Agenda item

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Band B

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd, y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 adroddiad ar y cyd a roddai'r newyddion diweddaraf i'r Cyngor ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru i newid cyfradd ymyrraeth y Model Buddsoddi Cydfuddiannol ar gyfer Band B; gofynnodd i'r Cyngor gefnogi'r ymrwymiad ariannol diwygiedig oedd ei angen er mwyn cyflawni Band B o'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, ac yn olaf, cymeradwyo newid y Rhaglen Gyfalaf i adlewyrchu'r ymrwymiad newydd.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 fod y Cabinet, yn 2010, wedi cymeradwyo'r cynlluniau a argymhellwyd a oedd wedi'u cynnwys ym mhob un o bedwar band y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion (A-D) y manylwyd arnynt wedyn yn Rhaglen Amlinellol Strategol Ysgolion yr 21ain Ganrif Pen-y-bont ar Ogwr. Cyflwynwyd y RhAS i LlC yn 2011, ac fe gafwyd 'cymeradwyaeth mewn egwyddor' gan y gweinidogion ar ei chyfer, yn amodol ar gwblhau proses achos busnes LlC. 

 

Mewn adolygiad strategol o ddatblygiad a gwaith rhesymoli darpariaeth y cwricwlwm ac ystadau ar gyfer addysg gynradd, uwchradd ac ôl-16 a gynhaliwyd yn 2016, nodwyd bod blaenoriaethau Band B wedi'u diwygio ers y rhai a nodwyd yn RhAS 2010.

 

Cafodd RhAS, sy'n adlewyrchu'r blaenoriaethau diwygiedig, ei chyflwyno i LlC ym mis Gorffennaf 2017. Yn dilyn hynny, cymeradwyodd y Cabinet i derfynu'r cynlluniau Band B gwreiddiol a nodwyd ym mis Tachwedd 2010 a chymeradwyo'r rhestr ddiwygiedig.

 

Roedd paragraff 3.6 wedyn yn amlinellu'r cynlluniau dan sylw.

 

Ym mis Rhagfyr 2017, cafwyd 'cymeradwyaeth mewn egwyddor' gan LlC ar gyfer yr ail don o fuddsoddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Amcangyfrifir mai cwmpas costau'r rhaglen yw £68.2 miliwn ar hyn o bryd. 

 

Ym mis Ionawr 2018, rhoddodd y Cyngor gymeradwyaeth mewn egwyddor ar gyfer yr ymrwymiad ariannol yr oedd ei angen ar gyfer Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, yn amodol ar ganfod a neilltuo adnoddau digonol er mwyn bodloni'r ymrwymiad o ran arian cyfatebol.

 

Parhaodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 drwy ddweud bod LlC wedi diwygio'r ymagwedd at gaffael MBC yn 2018. Byddai Partner Cyflawni'r Sector Preifat yn cael ei gaffael i fod yn brif gyfranddaliwr mewn Partneriaeth Addysg Cymru, gydag awdurdodau lleol (ALlau) a sefydliadau addysg bellach yn cymryd rhan gyda'i gilydd; LlC fyddai'n dal gweddill y cyfranddaliadau. Byddai Partneriaeth Addysg Cymru yn gallu cyflawni cynlluniau cyfalaf, ac eithrio prosiectau Band B. Yn sgil adolygiad LlC o'r MBC, ystyrir bellach nad yw'r trefniant ariannu hwnnw yn addas i gyflenwi ysgolion arbennig.

 

Ym mis Tachwedd 2018, ailystyriodd y Cabinet opsiynau ariannu'r rhaglen, gan benderfynu, o gymharu'r gost debygol i'r awdurdod lleol dros gyfnod o 30 mlynedd, mai'r defnydd gorau o adnoddau ariannol y Cyngor fyddai defnyddio cyfuniad o gyfalaf a MBC i gyflawni Band B.

 

Ar ôl penderfyniad y Cabinet ym mis Tachwedd, a chyn cyfarfod y Cyngor, ychwanegodd fod LlC wedi cyhoeddi ei bod wedi adolygu ei chyfradd ymyrraeth ar gyfer grantiau cyfalaf, gan gynyddu'r gyfradd o 50% i 75% ar gyfer cynlluniau ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion, ac o 50% i 65% ar gyfer yr holl gynlluniau eraill; Dywedodd LlC y byddai cyfradd ymyrraeth y MBC yn aros yn sefydlog ar 75%.

 

Ym mis Rhagfyr 2018, cefnodd y Cabinet ar y penderfyniad a wnaed ym mis Tachwedd (fel y nodir ym mharagraff 3.11 o'r adroddiad hwn), a rhoddodd gymeradwyaeth i fynd ar drywydd opsiwn lle byddai'r holl ysgolion ym Mand B yn cael eu hariannu drwy grant cyfalaf, yn amodol ar ganfod a neilltuo digon o adnoddau i fodloni'r ymrwymiad o ran arian cyfatebol. Yn dilyn hynny, rhoddodd y Cyngor gymeradwyaeth i ddiwygio'r rhaglen gyfalaf. 

 

Ar 7 Chwefror 2019, dywedodd LlC fod Gweinidogion Addysg a Chyllid wedi newid y gyfradd ymyrraeth ar gyfer cynlluniau MBC Band B. Bydd model ariannu'r MBC yn elwa ar gynnydd o 6% yng nghyfradd ymyrraeth grant LlC, hy, yn codi o 75% i 81%.

 

Wrth symud ymlaen â MBC Band B dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151, ei bod hi'n ofynnol i LlC ffurfioli caffael Partner Cyflawni'r Sector Preifat, ac yn sgil hynny mae LlC wedi gofyn i ALlau gadarnhau eu hymrwymiad i MBC Band B erbyn 31 Mawrth 2019.

 

Mae'n rhaid i'r hysbysiad contract (a gyhoeddir drwy Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd), nodi enwau'r ALlau/SABau fydd yn gallu cyrchu gwasanaethau partner. Mae LlC wedi nodi y gellid bod modd cyflawni cynlluniau cyfalaf y tu hwnt i Fand B (hy, prosiectau dylunio ac adeiladu) drwy Bartneriaeth Addysg Cymru.

 

Mae LlC wedi dweud y bydd yn ariannu cyfran y sector cyhoeddus o gyfalaf gwaith ym Mhartneriaeth Addysg Cymru, ac felly wedi nodi nad yw'n rhagweld y ceir unrhyw gostau na risgiau yn gysylltiedig ag enwi yn yr hysbysiad contract nac o ymrwymo i'r SPA.

 

Er gwaethaf yr uchod, ychwanegodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 fod angen i'r Awdurdod fod yn gwbl fodlon â dogfennau cyfreithiol drafft LlC yn gysylltiedig â hyn. Gofynnwyd i LlC am gael gweld y dogfennau fel bo modd eu hadolygu, eu hystyried a'u cymeradwyo o safbwynt yr Awdurdod, cyn ymrwymo i drefniant o'r fath.

 

Daeth â'i chyflwyniad i ben wedyn drwy gyfeirio goblygiadau ariannol yr adroddiad i sylw'r Aelodau, gan gasglu o'r 4 Opsiwn ariannu a ddangoswyd ym mharagraff 8.1 (yr adroddiad), y dylai'r Cyngor ystyried mynd ar drywydd Opsiwn 3 am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn hynny, gofynnodd yr aelodau amryw o gwestiynau a atebwyd yn briodol gan y Swyddogion.

 

Wedi hynny, daeth yr Arweinydd â'r drafodaeth ar yr eitem i ben, drwy ddweud bod gan y Cyngor a'r Cabinet rolau gwahanol wrth ystyried cynlluniau sydd wedi'u cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf. Rôl y Cyngor oedd cymeradwyo cyllid ar gyfer ymrwymiadau'r rhaglen gyfalaf, ond y Cabinet oedd yn ystyried ac yn cymeradwyo'r cynlluniau amrywiol eu hunain.

 

PENDERFYNWYD:                     (1) Bod y Cyngor yn cymeradwyo mewn egwyddor yr ymrwymiad ariannol diwygiedig ar gyfer Opsiwn 3, fel y cafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet, sydd ei angen ar gyfer Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. Byddai'r gymeradwyaeth yn amodol ar ganfod a neilltuo digon o adnoddau i fodloni'r ymrwymiad o ran arian cyfatebol.

 

                                       (2) Bod y Cyngor at hynny yn cymeradwyo cynnwys y gyllideb ddiwygiedig sydd ei hangen yn gysylltiedig â Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn y rhaglen gyfalaf.

Dogfennau ategol: