Agenda item

Adroddiad ar y Ddyletswydd i Sicrhau Cyfleoedd Chwarae Digonol i Blant a Phobl Ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad a oedd yn hysbysu'r Cabinet ynghylch y ddyletswydd statudol o dan a.11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, sef bod yn rhaid i bob cyngor sicrhau cyfleoedd hamdden, chwarae a diwylliannol i blant a phobl ifanc, hyd at 18 oed, a oedd yn ddigonol o ran eu nifer a'u hansawdd, a hynny'n seiliedig ar Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

 

Gofynnodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant hefyd i'r Cabinet nodi'r cyfrifoldebau statudol a grëwyd yn sgil a.11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, a'r canllawiau statudol gan Lywodraeth Cymru yn "Cymru: Gwlad sy'n Creu Cyfle i Chwarae" (Gorffennaf 2014), a olygai ei bod hi'n ofynnol bellach i awdurdodau lleol sicrhau digon o gyfleoedd ar sail asesiadau yr oeddent yn eu cynnal.

 

Yr oedd cais hefyd i gymeradwyo'r asesiad a gynhaliwyd yn ystod 2018-19 (wedi'i gynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad) a'r cynllun gweithredu arfaethedig ar gyfer 2019-20 (wedi'i gynnwys yn Atodiad 2), a oedd yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd y byddai unrhyw ddiwygiadau y byddai Llywodraeth Cymru yn gofyn amdanynt yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cabinet.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y cefndir, y problemau/materion a oedd wedi cael eu hystyried wrth lunio'r asesiad, y gofynion adrodd, y prif gyfrifoldebau a'r goblygiadau, gan gynnwys y goblygiadau ariannol.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol a'i thîm. Ar y cyfan, roedd hi'n ymddangos fel pe bai arian dros ben ond bod diffyg mewn rhai meysydd. Fodd bynnag, roedd camau bellach yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â hyn Croesawodd y penderfyniad i ffurfio gweithgor a datblygu Siarter Ieuenctid. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i gyfleu'r sylwadau yn ôl i'w thîm. 

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol am gyflwyno adroddiad cynhwysfawr. Yr oedd hi bob amser yn her sicrhau cyfleusterau anabl, ac roedd yr adroddiad hwn yn edrych ar wahanol ddulliau o ddarparu cynlluniau i sicrhau bod y cyfleusterau ar gael i'r bobl hynny.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod yn rhaid i gyfleusterau chwarae fod yn gynhwysol, ac roedd yn falch o weld arian yn cael ei fuddsoddi i blant ag anableddau mewn ardaloedd chwarae ar draws y fwrdeistref. Cydnabu fod angen gwneud mwy o waith i wella'r ddarpariaeth gyffredinol. Cynigiodd y dylid neilltuo adnoddau ychwanegol wedi'u targedu, i'w defnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer unrhyw adnoddau ychwanegol fydd gan Gynghorau Tref a Chymuned neu Lywodraeth Cymru, fel bo modd parhau â'r cynnydd a wnaed eisoes.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet Cymunedau a oeddent yn dibynnu ar wirfoddolwyr i oruchwylio'r ddarpariaeth, a gofynnodd a ellid rhoi cymorth i'r gwirfoddolwyr i'w galluogi i dderbyn hyfforddiant i gyflawni eu rôl. Nid oedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gallu rhoi sylwadau ar y gwirfoddolwyr, ond roedd ganddynt staff tymhorol a staff achlysurol, ac roedd yr aelodau hynny o staff yn gallu manteisio ar hyfforddiant.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Dros Dro, os oedd ymrwymo adnoddau ychwanegol yn rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig dan ystyriaeth, y dylid hefyd ystyried ymagwedd fwy dychmygus, a oedd yn cynnwys gwahanol fathau o ofod chwarae.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd y cafwyd cynnydd ar gaeau chwaraeon a chaeau amldywydd drwy raglen foderneiddio ysgolion yr 21ain ganrif, ac y gellid adeiladu ymhellach ar hyn drwy gyflwyno gwahanol fathau o ofod chwarae.

 

PENDERFYNWYD:  i) Bod y Cabinet yn nodi'r ddyletswydd statudol o dan a.11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, sef bod yn rhaid i bob cyngor sicrhau cyfleoedd hamdden, chwarae a diwylliannol i blant a phobl ifanc, hyd at 18 oed, sy'n ddigonol o ran eu nifer a'u hansawdd, a hynny'n seiliedig ar Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

ii) Bod y Cabinet yn nodi'r cyfrifoldebau statudol a grëwyd yn sgil a.11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a'r canllawiau statudol gan Lywodraeth Cymru yn 'Cymru: Gwlad sy'n Creu Cyfle i Chwarae' (Gorffennaf 2014). 

i)        Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r asesiad a gynhaliwyd yn ystod 2018-19 (wedi'i atodi yn Atodiad 1), a'r cynllun gweithredu arfaethedig ar gyfer 2019-20 (wedi'i atodi yn Atodiad 2) a oedd yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru, gan nodi y byddai unrhyw ddiwygiadau y byddai Llywodraeth Cymru yn gofyn amdanynt yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cabinet. 

ii)      Y dylid ystyried neilltuo adnoddau ychwanegol wedi'u targedu, i'w defnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer unrhyw adnoddau ychwanegol fydd gan Gynghorau Tref a Chymuned neu Lywodraeth Cymru, fel bo modd parhau â'r cynnydd a wnaed eisoes.     

 

Dogfennau ategol: