Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

 (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr Dros Dro

(iv) Swyddog Monitro

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Rhoddodd y Maer wybod i’r Cyngor am yr ymrwymiadau yr oedd ef a’i Gymar wedi’u mynychu yn ystod y mis diwethaf a oedd yn cynnwys y Gwobrau Dinasyddiaeth lle diolchodd y swyddogion am eu hymdrechion i wneud y diwrnod yn llwyddiant. Agorodd y Maer a’i Gymar Ysgol Gynradd newydd Pencoed a mynychodd agoriad Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd ym Metws. Yn  ogystal, mynychodd y Maer a’i Gymar ginio Dathlu Deugain Rockwool, Cinio rhyng-grefyddol Cyngor Moslemaidd Cymru, agoriad Arddangosfa Vernon Hartshorn, Cinio Llywyddol y Clwb Rotari, Cyflwyniad Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Alan Humphreys a Chyngerdd Flynyddol Côr Merched Llynfi. Agorodd hefyd y toiledau a’r ardaloedd newid newydd i’r anabl yn Halo Bridgend, cyflwynodd wobrau yn nhaith Feicio Elusennol Clwb Rotari Pen-y-bont ar Ogwr, dawns elusennol Maer Porthcawl, gwasanaeth Sul y Blodau yn Amlosgfa Margam a phen-blwydd Priodas Mr a Mrs G Evans o Faesteg o 60 o flynyddoedd.

 

Dirprwy Arweinydd

 

Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd wybod i’r Aelodau am agoriad diweddar y ddwy ysgol gynradd newydd yn Ysgol Gynradd Pencoed ac Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd, Betws, sy’n gwasanaethu cymoedd Garw ac Ogwr, lle mae 3 o’i wyrion yn ddisgyblion. Datganodd fod y Cyngor yn eithriadol o ddiolchgar am y cyllid a dderbyniodd gan Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif, a rhoddodd ganmoliaeth i BAM Construction am eu gwaith yn Ysgol Gynradd Pencoed ac i Andrew Scott Ltd, sef adeiladwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd, a gyflwynodd ddwy ysgol hynod drawiadol sy’n galluogi’r disgyblion a’r athrawon i elwa ar amgylcheddau dysgu o’r radd flaenaf a chefnogi disgyblion i ragori a diwallu eu potensial.

 

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd fod dros 80 o entrepreneuriaid lleol addawol wedi cael y wybodaeth a’r offer angenrheidiol i ddechrau eu busnes eu hunain ar ôl mynychu cwrs wythnos o hyd gyda’r PopUp Business School. Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, a gefnogwyd gan dîm Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr y Cyngor, a ariannwyd trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Bydd entrepreneuriaid lleol yn parhau i gael eu cefnogi ac mae manylion ar gael ar wefan y Cyngor.

 

Aelod Cabinet Cymunedau

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet Cymunedau y bydd y cyngor yn cymryd rhan yn rhaglen effeithlonrwydd ynni domestig diweddaraf Llywodraeth Cymru sy’n cael ei chreu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ar draws Cymru. Bydd cannoedd o gartrefi lleol yn gymwys i dderbyn arian newydd yn nes ymlaen eleni i gyflawni gwelliannau effeithlonrwydd ynni, sydd wedi’u hanelu at leihau biliau tanwydd. Ymhlith y mesurau arbed ynni y gellir eu hariannu trwy’r rhaglen mae: diogelu rhag drafft, bylbiau golau ynni isel, inswleiddio’r llofft, inswleiddio wal geudod, falfiau rheiddiadur thermostatig, systemau gwres canolog, rheiddiaduron, a thechnolegau adnewyddadwy fel pympiau gwres a phaneli solar. Datganodd y bydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth ag Arbed am Byth a Llywodraeth Cymru i benderfynu ble fydd y rhaglen yn cael ei chynnig yn lleol i wneud y mwyaf o’i heffaith.

 

Yn ogystal, rhoddodd yr Aelod Cabinet Cymunedau wybod i’r Cyngor am lansiad diweddar ymgyrch “Caru a Chadw’n Lân” a fynychwyd gan ysgolion cyfrannog.    

 

Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod y digwyddiad mini gemau OlympAge rhwng cenedlaethau cyntaf erioed wedi’i gynnal yng Nghanolfan Bywyd Cwm Ogwr Halo yn ddiweddar. Mae plant a phobl h?n o’r gymuned leol wedi creu timau i gystadlu mewn gweithgareddau a ddyluniwyd i wella symudedd, ffitrwydd a rhyngweithio cymdeithasol, ac yn cynnig ffordd hwyliog o annog pobl o bob oedran i fod yn weithgar. Edrychodd ymlaen at weld mwy o fini Gemau Olympage yn digwydd yn y dyfodol.

 

Rhoddodd wybod i’r Aelodau hefyd fod y cyfrifoldeb am wasanaethau gofal iechyd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach wedi symud o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg. Gofynnodd i’r Aelodau atgoffa’r etholwyr na fyddai’r newid yn y ffin yn effeithio ar y ffordd y cyflwynir gwasanaethau i gleifion, a byddant yn parhau i gael mynediad at ofal a derbyn eu gofal yn yr un ffordd ac o’r un lleoliadau ag y maen nhw’n ei wneud ar hyn o bryd. Datganodd y bydd y newid yn y ffin yn gweld mwy o gydweithrediadau’n symud i’r dwyrain a Rhanbarth Prifddinas Caerdydd, ac er bod swm sylweddol o waith wedi cael ei gyflawni y tu ôl i’r llenni, cafwyd trawsnewid di-dor, diolch i ymdrechion y swyddogion ac yn benodol, y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles. 

 

Yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol fod trafodaethau’n mynd rhagddynt rhwng y Cyngor, y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir a Chyfoeth Naturiol Cymru ar brosiect i fonitro ansawdd aer yng nghyffiniau’r ysgolion lleol. Bydd y prosiect monitro’n digwydd dros flwyddyn a bydd yn astudio ac yn cofnodi lefelau nitrogen deuocsid, sy’n llygrydd sy’n deillio o draffig hysbys, gydag offer monitro’n cael eu gosod yn Ysgol Gyfun Pencoed, Ysgol Gynradd Penybont, Coleg Penybont, Ysgol Gynradd Oldcastle, Ysgol Gynradd Cwmfelin, Ysgol Gynradd Newton, ac Ysgol Gynradd Bryncethin. Bydd gwybodaeth yn cael ei dadansoddi a’i defnyddio i gefnogi ymdrechion i newid y ffyrdd y mae plant yn mynd i’r ysgol ac oddi yno, ac i godi mwy o ymwybyddiaeth am bryderon ansawdd aer. Bydd y data a gesglir yn cael ei gynnwys yn adroddiad cynnydd rheoli ansawdd aer lleol y Cyngor ar gyfer 2020. Os canfyddir bod y lefelau’n tresmasu ar neu’n fwy na’r amcanion ansawdd aer, hwyrach y bydd angen camau pellach i gyflwyno ardaloedd rheoli a llunio mesurau strategol  a fydd yn lleddfu’r problemau ac yn gwella ansawdd yr aer.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol wybod i’r Cyngor y bydd rhieni sy’n gweithio yn y Fwrdeistref Sirol yn gallu cael mynediad i hyd at 30 awr o ofal plant wedi’i ariannu am hyd at 48 wythnos y flwyddyn i’w plant tair a phedair blwydd oed yn fuan. Bydd y cynllun yn cychwyn ar 29 Ebrill ac yn helpu lleihau straen problemau gofal plant ar rieni sy’n gweithio, ac yn sicrhau nad yw gofal plant yn rhwystr i’r bobl sy’n edrych i ddychwelyd i’r gwaith. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan y Cyngor.

 

Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio.

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio, yn dilyn cefnogaeth prosiect Twyni i Dwyni’r Cyngor, y Royal Porthcawl bellach yw’r clwb golff cyntaf yng Nghymru i gael y Dystysgrif GEO am gynaliadwyedd. Mae’r cynllun wedi dwyn ynghyd sefydliadau, tirfeddianwyr a ffermwyr mewn partneriaeth sy’n ceisio rheoli’r morlin lleol mewn modd cynaliadwy. Datganodd fod eithin gwael wedi’i godi o safle’r Royal Porthcawl er mwyn adfer ardaloedd tywodlyd agored ac annog adfywiad grug arfordirol, mae pyllau wedi’u gwella a chynefinoedd wedi’u creu a’u hadfer ar gyfer rhywogaethau fel y Fadfall Dd?r Gribog ac adar fel llinosod, cudyllod coch a breision melyn. Ei obaith yw y bydd yr Aelodau’n croesawu’r ymdrechion hyn sy’n dangos ymrwymiad clir tuag at natur, cynaliadwyedd, diogelwch y glaswelltir arfordirol ac adfer cynefinoedd.

 

Cyhoeddodd hefyd fod cyllid newydd wedi’i sicrhau i helpu busnesau yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr i edrych yn fwy deniadol i siopwyr ac ymwelwyr. Sefydlwyd y Gronfa Gwella Eiddo Canol Trefi gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol tuag at waith adnewyddu ar flaenau siopau, arwyddion, ffenestri a drysau, yn ogystal â gwelliannau saernïol mewnol ac allanol. Yn ogystal â gwneud canol y dref yn fwy bywiog, nod y gronfa yw helpu eiddo dibreswyl gwag i fod yn fwy deniadol i’w gosod, cefnogi busnesau presennol i fod yn fwy hygyrch, cynyddu nifer yr ymwelwyr, a chreu swyddi. Bydd y cynllun gwella masnachol yn clymu i mewn gyda’r cynlluniau ledled y sir i adfer defnydd o eiddo gwag, gan ddilyn llwyddiant y Fenter Treftadaeth Treflun sydd wedi cael effaith fawr yng nghanol trefi ers mwy na degawd. Mae manylion pellach ar y cynllun ar gael gan dîm adfywio’r Cyngor.

 

Prif Weithredwr Dros Dro

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr Dros Dro wybod i’r Cyngor iddo adolygu rhywfaint o wybodaeth am wastraff ac ailgylchu’n ddiweddar a rhoddodd drosolwg o’r ffordd y mae’r Fwrdeistref Sirol wedi newid a datblygu ers y mileniwm. Yn 2000, pan safai’r gyfradd ailgylchu ledled y wlad ar 6% yn unig o holl wastraff aelwydydd, gosododd Llywodraeth Cymru darged cychwynnol o 15% erbyn 2004. Datganodd fod y Fwrdeistref Sirol wedi bwrw ei tharged mewn pryd a hefyd wedi agor canolfannau ailgylchu gwastraff newydd i aelwydydd. Roedd hyn cyn cyflwyno gwasanaeth casglu deunydd gwastraff papur a gwydr ailgylchadwy wrth ochr y ffordd yn 2005.

 

Erbyn 2006, roedd y gyfradd ailgylchu wedi codi i 26%, ac ar ôl cynnwys bwyd, plastigion a chaniau a chyflwyno casgliadau gwastraff pob pythefnos, cododd eto i gyflawni 48% erbyn 2011. Cyflwynwyd gwasanaeth ailgylchu gwastraff yr ardd yn 2013, ac yn 2016 safai’r gyfradd ailgylchu gyffredinol ar 59%. Roedd hyn cyn i’r Cyngor ddechrau ar ei drefniadau presennol gyda chynwysyddion newydd, terfyn o ddau fag a chasgliadau cewynnau pythefnosol.

 

Rhoddodd wybod i’r Aelodau erbyn yr amser hwn flwyddyn nesaf, bydd angen i bob awdurdod lleol yng Nghymru fwrw targed ailgylchu newydd o 64% i osgoi cosbau ariannol trwm fel rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'r wlad ailgylchu orau yn y byd. Roedd wrth ei fodd o gadarnhau bod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y trywydd iawn i oroesi targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 64% ar gyfer 2020. Mae’r gyfradd ailgylchu gyffredinol gyfredol o 68.6%, yn golygu bod y Cyngor yn yr ail safle yng Nghymru ar gyfer ailgylchu ac o fewn trwch blewyn y tu ôl i Ynys Môn. Rhoddodd wybod i’r Aelodau na fu’r dasg i gyrraedd y fan hon yn hawdd bob amser, gan fod agweddau yn ogystal â gweithdrefnau wedi gorfod newid ac addasu, ac mae’r llwyddiant hwn i’w briodoli i ymdrechion ailgylchu’r trigolion lleol yn y pen draw. Datganodd nad yw’r broses ar ben eto ac ein bod yn edrych ar welliannau pellach er mwyn cyrraedd targed nesaf Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2025. Atgoffodd yr Aelodau fod y Fwrdeistref Sirol wedi symud o 15% yn y flwyddyn 2000 i 68.6% yn 2019.

 

Swyddog Monitro

 

Rhoddodd y Swyddog Monitro wybod i’r Cyngor fod rhai Aelodau heb gwblhau eu harchwiliadau DBS eto a byddai nodyn atgoffa’n cael ei anfon at Aelodau’n gofyn iddynt gwblhau’r archwiliadau.