Agenda item

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Band B

Cofnodion:

Gofynnodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 am gymeradwyaeth i derfynu penderfyniad y Cabinet ar 18 Rhagfyr 2018 i fynd ar drywydd Opsiwn 2 er mwyn cyflawni agweddau ariannol Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.  Rhoddodd wybod i'r Cabinet am y newid i gyfradd ymyrraeth grant Llywodraeth Cymru ar gyfer y Model Buddsoddi Cydfuddiannol; gofynnodd am gymeradwyaeth i fynd ar drywydd Opsiwn 3 er mwyn cyflawni agweddau ariannol Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, cyn cyflwyno gerbron y Cyngor, ac i'r Cyngor gymryd rhan ym mhroses gaffael y Model Buddsoddi Cydfuddiannol.  

 

Dywedodd fod gwaith moderneiddio ysgolion wedi'i sefydlu fel un o brif raglenni strategol y Cyngor. Esboniodd gefndir yr ysgol wrth y Cabinet.  Yn 2010, cymeradwyodd y Cabinet y cynlluniau a argymhellwyd ac a oedd wedi'u cynnwys ym mhob un o bedwar band y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion (A-D), ac y manylwyd arnynt yn sgil hynny yn Rhaglen Amlinellol Strategol Ysgolion yr 21ain Ganrif. Ym mis Gorffennaf 2017, terfynodd y Cabinet y cynlluniau Band B gwreiddiol a oedd wedi'u nodi ym mis Tachwedd 2010, a chymeradwyo rhestr ddiwygiedig, yn seiliedig ar y galw cynyddol am leoedd, y gofyniad i hyrwyddo'r Gymraeg a chyflwr adeiladau.  Er mwyn paratoi am Fand C y rhaglen, rhoddodd y Cabinet hefyd gymeradwyaeth i gynnal adolygiadau ardal ac arfarniad o opsiynau yn ystod cyfnod Band B. Ym mis Ionawr 2017, cafwyd cymeradwyaeth mewn egwyddor oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer ail don o fuddsoddiad o £68.2 miliwn.  Ym mis Ionawr 2018, rhoddodd y Cyngor gymeradwyaeth mewn egwyddor ar gyfer yr ymrwymiad ariannol yr oedd ei angen ar gyfer Band B.  Cyfradd ymyrraeth Model Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru ar y pryd oedd 75%, wedi'i thalu i'r awdurdod ar ffurf grant refeniw. Hysbyswyd y Cabinet ym mis Tachwedd 2018 fod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

           

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newid i'r gyfradd ymyrraeth ar gyfer grant cyfalaf, lle'r oedd ei chyfraniad ar gyfer Band B wedi cynyddu i 75% ar gyfer ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion a 65% ar gyfer pob cynllun arall.  Byddai cyfradd ymyrraeth y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC) yn parhau ar 75%.  Ym mis Rhagfyr 2018, cefnodd y Cabinet ar y penderfyniad a wnaed ym mis Tachwedd 2018 a rhoi cymeradwyaeth i fynd ar drywydd opsiwn lle byddai'r holl ysgolion ym mand B yn cael eu hariannu drwy grant cyfalaf, yn amodol ar ganfod a neilltuo digon o adnoddau i fodloni'r ymrwymiad o ran arian cyfatebol.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 fod Llywodraeth Cymru, ym mis Chwefror 2019, wedi cyflwyno newid i'r gyfradd ymyrraeth ar gyfer cynlluniau MBC Band B, ac y byddai'r model diwygiedig yn elwa ar gynnydd o 6% yn y gyfradd ymyrraeth, o 75% i 81%.  Yn sgil y gyfradd newydd, roedd swyddogion wedi ailgyfrifo'r ffigurau. Wrth symud ymlaen ag MBC Band B, mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru ffurfioli'r broses o gaffael Partner Cyflenwi'r Sector Preifat, y gofynnwyd cyn hynny i'r awdurdodau lleol gadarnhau eu hymrwymiad. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gael ystyried yr opsiynau a ganlyn:

 

Opsiwn 1 - Cymryd rhan yn y rhaglen gychwynnol

Opsiwn 2 - Y posibilrwydd o gymryd rhan yn y dyfodol

Opsiwn 3 - Peidio cymryd rhan

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adan 151 fod y Cyngor wedi cymeradwyo cwmpas o £71.3 miliwn ar gyfer y rhaglen, a oedd yn cynnwys £68.2 miliwn ar gyfer adeiladau ysgol newydd Band B, a £3.1 miliwn o waith priffyrdd posibl, gyda'r holl gynlluniau wedi'u hariannu drwy grant cyfalaf.  Tynnodd sylw at gymhariaeth o MBC a chynlluniau grant cyfalaf, ynghyd â 4 opsiwn ariannu a dadansoddiad o opsiynau 2 a 3.  Dywedodd y bydd angen benthyca i fodloni'r ymrwymiad cyfalaf ar gyfer opsiwn 2, ac mai benthyciad bach fyddai ei angen ar gyfer opsiwn 3, a pha opsiwn bynnag fyddai'n cael ei ddewis, y byddai'n creu pwysau ar gyllidebau cyfalaf a refeniw y Cyngor.

 

Dywedodd yr Arweinydd mai'r rhaglen moderneiddio ysgolion fydd ymrwymiad cyfalaf mwyaf y Cyngor, ac mai dyna fydd ei brosiect pwysicaf. Dywedodd hefyd fod angen hyblygrwydd gan fod y model ariannol wedi newid. 

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol am gadarnhad ynghylch effaith bosibl y cynnydd mewn cyfraddau llog.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid a'r Swyddog Adran 151 y byddai'n darparu

gwybodaeth ychwanegol i'r Cabinet am effaith cynnydd posibl mewn cyfraddau llog ar gyflawni Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.  

 

PENDERFYNWYD:            Y dylai'r Cabinet:

 

·                    gefnu ar y penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 19 Rhagfyr 2018 o ran mynd ar drywydd Opsiwn 2 er mwyn cyflawni agweddau ariannol Band B y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion;

·                    nodi'r newid i gyfradd ymyrraeth MBC grant LlC ar gyfer Band B;

·                    cymeradwyo mynd ar drywydd Opsiwn 3 er mwyn cyflawni agweddau ariannol Band B, yn amodol ar ganfod a neilltuo adnoddau i fodloni'r ymrwymiad o ran arian cyfatebol; 

·                    cymeradwyo cyflwyno adroddiad i'r Cyngor er mwyn diwygio'r rhaglen gyfalaf i adlewyrchu'r uchod; a

·                    rhoi awdurdod i'r Prif Weithredwr Dros Dro lofnodi llythyr o fwriad yn gysylltiedig â model cyflawni'r MBC, yn amodol ar ganlyniad adolygiad y Gwasanaethau Cyfreithiol o ddogfennau contract/cytundeb LlC yn hynny o beth, ac ar gytuno ar y dogfennau hynny. 

   

Dogfennau ategol: