Agenda item

Newid Ffiniau’r Byrddau Iechyd – Y Diweddaraf

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y newyddion diweddaraf am sefyllfa gyfredol ffin newydd y Bwrdd Iechyd ym mis Ebrill 2019.

 

Er na fydd y newid yn tarfu ar wasanaethau cyffredinol i'r un graddau â gwasanaethau'r Byrddau Iechyd, hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Cabinet, fod y newidiadau i'r ffiniau yn effeithio ar nifer o wasanaethau'r Cyngor.  Oherwydd yr angen i ddiogelu gwasanaethau Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y cyfnod hwn o aflonyddwch posibl, ac er mwyn sicrhau parhad yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg ar ôl 1 Ebrill 2019, mabwysiadwyd dull strwythuredig o ddatgyfuno gwasanaethau rhanbarthol. Er mwyn gwneud hynny bu'n rhaid gweithio'n agos ag amrywiaeth o bartneriaid er mwyn sicrhau, lle bo cyllid rhanbarthol yn ariannu gwasanaethau integredig, y rhoddir cyfrif am y gwasanaethau hynny rhwng Bae'r Gorllewin, Bwrdd Iechyd PABM a'r Cyngor.

 

Er mwyn cynllunio ar gyfer newid ffiniau rhanbarthol, dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wrth y Cabinet fod Rhaglen Bontio wedi'i sefydlu a oedd yn cynnwys swyddogion o'r ddau Fwrdd Iechyd, y Cyngor a'r Trydydd Sector. Tynnodd sylw at strwythur llywodraethu'r cytundebau partneriaeth newydd a fyddai'n weithredol o 1 Ebrill 2019.  Dywedodd fod y partneriaid wedi cytuno ar gyfres o egwyddorion o'r cychwyn cyntaf a fyddai'n tanategu gwaith y Rhaglen Bontio ac yn sail er mwyn i'r holl bartneriaid ddwyn eu hunain, a'r naill a'r llall, i gyfrif am gyflawni'r newidiadau gofynnol.  Pennwyd yr egwyddorion yng nghyd-destun ymrwymiad i sicrhau'r cyfle gorau posib i wella iechyd a llesiant y boblogaeth a wasanaethir gan y sefydliadau.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant hefyd fod yr holl drefniadau cyd-ariannu rhwng CBS Pen-y-bont ar Ogwr a BI PABM wedi'u nodi, ac amcangyfrifwyd bod CBS Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd yn derbyn mwy na £5 miliwn gan BI PABM yn gysylltiedig â'r trefniadau hyn.  Cytunwyd mewn egwyddor na fyddai'r newid ffin a gynlluniwyd na chynlluniau pontio yn cael unrhyw effaith andwyol ar unrhyw drefniadau cyd-ariannu.  Bydd y Cyngor yn parhau i fod â threfniadau cyd-ariannu â rhanbarthau Bae Abertawe a Chwm Taf Morgannwg ar ôl i'r ffiniau newydd ddod i rym.  Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wrth y Cabinet fod Cyllid Gofal Integredig a Chyllid Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau wedi'u datgyfuno er mwyn gwahanu dosraniad ardal Pen-y-bont ar Ogwr a fyddai wedyn yn mynd i ranbarth Cwm Taf Morgannwg mewn pryd ar gyfer blwyddyn ariannol newydd 2019/20, ac roedd cytundeb wedi'i geisio ynghylch hyn oddi wrth y ddau Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £30 miliwn yn ychwanegol o gyllid refeniw y Gronfa Gofal Canolraddol ar gyfer Cymru gyfan, ac amcangyfrifir y bydd Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn £1.3 miliwn o'r swm hwn.  O ran cyllid cyfalaf, roedd £1.5 miliwn yn 2019/20 ac £11.8 miliwn yn 2020/21 wedi'i nodi ar gyfer ardal Pen-y-bont ar Ogwr. 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y rhagwelwyd na cheid unrhyw oblygiadau ariannol niweidiol o ran y ddwy gronfa gyfunol yn sgil newid ffiniau. Tynnodd sylw at y gwasanaethau a fyddai wedi'u cynnwys i'w trosglwyddo i'r rhanbarth newydd ar 1 Ebrill 2019. 

 

Adroddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant hefyd y bydd newid ffiniau'r bwrdd iechyd hefyd yn cael effaith sylweddol ar drefniadau partneriaeth rhanbarthol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol drefnu i hyrwyddo cydweithrediad â phartneriaid perthnasol ac eraill yn gysylltiedig ag oedolion sydd angen gofal a chymorth, gofalwyr a phlant. Fel aelod o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin, mae'r Cyngor hwn wedi ymrwymo i nifer o gytundebau partneriaeth ffurfiol ac anffurfiol, a byddai angen iddo dynnu'n ôl o'r cytundebau hynny ac ymrwymo i gytundebau newydd â phartneriaid yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.  Roedd gwaith hefyd ar y gweill i dynnu'n ôl o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin, ac roedd Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael gwahoddiad i fod yn aelod o Fyrddau yn rhanbarth Cwm Taf. 

 

Mynegodd yr Arweinydd ddiolch i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a'r Tîm am y gwaith a gyflawnwyd cyn newid ffiniau'r bwrdd iechyd.  Dywedodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol y cafwyd gwaith diwyd iawn, gan gydweithio â'r Trydydd Sector.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd am gadarnhad ynghylch cyllid i gefnogi ffrydiau gwaith trosiannol. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod £80,000 o gyllid wedi'i sicrhau gan PABM a oedd yn cael ei ddefnyddio i reoli'r prosiect trosglwyddo ac i ddarparu cefnogaeth gyfreithiol ac ariannol gref.

 

PENDERFYNWYD:            Y dylai'r Cabinet:                    

 

1)            nodi'r ymagwedd a'r cynnydd a wnaed hyd yma;

2)            nodi'r newidiadau i enwau Rhanbarthol;

3)            cytuno i enwebu Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol a Chyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i gynrychioli Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg a dirprwyo penodiad unrhyw aelodau o'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol nad ydynt yn aelod o'r awdurdod lleol nac yn aelod o'r bwrdd iechyd i aelodau a enwebir gan y Cyngor ar y cyd â chynrychiolwyr Awdurdodau Lleol eraill a'r Bwrdd Iechyd Lleol;

4)            cymeradwyo'r rhestr o wasanaethau a fydd yn trosglwyddo ym mis Ebrill 2019, a'r rhai a oedd yn trosglwyddo yn ystod 2019/20.

dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, i ymrwymo i unrhyw gytundebau angenrheidiol er mwyn negodi neu drosglwyddo'r holl gytundebau contractio parhaus â PABM i Fwrdd Iechyd Cwm Taf.        

Dogfennau ategol: