'r Cyngor yn gweithio ar Bolisi Atal Tlodi. Fel y nodir uchod, mater i Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn fwy na neb arall, yw smygu. Felly awgrymaf y dylech gysylltu â hwy i'w holi ymhellach ynghylch hyn. Mae'r Weithrediaeth, fodd bynnag, yn annog pobl i beidio smygu gan fod hynny'n niweidio'r bobl sydd yn smygu a'r cyhoedd ar raddfa ehangach. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod hyn yn rhywbeth y gellid ei ystyried ymhellach drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. At hynny, ychwanegodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio y bydd unrhyw ddisgybl sy'n cael ei ddal yn smygu yn yr ysgol yn wynebu cosb ddifrifol, a bydd athrawon hefyd yn wynebu cosb os cânt eu dal yn gwneud hynny.  

 

Y Cynghorydd A Hussain i'r Dirprwy Arweinydd

 

Ni wnaeth 40% o larymau mwg sydd yn rhedeg ar fatri, na 22% o larymau mwg prif gyflenwad, actifadu ar linellau preswyl yn Lloegr. Dengys ystadegau o'r diwydiant nad yw mwy nag un o bob pump fyth yn profi eu larymau, ac nad oes gan 1 o bob 10 deilydd t? unrhyw larwm mwg sy'n gweithio. Yng Nghymru, aeth Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i 8,271 o danau mewn anheddau rhwng 2017-18, sef cynnydd o 25%,ac nid oedd larwm mwg wedi'i osod yn 3 o bob 10 o'r anheddau hynny. Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol, sy'n cynrychioli dros 370 o gynghorau ac awdurdodau tân yng Nghymru a Lloegr yn annog deiliaid tai i brynu larwm mwg a'i wirio'n rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio. A ydym yn gwybod beth yw'r ffigurau ystadegol ar gyfer larymau mwg a fethodd yma yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, a beth yw ein polisi er mwyn cadw ein trigolion yn ddiogel?

 

Ymateb y Dirprwy Arweinydd

 

Mae system larwm gwifrau sefydlog wedi'i gosod yn holl eiddo preswyl, corfforaethol ac addysg CBS Pen-y-bont ar Ogwr hyd at safon L1 (pob ystafell drwy'r holl eiddo, gan gynnwys ystafelloedd storio a gofodau yn yr atig). Caiff pob system ei phrofi hyd at safon BS5839-1:2017. Mae'n ofynnol inni arolygu'r rhain o leiaf 2 waith y flwyddyn, ond rydym ar hyn o bryd yn eu harolygu 4 gwaith ac yn trwsio unrhyw ddiffygion a ddaw i'r amlwg ar yr un diwrnod os oes modd. Os nad yw hynny'n bosibl, mae gennym brotocol i roi gweithdrefnau eraill ar waith ar y safle nes bo unrhyw waith trwsio wedi'i gwblhau.

Nid oes unrhyw gofnod o ddigwyddiadau yn 2018/19 lle na wnaeth larwm actifadu. Nid yw hyn yn cynnwys y stoc o dai domestig y mae Cymoedd i'r Arfordir (V2C) yn berchen arnynt ac yn eu cynnal.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd A Hussain

 

Mae llawer o breswylwyr yn fy ward ac yn y Bwrdeistref heb larymau mwg, ac rydym yn gwybod eu bod yn gallu achub bywydau, ac mae hynny wedi'i brofi. Mae angen iddynt hefyd fod yn ymwybodol o beryglon carbon monocsid, nwy hynod o wenwynig nad oes ganddo unrhyw liw, blas nac arogl. A oes Gwasanaethau Tân ac Achub yn y Fwrdeistref a all helpu'r trigolion hynny a gosod synwyryddion mwg a charbon monocsid yn rhad ac am ddim, yn enwedig i'r rhai sydd yn teilyngu hynny a'r henoed, yn rhan o ymweliad diogelwch tân yn y cartref?

 

Ymateb y Dirprwy Arweinydd

 

Mae angen i chi ymgynghori â Gwasanaeth Tân De Cymru ynghylch hyn. Ond ychwanegodd y byddai'n ymdrechu i gael yr wybodaeth hon ei hun ac wedi hynny yn trefnu i'w rhannu â'r holl Aelodau y tu allan i'r cyfarfod. Byddai'r Gwasanaeth Tân hefyd, ar gais, yn ymweld â chartrefi unigol ac yn cynnal Gwiriad Iechyd/Asesiad Diogelwch er mwyn canfod a fyddai unrhyw larymau mwg neu ddyfeisiau tebyg o fudd sylweddol i'r eiddo, o safbwynt iechyd a diogelwch.  Ychwanegodd un o'r Aelodau, o dan reoliadau Rheoli Adeiladu, fod synwyryddion mwg a thân yn cael eu gosod ym mhob gartref newydd fel gofyniad sylfaenol.

 

Y Cynghorydd MC Voisey i'r Aelod Cabinet - Cymunedau

 

A all yr Aelod Cabinet roi gwybod i'r Cyngor faint o hysbysiadau cosb gorfodi a gyflwynwyd, a gwerth yr hysbysiadau hynny, dros y 12 mis diwethaf ar gyfer:

 

• Troseddau parcio

• Baw Ci

• Sbwriel a thipio anghyfreithlon

• Peidio cydymffurfio â rheoliadau casglu gwastraff

 

Ymateb yr Aelod Cabinet - Cymunedau

 

Mae'r ffigurau y gofynnwyd amdanynt o ran nifer yr hysbysiadau gorfodi cosb a gyflwynwyd yn y 12 mis diwethaf wedi'u nodi isod.  Mae Hysbysiad Cosb Sefydlog fel arfer yn golygu dirwy/taliad o:

 

Baw Ci, Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon

£100

 

Troseddau Parcio:

 

 

Aros y rhy hir mewn maes parcio

£25 i £ 50

Swm is am dalu’r ddirwy yn gynnar

Llinellau melyn dwbl/Mannau i bobl anabl

£35 i £ 70

Swm is am dalu'r ddirwy yn gynnar

 

Nodir bod nifer o hysbysiadau cosb yn cael eu cyflwyno ac wedyn yn cael eu canslo, eu rhoi heibio, neu'n hysbysiadau nad yw'r Cyngor yn mynd ar eu trywydd.  Y prif reswm am hyn yn achos troseddau parcio yw apelau llwyddiannus (887), ac oes yw'r hysbysiad yn cael ei 'ddiystyru' (468) am amrywiaeth o resymau fel gwallau, wedi'i ddifrodi, dim gwybodaeth gan y DVLA, beilïod yn methu casglu ac ati.

 

Yn yr un modd, mae nifer o'r hysbysiadau'n gysylltiedig â thipio anghyfreithlon hefyd yn cael eu 'rhoi heibio' oherwydd penderfynir mewn sawl achos fod y sbwriel mewn gwirionedd wedi'i gyflwyno yn y dull anghywir mewn ardal breswyl, er ei fod wedi'i riportio fel achos o dipio'n anghyfreithlon. Bryd hynny mae'n well ymgysylltu â'n timau addysg gwastraff i ddechrau er mwyn ceisio canfod ffordd o wella'r modd y cyflwynir gwastraff a chynyddu'r gyfradd ailgylchu mewn ardal benodol.  Wrth gwrs, os bydd diffyg cydymffurfio â pholisïau gwastraff y Cyngor yn parhau i achosi problem, mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i gyflwyno hysbysiadau cosb sefydlog mewn rhai amgylchiadau.

 

I gloi, ni cheir unrhyw achosion o gyflwyno hysbysiad cosb sefydlog dros y 12 mis diwethaf am ollwng sbwriel a baw ci.  Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn ddiweddar wedi gofyn i bartner allanol gyflawni gwaith gorfodi ar ei ran yn gysylltiedig â'r materion hyn, felly yn sgil y cynnydd hwnnw mewn adnoddau rhagwelwn y bydd nifer yr hysbysiadau'n cynyddu dros y 12 mis nesaf.

 

 

O fis Mawrth 2018 i fis Mawrth 2019

 

Nifer a Gyflwynwyd

 

Nifer a Dalwyd

 

Nifer a Hepgorwyd

 

Troseddau Parcio

 

8531

 

6225

 

1355

 

Baw Ci

 

0

 

0

 

0

 

Sbwriel

 

0

 

0

 

0

 

Tipio anghyfreithlon

 

76

 

19

 

47

Diffyg cydymffurfio

â Rheoliadau Casglu Gwastraff

 

11

 

1

 

10

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd MC Voisey i'r Aelod Cabinet - Cymunedau

 

Beth mae'r Cyngor yn bwriadu ei wneud i leihau baw ci ac achosion eraill o ollwng sbwriel, tipio anghyfreithlon ac ati? I gefnogi ei gwestiwn atodol, darllenodd lythyr oddi wrth unigolyn ifanc o ardal yr Hengastell ynghylch baw ci.

 

Ymateb y Dirprwy Arweinydd/Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol

 

O ddiwedd mis Ebrill 2019, byddai Tîm Gorfodi yn cael ei sefydlu yn rhan o Gontract cytunedig, er mwyn cryfhau'r broses o gyflwyno hysbysiadau cosb sefydlog i unigolion sy'n cael eu dal yn gollwng sbwriel/caniatáu i'w ci faeddu ardal gyhoeddus ac ati. Nid yw nifer yr hysbysiadau a gyflwynwyd i aelodau o'r cyhoedd, fel y dangosir yn yr ymateb i'r cwestiwn gwreiddiol uchod, o ran y nifer a dalwyd (mewn dirwyon) a'r rhai a hepgorwyd, yn cyfateb, oherwydd rydym yn disgwyl i rai o'r achosion hyn gael eu cwblhau. Fel yr hysbysodd y Dirprwy Arweinydd, gobeithir y bydd y Contract newydd fydd yn weithredol o ddiwedd mis Ebrill yn arwain at gyflwyno mwy o Hysbysiadau/dirwyon, a fydd yn eu tro gobeithio yn achosi i'r cyhoedd fod yn fwy ymwybodol o'r cosbau posibl o'u cael yn euog o gael gwared ag amrywiaeth o sbwriel yn anghyfreithlon. Ychwanegodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol mai'r gobaith oedd y byddai'r incwm yn sgil cyflwyno hysbysiadau/dirwyon a delir yn creu digon o adnoddau i ariannu'r Contract. Roedd gwasanaeth tebyg wedi cael ei roi ar waith yn llwyddiannus yng Nghyngor Bro Morgannwg. Ni fyddai hysbysiadau yn cael eu cyflwyno bob tro os oedd ffactorau i liniaru hynny, hy pe bai aelod o'r cyhoedd yn anghofio ei fathodyn glas ac wedyn yn profi ei fod yn dal bathodyn o'r fath, gyrwyr yn dangos bod ganddynt awdurdod i barcio mewn cilfan lwytho ac ati. Roedd arian hefyd yn cael ei fuddsoddi er mwyn addysgu'r cyhoedd i ymddwyn yn fwy cyfrifol ac i beidio gollwng/gwaredu mathau amrywiol o sbwriel, yn hytrach na chosbi drwgweithredwyr am wneud hynny yn unig.