Agenda item

Y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion adroddiad a ddarparodd wybodaeth i’r Pwyllgor am ystod y gwasanaethau ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Esboniodd i Aelodau’r boblogaeth o bobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chymru a chanddynt broblemau iechyd meddwl a darparodd ystadegau. Esboniodd yng Nghymru, bydd 1 o bob 4 oedolyn yn cael profiad o ryw fath o broblem iechyd neu salwch meddwl yn ystod eu hoes a bydd gan 2 o bob 100 o bobl salwch meddwl difrifol fel Sgitsoffrenia neu Anhwylder Deubegwn.

 

Esboniodd hefyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fod asesiad o’r boblogaeth wedi dynodi y bydd cynnydd ym mynychter dementia. Rhagwelir y bydd y boblogaeth o oedolion h?n 65+ yn cynyddu gan 48% erbyn 2030.

 

Esboniodd y ddarpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl oedolion a’r model cyfredol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Caiff cydrannau allweddol y model cyfredol eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd wybod i’r Aelodau am y Gwasanaeth Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Esboniodd fod y gweithwyr hyn yn weithwyr proffesiynol wedi’u cymeradwyo gan yr awdurdod lleol i gyflawni rhai dyletswyddau dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

 

Rhoddodd wybod i’r Aelodau hefyd am yr adolygiad o dîm Gwaith Cymdeithasol Iechyd Meddwl lle’r oeddent yn anelu at ddefnyddio adnoddau’n well i ganolbwyntio ar faterion allweddol fel darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth, atal ac ymyrraeth gynnar a gweithio mewn partneriaeth. Rhoddodd wybod hefyd fod y cynnig hwn yn y cyfnod ymgynghori ar hyn o bryd.

 

Rhoddodd y Rheolwr Ardal ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Pen-y-bont ar Ogwr wybod i’r Aelodau am Ddarpariaeth yr Awdurdod Lleol i gefnogi plant a phobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl. Esboniodd fod yr awdurdod lleol yn cyflogi saith cynghorydd yn yr ysgol, dau gynghorydd cymunedol a therapydd chwarae, a phob un ohonynt wedi’u cofrestru gyda Chymdeithas Cynghori a Seicotherapi Prydain (BACP). Esboniodd fod yna isafswm safon y mae’n rhaid ei chyflawni i fod yn gymwys a bod yna isafswm lefelau goruchwylio a gofynion datblygu proffesiynol parhaus er mwyn cynnal cofrestriad.

 

Esboniodd fod yr hyfforddiant o fewn cyrraedd y swyddogion, a oedd yn cynnwys ystod eang o sefydliadau. Rhoddodd wybod fod hyfforddiant pellach wedi’i gyflwyno ar raddfa ehangach hefyd pan oedd cyllid grant ar gael. Rhoddodd esiampl hyfforddiant Thrive, a ddarparodd y ddealltwriaeth sgiliau i aelodau staff ysgol allweddol i reoli datblygiad emosiynol plant a phlant agored i niwed oedd yn dangos ymddygiad aflonyddgar/cythryblus.

 

Rhoddodd y Cynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ddiweddariad i Aelodau ar CAMHS a’r perfformiad a chyfeiriad strategol. Esboniodd ym mis Ionawr 2018, gwelodd ostyngiad sylweddol mewn amserau aros a pharhaodd y duedd hon am bum mis. Fodd bynnag, ym mis Mai, dechreuodd y perfformiad ostwng, a oedd yn gysylltiedig â staff yn gadael a’r oedi oedd yn gysylltiedig â hysbysebu a llenwi’r swyddi hyn. Rhoddodd sylwadau ar y newid ffin parhaus o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a dywedodd eu bod nhw’n edrych i integreiddio’r timau llai o faint yn llai o dimau mwy o faint. Fodd bynnag, dywedon nhw y byddai angen iddynt aros tan i’r newid yn y ffin fynd rhagddo cyn rhoi’r syniad hwn ar waith.

 

Gofynnodd Aelod pa hyfforddiant a ddarperir i athrawon gan mai nhw yn aml yw’r man cyswllt cyntaf i blentyn.

 

Dywedodd y Cynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg y gall athrawon ofyn am hyfforddiant os credant mai nhw yw’r un gorau i ddelio â sefyllfa. Dywedodd eu bod yn gobeithio gwella’r maes ymyrraeth hwn oherwydd cytunai ei bod hi’n debygol mai athro/athrawes yw’r cyswllt dewis gorau i blentyn.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Ardal ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Pen-y-bont ar Ogwr fod hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar-lein hefyd sy’n cwmpasu ystod o bynciau a allai baratoi athrawon yn well i ddelio â phroblemau plant.

 

Datganodd yr Arweinydd er bod gwelliannau i’w gwneud o hyd mewn rhai meysydd, bod y cynnydd a wnaed yn sylweddol ac roedd am ddiolch yn bersonol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg am eu gwaith caled.

 

PENDERFYNWYD: bod Pwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet yn nodi cynnwys yr adroddiad.

Dogfennau ategol: