Agenda item

Y Diweddaraf am Brexit a'r Gofrestr Risg

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Cyllid Adfywio ac Ymgysylltu Rhanbarthol adroddiad y Prif Weithredwr Dros Dro ar effaith bosibl Brexit ac ar y modd y mae'r Cyngor yn paratoi ar gyfer hynny, ac yn sail ar gyfer penderfyniadau'r Cyngor yn y dyfodol.

 

Yn dilyn pleidlais y mwyafrif i ymadael yn refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin 2016, mae llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio tuag at ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE) ar 29 Mawrth 2019.  Dywedodd fod Deddf Ymadael 2018 sydd bellach yn gyfraith yn cynnwys darpariaethau a olygai fod holl gyfreithiau'r UE yn cael eu cynnwys yng nghyfraith y DU er mwyn rhoi sicrwydd cyfreithiol i fusnesau a phreswylwyr.  Mae Llywodraeth y DU wedi ceisio sicrhau cytundeb (y Cytundeb Ymadael) â'r UE fydd yn trafod ei pherthynas â'r UE o hyn allan, a lefel ei chyfranogiad ym Marchnad Sengl ac Undeb Tollau yr UE.  Dywedodd nad oedd cytundeb wedi'i sefydlu ar hyn o bryd, ac felly mai ychydig o eglurder yr oedd ynghylch union effaith hyn ar y Cyngor ac ar Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar raddfa ehangach.

 

Hysbysodd Arweinydd y Tîm Cyllid Adfywio ac Ymgysylltu Rhanbarthol y Cabinet y byddai'r Llywodraeth yn gwneud cais i'r Senedd i estyn Erthygl 50.  Fodd bynnag, y sefyllfa ar hyn o bryd os na cheir unrhyw newid yw y bydd y DU yn ymadael â'r UE ar 29 Mawrth 2019. 

 

Adroddodd Arweinydd y Tîm Cyllid Adfywio ac Ymgysylltu Rhanbarthol fod y Cyngor wedi sefydlu Fforwm Brexit mewnol ar draws y cyfarwyddiaethau, wedi'u cadeirio gan y Prif Weithredwr dros dro.  Cylch gwaith y Fforwm yw archwilio effaith bosibl Brexit ar ddarpariaeth gwasanaeth ynghyd â chamau i liniaru rhag risgiau, a bydd hefyd yn archwilio unrhyw gyfleoedd posibl a allai godi yn sgil Brexit.  Dywedodd fod asesiad risg wedi cael ei lunio, a'i gynnwys yn seiliedig ar gyfraniad arweinwyr maes gwasanaeth sy'n gweithio o fewn y Fforwm.  Yr oedd hefyd yn seiliedig ar waith a gyflawnwyd ar y cyd ag awdurdodau lleol ledled Cymru a phartneriaid eraill allweddol.  Dywedodd mai dogfen fyw yw'r asesiad risg i raddau helaeth, a'i fod yn rhoi cipolwg o waith ar adeg benodol.  Mae'r asesiad yn parhau i gael ei ddatblygu ymhellach ac yn cael ei adolygu'n ffurfiol yn holl gyfarfodydd y Fforwm Brexit.  Dywedodd hefyd wrth y Cabinet fod Pecyn Gwaith Parodrwydd am Brexit, a luniwyd gan CLlLC mewn partneriaeth â Grant Thornton, yn rhan o'u Rhaglen Gymorth Pontio Brexit, wedi bod yn ganllaw defnyddiol wrth geisio deall y risgiau a'r cyfleoedd posibl a geir yn sgil Brexit.

 

Adroddodd Arweinydd y Tîm Cyllid Adfywio ac Ymgysylltu Rhanbarthol nad oedd y testun yn gyflawn yn Risg 33, ac er mwyn cwblhau'r adran honno ychwanegwyd y geiriau canlynol:  "rhoi cyfle i negodi prisiau, a pheidio llesteirio'r contract. 

 

Ymdriniaeth - Gan nad oedd unrhyw dariffau WTO wedi'u cytuno, amcangyfrifir y bydd prisiau bwyd yn codi - awgrymir y dylid darparu ar gyfer isafswm o 20% o gynnydd i'r gyllideb ar gyfer bwyd."

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio ddiolch i'r swyddogion am y gwaith a gyflawnwyd er mwyn llunio'r asesiad risg.  Dywedodd mai safbwynt y Cabinet oedd y byddai'r Deyrnas Unedig a'r Fwrdeistref Sirol yn gryfach o fewn yr UE ac y dylid diddymu Erthygl 50.  Rhoddodd yr Aelod Cabinet Cymunedau hefyd ganmoliaeth i'r swyddogion am yr adroddiad ac am y gwaith cynllunio ar gyfer Brexit, a oedd yn newid o hyd ac a oedd wedi rhoi straen ar adnoddau'r Cyngor.  Roedd gwaith yn cael ei gyflawni ochr yn ochr â Heddlu De Cymru yn gysylltiedig â phryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol a allai ddeillio o ymadael â'r UE. 

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol a oedd rhai risgiau'n fwy na risgiau eraill.  Dywedodd Arweinydd y Tîm Cyllid Adfywio ac Ymgysylltu Rhanbarthol wrth y Cabinet fod dangosfwrdd yn cael ei lunio sydd wedi cael ei weithredu ar lefel ranbarthol oherwydd presenoldeb nifer fawr o gwmnïau rhyngwladol, a gallai penderfyniad y DU i ymadael â'r UE effeithio ar amddifadedd. Dywedodd hefyd wrth y Cabinet fod y Tîm Adfywio yn gweithio gyda chydweithwyr gofal cymdeithasol er mwyn rhannu arfer gorau. 

 

Gofynnodd yr Arweinydd a oedd cadarnhad wedi'i dderbyn bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo cyllid ychwanegol.  Hysbysodd

Arweinydd y Tîm Cyllid Adfywio ac Ymgysylltu Rhanbarthol fod y cyllid ychwanegol yn dal heb ei gadarnhau, ond y byddai'n debygol o olygu £45,000 fesul awdurdod lleol. 

 

Gofynnodd y Cabinet am gael darparu gwybodaeth dangosfwrdd ychwanegol a oedd bellach wedi'i chasglu ar lefel ranbarthol, er mwyn edrych ar yr effaith ar fusnesau.

 

PENDERFYNWYD:             Y dylai'r Cabinet:

 

1.      Nodi'r gwaith sy'n cael ei gyflawni gan y Fforwm Brexit;

2.      Ystyried cynnwys y ddogfen asesu risg, a

Cytuno i gael eu briffio ymhellach ar y manylion wrth i oblygiadau Brexit ddod yn gliriach.   

Dogfennau ategol: