Agenda item

Gwasanaethau Cymunedol Integredig - Cytundeb Adran 33

Cofnodion:

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar gynnydd o ran gweithredu'r achos busnes i gyflenwi gwasanaethau gofal canolraddol integredig ar raddfa optimaidd, a gofynnodd am gymeradwyaeth i ymrwymo i gytundeb adnewyddu ar gyfer darparu gwasanaethau i oedolion a phobl h?n (gofal canolraddol) gydag Ymddiriedolaeth y GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (BI PABM) ar gyfer 2018/2019.  Gofynnodd hefyd am awdurdod dirprwyedig mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, i negodi ac ymrwymo i gytundeb partneriaeth ffurfiol er mwyn darparu gwasanaethau i oedolion a phobl h?n (gofal canolraddol) rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (BI Cwm Taf) ar ôl newid ffin y bwrdd iechyd ym mis Ebrill 2019.

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Cabinet fod cyllid wedi'i fuddsoddi, yn sgil yr achos busnes, mewn model gwasanaeth gofal canolraddol optimaidd, a oedd yn cynnwys 3 elfen: Pwynt Mynediad Cyffredin; Ymateb Brys ac Ailalluogi.  Dywedodd fod yr achos busnes wedi denu buddsoddiad drwy'r Gronfa Gofal Canolraddol.  Wrth ymrwymo i'r Achos Busnes, cefnogodd y Cabinet argymhelliad i 'gymeradwyo mewn egwyddor sefydlu trefniant i gyfuno adnoddau â phartneriaid yn Rhaglen Bae'r Gorllewin, yn amodol ar greu cytundeb ffurfiol yn unol ag Adran 33 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 erbyn mis Ebrill 2015'. 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, wrth gymeradwyo'r Achos Busnes ar gyfer Gwasanaethau'r Haen Ganolraddol, y cafwyd cymeradwyaeth i sefydlu cronfa gyfun ffurfiol yn unol ag Adran 33 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.  Daeth y cytundeb hwnnw i rym o 1 Hydref 2015, a daeth i ben ar 31 Mawrth 2018.  Parhaodd y partïon i ddarparu'r gwasanaeth o dan lywodraeth y Cyd-fwrdd Partneriaeth, fel pe bai darpariaethau'r Cytundeb Adran 33 gwreiddiol yn dal mewn grym tra bo'r partïon yn cytuno ar delerau'r cytundeb diwygiedig.  Mae cytundeb bellach wedi'i sefydlu â BI PABM ynghylch telerau'r Cytundeb Adran 33 diwygiedig, a ddaw i rym o 1 Ebrill 2018 hyd at yr adeg pan fydd ffin y bwrdd iechyd yn newid ar 1 Ebrill 2019. 

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Cabinet fod BI Cwm Taf, yn ystod y trefniadau pontio ar gyfer newid ffin y bwrdd iechyd, wedi dangos ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth er mwyn cyflenwi gwasanaethau gofal canolraddol i'r Gwasanaethau Oedolion a Phobl H?n.  Mae trafodaethau ar y gweill gyda'r nod o ymrwymo i gytundeb partneriaeth ffurfiol a ddaw i rym o 1 Ebrill 2019.  Bwriedir i'r gwasanaethau integredig hyn gael eu cynnwys yn rhan o'r cytundeb partneriaeth diwygiedig â BI Cwm Taf.

 

PENDERFYNWYD:            Y dylai'r Cabinet:   

 

  • Gymeradwyo ymrwymo i adnewyddu Cytundeb Adran 33 o Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 â BI PABM ar gyfer darparu gwasanaethau i oedolion a phobl h?n (gofal canolraddol) ar gyfer 2018/19. ac

 

           Y dylid rhoi awdurdod dirprwyol i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, negodi ac ymrwymo i gytundeb ffurfiol ar gyfer darparu gwasanaethau i oedolion a phobl h?n (gofal canolraddol) â BI Cwm Taf yn unol â pharagraff 4.4 yr adroddiad.     

Dogfennau ategol: