Agenda item

Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed

Mynychwyr:

 

Susan Cooper - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Cyng Huw David – Arweinydd

Mark Lewis - Rheolwr Gr?p Gwaith Integredig a Chymorth i Deuluoedd

Beverley Keyse - Cynrychiolydd Cyngor Iechyd Cymuned Pen y Bont ar Ogwr

Laura Kinsey - Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant

David Roberts - Cyfarwyddwr dros Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu - ABMU

Joanne Abbott-Davies - Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros Strategaeth a Phartneriaethau, Bwrdd Iechyd PABM

Alan Lawrie - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Sylfaenol - Cymunedol ac Iechyd Meddwl

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p – Gwaith Integredig adroddiad yn rhoi diweddariad ar berfformiad a chyfeiriad strategol y gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS) ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (AMBU), yr oedd y cyllid ar eu cyfer yn mynd yn uniongyrchol i ABMU.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gr?p – Gwaith Integredig y cefndir, ac esboniodd fod y CAMHS yn peri pryder ers tro byd ledled Cymru. Amlinellodd y sefyllfa ar y pryd a bod y perfformiad wedi gwella dros y 18 mis blaenorol a bod yna well dealltwriaeth bellach o’r heriau a’r rhwystrau a wynebai’r gwasanaeth. Roedd ABMU yn gweithio gyda Chwm Taf i ddatblygu model integredig newydd a fyddai’n darparu un fynedfa i’r holl CAMHS sylfaenol ac eilaidd.

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau – ABMU a Chyfarwyddwr Iechyd Meddwl Sylfaenol a Chymunedol – Cwm Taf gyflwyniad: “Diweddariad ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)”. Rhoddodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau – ABMU gefndir manylach cymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion emosiynol ac anghenion iechyd meddwl, y blaenoriaethau allweddol i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarth Gorllewin y Bae a’r gwasanaethau Anhwylderau Niwroddatblygiadol. Amlinellodd Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl Sylfaenol a Chymunedol – Cwm Taf wasanaeth y CAMHS ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan gynnwys y rhwydwaith, pa wasanaethau a ddarperid, sut roedden nhw’n edrych, sut roedden nhw wedi bod yn perfformio, yr heriau a’r cysylltiadau â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr. Cyfeiriodd yr Aelodau at Ganllaw Cyflym y CAMHS a’r manylion cysylltu perthnasol, gan amlinellu cyfanswm amserau aros ac amserau aros hiraf y CAMHS sylfaenol ac arbenigol, cysylltiadau â’r awdurdodau lleol/trydydd sector a datblygiadau at y dyfodol. 

 

Cododd un o’r aelodau bryderon ynghylch y nifer fawr o blant a phobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ddiagnosiwyd ag anhwylder iechyd meddwl. Er bod gwasanaethau cymorth rhagorol ar gael i gefnogi eu hiechyd a’u llesiant emosiynol, awgrymodd yr aelod y dylai gwell gwaith dadansoddi gael ei wneud er mwyn dod o hyd i themâu a oedd yn dod i’r amlwg, h.y. materion daearyddol, y cyfryngau cymdeithasol, bwlïo etc y tu ôl i’r diagnosis.  Pan gâi’r themâu eu nodi, yna gallai mesurau atal gael eu hystyried.

Gofynnodd yr aelodau sut roedd yr achosion dros ddiagnosio anhwylder iechyd meddwl mewn plentyn yn cael eu cofnodi a’u dadansoddi, ac a fyddai modd rhannu crynodeb gyda’r pwyllgor er mwyn iddyn nhw ddeall y rhesymau dros ddiagnosis.

Gofynnodd yr aelodau am gael astudiaeth achos o blentyn sydd wedi’i ddiagnosio ag anhwylder iechyd meddwl yn dangos ei siwrnai o’r diagnosis hyd at y driniaeth.  

 

Cydnabu’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaethau a Phartneriaethau fod yna lawer gwedd i’r mater hwn ac nad oedd yna un ateb a’u bod wedi treulio cryn amser yn pwyso a mesur modelau gwahanol. Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi rhoi ymroddiad i Gyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr mai un flaenoriaeth gyda Phenaethiaid Ysgolion fyddai datblygu strategaeth a fyddai’n edrych ar iechyd a llesiant emosiynol ar draws y fwrdeistref a sut roedd y Cyngor yn cysylltu â gwasanaethau gwahanol i “gau’r bylchau”. Byddai angen triniaeth arbenigol ar rai pobl ifanc drwy’r amser ond yn achos eraill byddai cymorth ar yr adeg gywir yn atal eu hanghenion rhag cynyddu. Fyddai tîm o 15 i 20 ddim yn gallu datrys llesiant emosiynol yn y sir ond pe bai modd harneisio 4,000 o staff yn yr ysgolion gyda gwell hyfforddiant a chymorth, fe allai gwaith partneriaeth a gwaith atal cynnar gael ei gyflawni.

 

Cododd un o’r aelodau’r syniad nad oedd iechyd meddwl yn un mater unigol a’i bryder bod pobl ifanc yn cael eu labelu a’u gosod mewn un categori a allai gyfrannu at broblemau yn y blynyddoedd dilynol wrth symud i mewn i gyflogaeth. Roedd yn gofidio y gallai hyn fod yn rhwystr a fyddai’n eu hatal rhag gofyn am gymorth. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth Teuluol fod hawl pob unigolyn yn cael ei hystyried o ddifrif a’u bod yn cael eu trin a’u trafod yn sensitif gan weithwyr proffesiynol wedi’u hyfforddi. Ychwanegodd fod Estyn wedi cydnabod y cymorth a’r cyngor pwrpasol a gâi’r dysgwyr yn ystod arolygiad diweddar.   

 

Cododd un o’r aelodau bryderon bod athrawon yn atal y cyfle i gael diagnosis ADHD gan ofyn pa gymorth oedd ar gael i rieni. Cafodd sicrwydd fod gwella sylweddol wedi bod yn y maes hwn. Os nad oedd y broses arferol yn gweithio, gallai rhieni droi at y tîm yn uniongyrchol ac wedyn fe gâi’r tîm sgwrs am yr unigolyn gyda’r ysgol. Cydnabuwyd bod plant yn dangos mathau gwahanol o ymddygiad mewn amgylcheddau gwahanol a bod yr ateb hwn yn cynnig dewis amgen. Cyn gynted ag y câi ysgol wybod bod yna anhawster posibl, roedd taflenni’n cael eu rhoi i’r rhieni i esbonio’r broses, y cyfleoedd a sut i gymryd rhan. 

 

Roedd un o’r aelodau’n awyddus i amgylchiadau unigol plant a phobl ifanc gael eu hystyried pan gaent eu hatgyfeirio at ragor o wasanaethau cymorth megis cwnsela a sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar. Os bydden nhw’n cael eu hatgyfeirio i gael sesiynau gr?p fe ddylen nhw gael eu gosod gydag unigolion o anian tebyg y gallen nhw rannu eu profiadau gyda nhw. 

 

Sylwadau ac Argymhellion

Roedd yr aelodau’n pryderu bod nifer fawr o blant a phobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi’u diagnosio ag anhwylder iechyd meddwl, gan ddweud – er bod gwasanaethau cymorth rhagorol i gefnogi eu hiechyd a’u llesiant emosiynol – eu bod yn argymell y dylai gwell gwaith dadansoddi gael ei wneud gyflawni er mwyn dod o hyd i themâu a oedd yn dod i’r amlwg y tu ôl i’r diagnosis, h.y. materion daearyddol, y cyfryngau cymdeithasol, bwlïo etc. Pan gâi’r themâu eu nodi, yna gallai mesurau atal gael eu hystyried.

Wrth i blant a phobl ifanc gael eu hatgyfeirio at ragor o wasanaethau cymorth megis cwnsela neu therapi gr?p, argymhellodd yr aelodau y dylai eu hanghenion a’u gofynion unigol gael eu hystyried. Er enghraifft, o’u hatgyfeirio i gael therapi gr?p, dylen nhw gael eu gosod mewn amgylchedd gyda phobl ifanc sydd o dan amgylchiadau tebyg fel bod rhannu eu profiadau gyda’i gilydd yn eu helpu i wella.

Rhagor o wybodaeth

Gofynnodd yr aelodau sut roedd yr achosion dros ddiagnosio anhwylder iechyd meddwl mewn plentyn yn cael eu cofnodi a’u dadansoddi, ac a fyddai modd rhannu crynodeb gyda’r pwyllgor er mwyn iddyn nhw ddeall y rhesymau dros ddiagnosis.

Gofynnodd yr aelodau am gael astudiaeth achos o blentyn sydd wedi’i ddiagnosio ag anhwylder iechyd meddwl yn dangos ei siwrnai o’r diagnosis hyd at y driniaeth.    

Dogfennau ategol: