Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Canfyddiadau'r Arolwg gan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi o Wasanaethau Troseddau Ieuenctid ym Mae'r Gorllewin

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad yn hysbysu'r Cabinet ynghylch canfyddiadau'r arolygiad a gynhaliodd Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi yn ddiweddar o Wasanaethau Troseddau Ieuenctid ym Mae'r Gorllewin, a'r camau sydd bellach yn cael eu cymryd i wella'r gwasanaethau hyn.   

 

Eglurodd gefndir y gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, y cyd-arolwg llawn o Wasanaethau Troseddau Ieuenctid ym Mae'r Gorllewin, canlyniad yr arolygiad a'r cynllun ôl-arolygiad unigol ar gyfer gwella.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod yr adroddiad yn siomedig, a bod angen gwneud llawer o waith yn y maes hwn. Gofynnodd sut y gallent sicrhau y byddai Bwrdd Rheoli'r GTI yn llwyddo yn y dyfodol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod angen gwneud llawer o waith, fod yn rhaid pennu rolau a sefydlu llinellau llywodraethu er mwyn cyflwyno gwelliannau yn y dyfodol.

 

Yr oedd y Dirprwy Arweinydd yn cyd-weld â hynny, ac yn cytuno bod darllen yr adroddiad yn brofiad anodd. Yn yr arolygiad, nodwyd bod rhai meysydd yn rhagorol ac eraill yn cynnwys anghysondebau. Rhybuddiwyd hefyd nad oedd trefniadau i gydweithio bob amser yn llwyddo. Roedd hi'n bwysig dysgu gwersi yn sgil hyn, er nad oeddent mwyach yn rhan o GTI Bae'r Gorllewin. Gofynnodd a fyddai gwaith craffu ac adrodd mwy effeithiol yn cael ei gyflawni yn y dyfodol. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod mesurau wedi cael eu gweithredu'n unol â'r cynllun gweithredu. Roedd llinellau adrodd clir wedi'u sefydlu, a byddai'r newyddion diweddaraf yn cael eu cyflwyno'n brydlon.     

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cymunedau ei bod hi'n hanfodol sefydlu'r strwythur cywir. Gofynnodd pa baratoadau a oedd wedi'u gwneud i weithio gyda sefydliadau eraill. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd eu bod yn gweithio'n agos â rheolwyr partneriaeth, ac y byddai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn goruchwylio hefyd. 

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar a oedd problem yn gysylltiedig â diogelu, a sut y gallem sicrhau bod plant yn ddiogel. Cynigiodd fod yn bresennol yng nghyfarfod y Bwrdd Llywodraethu Gwella'r GTI fel gwirfoddolwr o safbwynt diogelu. Diolchodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar iddo am ei gynnig, a dywedodd fod cadw plant yn ddiogel yn flaenoriaeth. Roedd Estyn wedi nodi nifer o gryfderau, roedd gwaith wedi'i gyflawni â chwmni ymgynghori annibynnol ac roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wedi cydweithio'n agos ag uwch swyddogion.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio fod angen ymagwedd drawsgwricwlaidd, gan gynnwys adroddiadau cynnydd rheolaidd. Yr oedd sail resymegol dros weithredu'n annibynnol a chydweithio ymhen amser.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr Dros Dro mai'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd a oedd yn cyflwyno'r adroddiad, ond ei bod hi'n gyfrifoldeb corfforaethol i sicrhau llwyddiant yn yr arolwg nesaf.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod am gyflwyno adroddiadau rheolaidd i'r Cabinet a gwneud trefniadau i'r Aelod Cabinet Cymunedau gadeirio'r Bartneriaeth, ac i'r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cyntaf fynychu cyfarfodydd Bwrdd Llywodraethu Gwella'r GTI.  

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi sôn wrth Gadeirydd Cwm Taf y bu presenoldeb gan gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd yn wael iawn. Roedd gan yr holl asiantaethau sy'n ymwneud â hyn gyfrifoldeb ar y cyd, a dylai uwch swyddog addas fod yn bresennol yn y cyfarfodydd hyn. Ychwanegodd ei bod eisoes wedi cael ymateb gan Cwm Taf, ac y byddai'n cefnogi'r cyfarfodydd hyn yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:                 

i)       Bod y Cabinet yn nodi canfyddiadau arolwg APEM a

ii)     Bod y Cabinet yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd i wella'r gwasanaeth.

iii)     Y dylai'r Cabinet dderbyn adroddiadau rheolaidd ar gynnydd a

iv)    Y dylid trefnu i'r Aelod Cabinet Cymunedau gadeirio'r Bartneriaeth, ac i'r Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fynychu cyfarfodydd y Bwrdd Llywodraethu Gwella'r GTI.

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z