Agenda item

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Diolchodd yr Arweinydd i’w gyd-aelodau am ei ethol yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac addawodd y byddai unwaith eto yn rhoi ei holl sylw a’i ffocws i’r rôl. Byddai angen ffocws cryf yn y deuddeg mis nesaf, gyda degfed flwyddyn y llymder yn agosáu. Mae’r dyfodol yn parhau i fod yn heriol i lywodraeth leol, gyda gofyn i’r Cyngor arbed £35m ychwanegol yn y blynyddoedd i ddod; bydd hynny’n effeithio’n sylweddol ar wasanaethau lleol a chodiadau yn y dreth gyngor. 

 

Dywedodd wrth y Cyngor bod llywodraeth leol a chymdeithas mewn cyfnod o newid, gyda’r ansicrwydd ynghylch Brexit, y Cyngor bellach yn rhan o ardal awdurdod iechyd newydd, wynebu galwadau cynyddol am fwy o gydweithio rhanbarthol a gweld newidiadau sydyn yn y rolau y mae cynghorau yn eu chwarae ym mywydau pobl sy’n byw ledled y DU.  Dywedodd nad yw’r Cyngor wedi ymatal rhag gwneud penderfyniadau anodd yn ystod y cyfnod hwn, nac ychwaith wedi colli golwg ar sicrhau diogelwch a llesiant parhaus y trigolion mwyaf bregus, er gwaethaf gorfod darparu gwasanaethau yn erbyn cefndir o adnoddau cyfyng a oedd yn gofyn am ethos o gadernid.  

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Cyngor wedi penodi Prif Weithredwr newydd, Cyfarwyddwr Addysg a Swyddog Monitro newydd, gyda’r Cyngor yn datblygu ei staff a dyrchafu’n fewnol. Mae’r Cyngor felly’n gallu manteisio ar dîm rheoli newydd sydd â phrofiad helaeth o’r sefydliad, a bydd y Cabinet yn parhau i weithio ochr yn ochr â nhw er mwyn wynebu heriau’r dyfodol yn uniongyrchol. 

 

Roedd yr Arweinydd yn cydnabod ymdrechion staff ar bob lefel dros y naw mlynedd diwethaf, sydd wedi bod ar flaen y gad o ran darparu gwasanaethau’r cyngor a chynnal safonau uchel mewn amgylchiadau eithriadol o anodd. Mae torri dros 400 o swyddi o’r sefydliad wedi cynyddu’r gofynion a roddir ar staff ar bob lefel o fewn y sefydliad, ond roedd yn galonogol gwybod bod gan yr awdurdod weithlu medrus ac ymroddgar wrth edrych ar y flwyddyn sydd i ddod.

 

Er bod llai o adnoddau gan y Cyngor, dywedodd yr Arweinydd ei fod bob amser yn ceisio cydbwyso hyn gydag arloesedd a buddsoddiad yn y dyfodol. Dywedodd hefyd na ddylai’r Cyngor fyth golli golwg o’r angen i fuddsoddi yn ei gymunedau, moderneiddio a newid gwasanaethau a buddsoddi mewn pobl ifanc. Mae’r Cyngor wedi agor cyfleuster Gofal Ychwanegol yn Ynysawdre a bydd ail gyfleuster yn agor cyn hir ym Maesteg. Mae cartrefi preswyl i blant wedi cael eu hail-fodelu i ddarparu hwb gydag uned asesu tymor byr newydd sy’n cynnwys gofal therapiwtig arbenigo am y tro cyntaf, ac uned frys newydd. Mae hyn wedi helpu i osgoi trefnu lleoliadau tu allan i’r sir mewn llety diogel. 

 

Mae’r Cyngor wedi cydweithio gyda sefydliadau fel iechyd a Heddlu De Cymru i sefydlu Hwb Diogelu Aml Asiantaeth; mae hyn yn helpu i ymateb i bryderon ynghylch diogelu mewn modd cydlynol ac effeithiol. Mae’r Cyngor hefyd wedi cytuno i gefnogi pobl ifanc sy’n gadael gofal trwy sicrhau eu bod wedi’u heithrio rhag talu’r dreth gyngor hyd nes eu bod yn 25 oed. Mae hefyd yn cynorthwyo teuluoedd mewn galar trwy ddileu ffioedd claddu ac amlosgi i blant a phobl ifanc dan 18 oed.  

 

Mae’r Cyngor yn parhau i chwyldroi’r modd y gall pobl gael gafael ar wasanaethau’r cyngor, ac rydym wedi gweld pobl yn gwneud busnes gyda’r Cyngor ddydd a nos diolch i'r cyfleuster Fy Nghyfrif newydd ar-lein. Mae rhaglen foderneiddio bwysig Ysgolion yr 21ain ganrif wedi cyflawni cryn lwyddiant yn y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn falch ein bod wedi gallu agor ysgolion cynradd cyfoes ym Mrynmenyn, Pencoed, Bettws a Calon y Cymoedd.  Dros y bum mlynedd nesaf, bydd Band B y rhaglen yn gweld buddsoddiad pellach o fwy na £65m a phum ysgol newydd arall, gan gynnwys dwy ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ac ysgol arbennig fodern newydd.  Bydd buddsoddi mewn addysg yn rhoi i bobl ifanc y sgiliau y byddant eu hangen, a sgiliau angenrheidiol i’r economi leol allu ffynnu.

 

Mae prinder gofod masnachol i fusnesau bach a microfusnesau. Y buddsoddiad o £5.5m yn y Rhaglen Hwb Menter i greu 1,800 metr sgwâr o unedau busnes newydd ym Mrocastle, Ystâd Ddiwydiannol Village Farm a’r Ganolfan Arloesi yw’r estyniad mwyaf erioed o ofod busnes ar gyfer busnesau bach yn hanes y Fwrdeistref Sirol. Mae cyfres o brosiectau yn cael eu datblygu drwy Fargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd sy’n rhaglen tymor hir o 10 mlynedd, ac fel Cadeirydd yr Awdurdod Trafnidiaeth Lleol, roedd yr Arweinydd yn falch o allu cyhoeddi’n ddiweddar gynigion ar gyfer cyfleuster parcio a theithio yng ngorsaf Y Pîl. Bydd y Cynllun Cefnogi Graddedigion yn gweld y Cyngor yn gweithio gyda chyflogwyr lleol i greu cyfleoedd gyda busnes fel Sony ym Mhencoed a Rockwool yn Heol Y Cyw. Gyda phresenoldeb cwmnïau gwyddorau bywyd technolegol sydd ar flaen y gad o fewn yr ardal yn cyflogi arbenigwyr hynod o fedrus, rydym yn ceisio manteisio ar brosiect clwstwr lled-ddargludyddion cyntaf y byd.   

 

Y Cyngor hwn yw’r unig yn yng Nghymru i gael strategaeth a chynllun ynni ar waith ar gyfer lleihau allyriadau carbon 95%, gan arwain y DU ac nid Cymru’n unig. Yn fwy arwyddocaol, bydd prosiect ynni d?r pwll glo ar raddfa fawr cyntaf y DU, a’r unig un hyd yma yn y Fwrdeistref Sirol, a phrosiect Rhwydwaith Gwres Ardal ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r Cyngor yn cefnogi menter effeithlonrwydd ynni domestig a fydd yn helpu cartrefi sy’n dioddef o dlodi tanwydd, ac yn treialu’r technolegau hybrid diweddaraf yn un o labordai byw prin y DU drwy fentrau fel y prosiect Freedom ym Mracla.  Dywedodd bod potensial hwn yn enfawr o ystyried fod polisi diwydiannol ac economaidd y Fargen Ddinesig, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn nodi bod ynni yn flaenoriaeth strategol a diwydiannol. Mae’r gwasanaeth casglu ac ailgylchu gwastraff ar ymyl y ffordd, a brwdfrydedd ac ymdrechion trigolion yn golygu mai’r Cyngor yw’r awdurdod sy’n perfformio ail orau yng Nghymru, ac rydym yn debygol o ragori ar y targed ailgylchu a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd bod y Cyngor wedi buddsoddi miliynau mewn pethau fel ail-osod neu ail-wynebu ffyrdd a phalmentydd ledled y fwrdeistref sirol, neu osod goleuadau stryd fwy effeithlon. Yn y flwyddyn sydd i ddod, bydd y Cyngor yn buddsoddi miliynau mwy mewn mentrau sy’n cynnwys helpu pobl i gael gafael ar, a datblygu cyfleusterau hanfodol i’r anabl, a sicrhau bod pontydd lleol yn dal i fod yn ddiogel i’w defnyddio. 

 

Mae’r Cyngor wedi buddsoddi mewn amddiffynfeydd môr newydd ac mae’r rhain wedi’u cwblhau’n ddiweddar yn nhraeth y dref, Porthcawl, a hefyd y ganolfan chwaraeon d?r newydd sydd bron â’i chwblhau yn Rest Bay. Dyma rannau eraill arall o’r jig-so adfywio i’r dref, ac mae gennym gynlluniau cyffrous yn yr arfaeth a fydd yn sicrhau mwy o welliannau cyn hir. Mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen ar gynlluniau i ail-ddatblygu Neuadd y Dref Maesteg er mwyn ei chadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol fel canolfan i’r celfyddydau a hwb diwylliannol.  Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau’r gwerth mwyaf posibl o Dasglu’r Cymoedd Llywodraeth Cymru i’r Llynfi, Ogwr a’r Garw. Mae’r Cyngor eisoes wedi gweld buddsoddiad yng Nghwm Garw drwy raglen Pyrth Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Mae hyn i gyd wedi’i gyflawni ar adeg fo’r Cyngor wedi’i orfodi i ganfod miliynau lawer o arbedion yn wyneb llymder parhaus. Mae’r Cyngor wedi gorfod newid yn sylfaenol y ffordd y mae’n darparu gwasanaethau rheng flaen allweddol, trwy fwy o gydweithredu, gweithio partneriaeth a’r defnydd o gamau arloesol fel trosglwyddiadau asedau cyhoeddus. Dywedodd y bydd yn rhaid i’r Cyngor barhau i weithio mewn ffordd ymgysylltiol a chynhwysol gyda phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat. 

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor bod cydbwyso disgwyliadau pobl yn erbyn realiti’r hyn y mae’n rhaid ei wneud yn gallu bod yn un o brofiadau mwyaf rhwystredig unrhyw Gynghorydd. Er bod hynny’n parhau i fod yn her, nid yw’n tynnu sylw’r Cyngor o wneud y peth iawn, a dywedodd ei fod yn credu y bydd y Cyngor yn parhau i geisio sicrhau’r canlyniadau gorau posibl o dan yr amgylchiadau. Nododd y bydd Aelodau yn parhau i fod yn uchelgeisiol i’r Fwrdeistref Sirol.

 

Yn ei rôl fel Arweinydd, mae’n cael cefnogaeth cyd-aelodau yn y Cabinet, ac roedd am gydnabod eu cyfraniad i’r gwaith o arwain yr awdurdod gan ddiolch iddynt am eu cefnogaeth barhaus a gwerthfawr. Nododd mai un o nodweddion positif y Cyngor hwn yw’r ffordd y mae’r Cyngor yn gallu gweithio ar draws pleidiau gwleidyddol a sicrhau consensws. Diolchodd i’r Cynghorwyr Clarke, Giffard, James a Penhale-Thomas am gydweithio fel Arweinwyr Gr?p. Nododd bod dyletswydd ar gynrychiolwyr etholedig i wneud hynny er lles y cymunedau y maent yn eu cynrychioli.  

 

Gorffennodd yr Arweinydd drwy ddweud bod y Cyngor yn parhau’n gryf, sefydlog ac yn eithaf unedig a thrwy gydweithio i amddiffyn gwasanaethau hanfodol i’r mwyaf bregus, blaenoriaethu buddsoddiad yn y dyfodol, gall sicrhau bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gallu parhau i ymdopi â’r heriau anochel sydd o’n blaenau.