Agenda item

Gwahodd Tendrau ar gyfer Contractau Gwasanaeth Bws Trafnidiaeth o'r Cartref i'r Ysgol

Cofnodion:

Gofynnodd y Rheolwr Gr?p (Strategaeth Busnes a Pherfformiad) am gymeradwyaeth i gynnal ymarfer caffael i wahodd tendrau i ymgeisio am gontractau ar gyfer amryw o wasanaethau bws o'r cartref i'r ysgol am gyfnod o 5 mlynedd, gyda dewis i ymestyn am ddau gyfnod arall o flwyddyn. Cyfanswm gwerth dangosol y cyfnod llawn fyddai £17.9 miliwn.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p (Strategaeth Busnes a Pherfformiad) y bydd y contractau bysus mawr cyfredol ar gyfer trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2019.  Er mwyn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cyflawni ei gyfrifoldebau o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 a Rheolau Gweithdrefn Gontractau'r Cyngor, ac i geisio sicrhau gwerth am arian, gofynnwyd am ganiatâd i gychwyn ymarfer caffael newydd i gystadlu am gontractau bws mawr, a dyfarnu'r contractau hynny. Bydd hyn yn cynnwys 79 o lwybrau teithio ar wahân a dull cystadleuaeth agored, wedi'i gynnal gan y Tîm Caffael Corfforaethol.  Dywedodd mai'r nod, wrth ddyfarnu contractau am gyfnod o 5 mlynedd gyda'r dewis i ymestyn am ddau gyfnod pellach o flwyddyn, oedd annog buddsoddiad, cryfhau trefniadau contractio presennol a'r posibilrwydd o agor y farchnad i gyflenwyr newydd.  Dywedodd wrth y Cabinet, o dan Reolau Gweithdrefn Gontractau'r Cyngor, mai un o swyddogaethau'r Cabinet yw penderfynu caffael gwasanaethau yr amcangyfrif bod eu gwerth yn uwch na £5 miliwn.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd am esboniad ynghylch sefyllfa'r Cyngor o ran adolygu trafnidiaeth ysgol, ac ynghylch y gallu i derfynu contract. Dywedodd y Rheolwr Gr?p (Strategaeth Busnes a Pherfformiad) wrth y Cabinet y gall y Cyngor dynnu'n ôl o gontract ysgol drwy roi mis o rybudd, os yw'r llwybr yn troi'n llwybr diogel i'r ysgol yn ddiweddarach ac nad yw dysgwyr felly'n gymwys i gael eu cludo i'r ysgol. Dywedodd fod yr adolygiad strategol o drafnidiaeth i'r ysgol wedi'i ohirio yn sgil Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, ac y gallai rhai llwybrau presennol gael eu tynnu'n ôl.  Dywedodd hefyd wrth y Cabinet ei bod hi'n anodd cyfuno llwybrau ysgol mewn sypiau gan fod ysgolion yn dechrau ac yn gorffen ar amseroedd gwahanol, er y byddai swyddogion yn gwneud hynny wrth ddefnyddio cerbydau llai. 

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol a fyddai'r adolygiad strategol o drafnidiaeth ysgol yn ystyried dichonadwyedd defnyddio fflyd y Cyngor o gerbydau ar gyfer trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol.  Dywedodd y Rheolwr Gr?p (Strategaeth Busnes a Pherfformiad) fod angen i'r Gwasanaethau Cymdeithasol ddefnyddio'r fflyd o gerbydau drwy gydol y dydd, ond bod rhai ysgolion yn defnyddio fflyd y Cyngor.  Dywedodd wrth y Cabinet hefyd fod potensial i ddefnyddio cerbydau deulawr, ac y byddai hynny'n cael ei ystyried fesul achos. Fodd bynnag, nid yw'r cerbydau hynny gan lawer o weithredwyr.  Gallai defnyddio bysus deulawr fod yn fwy economaidd.  Dywedodd hefyd wrth y Cabinet y ceir trefniadau i gyfathrebu â chontractwyr cyfredol. Gofynnodd yr Arweinydd am gael hysbysu darpar ddarparwyr trafnidiaeth i'r ysgol ynghylch yr adolygiad ac o'r posibilrwydd y bydd y contract yn newid yn sgil hynny.     

 

PENDERFYNWYD:            Y dylai'r Cabinet:

 

·      awdurdodi gwahodd tendrau fel y nodir yn yr adroddiad

·      nodi bod adolygiad yn cael ei gynnal o drafnidiaeth ysgolion, a gofyn i swyddogion gyfathrebu â darpar ddarparwyr trafnidiaeth ysgolion ynghylch hyn er mwyn sicrhau tryloywder.

·      awdurdodi derbyn y tendrau mwyaf manteisiol yn economaidd a dderbynnir, a dyfarnu contractau i'r ymgeiswyr llwyddiannus yn dilyn y broses gaffael.                              

 

Dogfennau ategol: