Agenda item

Atal Rheolau'r Weithdrefn Gontractau a Dyfarnu Contractau'r Gwasanaeth Landlord Corfforaethol

Cofnodion:

Gofynnodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol am gymeradwyaeth i ddyfarnu contract ar gyfer trefniadau rheoli dros dro a chefnogaeth ymgynghori i'r Gwasanaeth Landlord Corfforaethol o fewn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau; atal rhannau perthnasol o Reolau'r Gweithdrefn Gontractau'r Cyngor mewn perthynas â'r gofyniad i aildendro'r contractau cyfredol a gaffaelwyd ar gyfer y gwasanaethau hyn ac awdurdodi'r Prif Weithredwr Dros Dro i ymrwymo i gontractau â'r darparydd presennol am gyfnod pellach o ddeunaw mis yn unol â thelerau diwygiedig.

 

Dywedodd fod Peopletoo Limited wedi bod yn gweithio gyda'r Cyngor dros y 18 mis diwethaf i drawsnewid y gwasanaethau Amgylchedd Adeiledig, ac er mwyn helpu'r Cyngor i symud tuag at wasanaeth Landlord Corfforaethol integredig, gan sicrhau gwelliannau mesuradwy o oddeutu  £500,000 y flwyddyn.   Mae gwelliannau ansawdd wedi cael eu cyflwyno yn gyffredinol, gan gynnwys gwelliant nodedig o ran cydymffurfiaeth asedau a bodlonrwydd cwsmeriaid, Dywedodd fod y Cyngor yn gallu dangos enillion cryf ar fuddsoddiad gan fod Peopletoo wedi cael eu comisiynu fel ymgynghorwyr yn wreiddiol drwy broses gaffael gystadleuol.  Yn ogystal â hynny, roedd y Cyngor wedi caffael Peopletoo ar wahân drwy broses gaffael gystadleuol i ddarparu Rheolwr Dros Dro i'r Gwasanaeth Landlord Corfforaethol ar gyfer y 14 mis diwethaf.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol - fod y Cyngor wedi ceisio penodi Rheolwr Dros Dro parhaol ar dri achlysur gwahanol, ond na fu modd iddo benodi unigolyn o safon ddigonol â sgiliau arwain uwch reolwr. Mae cyfnod contract y gwasanaeth ymgynghori gan Peopletoo bellach wedi dod i ben, ac mae'n bryd dirwyn y contract ar gyfer y swydd Rheolwr Dros Dro hefyd, ond heb gael hyd i ddatrysiad ymarferol arall ceir perygl difrifol na cheir arweinyddiaeth ar lefel uwch i'r  gwasanaeth Landlord Corfforaethol, a hynny ar adeg lle mae llawer o heriau ariannol a gweithredol yn bodoli o hyd. Pe bai'r gefnogaeth uwch reoli yn dod i ben o fewn y gwasanaeth Landlord Corfforaethol, gallai hynny olygu na ellir cyflawni'r arbedion pellach a nodwyd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.  Gallai'r gwasanaeth hyd yn oed gymryd cam yn ôl a dad-wneud rhai o'r newidiadau cadarnhaol a gafwyd dros y deunaw mis diwethaf.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol adroddiad ar gynnig i benodi Peopletoo am gyfnod pellach o ddeunaw mis i reoli'r broses o weithredu, ac o fod yn atebol am gyflawni'r mentrau newydd hyn, gan weithio'n agos gyda thimau presennol i sicrhau'r canlyniadau gofynnol o ran cyllid a pherfformiad. Yn ogystal â hyn, byddai Peopletoo yn cymryd drosodd y gwaith o reoli'r maes gwasanaeth yn uniongyrchol yn ystod y cyfnod dan sylw, drwy ddarparu Rheolwr Dros Dro ac unrhyw gefnogaeth arall sydd ei hangen. Yr hyn a gynigir yn ei hanfod yw gwasanaeth rheoli am gyfnod penodol. Ar ddiwedd y cyfnod hwn bydd y Cyngor yn derbyn gwasanaeth cryf sefydlog ac wedi cyflawni'r swm sylweddol o arbedion ychwanegol.  Rhan bwysig o'r comisiwn newydd fyddai penodi Rheolwr Landlord Corfforaethol parhaol llawn-amser cyn diwedd comisiwn Peopletoo er mwyn sicrhau cyfnod pontio hwylus.  Dywedodd mai'r cyfanswm a fyddai'n daladwy i Peopletoo am y contract newydd arfaethedig dros y cyfnod o ddeunaw mis fyddai rhwng £300,000 a £350,000, ac y byddai'r Cyngor yn elwa ar £500,000 yn ychwanegol mewn arbedion refeniw blynyddol, a hefyd wedi osgoi costau cyflog o fwy na £100,000.

 

PENDERFYNWYD:            Y dylai'r Cabinet:

 

           Gytuno i atal rhannau perthnasol o Reolau'r Weithdrefn Contractau yn gysylltiedig â'r gofyniad i aildendro'r contractau ar gyfer cefnogaeth ymgynghori a Rheoli Dros Dro i'r gwasanaeth Landlord Corfforaethol;

           Awdurdodi'r Prif Weithredwr ros dro i ymrwymo i gontract â Peopletoo am gyfnod pellach o ddeunaw mis.        

Dogfennau ategol: