Agenda item

Archwilio Mewnol – Adroddiad Alldro Terfynol

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Rhanbarthol adroddiad, a oedd yn rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y perfformiad mewnol gwirioneddol o’i gymharu â Chynllun Archwilio blwyddyn ariannol 2018-19, ac yn rhoi Barn Flynyddol y Pennaeth Archwilio. 

 

Rhoddodd gefndir y Cynllun Archwilio Mewnol gan esbonio bod y cynllun wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio i gael ei ystyried a’i gymeradwyo ar 26 Ebrill 2018. Roedd hyn yn amlinellu’r aseiniadau a oedd i’w cyflawni a’r priod flaenoriaethau. Rhoddodd ddiweddariad i'r Aelodau hefyd ar y sefyllfa/cynnig presennol yn unol â’r manylion ym mharagraff 4 o’r adroddiad eglurhaol.

 

Roedd yr alldro gwirioneddol o’i gymharu â’r Cynllun Seiliedig ar Risg ar gyfer 2018/19 wedi’i atodi yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Esboniodd fod Atodiad B i'r adroddiad yn dangos y gwaith a oedd wedi'i wneud ers Ebrill 2018, gan gynnwys yr wybodaeth am ddangosyddion perfformiad amrywiol yngl?n ag elfennau gwahanol o'r gwaith hwn. Eglurodd hefyd bob adran o 1 i 13 yn Atodiad B i'r Aelodau. Eglurodd hefyd fod barn y Pennaeth Archwilio yn cynnig "Sicrwydd Rhesymol" ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth y Cyngor.

 

Holodd un o’r Aelodau am brosiect ARBED (yn Atodiad B) a oedd yn cadarnhau bod canfyddiadau’r archwilwyr ar hyn bron wedi'u cwblhau ym mis Ionawr 2019. Serch hynny, gofynnodd a oedd modd cael rhywfaint o eglurhad pam roedd yr adroddiad yn dweud bod y gwaith hwn yn parhau ac am gael ei gario ymlaen i 2019/20, o gofio bod hyn yn wybodaeth anghyson.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Interim fod yr oedi o ran cwblhau'r gwaith hwn wedi codi am fod y Cyn-bennaeth Archwilio Mewnol wedi ymadael â’r awdurdod drwy ymddeol ac oherwydd bod hynny wedi cydredeg â dyfodiad Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Rhanbarthol a oedd i bob pwrpas wedi ymgymryd â’r swydd honno.  Eglurodd ymhellach fod gwaith y prosiect hwn nawr yn ei gyfnod terfynol ac yn cael ei gwblhau. Cydnabu’r Pennaeth Cyllid Interim y gallai’r geiriad yn yr adroddiad a oedd yn egluro hyn fod wedi bod yn gliriach ac felly roedd yn bosibl ei fod yn gamarweiniol.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Rhanbarthol fod cryn dipyn o waith wedi’i wneud ond bod angen mwy o waith ac y byddai’r Pwyllgor yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd cyn gynted â phosibl.   

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg a allai rhagor o wybodaeth gael ei darparu ar yr archwiliad blaenorol o Daliadau Uniongyrchol, gan gynnwys unrhyw werth ariannol mewn perthynas ag unrhyw arbedion effeithlonrwydd a roddwyd ar waith i wella’r maes gwasanaeth hwn a chadarnhad bod unrhyw gamau a argymhellwyd gan yr Aelodau yn cael eu dilyn a’u rhoi ar waith.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Rhanbarthol y gallai rhagor o wybodaeth gael ei darparu ar yr uchod, ar ôl i SWAP wneud eu gwaith archwilio dilynol arfaethedig

 

PENDERFYNWYD:             Bod Aelodau'r Pwyllgor Archwilio wedi rhoi ystyriaeth briodol i Adroddiad Alldro Terfynol yr Archwilio Mewnol ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19 gan gynnwys Barn Flynyddol y Pennaeth Archwilio ar amgylchedd rheoli’r Cynghorau mewn perthynas â llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol.

Dogfennau ategol: