Cofnodion:
Gofynnodd y Swyddog Monitro am gymeradwyaeth ar gyfer penodi Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a pha bynnag Bwyllgorau, Is-bwyllgorau, Panelau a chyrff eraill y mae’r Cyngor yn ystyried eu bod yn briodol, i ymdrin â materion nad ydynt wedi’u neilltuo i’r Cyngor llawn nac ychwaith yn swyddogaethau gweithredol.
Nododd y Swyddog Monitro bod Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gwneud nifer o ofynion mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Archwilio, gan gynnwys Aelodaeth Leyg a phenodi’r Cadeirydd. Mae’n ofynnol i’r Cadeirydd dan y Mesur gael ei benodi gan y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod cyntaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer 13 Mehefin 2019. O ran Aelodaeth Leyg y Pwyllgor hwn, cafodd Ms J Williams ei hailbenodi am dymor pellach yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 17 Mai 2017, ac yn unol â’r Mesur, mae ganddi hawl i wneud uchafswm o ddau dymor ar y Pwyllgor yn y rôl hon.
Nododd y Swyddog Monitro hefyd bod newid i gylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio i gynnwys y swyddogaeth ganlynol “Derbyn copi o adroddiad ynghylch y digwyddiadau a’r methiannau agos y rhoddwyd gwybod amdanynt dan Weithdrefn Rhoi Gwybod am Ddigwyddiadau a Methiannau Agos Rheolaeth Risg Corfforaethol (ac eithrio Iechyd a Diogelwch”.
Dywedodd y Swyddog Monitro bod gan y Pwyllgor Safonau saith aelod ar hyn o bryd, a bod lle gwag ar gyfer Cynghorydd Tref a Chymuned. Argymhellodd y dylai’r aelodaeth barhau’r un fath ar hyn o bryd ac y dylid newid Rhan 3 y Cyfansoddiad mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Safonau i gyd-fynd â hyn.
Dywedodd y Swyddog Monitro hefyd bod gan y Cyngor Bwyllgor Penodi ar waith er mwyn cyfweld a phenodi staff lefel JNC, sy’n cynnwys swyddi dynodedig megis y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth. Er mwyn cynnwys pob un o’r Arweinwyr Grwpiau gwleidyddol ar y Pwyllgor Penodi, cynigir y dylid ychwanegu 2 Aelod, sef Arweinydd Gr?p Annibynwyr Llynfi a sedd ychwanegol i’r Gr?p Llafur i gynnal eu lefel priodol o gynrychiolaeth ar Bwyllgorau yn gyffredinol.
Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor bod y Mesur hefyd yn sefydlu gweithdrefnau lle mae Cadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn cael eu henwebu a’u penodi. Mae’r Mesur yn mynnu bod Cadeiryddion y Pwyllgorau hyn yn cael eu penodi fel isafswm ar sail maint a chydbwysedd gwleidyddol pob un o’r grwpiau sy’n rhan o’r Cyngor. Yn unol â chyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor, a’r fformiwla a ddefnyddir o dan y Mesur Llywodraeth Leol mewn perthynas â dyrannu Cadeiryddion Trosolwg a Chraffu, dylai’r rhain gael eu dyrannu i’r grwpiau gwleidyddol canlynol:
Gr?p Gwleidyddol |
Nifer y Cadeiryddion i’w dyrannu |
Llafur |
1 Cadeirydd |
Ceidwadwyr |
1 Cadeirydd |
Cynghrair Annibynnol |
1 Cadeirydd |
Annibynwyr Llynfi |
0 Cadeirydd |
Plaid Cymru |
0 Cadeirydd |
Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor nad yw swydd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol wedi ei dyrannu, ac felly yn unol â’r Mesur, bydd yn cael ei benodi gan aelodau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol o blith un o Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu ar Bynciau ond ni all fod yn Gadeirydd sy’n cynrychioli’r Gr?p Gweithredol.
Nododd bod cylch gwaith a swyddogaethau presennol y Pwyllgorau a chyrff eraill y Cyngor yn parhau heb eu newid fel y manylir arnynt yn Rhan 3 y Cyfansoddiad – Cyfrifoldeb am Swyddogaethau’r Cyngor, a bod cydbwysedd gwleidyddol yn hanfodol i bennu dyraniad seddau ar Bwyllgorau. Dangosodd strwythur y pwyllgorau presennol ac aelodaeth bresennol y pwyllgorau a fydd yn sail i unrhyw newidiadau i aelodaeth y pwyllgorau.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor yn:-
(1) Penodi’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac unrhyw Bwyllgorau eraill y mae’r Cyngor yn ystyried sy’n briodol i ddelio â materion nad ydynt wedi’u neilltuo i’r Cyngor nac yn swyddogaethau gweithredol;
(2) Penderfynu ar faint a chylch gorchwyl y Pwyllgorau hynny fel y’u nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad;
(3) Penderfynu ar ddyrannu seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â’r rheolau cydbwysedd gwleidyddol fel y’u nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad;
(4) Penderfynu pa grwpiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Cyngor sydd â’r hawl i wneud pa benodiadau o ran Cadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu;
(5) Derbyn enwebiadau a phenodi Cynghorwyr i wasanaethu ar bob un o’r Pwyllgorau, Paneli a chyrff efell (fel y nodir);
· Panel Apeliadau
· Pwyllgor Penodiadau (Cadeirydd – Yr Arweinydd)
· Pwyllgor Archwilio
· Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
· Pwyllgor Rheoli Datblygu
· Pwyllgor Trwyddedu
· Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003
· Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned
· Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 1
· Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 2
· Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 3
· Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol
(6) Derbyn enwebiadau a phenodi Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau, y Paneli a’r cyrff eraill canlynol (fel y nodwyd) gan nodi y bydd y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod cyntaf a drefnir yn penodi Cadeirydd ac Is-Gadeirydd:-
· Cadeirydd y Panel Apeliadau – Cynghorydd NA Burnett
· Is-Gadeirydd y Panel Apeliadau – Cynghorydd PA Davies
· Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd – Cynghorydd E Venables
· Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu – Cynghorydd G Thomas
· Is-Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu – Cynghorydd RM Granville
· Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu a Phwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 – Cynghorydd DRW Lewis
· Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu a Phwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 – Cynghorydd PA Davies
· Cadeirydd Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned – Cynghorydd HJ David
· Is-Gadeirydd Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned – Cynghorydd CE Smith
(7) Derbyn enwebiadau a phenodi Cadeiryddion i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu canlynol:-
· Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 1 – Cynghorydd CA Webster
· Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 2 – Cynghorydd CA Green
· Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau 3 – Cynghorydd JC Spanswick
(8) Bod aelodaeth y Pwyllgor Safonau barhau’r un fath ar hyn o bryd yn unol â pharagraff 4.3 o’r adroddiad ac y dylid newid Rhan 3 y Cyfansoddiad mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Safonau i gyd-fynd â hyn;
Cymeradwyo newid Rhan 3 o’r Cyfansoddiad mewn perthynas â chylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio yn unol â pharagraff 4.2.3 yr adroddiad a’r Pwyllgor Penodi yn unol â pharagraff 4.4.2 yr adroddiad.
Dogfennau ategol: