Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Cefnogi cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i fod yn ddiogel ac yn gydlynus

Mynychwyr:

Cyng Richard Young - Aelod Cabinet – Cymunedau

Mark Shephard - Prif Weithredwr Dros Dro

Martin Morgans – Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth

Supt Claire Evans - Heddlu De Cymru

Inspector Cheryl Griffiths - Heddlu De Cymru

Judith Jones - Cydlynydd Partneriaeth

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor gan y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partnerniaid at ddiben cynnig trosolwg o Flaenoriaethau a Phrosiectau Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr ac adolygu'r cynnydd hyd yma.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor y sefydlwyd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr ar 1 Ebrill 2016, yn dilyn cyflwyniad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn y cyfarfod ar 27 Mawrth 2017, achubodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyfle i adolygu trefniadau llywodraethu a blaenoriaethau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr. Penderfynodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i wreiddio gweithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr i'w weithgareddau asesu a chynllunio ei hun a'i wneud yn is-fwrdd o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Mae Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998 a deddfwriaeth ddiweddarach yn amlinellu'n glir y cyfrifoldebau dros ddiogelwch cymunedol.

Hysbysodd y Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau y sefydlwyd y Gr?p Strategaeth sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r chwe awdurdod cyfrifol, gan gynnwys:

  • Yr Heddlu
  • Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Yr Awdurdod Lleol
  • Y Gwasanaeth Tân ac Achub
  • Iechyd
  • Y Gwasanaeth Prawf

 

Disgrifiodd y Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau gyfrifoldebau amrywiol y Gr?p Strategaeth, y gwaith a wnaed ganddo, gan gynnwys meysydd allweddol ychwanegol o waith yn ogystal ag ymateb i faterion diogelwch cymunedol sydd wedi codi.

 

O ran cyllid, hysbyswyd y Pwyllgor fod cyllid bellach wedi'i ganoli i fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael iddynt.  Yn y modd hwn, gallai'r Awdurdod fod yn hyderus y byddai modd iddo ystyried materion mewn ffordd gyfannol, lleihau dyblygu a thargedu'r hyn y mae angen ei dargedu.  Fodd bynnag, yn allweddol i hyn oedd adrodd am droseddu, a dyma'r rhesymeg a roddwyd i gyfiawnhau’r ffaith mai Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg oedd y meysydd ffocws ar gyfer peth o waith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y gwaith yn seiliedig ar adroddiadau o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn y ddwy ardal ac er yr oedd yn cydnabod pryderon Aelodau ynghylch cymunedau llai, mwy ynysig, nid oedd tystiolaeth i awgrymu hynny.  Pwysleisiodd y Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau'r pwysigrwydd o adrodd am yr holl droseddau er mwyn i'r Cabinet a'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol dargedu a llywio gwaith yn fwy priodol.

 

Mynegodd y Pwyllgor bryderon am leihad cyson yr Awdurdod i ddarpariaeth y Gwasanaeth Ieuenctid, gan ddweud ei fod yn wasanaeth angenrheidiol i gynnig adloniant i bobl ifanc. Bellach, mae'n ymddangos bod dibyniaeth ar grantiau cyllido a'r Trydydd Sector.  Dywedwyd wrth Aelodau y byddai'r Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid yn dychwelyd i Ben-y-bont ar Ogwr dan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a fyddai'n darparu llywodraethu addas.  Yn ogystal â hyn, esboniodd cynrychiolwyr Heddlu De Cymru fod ffocws cynyddol ar gyfiawnder adferol a bod yr holl swyddogion yn gymwys i ddarparu datrysiadau yn y gymuned.  Roedd hyn yn cynnwys cydnabyddiaeth gan y troseddwr o'r hyn a wnaed ganddo ac ar adegau, gyda chaniatâd y dioddefwr, ymddiheuro neu drefnu i atgyweirio unrhyw ddifrod a achoswyd.  Roedd hefyd sgôr fatrics a ddefnyddir i bobl ifanc sy'n dod i'r ddalfa a phetai hyn, er enghraifft, yn dramgwydd gyntaf, mae'n bosib y cânt eu hatgyfeirio at banel ieuenctid adferol yn hytrach na'r system gyfiawnder.

 

Adroddwyd bod y lleihad i'r gyllideb arfaethedig ar gyfer darpariaeth Teledu Cylch Cyfyng wedi'i oedi ar hyn o bryd gan fod hyn yn cael ei ystyried yn arf allweddol wrth leihau troseddau a gwella diogelwch cymunedol.   Roedd opsiynau amgen wrthi'n cael eu hystyried ar gyfer mynd i'r afael â lleihad cyllidebol yn ogystal â gwella darpariaeth teledu cylch cyfyng, megis diweddaru offer a defnyddio camerâu symudol.

 

Ynghylch plismona yn y gymdogaeth, dywedodd cynrychiolwyr Heddlu De Cymru y cynhaliwyd Adolygiad Plismona yn y Gymdogaeth yn ddiweddar o ganlyniad i'r gydnabyddiaeth bod anghysondeb o ran y plismona yn y gymdogaeth a ddarperir mewn ardaloedd gwahanol, gan gynnwys y ddarpariaeth sy'n gysylltiedig â Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs).  Roedd data a gwybodaeth wedi'u casglu a oedd yn ystyried y galw ar draws y llu cyfan ac o nawr ymlaen, byddai adnoddau'n cael eu dyrannu ar sail tystiolaeth.  Dywedwyd bod ffocws cryf iawn ar weithio aml-asiantaeth, yn ogystal ag ymgysylltu a phlismona cymunedol.  Esboniwyd hefyd fod yr adolygiad wedi ystyried ailstrwythuro cyfarfodydd cymunedol.  Yn hanesyddol, roedd problemau wedi bod ambell waith o ran y partneriaid a oedd yn gallu mynychu, a oedd wedi golygu bod y cyfarfodydd yn tueddu canolbwyntio'n fwy ar yr Heddlu. Yn ogystal â hyn, roedd cyfarfodydd PACT yn cael eu hystyried o ganlyniad i'r amrywiaeth ar draws y rhanbarth o ran presenoldeb ac effeithiolrwydd.  Rhoddwyd sicrwydd lle roedd cyfarfodydd PACT yn llwyddiannus, byddant yn parhau, ond lle nad oeddent mor effeithiol, byddai mentrau eraill yn cael eu rhoi ar waith yn eu lle.

 

Wrth ymateb i ymholiadau am ffigurau nifer y bobl sy'n hunan-niweidio, adroddodd cynrychiolwyr Heddlu De Cymru nad oedd unrhyw ffordd o fesur hyn yn anffodus gan fod y sbectrwm llawer yn rhy fawr a bod yr holl asiantaeth yn cofnodi'r digwyddiadau hyn o dan gategorïau gwahanol.  Roedd hyn wedi'i gydnabod yn genedlaethol.  Rhoddwyd enghraifft, sef bod y gwasanaeth ambiwlans wedi cofnodi 12,000 achos o hunan-niweidio mewn blwyddyn.  Yn lle hynny, roedd ffocws ar achosion o hunanladdiadau llwyddiannus a chyfleoedd coll.  Roedd hefyd gyfarfodydd ymateb brys a gr?p adolygu hunanladdiad.  Dywedwyd bod y gwaith sy'n cael ei wneud fel rhan o Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei ystyried fel arfer gorau a'i fod wedi cael ei rannu gydag Abertawe o ganlyniad.

 

Codwyd pryderon mewn perthynas ag ymgysylltiad yr Awdurdod Iechyd â Phartneriaid eraill, ac amlygodd cynrychiolwyr Heddlu De Cymru fod iechyd meddwl yn broblem gynyddol sylweddol i'r Heddlu.  Dywedwyd bod 95% o'r galwadau i 999 wedi 5pm yn gysylltiedig ag iechyd meddwl cymdeithasol, ac nid oeddent yn gysylltiedig â throseddau o reidrwydd.  Yn yr un modd, nodwyd bod Cynlluniau Gofal unigol yn nodi'r Heddlu fel y prif gyswllt petai rhywbeth yn mynd o'i le gyda chynllun gofal.  O ganlyniad, roedd yr Heddlu yn targedu gwaith gyda'r Awdurdod Iechyd i geisio sefydlu system fwy effeithiol.  Cytunodd y Pwyllgor nad oedd hyn yn ddefnydd priodol o adnoddau'r Heddlu a bod angen gwneud mwy i ymgysylltu ag Iechyd a chreu dulliau mwy effeithiol o ymdrin ag achosion o'r fath. Dywedodd y Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau fod problem hanesyddol wedi bod o ran ymgysylltu â chyd-weithwyr ym maes Iechyd wrth ymdrin â Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Fodd bynnag, yn ddiweddar, cafwyd gwaith ymgysylltu cadarnhaol â Chwm Taf ynghylch y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'r gobaith oedd y byddai hyn yn parhau.

 

Roedd y Pwyllgor yn dymuno cydnabod gwaith caled yr Heddlu, a chyfeiriwyd yn benodol at waith diweddar swyddog benywaidd cudd a oedd wedi gweithio ar y prosiect Draig Goch.

 

PENDERFYNWYD:

 

Mynegodd y Pwyllgor bryderon parhaus am y toriadau hanesyddol i ddarpariaeth gwasanaethau ieuenctid a'r ffaith bod dibyniaeth drom bellach ar y trydydd sector i ddarparu hyn.  Gwnaeth Aelodau sylwadau ynghylch y ffaith bod hon yn enghraifft dda o sut mae Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yr Awdurdod yn ddiffygiol gan nad yw'n ystyried yr effaith hirdymor yn ddigonol.  O gofio gofynion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, argymhellodd y Pwyllgor y dylid ei defnyddio fel gwers at y dyfodol wrth ystyried lleihad yn y gyllideb, gan y Cabinet a'r Panel Craffu ar Ymchwil Gyllidebol a Gwerthuso, lle mae mwy o bwyslais ar yr effaith hirdymor ac nid ar y cynigion i arbed dros flwyddyn neu 4 blynedd yn unig.

 

Nododd y Pwyllgor sylwadau'r Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau mewn perthynas ag ymgysylltu cadarnhaol yn gynnar â Bwrdd Iechyd Cwm Taf mewn perthynas â gwaith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ond gofynnodd am ddiweddariad yn y dyfodol i wirio a oedd y gwaith ymgysylltu hwn yn barhaus ac yn llwyddiannus.

 

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r Cabinet ysgrifennu i Lywodraeth Cymru i amlygu'r problemau gafwyd yn y gorffennol gan yr Awdurdod Lleol i'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu ac asiantaethau partner eraill mewn perthynas ag ymgysylltu â'r Awdurdod Iechyd. Wrth symud ymlaen, mae angen i hyn fod yn flaenoriaeth gan fod ymgysylltu ystyrlon a rhagweithiol yn hanfodol er mwyn llwyddo wrth ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd meddwl.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am ddiwygio'r Strategaeth mewn perthynas â threfniadau Craffu ar y Bwrdd Gwasanaethu Cyhoeddus gan nad oedd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol o reidrwydd yn adrodd wrth y Panel Craffu ddwywaith y flwyddyn fel rheol, o ganlyniad i bynciau cystadleuol eraill y Flaenraglen Waith.  Wrth ystyried hyn, holodd y Pwyllgor hefyd a oedd dau gyfarfod Panel Craffu ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y ddigonol a gofynnodd am ystyried hyn fel rhan o Weithdai Craffu ar y Flaenraglen Waith.

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z