Agenda item

P/18/983/FUL - Safle blaenorol Swyddfeydd y Cyngor a Llys yr Ynadon, Heol Sunnyside/Glan Y Parc, Pen-y-bont, ar Ogwr CF31 4AJ

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  (1) Gyda golwg ar y cais uchod, bod yr ymgeisydd yn gwneud Cytundeb Adran 106 i:

 

(i) Darparu isafswm o 20% o’r unedau fel tai fforddiadwy gyda’r math o unedau, y lleoliad o fewn y safle a deiliadaeth fforddiadwy i gael eu cytuno gan y Cyngor yn unol â Pholisi COM5 a SPG13;

(ii) Darparu cyfraniad ariannol o £115,669 tuag at ddarparu 5 lle mewn

ysgol uwchradd ac un lle ôl-16 yn unol â SPG16;

(iii) Darparu cyfraniad hyd at y swm o £9,500 i gyllido gorchmynion rheoli trafnidiaeth cyfreithiol, marciau ffordd ac arwyddion yng nghyffiniau’r safle; a,

(iv) Rhedeg y Ganolfan Gofal Iechyd yn unol â Chynllun Teithio a       Chynllun Rheoli Parcio (yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu/cyllido 24 o drwyddedau parcio ceir cyhoeddus ar gyfer staff Gofal Iechyd) i’w gytuno’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

                                                                   (2) Rhoi pwerau wedi eu dirprwyo i Gyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau i gyhoeddi hysbysiad o benderfyniad yn rhoi caniatâd i’r cynnig hwn, unwaith y bydd yr ymgeisydd wedi gwneud y cytundeb Adran 106 y cyfeiriwyd ato eisoes, yn ddibynnol ar yr Amodau sydd wedi eu cynnwys yn ei adroddiad.

Cynnig

 

Datblygu 59 annedd, Canolfan Gofal Iechyd a gwaith cysylltiedig, yn cynnwys Mynediad, Tirlunio a Pharcio Ceir.

 

Yn ddibynnol ar yr Amodau pellach/diwygiedig canlynol:-

 

46. Rhaid codi ffens bren glos 1.8 metr, wedi ei gorfordio, neu rwystr cyfatebol o gwmpas y gerddi sy’n wynebu Heol Glan-y-Parc a gerddi tai’r teras gogleddol fel y dangosir ar y darlun a gyflwynwyd SWV ASL 00 XX DR L0005 a L0006. Rhaid i’r rhwystr fod yn isafswm màs o 10cilogram/m2 fesul arwynebedd uned, heb ddim bylchau na thyllau, yn ddiogel yn erbyn pydredd a fermin ac yn gallu gwrthsefyll grym gwyntoedd. Rhaid cyflwyno manylion dyluniad y rhwystr i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w gymeradwyo cyn gwneud defnydd buddiol o’r datblygiad a rhaid iddo gael ei gytuno’n ysgrifenedig. Rhaid gweithredu’r dyluniad fel y cytunwyd a rhaid cynnal a chadw’r rhwystr yn wastadol.

 

Rhesymau: Er budd mwynder preswylio.

 

Dylid aileirio Amod 40 fel a ganlyn:-

 

40. Cyn gwneud unrhyw waith datblygu uwchben y tir yn gysylltiedig â’r cynnig hwn, mae’n ofynnol i’r ymgeisydd ddatblygu cynllun o fesurau lliniarol yn gysylltiedig â’r cynnig. Er mwyn cael gwybodaeth am lefel y lliniaru sydd ei angen rhaid i asesiad ansawdd aer, wedi ei ddiweddaru, ystyried effeithiau NO2 a PM10 a cheisio cynnwys lleoliadau’r derbynyddion diweddaraf sy’n cael eu monitro gan y Cyngor. Rhaid i’r asesiad gyfrifo gwerth y lliniaru sydd ei angen gan ddilyn dull cost niwed DEFRA. Dylai cost lliniaru fel y’i gweithredir gan yr ymgeisydd fod yn gyfartal yn fras â’r gwerth a gyfrifwyd. Rhaid i'r cynllun hefyd gynnwys amserlen ar gyfer gweithredu’r mesurau lliniaru cymeradwy hyn. Bydd angen cyflwyno’r asesiad ansawdd aer a’r cynllun lliniaru a’u cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

Yn dilyn yr ymweliad â’r safle ddoe a chyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu cyn y cyfarfod heddiw, mae’r Swyddog Priffyrdd wedi gofyn am yr Amodau ychwanegol canlynol er mwyn mynd i’r afael yn llawn ag ystyriaethau priffyrdd y cynllun:-

 

47. Rhaid gosod arwydd “Ffordd Breifat” wrth y mynedfeydd i’r datblygiad o Glan y Parc a Heol Sunnyside, yn unol â’r manylion sydd i gael eu cytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol cyn gwneud defnydd buddiol o unrhyw annedd a wasanaethir gan y ffordd dan sylw. Wedyn, cedwir yr arwydd, fel y cafodd ei gymeradwyo, yn ei le yn wastadol.

 

Rheswm: Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth ynghylch y sail i’r caniatâd sy’n cael ei roi ac i atal hawliau priffyrdd rhag ymsefydlu.

 

48. Ni chaiff datblygiad gychwyn nes y bydd cynllun ar gyfer darparu lle i gerbydau droi yng nghyffiniau’r Teras Gogleddol / Swyddfa Gofrestru T?’n yr Ardd wedi cael ei gyflwyno a’i gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Rhaid gwneud y lle troi mewn deunyddiau parhaol, cyn i’r datblygiad gael ei ddefnyddio er budd, a’i gadw i’r pwrpas o droi cerbydau yn wastadol.

 

Rheswm: Er budd diogelwch y briffordd.

Dogfennau ategol: