Agenda item

Cam-drin Domestig – Diweddariad ar Bobl Hŷn a Thramgwyddwyr

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth adroddiad a roddodd ddiweddariad i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ynghylch cam-drin domestig a phobl h?n; a’r ymyrraeth tramgwyddwr (Dewisiadau) ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Esboniodd waith Ystafell Assia, a ddangosodd iddynt gefnogi cyfanswm o 973 o fenywod a 153 o wrywod a oedd wedi dioddef camdriniaeth yn 2017-18. Datganodd na fyddai unrhyw ddioddefwyr heb dramgwyddwyr a chydnabuwyd ar raddfa leol a chenedlaethol fod rhaglen ymyrraeth yn hollbwysig er mwyn diogelu a chynorthwyo dioddefwyr.

 

Ailadroddodd Aelod bwysigrwydd Ystafell Assia a’r gwaith maen nhw wedi’i wneud. Gofynnodd am eglurhad mewn perthynas â dioddefwyr clefyd Alzheimer a gofynnwyd beth oedd yn cael ei ystyried yn berthynas gydsyniol a sut roedd hyn yn cael ei fonitro.

 

Esboniodd Cynrychiolydd Calan DVS nad oeddent yn si?r o ran yr ystadegau’n ymwneud â hyn gan nad oedd yn cael ei fonitro ar y pryd ond gallai newid wrth i dueddiadau ddigwydd. Datganodd hefyd efallai bod gan Fywydau Diogelach ragor o wybodaeth a byddai’n hapus i gysylltu â nhw a darparu unrhyw wybodaeth mewn perthynas â hyn.

 

Gofynnodd Aelod a oedd ganddynt ystadegau ar berthnasoedd LGBT yn ogystal â pherthnasoedd yn cynnwys gwahanol ryweddau.

 

Dywedodd y cynrychiolydd o Calan DVS fod ganddynt rywfaint o ddata mewn perthynas â hyn a byddai’n hapus i ddarparu’r hyn oedd ganddynt.

 

Gofynnodd Aelod i ba raddau yr oedd dementia yn broblem ac a oedd hyn yn newid y dull a gymerir i ddelio â dioddefwyr.

 

Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth nad oedd hi bob amser yn sefyllfa syml mewn perthynas â dioddefwyr Dementia a chlefyd Alzheimer. Rhoddodd enghraifft o sefyllfa lle’r oedd gwraig yn cam-drin ei g?r, o ymchwilio ymhellach, darganfyddon nhw mai’r wraig oedd yn cael ei cham-drin. Newidiodd hyn y ffordd yr oedd rhaid iddynt ddelio â’r sefyllfa.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch â’r gwerthusiad o’r prosiect ac roedd hi wedi’i chalonogi y byddai 100% o’r goroeswyr yn argymell y prosiect. Credodd fod hyn yn dangos yr effaith yr oedd y prosiect yn ei gael ar bobl a sut roedd hyn yn helpu i gadw pobl yn fwy diogel. Roedd yn falch o glywed bod y tramgwyddwyr yn gweld effaith y prosiect a’r effaith yr oedd yn ei gael ar eu plant eu hunain.

 

Gofynnodd Aelod sut roedd y prosiect yn cael ei fonitro ac a oedd yn rymus ym mhob maes, yn enwedig plant a dioddefwyr.

 

Calonogodd cynrychiolydd Calan DVS yr Aelodau fod y prosiect yn cael ei fonitro’n gyson er mwyn sicrhau yr edrychir ar bob agwedd ac roedd yn cael ei ddiwygio neu ddiweddaru yn ôl yr angen. Rhoddodd wybod i’r Aelodau fod gwerthusiad yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd, a oedd yn cynnwys myfyriwr Meistr yn cyflawni dadansoddiad llawn fel rhan o’u cwrs Prifysgol.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad ar adran 3.8 yr adroddiad a oedd yn datgan mai ‘aelod o’r teulu sy’n oedolyn’ yw’r prif dramgwyddwr. Gofynnodd os nad aelod o’r teulu sy’n oedolyn oedd y tramgwyddwr, pwy arall fyddai.

 

Esboniodd y cynrychiolydd o Calan DVS fod nifer fawr o achosion lle bu pobl h?n yn byw mewn cartrefi a lle buon nhw’n destun camdriniaeth wrth aelodau’r teulu oedd yn ymweld â nhw. Mae hyn yn aml wedi golygu cam-drin meddyliol gan gynnwys cam-drin ariannol.

 

Gofynnodd Aelod beth yw’r ystadegau sy’n ymwneud â Phlant sy’n Derbyn Gofal.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth iddo gredu bod yr ystadegau’n amlwg mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal o ganlyniad i gam-drin domestig yn y cartref. Dywedodd y byddai’n edrych ymhellach i hyn gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd unrhyw gyfleoedd i ddioddefwyr cam-drin domestig wynebu’r tramgwyddwr ac a oedd unrhyw amgylchedd diogel i wneud hyn.

 

Esboniodd cynrychiolydd Calan DVS nad oedd system ar waith ar gyfer hyn ar hyn o bryd. Roedd y dioddefwyr yn cael cyfle i weithio gyda’r tramgwyddwr mewn perthynas ag amddiffyn plant.

 

Gofynnodd Aelod pa hyfforddiant oedd yn cael ei roi i swyddogion yn ychwanegol at yr hyfforddiant ar-lein oedd yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd.

 

Esboniodd cynrychiolydd Calan DVS fod 78% o swyddogion wedi cwblhau’r hyfforddiant ar-lein, maen nhw’n edrych i ddarparu hyfforddiant dyfnach i’r swyddogion ar y rheng flaen. Dywedodd pan fyddai’r system hyfforddiant ar gael, y bydden nhw’n edrych ar sut orau i’w gweithredu.

 

Anogodd yr Arweinydd aelodau’r cyhoedd i ddod ymlaen os ydyn nhw’n mynd trwy unrhyw sefyllfa anodd, gallent wneud hynny’n gyfrinachol dim ots beth yw eu hoedran, rhywedd neu gefndir.

 

Pwysleisiodd Aelod yr angen i ddiweddaru polisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynnwys gwrywod, LGBT a mwy. Dywedodd ei fod ar hyn o bryd ond yn targedu benywod a allai roi’r argraff anghywir ac ansicrwydd i grwpiau eraill o bobl nad oedd modd iddynt gael y cymorth yr oedd arnynt ei angen.

 

Dywedodd y Cadeirydd mai hyn oedd yr achos hefyd gyda deddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Cytunodd fod angen ac y bydd hi’n edrych i mewn i hyn.

 

Calonogodd Pennaeth y Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth yr Aelodau eu bod yn derbyn dioddefwyr a thramgwyddwyr o bob math ac yn delio â phob sefyllfa yn unigol.

 

PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet yn nodi’r diweddariad mewn perthynas â’r cyflwyniad/diweddariad y gofynnwyd amdano a’r cynnydd a wnaed.

Dogfennau ategol: